Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru

Cows in the barn at the University's Trawsgoed Farm.

Mae'r Ysgol Haf Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru yn rhaglen ddiwylliannol ac academaidd sy’n para tair wythnos. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar faterion cyfredol ym maes Ffermio ac Amaethyddiaeth, drwy lens Cymru.

Ni fydd Ysgol Haf Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru yn rhedeg yn 2023, cadarnhewch ar gyfer 2024 yr hydref nesaf neu e-bostiwch byd-eang@aber.ac.uk.mailto:byd-eang@aber.ac.uk

Mae'r Ysgol Haf yn edrych yn eang ar y defnydd o dir a systemau cynhyrchu amaethyddol, gan ganolbwyntio ar amaethyddiaeth da byw, y defnydd o dir âr a materion cadwraeth. Ceir cymysgedd o ddarlithoedd dosbarth ac addysg arbrofol, gyda thripiau i ffermydd a thirddaliadau niferus y brifysgol.

Ysgol Haf Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru

Mae ysgol haf Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei chynnal yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Adran y Gwyddorau Bywyd yn ganolfan ymchwil a dysgu o fri rhyngwladol sy'n enwog am ei hymchwil i ymateb i heriau byd-eang megis diogelu cyflenwadau bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, a Chanolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON.

Uchafbwyntiau

Bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Dysgu rhywfaint o Gymraeg
  • Mynd ar ôl thema'r rhaglen drwy gymryd rhan mewn trafodaethau bord gron
  • Dod i adnabod harddwch cefn gwlad canolbarth Cymru, gan gynnwys safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Bydd y tripiau'n cynnwys:

  • Y Sioe Amaethyddol - uchafbwynt calendr amaethyddol Prydain
  • Llwyfan Ymchwil Ucheldiroedd Pwllpeiran
  • Canolfan Bioburo BEACON.

Na fydd unrhyw gost ychwanegol i'r myfyrwyr am unrhyw rai o'r gweithgareddau a gynhelir yn rhan o'r rhaglen.

Costau

Costau

Gwariant

Costau

Rhaglen 3 wythnos a llety llawn

£2,800

Gostyngiad Prifysgolion Partner ar gael

Holwch os gwelwch yn dda

Pris llety llawn yn cynnwys:

  • Llety ystafell sengl ar y campws
  • Cerdyn Aber i ddefnyddio am fwyd ar gampws
  • Holl ddeunyddiau a gwersi'r cwrs
  • Pob trip a thaith
  • Cefnogaeth tîm Cyfleoedd Byd-Eang, y cydlynydd academaidd a myfyriwr mentora

Ddim yn cael ei gynnwys:

  • Teithio i Aberystwyth
  • Teithio rhyngwladol i Brydain ac yn ôl
  • Yswiriant teithio neu feddygol
  • Costau fisa os yn berthnasol
  • Arian personol i'w wario

 

Cymhwysedd

Mae'r rhaglen yn ddigon eang i ddiddori myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd pwnc.  Os nad ydych chi’n siŵr, mae pob croeso i chi gysylltu!

Gofynnwn eich bod dros 18 oed, yn astudio mewn coleg neu brifysgol yn barod, gyda Chyfartaledd Pwynt Gradd o 3.0 o leiaf, a'ch bod yn barod ac yn agored i gymryd rhan mewn dadl a thrafodaeth fywiog.

Sut i wneud cais

Ni fydd Ysgol Haf Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru yn rhedeg yn 2023, cadarnhewch ar gyfer 2024 yr hydref nesaf neu e-bostiwch byd-eang@aber.ac.uk.

Bydd derbyniadau'n cael eu gwneud ar sail dreigl, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd, gall ceisiadau gau'n gynnar.

Rhagor o Wybodaeth

Academaidd a chredydau

Mae'r rhaglen hon yn un sy'n arwain at gredydau. Bydd y myfyrwyr yn cael credyd i'w drosglwyddo i'w sefydliad cartref os byddant yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Bydd yr elfen academaidd yn golygu cwblhau modiwl sy’n rhoi 10 o gredydau'r Deyrnas Unedig (3 o gredydau'r Unol Daleithiau) gan gynnwys cadw dyddiadur, gwneud cyflwyniad a chwblhau aseiniad ysgrifenedig.

Gweithgareddau awyr agored

Bydd yr Ysgol Haf, wrth reswm, yn cynnwys llawer o weithgareddau awyr agored, digon o heicio ac, o bosib, rhywfaint o law!