1. Sicrwydd Ansawdd yn Aberystwyth
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Adran 1 PDF
-
1.1 Ynglŷn â’r Llawlyfr
1. Mae’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) yn ffynhonnell hwylus ar gyfer y polisïau, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sy’n cefnogi rheolaeth Prifysgol Aberystwyth dros safonau ac ansawdd academaidd. Fe’i bwriedir i’w ddefnyddio gan aelodau staff y Brifysgol, arholwyr allanol, adolygwyr allanol a phartneriaid cydweithredol. Cyhoeddir y Llawlyfr ar-lein ond gellir hefyd lawrlwytho ei adrannau unigol ar ffurf pdf a’u hargraffu. Mae’r Llawlyfr hefyd yn cynnwys dolen i Reolau a Rheoliadau a Chonfensiynau Arholiadau’r Brifysgol.
2. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau bod enw da Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal a’i wella lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a bod ein trefniadau sicrhau ansawdd yn parhau i fod yn drwyadl ac yn eglur.
3. Gellir lawrlwytho gwybodaeth ychwanegol a chopïau electronig o ffurflenni a thempledau (yn cynnwys ffurflenni ar gyfer arholwyr allanol) o’r adran berthnasol o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Gan fod ffurflenni’n cael eu diweddaru’n gyson, dylid eu cyrchu o’r Llawlyfr ym mhob achos, yn hytrach na chadw ac ailddefnyddio fersiynau’r blynyddoedd cynt.
-
1.2 Systemau Sicrwydd Ansawdd
1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn safon uchel y cyfleoedd dysgu ac addysgu y mae’n eu cynnig i’w myfyrwyr. Yn sail iddynt ceir systemau sicrhau ansawdd effeithiol a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer ac a fireiniwyd ar sail canllawiau a fframweithiau yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Mae pedair prif swyddogaeth i systemau sicrhau ansawdd y Brifysgol:
(i) Sicrhau safon ac ansawdd ein cynlluniau astudio, eu bod yn ddilys ac yn gyfredol, a’u bod yn cael eu cynllunio, eu dysgu, eu haddasu a’u monitro mewn modd priodol
(ii) Cynnal y safonau uchaf mewn ansawdd academaidd a gwelliant parhaus, gan gydymffurfio â’r disgwyliadau a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch
(iii) Gwella ansawdd trwy annog hunanfyfyrio beirniadol yn barhaus, fel ein bod yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella ansawdd y profiad a gynigiwn i fyfyrwyr
(iv) Bod yn sail i ddatblygiad strategol y cynlluniau a’r disgyblaethau academaidd yr ydym yn eu cynnig.
2. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch yn rhoi man cychwyn cyffredin i’r holl ddarparwyr addysg uwch o ran gosod, disgrifio a sicrhau safonau academaidd eu dyfarniadau a’u rhaglenni addysg uwch, ynghyd ag ansawdd y cyfleoedd dysgu y maent yn eu darparu. Y Cod yw’r cyfeirbwynt craidd a ddefnyddir yn holl weithgarwch adolygu’r ASA: https://www.qaa.ac.uk/quality-code
3. Mae’r Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yn y DU yn darparu cyfeirbwyntiau pwysig ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac yn eu cynorthwyo wrth iddynt osod a chynnal safonau academaidd. Mae’r fframweithiau yn ganolog i’r Disgwyliad ym Mhennod A1, ‘The National Level’, o God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch fod cyrff dyfarnu graddau yn defnyddio cyfeirbwyntiau allanol ar lefel y DU ac yn Ewropeaidd er mwyn sicrhau safonau academaidd trothwy ledled y sector addysg uwch: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf
4. Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn rhan o’r Cod Ansawdd. Maent yn amlinellu disgwyliadau o ran safonau graddau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n rhoi unoliaeth a hunaniaeth i ddisgyblaeth, ac yn diffinio’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan raddedigion o ran y medrau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn meithrin dealltwriaeth neu allu yn y pwnc: https://www.qaa.ac.uk/quality-code/subject-benchmark-statements
5. Mae’r ASA hefyd yn darparu nifer o ganllawiau eraill, er enghraifft yn ymdrin â meysydd megis dyfarnu credydau academaidd, cyfwerthedd cymwysterau ym mhob un o wledydd y DU, a sut mae oriau cyswllt ac asesu yn cyfrannu tuag at ansawdd eich addysg.
