Sut i Ysgrifennu Datganiad Personol UCAS

Gall datganiad personol UCAS beri ofn a phryder i rai pobl.

Mae creu ac ysgrifennu’r datganiad personol perffaith yn dasg sydd angen amser, meddwl a chreadigrwydd.

Mae’r Datganiad Personol yn cynnig cyfle i’r swyddogion derbyn yn y prifysgolion rydych chi’n eu dewis hidlo’r myfyrwyr talentog o’r gronfa fawr o geisiadau.

Y Datganiad Personol yw eich cyfle i ddisgleirio, eich unig gyfle yn y cais UCAS i ddangos eich personoliaeth, deallusrwydd academaidd ac yn bwysicaf oll pwy ydych chi a pham rydych chi am astudio yn y prifysgolion rydych chi wedi’u dewis.

Dilynwch ein hawgrymiadau isod i wneud yn siŵr eich bod yn creu datganiad personol llwyddiannus!

 

1. Yr wybodaeth dechnegol

Mae gan UCAS ofynion penodol nad oes modd i chi eu hanghofio na’u hanwybyddu wrth ysgrifennu eich datganiad personol. Chewch chi ddim ysgrifennu mwy na 4,000 nod, neu 47 llinell o destun (gan gynnwys llinellau a gofodau gwag). Os ewch chi dros y terfynau hyn, ni fydd y prifysgolion yn derbyn eich datganiad llawn. I wneud yn siŵr eich bod yn tracio cyfanswm y nodau neu linellau (pa bynnag un sy’n dod gyntaf) defnyddiwch Word (neu offeryn tebyg) i gyfrif faint rydych chi’n ei ysgrifennu.

2. Cynlluniwch eich amser, ac ysgrifennwch ddigon ymlaen llaw!

Byddai’n ffôl ac yn niweidiol i chi pe baech chi’n gadael eich datganiad personol tan y funud olaf. Ar gyfartaledd bydd myfyriwr yn mynd drwy 8 drafft o’r datganiad personol cyn ei anfon, felly gwnewch yn siŵr fod gennych chi ddigon o amser i gynllunio ac ysgrifennu, ac yn bwysicaf oll, bod gennych chi rywun yn yr ysgol, y coleg neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i ddarllen eich datganiad personol. Rydym ni’n argymell eich bod yn dechrau meddwl am eich datganiad personol ym mis Gorffennaf (cyn dechrau’r gwyliau haf) ac yna’n ei ysgrifennu ym mis Medi. Po fwyaf o amser y byddwch yn caniatáu i chi eich hun, yr hiraf fydd gennych i olygu a pherffeithio eich cais.

3. Gwnewch siŵr eich bod yn gwybod i ba brifysgolion rydych chi’n ymgeisio cyn dechrau.

Mae lefel academaidd pob prifysgol a chwrs yn amrywio ar draws y DU, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble a beth rydych chi’n ymgeisio amdano cyn dechrau eich datganiad personol. Bydd gwybod i ba gwrs/prifysgolion rydych chi’n ymgeisio yn eich helpu i drefnu eich datganiad personol yn briodol.
Fel rheol sylfaenol, y mwyaf traddodiadol yw’r brifysgol, a pho fwyaf ei henw da academaidd, y lleiaf o amser a gofod y dylech chi ei neilltuo yn eich datganiad personol i drafod gweithgareddau anacademaidd.

4. Darganfyddwch yr hyn mae tiwtoriaid derbyn yn chwilio amdano.

Y ffordd orau i wneud argraff ar bwy bynnag sy’n darllen eich datganiad personol yw darganfod yn union beth maen nhw’n chwilio amdano mewn ymgeisydd. Ceisiwch weld beth mae ein tiwtoriaid derbyn yn eich maes academaidd yn chwilio amdano wrth ddarllen eich datganiad personol. Rydym ni hefyd yn argymell siarad am y datganiad personol gyda’n tîm derbyn a chynrychiolwyr yr adrannau rydych chi’n eu dewis yn ystod ein Diwrnodau Agored.

5. Dangoswch fod gennych chi ddiddordeb a’ch bod yn awyddus i astudio’r cwrs!

Bydd tiwtoriaid derbyn yn gallu gweld ar unwaith a oes gennych chi awydd gwirioneddol i astudio’r cwrs yn y brifysgol rydych chi’n ei dewis. Mae angen i chi gyfleu diffuantrwydd a brwdfrydedd ynghylch pam rydych chi am astudio cwrs penodol mewn prifysgol benodol. Osgowch wastraffu llinellau ar eiriau gwag a chanolbwyntiwch ar y rheswm pam y byddai’r tair neu bedair blynedd ar y cwrs yn fuddiol i chi.

6. Dewiswch eich gweithgareddau allgyrsiol yn ddoeth!

Y rheol aur wrth drafod gweithgareddau allgyrsiol yw dim ond crybwyll gweithgaredd os yw’n berthnasol i’ch cwrs h.y. os ydych chi’n ymgeisio i astudio’r Gyfraith gallech sôn am eich cyfraniad i’r gymdeithas ddadlau yn eich ysgol/coleg. Ar gyfer pwnc traddodiadol, gallai hyn fod yn anodd, ond meddyliwch yn greadigol ac os oes amheuaeth cysylltwch â’ch athro, mentor neu gynghorwr am gymorth yn hyn o beth. Dyma rai syniadau gennym ni; gallai ymgeisydd mathemateg rannu brwdfrydedd am wyddbwyll, gallai daearyddwr fod yn awyddus i drafod daearyddiaeth ffisegol/ddynol ei ardal leol neu rywle mae wedi ymweld ag e. Darllenwch rai o’r awgrymiadau a rannwyd gan ein tiwtor derbyn.

7. Osgowch ddatganiadau gwasgaredig, hirwyntog llawn geiriau gwag.

Cofiwch mai dim ond 4,000 o nodau a 47 o linellau (pa bynnag un sydd gyntaf) sydd gennych chi, peidiwch â llyncu thesawrws a pheidiwch â threulio llinellau lawer yn sôn am un peth! Os yw rhywbeth yn ddiddorol, rhowch drosolwg cryno i’r darllenwr, fydd yn golygu eu bod am wybod mwy! Osgowch ystrydebau e.e. fydd ‘ymrwymedig, angerddol a diwyd’ ddim yn rhoi trosolwg i’r brifysgol o bwy ydych chi a pham eich bod am astudio’r cwrs.

8. Peidiwch â dweud celwydd!

Fe wyddom i gyd ei bod dweud celwydd yn foesegol anghywir, ond os cewch eich dal gallai eich cais gael ei ailystyried. Peidiwch â dod yn astudiaeth achos arall o gyfweliad prifysgol sy’n mynd o chwith! Mae llawer o ymgeiswyr yn cael eu holi am rywbeth maen nhw wedi’i gynnwys yn y datganiad personol.

9. Peidiwch â chopio!

Mae darllen datganiadau personol blaenorol yn rhoi syniad i chi o’r safon sydd ei angen ond peidiwch â cheisio ailddefnyddio rhywbeth sydd wedi’i ysgrifennu eisoes. Ni fydd copïo yn dangos eich natur unigryw a’ch hunangymhelliant. Mae UCAS hefyd yn defnyddio rhaglenni i atal llên-ladrad. Cofiwch mai eich datganiad personol chi eich hun yw hwn i fod!

 

Pob lwc gyda’ch datganiad personol.