Wythnos Gwyddoniaeth Brydeinig 2024

Disgyblion yn ymweld â ffair flaenorol Wythnos Gwyddoniaeth Prydain ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cymryd rhan mewn her feicio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Ffair Wyddoniaeth Prifysgol Aberystwyth - 2024

I ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth Brydeinig eleni mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal arddangosfa ryngweithiol eang. Fe amelir yr arddangosfa yn benodol at Blynyddoedd 5 -7.

Dilynwch y ddolen hon i archebu lle i'ch ysgol yn Ffair Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2024.

Cynhelir yr arddangosfa ar brif Gampws y Brifysgol, yn y Gawell Chwaraeon ar 12, 13 a 14 o Fawrth. Mi fyddwn yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau gwyddonol cyffrous i’r disgyblion. Yn ystod y dydd fydd yna gyfle i gymryd rhan mewn cwis lle fydd yna gwobrau ar gael i’w ennill.

Thema ar gyfer Wythnos Gwyddoniaeth 2024 yw Amser/Time.

Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim a gallwn helpu i gyllido costau teithio os bydd angen (£100 fesul Ysgol, uchafswn). 

Am ragor o wybodaeth neu os oes gan unrhyw aelod o’r grŵp anabledd, anawsterau symud neu os oes angen gwneud unrhyw drefniadau arbennig ar eu cyfer, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar 01970 62 2681 neu e-bostiwch ehangu-cyfranogiad@aber.ac.uk. Darperir rhagor o wybodaeth wrth gofrestru.