Bwrsariaeth Blanchfield
Mae Bwrsariaeth Blanchfield yn fwrsariaeth newydd ar gyfer costau byw, sef grant £5000 fesul myfyriwr, sy'n agored i fyfyrwyr sy'n cychwyn ar flwyddyn olaf eu hastudiaethau israddedig yn 2026/27. Grant sy’n bosib drwy rodd hael Lynne a John Blanchfield.
Mae'r grant yn cynorthwyo myfyriwr israddedig sydd mewn perygl o beidio â chyflawni eu potensial yn eu blwyddyn olaf oherwydd caledi ariannol.
Yn ogystal â’r grant ariannol, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mentor profiadol o gymuned ein cyn-fyfyrwyr i'w cefnogi yn eu blwyddyn olaf.
Meini prawf
Cyn gwneud cais am gyllid, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni’r holl feini prawf i fod ar dir i gael Bwrsariaeth Blanchfield yn unol â’r hyn a roddir yn y disgrifiad o'r grant. Ni ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf am y cyllid. Dim ond myfyrwyr sydd wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sydd ar dir i gael eu derbyn yn y flwyddyn academaidd dan sylw, yn unol â’r disgrifiad o'r grant, y gellir eu hystyried ar gyfer y cyllid.
Y Drefn Ymgeisio
Dylid gwneud ceisiadau drwy Microsoft Form.
Bydd angen i chi gyflwyno rhagor o ddogfennaeth gan gynnwys geirda gan eich tiwtor personol. Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu derbyn ac y byddant yn cael eu heithrio o’r broses ddethol.
Canllawiau ar gyfer gwneud cais am y grant
- Rhaid i'ch cais am y grant fod yn gyflawn er mwyn bod yn gais dilys. Ni fyddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod bod eich cais wedi cyrraedd, nac ai yw’n gyflawn ai peidio, nac i ofyn am ddogfennau nad ydynt wedi’u cyflwyno. Mae ceisiadau anghyflawn yn annilys, ac ni fyddant yn cael eu prosesu. Bydd y drefn ymgeisio yn rhoi gwybod i chi am y ddogfennaeth ychwanegol sydd ei hangen.
- Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich cyfeiriad ebost y Brifysgol a’i fod yn ddilys.
- Bydd pob cais sy’n cyrraedd erbyn y dyddiad cau yn cael ei drin yn gyfartal. Ni fydd ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.
- Sylwch nad yw’n fwriad i’r grantiau gynnal aelodau o'r teulu.
- Fel rheol, dim ond yr ymgeiswyr llwyddiannus a'r ymgeiswyr wrth gefn fydd yn cael eu hysbysu.
Y dyddiad cau am geisiadau am y grant ar gyfer y flwyddyn 2026-27 yw hanner dydd 25/04/2026.
Bydd ceisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau hwnnw yn cael eu heithrio o'r broses ddethol.
Meini prawf dewis ymgeiswyr llwyddiannus
Mae'r grant ar agor i israddedigion mewn unrhyw adran a fydd yn dechrau eu blwyddyn olaf o astudio yn 2026/27 ac sydd mewn perygl o beidio â chyflawni eu potensial oherwydd caledi ariannol.
Rhoi gwybod am ganlyniadau’r ysgoloriaeth
Mae ceisiadau am y grant yn cael eu dyfarnu gan y Panel Dewis. Mae'r broses ddethol fel rheol yn cymryd 6 wythnos ar ôl y dyddiad cau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu trwy ebost ac yn cael cynnig grant swyddogol drwy'r post i’r cyfeiriad gohebu a roddwyd yn y cais am yr ysgoloriaeth.
Rheoliadau’r ysgoloriaeth
Nid yw’r cyllid ar gael yn ôl-weithredol; bydd unrhyw gyllid a roddir yn berthnasol i’r cyfnod o ddechrau'r sesiwn academaidd ar ôl y dyddiad cau ymgeisio am yr ysgoloriaeth.
Dim ond ar ôl i ddeiliad y grant gofrestru’n llawn y bydd unrhyw gyllid yn cael ei dalu. Telir y grant fesul rhandaliad, a bydd yn amodol ar gynnydd boddhaol gan ddeiliad y grant.
Dod â’r grant i ben
Gellir dod â'r grant i ben ar unrhyw adeg os ceir adroddiad am gynnydd anfoddhaol, os bydd deiliad y grant yn peidio â bod yn fyfyriwr cofrestredig amser-llawn ym Mhrifysgol Aberystwyth, neu os canfyddir bod deiliad y grant wedi torri rheoliadau’r grant.
