Cael cymorth

Yn ein tudalennau gwe rydyn ni wedi rhannu gwybodaeth am ein Gwasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol. Yma rydyn ni’n atgyfnerthu'r negeseuon hynny yn ogystal â cheisio rhoi opsiynau cymorth eraill ichi gan y Brifysgol, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a gwasanaethau lleol. Cofiwch eich bod yn gallu cael cymorth, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau rhoi gwybod i'r Heddlu neu wneud cwyn ffurfiol i'r Brifysgol.

Ble i Ddechrau

Dywedwch wrthoch chi’ch hun: Does dim ots beth, nid eich bai chi yw e. Weithiau, y person cyntaf y mae angen i’r goroeswr ddatgelu iddo yw ei hunan. Yn rhy aml mae goroeswyr yn mewnoli negeseuon fel nad oedd pethau "mor ddrwg â hynny" neu mai nhw oedd ar fai rywsut.

Rhannwch gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw: dyw hyn byth yn hawdd, ond ystyriwch rannu gyda ffrind, tiwtor personol, neu eich cynghorydd preswyl os ydych yn byw ar y campws. Rhowch wybod iddyn nhw beth sydd ei angen arnoch.

Chwiliwch am ofal meddygol: Hyd yn oed os nad oes anafiadau amlwg neu os nad ydych chi am roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, mae'n bwysig gofyn am sylw meddygol os yw’r ymosodiad newydd ddigwydd. Gall staff y Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn arbennig un o'n Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) eich helpu gyda'r broses yma.  Y tu allan i oriau (5pm-9am) gall ein timau Diogelwch a Bywyd Preswyl hefyd roi cefnogaeth a chymorth sensitif.

Cysylltu gyda chymorth: Cysylltwch â'n Gwasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol. Bydd un o'n Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) yn barod i wrando arnoch. Gallan nhw eich helpu i gael mynediad at adnoddau a gwneud penderfyniad gwybodus am y camau nesaf.

Beth i'w wneud Nesaf

Yn union ar ôl y digwyddiad

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi neu rywun arall fod yn wynebu risg o hyd, neu os ydych chi wedi cael anaf neu angen cymorth meddygol, ffoniwch:

Adran Ddiogelwch Prifysgol 01970 622649

Yr heddlu/Ambiwlans: 999

Os nad ydych chi’n wynebu risg, ewch i rywle diogel a chynnes a galwch rywun dibynadwy i'ch cefnogi. Os ydych chi mewn neuaddau preswyl, gallai hyn fod yn Gynorthwyydd Neuadd os nad ydych chi am gysylltu â ffrindiau neu deulu. Does dim rhaid ichi ddatgelu beth sydd 

wedi digwydd nes eich bod chi'n teimlo'n barod, ond ffeindiwch rywun sy'n gallu bod gyda chi fel nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Does dim rhaid ichi wneud adroddiad i'r heddlu, ac mae goroeswyr yn aml angen amser cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.

Os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi eisiau gwneud adroddiad, neu efallai y byddwch chi eisiau gwneud hynny yn y dyfodol, gall cadw tystiolaeth helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad.

Gall y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn Aberystwyth helpu i gadw tystiolaeth a'i storio nes ichi wneud eich penderfyniad ynghylch rhoi gwybod i'r heddlu.

Er mwyn cadw tystiolaeth, ceisiwch beidio â gwneud y canlynol:

  • Defnyddio’r toiled neu waredu dillad isaf neu ddeunyddiau mislif
  • Ymolchi, cael cawod, cael bath neu siafio
  • Golchi’ch dwylo
  • Tynnu, golchi, gwaredu neu ddinistrio’r dillad roeddech chi’n eu gwisgo, neu’r dillad gwely a’r tywelion oedd yn cael eu defnyddio adeg y digwyddiad neu wedyn
  • Yfed na bwyta dim, gan gynnwys meddyginiaeth nad yw'n hanfodol
  • Glanhau’ch dannedd
  • Ysmygu
  • Tarfu ar yr olygfa neu ganiatáu i bobl neu anifeiliaid eraill fynd i mewn i’r fan lle digwyddodd y digwyddiad, os oes modd.
  • Dylai tystiolaeth nad yw’n gorfforol, fel negeseuon testun, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a negeseuon ebost, gael ei chadw.

Adrodd y digwyddiad i'r heddlu

Os byddwch yn penderfynu adrodd y digwyddiad i'r heddlu, neu'n meddwl y gallech fod eisiau gwneud hynny, gall Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) yma yn Aberystwyth siarad â chi am beth fydd yn digwydd. Fyddan nhw ddim yn eich barnu nac yn rhoi'r bai arnoch chi. Byddan nhw'n gwrando ac yn cynnig cymorth a chyngor.

Os byddwch yn penderfynu mynd i Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) neu orsaf heddlu yn uniongyrchol i roi gwybod am ddigwyddiad diweddar, hynny yw, un a ddigwyddodd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, mae'n bwysig cymryd unrhyw ddillad oedd yn cael ei wisgo adeg y digwyddiad, unrhyw ddillad gwely neu dywelion oedd yn cael eu defnyddio ar y pryd, a lle bo'n bosibl, cadwch y rhain wedi'u selio mewn bag plastig neu bapur glân. Gall Tîm Diogelwch y Brifysgol hefyd helpu drwy sicrhau'r fan lle digwyddodd y digwyddiad, os yw ar y campws.

