Cynigion Cyd-destunol

Mae gan Brifysgol Aberystwyth bolisi derbyn cynhwysol sy’n cydnabod natur unigol pob cais a ddaw i law.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r agenda ehangu cyfranogiad  a'ch helpu i symud ymlaen i addysg uwch.

Ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais am gyrsiau israddedig yng nghylch ymgeisio 2024/2025 (ac eithrio graddau Gwyddor Filfeddygol), bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig cyd-destunol os bydd unrhyw un o'r meini prawf canlynol yn berthnasol i'ch amgylchiadau personol eich hun:

  • Mae cod post eich cartref mewn cymdogaeth cyfranogiad Addysg Uwch isel (Cesglir yr wybodaeth hon o Gyfranogiad Ardaloedd Lleol (POLAR) a’i chyflenwi gan UCAS). Mae'r sgôr yn amrywio o 1 (cyfranogiad isel) i 5 (cyfranogiad uchel). Bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig cyd-destunol i'r ymgeiswyr hynny o gwintelau POLAR4 1 a 2
  • Chi yw'r genhedlaeth gyntaf yn eich teulu i fynd i'r brifysgol (nodwyd drwy wybodaeth hunan-ddatganedig ar y cais UCAS bod gennych rieni neu warcheidwaid nad ydynt wedi mynychu'r brifysgol)
  • Rydych o dan 25 oed ac wedi treulio cyfnod o dri mis neu fwy mewn gofal ers yn 14 oed (nodwyd drwy wybodaeth hunan-ddatganedig ar y cais UCAS)
  • Rydych chi'n ofalwr ifanc o dan 25 oed, â phrofiad o fod mewn gofal, neu wedi’ch ymddieithrio oddi wrth eich teulu. Mae angen i ymgeiswyr hysbysu'r Swyddfa Derbyn Israddedigion (ug-admissions@aber.ac.uk) er mwyn i'r wybodaeth hon gael ei hystyried, yn ddelfrydol, cyn gwneud cais.

Mae gennych un o'r statws mewnfudo canlynol (nodwyd drwy wybodaeth hunan-ddatganedig ar y cais UCAS yn y lle cyntaf):

  • Ffoadur
  • Diogelwch Dyngarol
  • Ceisiwr Lloches.

Bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig cyd-destunol i ymgeiswyr cymwys sy’n astudio Safon Uwch (gan gynnwys Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru) neu Fagloriaeth Ryngwladol yn y DU. Fel arfer, gwneir cynigion cyd-destunol ar bwynt isaf yr ystod cynnig cyhoeddedig ar gyfer y cwrs/cyrsiau y gwnaed cais amdanynt. 

Aber Ar Agor

Bydd pob myfyriwr sy'n cwblhau ein rhaglen breswyl Aber Ar Agor yn llwyddiannus yn cael cynnig cyd-destunol ar lefel is y raddfa a gyhoeddwyd ar gyfer cyrsiau israddedig cymwys.

Amgylchiadau arbennig

Dylid cyflwyno gwybodaeth am amgylchiadau arbennig a allai fod wedi effeithio'n ormodol ar astudiaeth flaenorol neu gyfredol unrhyw ymgeisydd i'r Swyddfa Derbyn Israddedigion
(derbyn-israddedig@aber.ac.uk) ar adeg y cais, neu cyn gynted â phosibl os bydd yr amgylchiadau'n codi ar ôl gwneud cais. Bydd amgylchiadau arbennig y rhoddir gwybod i ni amdanynt yn cael eu hystyried yn ôl disgresiwn y tiwtor derbyn perthnasol lle nad yw'r rhain eisoes wedi'u hystyried gan y bwrdd arholi perthnasol.