Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amgylchedd eithriadol i ddysgu a byw ynddo.
Cymreig a rhyngwladol - pobl amrywiol, y dref a'r campws yn cyd-fyw ac yn dysgu gyda'i gilydd mewn cymuned agos. A hithau'n Brifysgol sy'n arwain y byd ac sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar ei myfyrwyr, dyma'r rysáit am rai o'r myfyrwyr bodlonaf ym Mhrydain.
Mae'r ymdeimlad o gymuned a geir yn y dref hefyd yn estyn i'r Brifysgol, lle mae perthynas unigryw rhwng y myfyrwyr a'r staff, ac mae'r staff dysgu yn ymfalchïo yn eu polisi drws agored.
Mae natur eithriadol y Brifysgol hon hefyd yn amlwg o'i hadnoddau, ei darlithfeydd â'r dechnoleg ddiweddaraf, y llyfrgell ardderchog, y neuaddau preswyl newydd sy'n arwain y sector, heb sôn am yr rhith-amgylchedd dysgu sydd â miloedd o oriau o ddarlithoedd wedi'u recordio sydd ar gael i helpu'r myfyrwyr â'u hastudiaethau.
Mae'n wir bod Aber mewn rhan wirioneddol brydferth o'r byd, a'i bod ymhlith y lleoedd mwyaf diogel ym Mhrydain i astudio ynddo, ond yr hyn sy'n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn wirioneddol arbennig yw'r myfyrwyr.