Cydsyniad rhywiol

Cyflwyniad:

Cydsyniad sy'n dod gyntaf; dyma gonglfaen perthnasoedd agos-atoch parchus ac iach. Yn fyr, ystyr cydsyniad yw sicrhau bod caniatâd neu gymeradwyaeth i rywbeth yn cael ei sicrhau cyn ichi ddilyn trwodd.  Edrychwch ar y tudalennau Pause, Play, Stop i gael gwybodaeth ryngweithiol ynghylch cydsyniad.  Mae'n bosib y bydd yr ymgyrch ddiweddar 'Awkward Moments' hefyd yn adnodd defnyddiol i'w wylio.

Cyfathrebu yw’r allwedd:

Mae siarad â'ch gilydd yn eich helpu i ddeall beth yn union mae pob un ohonoch yn gyffyrddus neu’n anghyffyrddus ag ef; mae gan bawb ffiniau gwahanol, ac mae hynny'n iawn, ond yn rhywbeth i'w gofio bob amser.

Does dim rhaid i gyfathrebu ddigwydd ar lafar; cadwch lygad am iaith y corff, cyn ac yn ystod gweithgaredd rhywiol. Er enghraifft, os bydd rhywun wedi rhewi, yn ddisymud neu os nad yw fel pe bai’n ymateb ar lafar mewn modd brwdfrydig, maen nhw'n annhebygol o fod yn mwynhau eu hunain ac mae angen ichi holi i weld a ydyn nhw am barhau neu beidio.

Peidiwch â chymryd pethau’n ganiataol

Dim ond oherwydd eich bod chi yn mwynhau'r sefyllfa, dyw hynny ddim yn golygu bod eich partner yn mwynhau hefyd. Cofiwch nad yw pornograffi’n ddisgrifiad cywir, mae'n weithred sydd wedi’i gorliwio yn aml, gyda boddhad ar unwaith. Mae rhyw go iawn a chydsyniad go iawn yn cymryd amser ac ymdrech, a dyna pam mae angen ichi ofyn cyn gweithredu.

Os na fyddan nhw'n dweud 'ie', os ydyn nhw’n oedi wrth ymateb neu’n dangos unrhyw signalau eraill sy'n awgrymu nad ydyn nhw'n mwynhau, stopiwch beth rydych chi'n ei wneud. Gallai ymateb anghynnes neu hyd yn oed niwtral awgrymu eu bod nhw am i'r weithred fod drosodd cyn gynted â phosibl, sy'n awgrymu nad ydyn nhw’n cael profiad pleserus.

Pleser nid Pwysau

Dylai rhyw fod yn brofiad llawn hwyl a mwynhad, ond efallai bod rhai pobl yn fwy agored i niwed o ran gweithgaredd rhywiol. Mae'n bwysig bod yn amyneddgar, a pheidiwch â rhoi pwysau ar eich partner i wneud dim byd. Mae llu o resymau y gallai rhywun ddymuno symud yn arafach. Er enghraifft, efallai mai dyma’r tro cyntaf erioed, neu eu tro cyntaf gyda pherson gwahanol, neu efallai eu bod nhw wedi cael profiad rhywiol gwael o'r blaen.

Mae gofyn cwestiynau a gwneud gosodiadau yn ffordd dda o sicrhau bod eich partner yn dal i fwynhau ac yn hapus ichi barhau; gall y rhain fod mor syml ag "Ydy hyn yn iawn?", "Wyt ti'n hoffi hynny?", "Dwed wrtha i am stopio neu arafu os bydd unrhyw beth dw i'n ei wneud yn anghyffyrddus." Efallai na fydd rhywun sy'n teimlo gorfodaeth, neu’n teimlo eu bod nhw wedi’u dylanwadu i mewn i weithgaredd rhywiol yn gallu siarad yn glir am fod eu hymennydd nhw’n dweud wrthyn nhw eu bod nhw mewn perygl, felly gofalwch eich bod yn chwlio am gliwiau corfforol hefyd.

Sut beth yw Cydsyniad?

Sut beth yw Cydsyniad?

Mae cydsyniad yn edrych fel:

Dweud “Ie!” yn frwdfrydig

Siarad â'ch partner am yr hyn yr hoffech ei wneud ac na hoffech ei wneud, a gwrando arnyn nhw yn eich tro

Gwirio gyda'ch partner – "Ydy hyn yn iawn?", "Wyt ti am arafu?", "Wyt ti am stopio?"

