Elystan Morgan, 1.10

Mae 1.10 wedi’i leoli yn adeilad Elystan Morgan yng Nghanolfan Llanbadarn. Mae adeilad Elystan Morgan wedi’i leoli ym mlaen y campws o’r brif fynedfa, ar yr ochr chwith (mapiau o'r Brifysgol).

Cliciwch ar y mân-lun i weld llun maint llawn.

Manylebau

Nifer y seddi: 28

Math o ystafell: darlithfa

Maint yr ystafell: 59 m² (7m hyd x 8.5m lled)

Llenni blacowt

Hygyrchedd

Symudedd: agen Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP)*

Clywed: system Dolen Anwytho Cymorth Clyw (Pa gymorth clywed sydd ar gael yn yr ystafelloedd addysgu?)

*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.

Cyfarwyddiadau

Ar ôl mynd i mewn i Adeilad Elystan Morgan o’r brif fynedfa, trowch i’r chwith yn y prif gyntedd ac ewch i lawr y ramp serth ar y dde. 1.10 yw’r ystafell gyntaf ar yr ochr chwith.

Offer

Cyfleusterau dysgu safonol

Microffon gwddf

2 taflunydd data

1 bwrdd gwyn

PTZ camera

Canllaw Ystafelloedd Addysgu

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu’r canllaw hwn ynghylch defnyddio cyfarpar addysgu safonol yn yr ystafelloedd addysgu canolog – dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r ffeil Microsoft Word: Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 2023-24