Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.

Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2027

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon

Yn Aberystwyth, mae ein ffioedd dysgu i fyfyrwyr israddedig Cartref yr un fath ag uchafswm ffi reoledig Llywodraeth Cymru.  Gall y ffi hon newid yn flynyddol fel y'i cymeradwyir gan Lywodraeth Cymru ac fel myfyriwr israddedig Cartref, gallai hyn olygu ffi ddysgu wahanol ym mhob blwyddyn o astudio.  Bydd unrhyw newidiadau i'r ffioedd dysgu yn cael eu cyfleu i chi erbyn diwedd mis Mehefin cyn y flwyddyn academaidd y maent yn berthnasol iddi. 

Mae statws ffioedd cartref yn berthnasol i fyfyrwyr o'r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Mae'r ffioedd israddedig hefyd yn berthnasol i raglenni Meistr Integredig.

Y ffi ddysgu ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr Cartref israddedig yw £9,790 y flwyddyn.  Gallai hyn newid ar gyfer mynediad yn 2027 a bydd myfyrwyr presennol ac ymgeiswyr yn cael eu hysbysu fel y nodir uchod.

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)

Noder y bydd gwladolion Gwyddelig yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol, sy'n golygu y gall costau llety gael eu cynnwys yn eich ffioedd dysgu.

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, caiff lefelau ffioedd eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod yn union beth fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

 

Myfywyr Rhyngwladol  
Math £
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser £20,400
Gwyddoniaeth Llawn Amser £23,255
Blwyddyn mewn Diwydiant

£1,958

Blwyddyn Dramor

TBC

Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell

Gweler isod y ffioedd dysgu ar gyfer dysgu o bell am y flwyddyn academaidd 2027-28.  Noder bod yr holl ffioedd dysgu yn gallu cynyddu bob blwyddyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gynnydd cyn gynted â phosibl ac ym mhob achos erbyn diwedd Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn yr un yr ydym yn bwriadu cynyddu’r Ffioedd Dysgu ynddi.

Math o Gwrs:

Ffi Gofrestru

(untro, ni ellir ei had-dalu)

Ffi fesul modiwl 10 credyd (yr un)

Ffi fesul modiwl 20 credyd (yr un)

Traethawd Hir

Cyfanswm y Ffi: Myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol

Astudiaethau Gwybodaeth 

Cyrsiau Byr

N/A

TBC

TBC

N/A

 N/A

Astudiaethau Gwybodaeth BSc

£360

£445

£900

N/A

£11,160

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon ar gyrsiau Blwyddyn Sylfaen a ddysgir yn y dosbarth

Y ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau blwyddyn sylfaen a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 yw £5,760.  Bydd y ffioedd ar gyfer cyrsiau blwyddyn sylfaen a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth 2027/28 yn aros yr un fath oni bai bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn caniatáu i brifysgolion gynyddu'r ffi.  Os felly, bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru a bydd y cynnydd mewn ffioedd yn cael ei gyfleu i ymgeiswyr cyn Mehefin 2027.

Bydd y gost o symud ymlaen i gyrsiau israddedig ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn cael ei godi ar lefel y ffioedd israddedig safonol.  Gweler rhestr o gynlluniau perthnasol isod:

  • Cyfrifeg a Chyllid (N40F)
  • Busnes a Rheolaeth (N12F)
  • Economeg Busnes (L11F)
  • Cyllid Busnes (N31F)
  • Troseddeg (M90F)
  • Economeg (L10F)
  • Addysg (X30F)
  • Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (QW3F)
  • Hanes (V10F)
  • Cysylltiadau Rhyngwladol (F42L)
  • Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol (F2VL)
  • Y Gyfraith (M10F)
  • Marchnata (N50F)
  • Cymdeithaseg (L30F).

Ffioedd y Flwyddyn Sylfaen ar bob cynllun arall

Codir ffioedd ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen ar bob cynllun arall ar y gyfradd israddedig safonol, sef £9,790 y flwyddyn ar hyn o bryd.  Pe bai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn caniatáu i brifysgolion gynyddu'r ffioedd, byddwn yn cyfleu ein bwriad i godi lefel y ffioedd ar y dudalen we hon ac yn uniongyrchol i ymgeiswyr cyn gynted â phosibl a chyn Mehefin 2027.