Parchu dewis rhywun os ydyn nhw'n dweud "Na" – peidio byth â cheisio newid eu meddwl na rhoi pwysau arnyn nhw

Peidio â gwylltio os ydyn nhw'n dweud nad ydyn nhw yn yr hwyliau mwyach

Dyw cydsyniad ddim yn edrych fel:

Teimlo fel pe bai rhaid ichi gytuno i gael rhyw am eich bod yn poeni am ymateb eich partner os dywedwch chi "Na"

Rhywun yn cael rhyw gyda chi pan fyddwch chi'n cysgu neu'n anymwybodol

Rhywun yn parhau â gweithgaredd rhywiol er gwaethaf eich ciwiau di-eiriau chi, er enghraifft, os ydych chi’n tynnu’n ôl, yn rhewi, neu’n ymddangos yn anghyffyrddus

Rhywun yn cymryd eich bod chi eisiau cael rhyw oherwydd eich gweithredoedd neu beth rydych chi'n ei wisgo (er enghraifft, fflyrtio, derbyn diod, gwisgo sgert fer)

Rhywun yn cymryd eich bod chi eisiau cael rhyw eto am eich bod chi wedi cael rhyw gyda nhw o’r blaen

Rhywun yn tynnu condom yn ystod rhyw, a chithau wedi cytuno i gael rhyw gan ddefnyddio condom yn unig

Mythau am Gydsyniad

"Mae rhai pobl jyst yn gofyn amdani. Os wyt ti'n gwisgo mewn ffordd benodol rwyt ti'n rhoi dy hun mewn perygl"

Mae gan berson yr hawl i wisgo beth bynnag maen nhw'n ei hoffi – does dim modd rhoi’r bai arnyn nhw am fod rhywun yn ymosod arnyn nhw'n rhywiol, waeth sut maen nhw’n edrych. Nid bai’r goroeswr yw treisio neu ymosodiad rhywiol byth; y camdriniwr sydd wedi gwneud y dewis, ac mae yn erbyn y gyfraith.

"Mae pobl sy'n mynd yn rhy feddw yn gofyn amdani"

Dydy penderfynu yfed gormod ddim yn golygu bod rhywun hefyd wedi penderfynu cael rhyw. Cofiwch: treisio yw cael rhyw gyda rhywun sy'n rhy feddw i roi cydsyniad llawn.

"Os ydy dau berson wedi cael rhyw gyda'i gilydd o'r blaen, yna mae'n iawn cael rhyw eto"

Os yw person mewn perthynas â rhywun neu wedi cael rhyw gyda nhw o'r blaen, dydy hyn ddim yn golygu nad oes modd iddyn nhw ddioddef ymosodiad rhywiol neu gael eu treisio gan y person hwnnw. Mae’n rhaid i gydsyniad gael ei roi a'i dderbyn bob tro y bydd dau berson yn cymryd rhan mewn cysylltiad rhywiol – ac nid cael ei gymryd yn ganiataol byth.

"Efallai bydd rhywun yn dweud na, ond ie maen nhw wir yn ei olygu"

Na yw na! Os bydd rhywun yn dweud na, neu'n dangos trwy eu gweithredoedd nad ydyn nhw am gael rhyw, yna dydyn nhw ddim wedi cydsynio.

"Weithiau mae dyn jyst yn cael ei gario i ffwrdd ac yn methu stopio"

Mae pawb yn gyfrifol am eu hymddygiad eu hunain. Mae parchu rhywun yn golygu peidio byth â'u gorfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol yn erbyn eu dymuniad.

"Dyw dynion ddim yn cael eu treisio"

Mae 10% o holl ddioddefwyr treisiol rhywiol yn dynion. Rydyn ni’n credu bod pob un sydd wedi goroesi trais rhywiol yn haeddu cefnogaeth arbenigol.

"Dyw menywod ddim yn cyflawni troseddau rhywiol"

Mae nifer fach o fenywod yn cyflawni trais rhywiol. Yn aml mae pobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael eu cam-drin gan fenyw yn arbennig o ofnus na fydd neb yn eu credu neu na fydd eu profiadau'n cael eu hystyried 'cynddrwg' â chael eu treisio gan ddyn. Mae pob achos o dreisio neu ymosodiad rhywiol yn ddifrifol a dylid eu trin felly.