-
1.3 Pwyllgorau Academaidd
1. Yn unol â Siarter Frenhinol Atodol Prifysgol Aberystwyth, y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol a bydd yn atebol i’r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol mewn addysgu ac ymchwil ac am reoli buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae’r Ordinhadau yn amlinellu cyfansoddiad, pwerau a swyddogaethau’r Senedd. Ceir mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau, aelodaeth a phenderfyniadau’r Senedd ar yr is-dudalennau perthnasol.
2. Y Senedd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y Brifysgol yn glynu at God Ansawdd y DU, ac mae’n dirprwyo’r cyfrifoldeb am adrannau unigol i’r byrddau canlynol: y Bwrdd Academaidd, y Bwrdd Marchnata, Recriwtio a Mynediadau, y Bwrdd Ymchwil, a’r Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol. Mae cylch gorchwyl ac aelodaeth y cyrff hyn yn cael eu cyhoeddi ar-lein, ynghyd â siart o strwythurau’r pwyllgorau academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/governance/sub-committees/ Gall staff yn Aberystwyth hefyd gael mynediad i gylch gorchwyl y pwyllgorau, templedau ar gyfer cofnodion a phapurau pwyllgor, a manylion cyfarfodydd pwyllgor trwy dudalennau gwe’r Gofrestrfa Academaidd.
-
1.4 Swyddogion y Brifysgol gyda chyfrifoldebau Sicrwydd Ansawdd
1. Yr Is-Ganghellor yw prif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am berfformiad cyffredinol y Brifysgol. Yr Is-Ganghellor yw Cadeirydd y Senedd.
2. Mae’r Dirprwy Is-Gangellorion, Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, yn aelodau allweddol o Grŵp Gweithredol y Brifysgol ac maent yn adrodd i’r Is-Ganghellor ar feysydd penodol eu cyfrifoldeb.
3. Dirprwy Is-Ganghellor pob Cyfadran sy’n gyfrifol am arwain y Gyfadran honno, ac mae’n atebol i’r Cyngor, trwy’r Is-Ganghellor. Mae’r Cyfadrannau yn hwyluso trefniadaeth a gwaith academaidd y Brifysgol.
Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn gwneud gwaith cydlynu allweddol rhwng yr adrannau sy’n gweithredu yn eu meysydd diddordeb penodol hwy. Mae ganddynt hefyd y grym i weithredu ar faterion sy’n peri pryder, ar yr amod eu bod yn adrodd ynghylch hynny i’w cyfadrannau, y Pwyllgor Materion Academaidd, y Dirprwy Is-Gangellorion Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, a’r Is-Ganghellor fel y bo’n briodol. Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn cydweithio’n agos yn eu meysydd cyfrifoldeb ac yn trefnu, trwy gyfrwng y Gofrestrfa Academaidd, i drafod a gwneud argymhellion ar eitemau sy’n gyffredin i’r cyfadrannau. Yn hyn o beth cânt lawer o gymorth gan aelodau allweddol o staff cymorth y Gofrestrfa. Maent hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod y cyfadrannau’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn modd cyson. Maent yn cael eu cefnogi yn eu swyddi gan Ddeoniaid Cyswllt, sydd â chyfrifoldebau penodol am Ddysgu ac Addysgu, Ymchwil a darpariaeth Gymraeg.
Bydd gan bob adran academaidd o fewn cyfadran Bennaeth sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys goruchwylio rhaglenni a strwythurau academaidd. Mae Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran a Deon Cyswllt y Gyfadran yn cael cymorth Rheolwr Cyfadran ac yn cael eu cynghori gan Bwyllgor Gweithredol, sy’n cynnwys aelodau o staff sy’n gyfrifol am feysydd allweddol megis Dysgu ac Addysgu, a Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae’n ofynnol i bob cyfadran gael Pwyllgor Materion Academaidd. Amlinellir hyn yn Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol.
Penaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am reoli’r addysgu a’r ymchwil yn eu hadrannau o ddydd i ddydd, o fewn y canllawiau a bennwyd ar lefel y Brifysgol, gan gynnwys y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae gan yr Adrannau Gyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu a Chyfarwyddwyr Ymchwil penodedig sy’n adrodd i Bennaeth yr Adran ar y materion hyn. Mae’n ofynnol i bob adran gynnal cyfarfodydd adrannol sy’n cynnwys yr holl staff academaidd o leiaf unwaith y tymor i drafod materion academaidd. Ymhlith dibenion y cyfarfod mae:
(i) Bod yn gyfrwng ymgynghori â, a chynghori, Pennaeth yr Adran ar y modd y gweinyddir materion yr adran
(ii) Trafod y materion canlynol er mwyn hybu’r uchod:
- i’w gilydd natur a chynnwys cyrsiau
- dyrannu dyletswyddau addysgu a dyletswyddau eraill o fewn yr adran
- dyrannu arian ac ystafelloedd o fewn yr adran
- y defnydd o gymorth ysgrifenyddol, ymchwil a thechnegol.
Yn rhan o’r uchod, maent yn cael adroddiadau gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr Adran ac adroddiadau ar y monitro ffurfiol ar raglenni a gynhelir yn yr adran yn flynyddol, ac maent hefyd yn cofnodi’n ffurfiol adroddiadau Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr yr adran, sy’n fodd defnyddiol i’r staff a’r myfyrwyr roi adborth i’w gilydd.
4. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant Datblygu Ymchwilwyr trwy’r Brifysgol gyfan; y mae hefyd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu polisi ar faterion uwchraddedig, darparu cyfleusterau ar gyfer uwchraddedigion, a monitro recriwtio a chynnydd academaidd myfyrwyr uwchraddedig. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion hefyd yn cymeradwyo enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol ar raddau ymchwil.
5. Mae nifer o aelodau staff hŷn y Gofrestrfa Academaidd yn ymwneud â chynnal y gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan adrodd i’r Cofrestrydd Academaidd. Mae’r Gofrestrfa Academaidd hefyd yn darparu cymorth ar lefel cyfadrannau.
-
1.5 Lefelau cyfrifoldeb ar lefel Prifysgol ac Athrofa
1. Er mwyn adlewyrchu strwythur y Brifysgol, ac i gydnabod swyddogaeth y cyfadrannau o ran sicrhau a gwella ansawdd, dirprwyir rhai swyddogaethau ansawdd i’r cyfadrannau, tra bod eraill yn cael eu cadw ar lefel y Brifysgol.
Prosesau ar lefel y Brifysgol
2. Mae Senedd y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd ac is-bwyllgorau eraill yn cadw’r cyfrifoldeb am y prosesau a’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd canlynol:
(i) Datblygu a chymeradwyo fframweithiau, rheoliadau a gweithdrefnau academaidd
(ii) Adolygiad adrannol cyfnodol, gan gynnwys ailddilysu cyfnodol ar y ddarpariaeth
(iii) Adolygiadau cyfnodol o gynlluniau
(iv) Cymeradwyo penodiadau arholwyr allanol.
Prosesau ansawdd ar lefel y Cyfadrannau
3. Dirprwyir y cyfrifoldeb am y gweithdrefnau a’r prosesau canlynol i gyfadrannau, a’i gyflawni trwy strwythurau pwyllgor y cyfadrannau:
(i) Gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd o fewn cynlluniau astudio, gan gynnwys eu cynllunio, eu cymeradwyo, eu monitro a’u hadolygu
(ii) Ystyried y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau trwy Gwrs
(iii) Atal cynlluniau, eu tynnu’n ôl a newid eu teitlau
(iv) Cymeradwyo modiwlau (goruchwylir y broses gan y Bwrdd Academaidd)
(v) Ystyried adborth gan fyfyrwyr (trwy brosesau adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr)
(vi) Achredu cynlluniau gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).
-
1.6 Perthynas Deuluol a Phersonol a/neu Broffesiynol
1. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw berthynas bersonol a/neu broffesiynol a allai effeithio, neu y gellid credu ei bod yn effeithio, ar uniondeb cysylltiadau gwaith yn y Brifysgol.
2. Pan fo myfyriwr neu ymgeisydd:
(i) Yn frawd neu’n chwaer, yn rhiant, yn blentyn neu yn perthyn mewn ffordd arall i aelod o'r staff
neu
(ii) Yn bartner i neu mewn perthynas gydag aelod o'r staff
Ni chaiff yr aelod o'r staff fod yn unrhyw ran o’r dasg o dderbyn, goruchwylio nac asesu'r ymgeisydd/myfyriwr hwnnw. Y rheswm pennaf am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei drin yn ddiduedd, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai'r ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei asesu yn fwy llym er mwyn pwysleisio'r bwriad o beidio â dangos ffafriaeth. Mae'n ffordd hefyd o amddiffyn aelodau o’r staff rhag cael eu cyhuddo o ddangos ffafriaeth ac yn osgoi unrhyw amheuaeth o ffafriaeth gan drydydd parti.
