Beth yw Ymosodiad Rhywiol/Camymddwyn Rhywiol?

Trais rhywiol yw'r term cyffredinol rydyn ni'n ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw fath o weithred neu weithgaredd rhywiol digroeso, gan gynnwys treisio, ymosodiad rhywiol, camdriniaeth rywiol, a llawer o rai eraill. Nid yw'r term bob amser yn cynnwys cysylltiad corfforol; mae pornograffi dial, anfon delweddau noethlymun digroeso, a gwneud sylwadau rhywiol digroeso i gyd yn enghreifftiau sy'n dod o dan bennawd trais rhywiol. Gall trais rhywiol ddigwydd i unrhyw un waeth beth fo'u hoedran, eu rhyw, eu hil, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu crefydd, eu dosbarth neu eu cefndir.

Mythau ynglŷn â Threisio

Mae llawer o fythau ynglŷn â thrais rhywiol, yn rhannol oherwydd negeseuon a gawn gan ffilm, teledu a'r cyfryngau. Un enghraifft gyffredin o fytholeg yw bod treisio yn cael ei gyflawni gan ddieithriaid, er bod y data o arolygon diweddar ynglŷn â throseddau yn awgrymu bod cymaint â 90% o oroeswyr yn adnabod y sawl a gyflawnodd y weithred.

Enghraifft arall o fyth ynglŷn â threisio yw bod llawer o bobl yn creu honiadau ffug, er bod yr ymchwil yn dangos mai dim ond rhyw 4% o’r treisiau sy’n cael eu hadrodd i'r heddlu sy'n ffug, ac nad yw'r mwyafrif mawr o oroeswyr byth yn rhoi gwybod eu bod nhw wedi cael eu treisio o gwbl.

Y trydydd myth yw bod trais rhywiol bob amser yn gadael y goroeswr ag anafiadau corfforol, ond mewn gwirionedd mae'n eithaf prin i gael eich gadael ag anafiadau corfforol.

Mae yna lawer mwy o enghreifftiau a gallwch weld rhagor o wybodaeth ar-lein gan Rape Crisis.