Sylwer, mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd yn y blynyddoedd dilynol yn unol â chymeradwyaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Bydd unrhyw fwriad i gynyddu lefel y ffioedd yn cael ei gyfleu i fyfyrwyr ac ymgeiswyr cyn gynted â phosibl a chyn Mehefin yn y flwyddyn berthnasol.

 

Gwybodaeth ffioedd i fyfyriwr rhyngwladol ar gyrsiau Saesneg cyn-sesiynol

Rydym yn cynnig y cyrsiau Saesneg cyn-sesiynol 12 a 6 wythnos wyneb yn wyneb neu ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau dechrau a gorffen, edrychwch ar ein tudalen we Saesneg Cyn-sesiynol.

Cwrs Hyd Ffioedd
Saesneg cyn-sesiynol - Wyneb yn wyneb 12 wythnosau

*£5300

6 wythnosau *£2850
Saesneg cyn-sesiynol - Ar-lein 12 wythnosau TBC
6 wythnosau TBC

*Mae pob myfyriwr rhyngwladol sy’n talu ffioedd ac yn hunan ariannu yn gymwys i gael Grant Llety Rhyngwladol, sy’n rhoi’r dewis i fyfyrwyr gael llety am ddim mewn neuadd breswyl benodol ar y campws dros gyfnod eu cwrs cyn-sesiynol wyneb yn wyneb.

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2026

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon

Cyhoeddodd Llywodraethau’r DU a Chymru yn ddiweddar y gallai prifysgolion godi uchafswm o £9,790 ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. O ganlyniad, byddwn yn codi £9,790 y flwyddyn am gyrsiau sy’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Noder, mae gan Aberystwyth yr hawl i gynyddu ffioedd yn y blynyddoedd i ddod yn unol â chymeradwyaeth Llywodraethau’r DU a Chymru. Rydym wedi llunio tudalen Cwestiynau Cyffredin y gallwch ddod o hyd iddi yma.

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)

Noder y bydd gwladolion Gwyddelig yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol, sy'n golygu y gall costau llety gael eu cynnwys yn eich ffioedd dysgu.

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, caiff lefelau ffioedd eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod yn union beth fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

 

Myfywyr Rhyngwladol  
Math £
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser £19,190
Gwyddoniaeth Llawn Amser £21,875
Blwyddyn mewn Diwydiant

£1,958

Blwyddyn Dramor

£1,465

Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell

Dangosir isod y ffioedd dysgu ar gyfer dysgu o bell am y flwyddyn academaidd 2026-27. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Math o Gwrs:

Ffi Gofrestru

(untro, ni ellir ei had-dalu)

Ffi fesul modiwl 10 credyd (yr un)

Ffi fesul modiwl 20 credyd (yr un)

Traethawd Hir

Cyfanswm y Ffi: Myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol

Astudiaethau Gwybodaeth 

Cyrsiau Byr

N/A

£625

£1125

N/A

 N/A

Astudiaethau Gwybodaeth BSc

£360

£420

£845

N/A

£10,500

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon ar gyrsiau Blwyddyn Sylfaen a ddysgir yn y dosbarth

Y ffi dysgu ar gyfer blwyddyn Sylfaen y cyrsiau a ddysgir yn y dosbarth ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 yw £5,760. Codir y ffi israddedig safonol ar bob blwyddyn arall ar y rhaglenni hyn. Gweler rhestr o gynlluniau perthnasol isod:

  • Cyfrifeg a Chyllid (N40F)
  • Busnes a Rheolaeth (N12F)
  • Economeg Busnes (L11F)
  • Cyllid Busnes (N31F)
  • Troseddeg (M90F)
  • Economeg (L10F)
  • Addysg (X30F)
  • Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (QW3F)
  • Hanes (V10F)
  • Cysylltiadau Rhyngwladol (F42L)
  • Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol (F2VL)
  • Y Gyfraith (M10F)
  • Marchnata (N50F)
  • Cymdeithaseg (L30F).

