Pryd y dylid gwneud ceisiadau am gyrsiau PhD?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn derbyn ceisiadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig trwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni ymchwil geisio gwneud eu ceisiadau cyn gynted â phosibl, a bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn gwneud eu ceisiadau yn y cyfnod rhwng Tachwedd ac Ionawr. 

Os ydych yn bwriadu gwneud cais am ffynhonnell benodol o gyllid neu ysgoloriaeth, cofiwch fod gan Gynghorau Ymchwil y DU eu dyddiadau cau eu hunain hefyd. Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gyllid o'r fath yna dylech dalu sylw arbennig i'r terfynau amser hyn, oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion mae angen i chi fod yn dal cynnig cyn y gallwch wneud cais am gyllid. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i'w hystyried ar gyfer Ysgoloriaeth AberDoc fel arfer yw'r diwrnod gwaith olaf ym mis Ionawr. Mae manylion y dyddiadau cau penodol ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/postgrad/uk-eu/research/aberdoc/