Ysgoloriaethau - Sefydliad Aziz

Logo y sefydliad Aziz

Cefnogi Mwslimiaid Prydeinig mewn i Addysg Uwch er mwyn gwella cymdeithas.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch i fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i fod mewn partneriaeth â Sefydliad Aziz er mwyn cefnogi Mwslimiaid Prydeinig i barhau â’u taith addysgol gydag addysg ôl-raddedig.

Mae Sefydliad Aziz yn cynnig ysgoloriaethau Gradd Meistr i mwslimiaid Prydeinig, gan eu galluogi, mewn partneriaeth â phrifysgolion y DU, i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Mae Sefydliad Aziz, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, yn cynnig ysgoloriaethau er mwyn talu am 100% o ffioedd  graddau Meistr, i gefnogi Mwslimiaid Prydeinig i astudio ym mhrifysgolion y DU.

Sefydliad elusennol teuluol yw Sefydliad Aziz a sefydlwyd i feithrin arweinwyr cyhoeddus, hyderus, a huawdl o gefndir Mwslemaidd, sy’n gallu ymgysylltu’n feirniadol â naratifau cyhoeddus a mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol sy’n wynebu cymunedau Mwslemaidd Prydain a’r gymdeithas ehangach.

Ceisiadau Ysgoloriaethau Meistr 2023/24 Ar Agor Nawr
- Cliciwch Yma i Ymgeisio