Doethur mewn Athroniaeth (PhD)

Doethur mewn Athroniaeth (PhD)

Dewch i gwblhau eich doethuriaeth (PhD) yma, gan gynnal ymchwil academaidd gwreiddiol a gwneud cyfraniad newydd i’ch maes astudiaeth penodol chi.

Dyma’r cymhwyster uchaf yn academaidd, ac felly mae PhD yn rhoi’r llwyfan i chi wneud datblygiadau sylweddol yn eich maes diddordeb. Gallwch wneud darganfyddiadau newydd, profi damcaniaethau newydd a gwthio ffiniau gwybodaeth a dealltwriaeth yn y byd sydd ohoni.

Mae cyfleoedd doethuriaeth ar gael ym mhob un o’n hadrannau academaidd.

Yn Aberystwyth, byddwch yn rhan o’n cymuned ymchwil.

Bydd staff academaidd arbenigol o’ch amgylch a bydd y rheiny’n gallu cefnogi’ch datblygiad a chydweithio gyda chi ar rai agweddau ar eich ymchwil. Byddwch yn cyfrannu at fywyd ymchwil eich adran academaidd a’r brifysgol yn gyffredinol.

Gwybodaeth bellach ar astudio doethuriaeth:

  • I wneud cais i astudio doethuriaeth, dylech ddisgwyl ennill neu eisoes fod ag anrhydedd ail ddosbarth uwch (anrhydedd 2:1) neu radd dosbarth cyntaf. Bydd rhai adrannau hefyd yn disgwyl gweld tystiolaeth o astudio ar lefel Meistr;
  • Rhaid cael cynnig ymchwil ar gyfer pob cais PhD oni bai fod cynnig ymchwil wedi’i bennu ymlaen llaw ac ynghlwm wrth brosiect a ariennir. Holwch yr adran academaidd berthnasol os nad ydych yn siŵr;
  • I gael cyngor ar sut i lunio a mireinio eich cynnig ymchwil PhD, gweler ein “Canllawiau ar Lunio Cynnig Ymchwil” (Research Proposal Guidelines);
  • Mae cwblhau PhD yn cymryd 3 i 4 blynedd o astudio’n llawn amser a hyd at 7 mlynedd yn astudio’n rhan-amser;
  • Uchafbwynt eich astudiaeth PhD fydd llunio traethawd hir (80,000-100,000 o eiriau) yn seiliedig ar eich ymchwil. Rhaid i chi wedyn ei gyflwyno a dadlau drosto maes o law mewn arholiad llafar, neu viva, sydd wedi’i asesu gan eich goruchwyliwr/goruchwylwyr ac arholwyr allanol perthnasol;
  • Er y bydd gennych oruchwyliwr a staff academaidd eraill i roi cefnogaeth i chi, mae’r cyfrifoldeb ar eich ysgwyddau chi i fwrw ati i wneud gwaith ymchwil annibynnol ar ymchwil/llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes, cynnal ymchwil newydd a chynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth.

 

Cysylltwch â’r Tîm Derbyn Uwchraddedigion i gael rhagor o wybodaeth