Amdanom Ni

Mae ein Tîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad yn darparu cyngor a chymorth am addysg uwch.

Mae’r tîm yn teithio drwy Brydain yn ymweld ag ysgolion, yn mynd i gynadleddau UCAS a digwyddiadau gyrfaoedd, a hefyd yn trefnu diwrnodau rhagflas ar y Campws. Gall aelodau o’n tîm ymweld â’ch ysgol neu’ch coleg yn rhad ac am ddim i siarad â chi a’ch athrawon/cynghorwyr am bob agwedd ar wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch.

P’un a hoffech i ni ddod draw atoch chi, neu ei bod yn well gennych weld ein hadnoddau drosoch eich hun, mae ein tîm yma i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a diduedd am addysg uwch.

Er mwyn ehangu mynediad a chynyddu cyfranogiad o bob dosbarth cymdeithasol ac ardal ddaearyddol, mae'r Brifysgol:  

  • Yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau blynyddol megis Wythnos Wyddoniaeth Prydain, Wythnos Roboteg, Lleoliadau Ymchwil Nuffield, Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli, a Gŵyl Gyrfaoedd Ceredigion.  
  • Darparu gweithgareddau a gwaith allanol STEM i'r gymuned ehangach ac i ysgolion a cholegau yn ardal canolbarth Cymru.    
  • Cynnig rhaglen o weithgareddau di-gymhwyster ar gyfer ein hardal leol, lle mae amddifadedd gwledig a thlodi’n gwadu cyfle i rai o oedran addysg ôl-statudol. Gall hyn ddatblygu sgiliau a hyder unigolion a chodi ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth ar gyfer oedolion / myfyrwyr aeddfed. 
  • Cydweithio’n agos ag ysgolion a cholegau lle mae cyfran isel o ddisgyblion yn symud ymlaen i AU, er mwyn codi eu hyder a’u dyheadau drwy gynnig ymweliadau â'r campws er mwyn cael Blas ar Fywyd Prifysgol, Cyfres Llais y Myfyrwyr, Gwneud y cam o Ymgeisio i Lwyddo, Cyn, Yn ystod a Thu Hwnt, a chefnogaeth ar gyfer Prosiect Unigol Bagloriaeth Cymru.  

 

Yma yn Aberystwyth rydym yn annog pobl i wneud eu dewisiadau ar sail gwybodaeth – edrychwch ar yr adran hon i weld sut y gallwn eich helpu chi i wneud eich penderfyniad.