Ffioedd ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen ar bob cynllun arall 

Cyhoeddodd Llywodraethau’r DU a Chymru yn ddiweddar y gallai prifysgolion godi uchafswm o £9,790 ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. O ganlyniad, byddwn yn codi £9,790 y flwyddyn am gyrsiau sy’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Noder, mae gan Aberystwyth yr hawl i gynyddu ffioedd yn y blynyddoedd i ddod yn unol â chymeradwyaeth Llywodraethau’r DU a Chymru. 

Gwybodaeth ffioedd i fyfyriwr rhyngwladol ar gyrsiau Saesneg cyn-sesiyonal

Rydym yn cynnig y cyrsiau Saesneg cyn-sesiynol 12 a 6 wythnos wyneb yn wyneb neu ar-lein.

*Mae pob myfyriwr rhyngwladol sy’n talu ffioedd ac yn hunan ariannu yn gymwys i gael Grant Llety Rhyngwladol, sy’n rhoi’r dewis i fyfyrwyr gael llety am ddim mewn neuadd breswyl benodol ar y campws dros gyfnod eu cwrs cyn-sesiynol wyneb yn wyneb.

 

Cwrs Hyd

Dyddiad Dechrau

Dyddiad Gorffen

Ffioedd
Saesneg cyn-sesiynol - Wyneb yn wyneb 12 wythnosau 08 Mehefin 2026  28 Awst 2026

*£4290

6 wythnosau 20 Gorfennaf 2026 28 Awst 2026 *£2310
Saesneg cyn-sesiynol - Ar-lein 12 wythnosau 08 Mehefin 2026 28 Awst 2026 £4050
6 wythnosau 20 Gorfennaf 2026 28 Awst 2026 £1750

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2025

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon

Yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru o’r cynnydd yn uchafswm y ffi y gellir ei chodi ar fyfyrwyr israddedig amser llawn sy’n byw yn y DU ac yn Iwerddon o £9,250 i £9,535, byddwn yn gweithredu'r newid hwn i ffioedd y myfyrwyr perthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26.

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)

Noder y bydd gwladolion Gwyddelig yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol, sy'n golygu y gall costau llety gael eu cynnwys yn eich ffioedd dysgu.

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, caiff lefelau ffioedd eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod yn union beth fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

 

Myfywyr Rhyngwladol  
Math £
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser 18,170
Gwyddoniaeth Llawn Amser 20,715
Blwyddyn mewn Diwydiant I'w cadarnhau
Blwyddyn Dramor I'w cadarnhau

Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell

Cyrsiau Israddedig £

Ffi Gofrestru (untro, na ellir ei ad-dalu)

360

Ffi fesul modiwl 10 credyd (yr un)

400

Ffi fesul modiwl 20 credyd (yr un)

800

Cyfanswm (gan gynnwys y Ffi Gofrestru)

9,960

Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol o 1 Awst.  Mae'r ffioedd isod yn ddilys ar gyfer myfyrwyr sy'n prynu eu modiwlau ym mis Medi 2025 (blwyddyn academaidd 2025-26).

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon ar gyrsiau Blwyddyn Sylfaen a ddysgir yn y dosbarth

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ostwng lefel uchaf y ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon ar gyfer Blynyddoedd Sylfaen pynciau a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth, y ffi ar gyfer Blwyddyn Sylfaen y cynlluniau canlynol fydd £5,760 o’r Flwyddyn Academaidd 2025/26:

 

Cyfrifeg a Chyllid (N40F)

Busnes a Rheolaeth (N12F)

Economeg Busnes (L11F)

Cyllid Busnes (N31F)

Troseddeg (M90F)

Economeg (L10F)

Addysg (X30F)

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (QW3F)

Hanes (V10F)

Cysylltiadau Rhyngwladol (F42L)

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol (F2VL)

Y Gyfraith (M10F)

Marchnata (N50F)

Cymdeithaseg (L30F)

 

Bydd lefel y ffioedd ar gyfer Blwyddyn Sylfaen pob cynllun arall ar lefel uchaf ffi'r Llywodraeth ar gyfer graddau Baglor.