Gall adran Ddiogelwch y Brifysgol helpu i drefnu’r trosglwyddiad ichi yn ôl ac ymlaen i'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).

Beth yw Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol?

Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn gyfleuster arbennig lle gall goroeswyr diweddar treisio neu ymosodiad rhywiol gael cymorth a chefnogaeth ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys mynediad at archwiliad meddygol fforensig, sy'n cael ei wneud gan feddyg profiadol a chymwys, a'r cyfle i siarad â'r heddlu am beth sydd wedi digwydd, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae cleientau SARC hefyd yn cael help a chyngor gan Weithiwr Argyfwng sy'n gallu cynnig eu cefnogi ac aros gyda nhw trwy gydol y broses.

Mae Llwybrau Newydd wedi'i leoli yn Aberystwyth. Mae'n ganolfan sy'n darparu gwasanaethau i ddynion, menywod a phlant sy'n byw yn y rhanbarth, sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Gallwch gael amryw o wasanaethau am ddim ac yn gyfrinachol – gweler rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt.

Adrodd y digwyddiad i'r Brifysgol

Os yw'r sawl a gyflawnodd y trais rhywiol yn fyfyriwr yn Aberystwyth, efallai y byddwch yn penderfynu eich bod am wneud cwyn ffurfiol i'r Brifysgol o dan Reoliad ? Disgyblaeth Myfyrwyr. Pan fo’r Brifysgol yn cael cwyn ffurfiol, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal, pan fydd yr holl dystiolaeth berthnasol sydd ar gael yn cael ei chasglu.

Gallwch roi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd drwy ein system Adrodd a Chymorth. Mae'r system yn gyfrinachol a dim ond nifer fach o staff dynodedig fydd yn gallu ei chyrchu ac fe fyddan nhw’n ymateb, yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi'i rannu. Rydych yn gallu dweud wrthon ni beth ddigwyddodd gyda'ch manylion er mwyn inni allu ymateb. Gallwch ddweud wrthon ni’n ddienw fel arall. Mae dewis adrodd yn ddienw yn golygu ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu’ch helpu'n uniongyrchol ond fe all yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi gael ei defnyddio yn ddiweddarach a bydd yn ein helpu i roi gwell cefnogaeth i bobl eraill ac yn llywio gwaith atal ar draws y Brifysgol.

Os byddwch chi wedyn yn dymuno bwrw ymlaen a gwneud adroddiad ffurfiol, gofynnir ichi gyflwyno Datganiad Digwyddiad Difrifol a chymryd rhan mewn cyfweliad gyda'r swyddog ymchwilio. Gall eich Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol eich cefnogi cyn ac yn ystod y cyfweliad. Os ydych chi'n poeni am ddod i gysylltiad â'r myfyriwr a gyhuddwyd, mae modd rhoi mesurau dros dro ar waith i leihau'r risg honno.

Os yw'r heddlu'n ymchwilio i'ch achos chi, mae'n debygol y bydd y Brifysgol yn atal ei hymchwiliad hithau nes bod y broses honno wedi ei chwblhau. Serch hynny, mae’n bosibl cyflwyno cyfyngiadau ac addasiadau dros dro tra bo'r heddlu'n cynnal eu hymchwiliad.

Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau disgyblaeth myfyrwyr ar gael yma 15. Disgyblu Myfyrwyr  : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth

 

Beth os nad ydw i eisiau adrodd y digwyddiad?

Efallai y byddwch yn penderfynu peidio ag adrodd y digwyddiad i'r heddlu. Eich penderfyniad chi yn llwyr yw hyn ac fe gewch chi’ch parchu a'ch cefnogi ym mha benderfyniad bynnag rydych chi'n ei wneud. Fydd neb yn eich barnu na'ch beio. Gallwch siarad ag aelod o Wasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol y Brifysgol a fydd yn eich cefnogi.

Weithiau, mae goroeswyr trais rhywiol yn newid eu meddwl ynghylch adrodd i'r heddlu a/neu'r brifysgol, wedi iddyn nhw gael peth amser i brosesu'r hyn sydd wedi digwydd.  Gyda hynny mewn golwg, lle bo'n briodol, byddai’n ddefnyddiol tynnu lluniau o olygfa'r digwyddiad a chadw unrhyw ddillad, dillad gwely, negeseuon testun neu negeseuon ebost perthnasol etc gan fod modd defnyddio'r rhain wedyn os byddwch chi'n penderfynu rhoi gwybod am yr hyn ddigwyddodd yn y dyfodol.

Os ydych chi’n dewis peidio â rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad, gallwch barhau i gael mynediad at wasanaethau'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) leol. Gall y tîm yn y SARC eich gweld heb gynnwys yr heddlu a threfnu apwyntiad ichi fel hunangyfeiriad yn ystod oriau swyddfa safonol o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm. Gallan nhw gasglu tystiolaeth rhag ofn ichi benderfynu adrodd am y digwyddiad yn nes ymlaen.