Prof Jamie Medhurst

BA (Anrh), MLib, PhD, FRHistS, FHEA

Prof Jamie Medhurst

Professor of Film and Media

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Manylion Cyswllt

Proffil

Yn enedigol o Bont-y-pwl, cefais fy nwyn fyny yng Nghasnewydd, de Cymru a mynychu Ysgol Gymraeg Casnewydd (1973-79) ac Ysgol Gyfun Rhydfelen (1979-86). I Aberystwyth wedyn i astudio ar gyfer gradd mewn Hanes a graddio ym 1989 cyn gwneud cwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth, eto yn Aberystwyth (ble arall?!).

Ers 1996, rwyf wedi bod yn Ddarlithydd (yna Uwch Darlithydd, Darllenydd, a nawr Athro Ffilm a'r Cyfryngau) yn yr Adran a chyn hynny fe fûm yn Diwtor Astudiaethau Gwybodaeth yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (1993-96). Rwyf wedi ymgymryd â gwahanol swyddi gweinyddol a rheolaethol yn yr Adran/Prifysgol: Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Cyfarwyddwr Ymchwil, Pennaeth Adran, a Dirprwy Ddeon. Rwyf yn briod ac mae gennym dri o blant (un wedi tyfu fyny a phriodi). Y tu allan i'r gwaith rwyf yn mwynhau rygbi (gwylio yn hytrach na chwarae y dyddiau hyn!), pysgota, treulio amser gyda'r plant - ac chwarae'r organ a phregethu'n achlysurol yn Eglwys St Mair yn Aberystwyth. Treulir rhan o fis Rhagfyr mewn siwt coch a gwyn, 'sgidiau du, a barf gwyn ffals

Gwybodaeth Ychwanegol

Rwy'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch ac yn arholwr allanol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain (BA Film and Media) a Phrifysgol Lerpwl (BA Communication and Media). Rwyf wedi arholi oddeutu 20 traethawd hir PhD fel arholwr allanol mewn prifysgolion yn y DU, Sweden, ac Awstralia. Rwyf yn aelod o Bwyllgor Llywio rhwydwaith ymchwil hanes y cyfryngau, EMHIS (https://emhis.blogg.lu.se/). Adolygais bapurau i Contemporary Wales, Critical Studies in Television, Media History a Twentieth Century British History ynghyd â chynigion am lyfrau i Routledge, Sage Publications a Palgrave-Macmillan.

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys hanes darlledu; polisi cyfryngol; archifau ffilm a chyfryngau; y cyfryngau a chymdeithas yng Nghymru; hanes ffilm ddogfen.

Rwyf yn gweithio ar nifer o lyfrau/prosiectau ar hyn o bryd:

Welsh Media Historiography [pennod ar gyfer Routledge Handbook of Welsh History]

Teledu a Chymru yn y 1970au [erthygl]

The cultural significance of broadcasting transmitters in Wales [erthygl]

Programmes, Politics, and Protest: a history of broadcasting in Wales [llyfr - gobeithio - rhywbryd yn y dyfodol agos….]

Broadcasting Policy in a Devolved United Kingdom [prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym Mhrifysgolion Glasgow ac Ulster]

Entangled Media Histories [prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym mhrifysgolion Bournemouth, Lund, a Hamburg]

Grantiau/Ysgoloriaethau Ymchwil:

  • Gwobr Syr David Hughes Parry, 2006/07, i gynorthwyo gwaith ar lyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
  • Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Medi 2008-Ionawr 2009 - cyfnod ymchwil i gwblhau llyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
  • Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939.
  • Cronfa Ymchwil Prifysgol Aberystwyth, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939;
  • Grant Cynhadledd Dramor yr Academi Brydeinig, 'Television: the experimental moment 1935-1955', Prifysgol Paris 8, 27-29 Mai 2009.
  • Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Chwefror 2010-Ionawr 2012; rhwydwaith ymchwil ryngwladol ar hanes darlledu

Arolygu ac Arholi MPhil/PhD:

Arolygu

Lewis Bullen, ‘For the Children: a history of early children’s television and the BBC, 1936-63'

Gwenan Edwards, ‘What role does screen media play in maintaining and developing indigenous minority language in the UK, and how significant is it in revitalising language and culture?’

Lucy McFadzean (Ysgoloriaeth AHRC): ‘Community, politics and the economy in the cultural policies of the Greater London Council 1981-6.’

Gregor Cameron: ‘Re-performing Who: Tracing Theatre Technique Through Television Time’

Donald F. McLean (PhD trwy gyhoeddiadau): ‘Investigations into the emergence of British television, 1926-1936’

Dafydd Sills-Jones: ‘History Documentary on UK Terrestrial Television, 1982-2002.’

Rwyf wedi arholi nifer o draethodau ymchwil PhD yn y meysydd hyn, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, teledu Tsieiniaidd, radio lleol yn Lloegr, portreadau o Gymru mewn drama deledu ddogfennol a rhyngweithiol. Byddai gen i ddiddordeb i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno archwilio unrhyw agwedd ar hanes darlledu neu faterion cysylltiedig â darlledu a hunaniaeth genedlaethol.

Cyfrifoldebau

  • Cyd-gysylltydd Gradd, BA Film and Television
  • Cyd-Gysylltydd Gradd, BA Media and Communication Studies
  • Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Aberystwyth

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Mercher 12.00-14.00

Cyhoeddiadau

Medhurst, J, Panorama at 70, 2023, Web publication/site, British Broadcasting Corporation. <https://canvas-story.bbcrewind.co.uk/pan70/>
Medhurst, J 2023, 'The Bloomsbury Handbook of Radio, Kathryn Mcdonald and Hugh Chignell (eds) (2023)', Radio Journal, vol. 21, no. 2, pp. 253-255. 10.1386/rjao_00086_5
Medhurst, JL 2022, The Early Years of Television and the BBC. Edinburgh University Press.
Medhurst, J, 100 Voices that made the BBC: Entertaining the Nation, 2021, Web publication/site, British Broadcasting Corporation, 2021. <https://www.bbc.com/historyofthebbc/100-voices/entertaining-the-nation>
Medhurst, J 2021, 'Reviews: JOHN ORMOND'S ORGANIC MOSAIC: POETRY, DOCUMENTARY, NATION', Welsh History Review, vol. 30, no. 3, pp. 424-425. 10.16922/whr.30.3.5
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil