Teithiau Campws

Taith Campws ar gampws Penglais.

Ynghyd â'n diwrnodau agored i israddedigion, mae ein Teithiau Campws yn gyfle i ymweld a’n campws hardd, mynd ar daith o amgylch ein cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf a dysgu mwy am sut mae hi i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Sut i archebu lle ar un o’n Teithiau Campws

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, bydd teithiau campws yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol -

  • Dydd Mercher 13eg Rhagfyr 2023
  • Dydd Mercher 17eg Ionawr 2024
  • Dydd Mercher 14eg Chwefror 2024
  • Dydd Mercher 27ain Mawrth 2024
  • Dydd Mercher 10fed Ebrill 2024
  • Dydd Mercher 29ain Mai 2024

I archebu dy le ar daith campws, cwblha’r ffurflen hon.

Beth i’w ddisgwyl?

Bydd taith o’r campws yn daith gerdded a bydd yn cymryd tua awr o hyd. Bydd ymwelwyr yn cael eu tywys gan un o'n llysgenhadon myfyrwyr. Byddwn yn gallu dangos lleoliad adrannau academaidd, rhai cyfleusterau ar y campws, ac opsiynau llety. Mae hwn yn gyfle gwych i gael blas ar leoliad y Brifysgol a'r ardal gyfagos. Mae'r daith hefyd yn gyfle i holi ein llysgenhadon am fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. 

 

Cwestiynau Pellach

Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Pellach am fwy o wybodaeth.

Beth i wneud yn y cyfamser?

Taith Campws Rhithwir

Os na allwch fynychu un o’r Teithiau Campws, edrychwch ar ein Taith Campws Rhithwir.

 

 

Os oes angen i ti ganslo, gwna hynny erbyn 5pm y diwrnod cyn y disgwylir i ti ymweld fan bellaf. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar teithiaucampws@aber.ac.uk neu 01970 622065.