3. Rhaid i aelodau o staff ddatgan unrhyw berthynas o'r fath wrth eu rheolwr llinell cyn gynted ag y daw gwrthdaro posibl i'r amlwg, fel y gellir gwneud trefniadau i sicrhau nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau lle ceir gwrthdaro buddiannau. Yn y cyd-destun hwn, mae 'aelodau o'r staff' yn cynnwys unrhyw un sydd dan gontract i wneud gwaith dysgu a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys myfyrwyr sydd â chytundebau rhan-amser, ac mae 'ymgeiswyr/myfyrwyr' yn cynnwys pob lefel astudiaeth hyd at, ac yn cynnwys, myfyrwyr ymchwil.
4. Caiff aelodau o'r staff hefyd ymgynghori â'r Rheolwyr ynglŷn â Pholisi Rheoli Gwrthdaro Buddiannau yn y Gweithle https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/managingofconflict/
-
1.7 Monitro ac Adolygu
1. Y Bwrdd Academaidd sydd â’r awdurdod cyffredinol dros adolygu effeithiolrwydd prosesau sicrhau a gwella ansawdd y Brifysgol yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghod Ansawdd yr ASA. Mae’n bosibl y bydd y Bwrdd yn dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gynnal ystyriaeth fanwl o’r prosesau hyn i’w is-bwyllgorau fel y bo’n briodol. Bydd hefyd yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar ddechrau pob sesiwn academaidd.
2. Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn croesawu sylwadau gan bob defnyddiwr ar gynnwys a diwyg y Llawlyfr hwn, a hynny er mwyn ei wella’n barhaus a datblygu fersiynau i’r dyfodol. Dylid anfon unrhyw sylwadau at: sicrhau-ansawdd@aber.ac.uk
-
1.8 Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2023/2024: Crynodeb o’r Newidiadau Allweddol
Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r newidiadau a wnaed ers cyhoeddi fersiwn 2022/23 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ym mis Medi 2022.
Adran
Newid
Dyddiad
NEWYDD 2.9 Adolygiad Blynyddol o Fanylebau Rhaglen
Dylai’r Adrannau gynnal adolygiad blynyddol o fanylebau eu rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod
wedi cael eu diweddaru a’u bod yn parhau i fod yn ddilys; gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg yn
ystod y sesiwn bresennol, ond gofynnir i’r Adrannau anfon unrhyw newid ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) erbyn diwedd Semester 2 yn ystod pob sesiwn academaidd. Mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw newidiadau sylweddol gael eu hystyried a’u cymeradwyo gan
Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran (mae’r dyddiadau a’r terfynau amser ar gyfer papurau
ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/). Bydd fersiynau PDF o fanylebau’r rhaglenni yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau pob sesiwn academaidd ar gyfer y sesiwn
dan sylw.
Adolygiad Gwella Ansawdd
Ebrill 2022
2.13 Panel Cymeradwyo Cynlluniau: dyddiadau a dyddiadau cau ar gyfer papurau
Amnewid dyddiadau a dyddiadau cau cyhoeddedig y panel ar gyfer papurau am y testun canlynol:
Bydd Panel Cymeradwyo Cynlluniau yn cael ei gynnull i ystyried cynnig pan fydd wedi cael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio i symud ymlaen i gam nesaf y broses
gymeradwyo. Bydd angen cyflwyno papurau i’w hystyried gan y Panel bythefnos fan bellaf cyn
cyfarfod y Panel. Cysylltwch â’r Tîm Sicrhau Ansawdd i gael rhagor o arweiniad ar amseriad
cynnull paneli cymeradwyo.
Medi 2023
2.15 Ffurflenni Templed
SDF1.2 1.2 Llwybr Cymeradwyo drwy’r Weithrediaeth – Trosolwg Academaidd wedi’i ddiweddaru i dynnu’r cyfeiriad at godau JACS (nid yw’r Adran Gynllunio eu hangen bellach)SDF2 Llwybr Cymeradwyaeth Di-Weithrediaeth - darpariaeth newydd mewn maes sy'n bod eisoes wedi’i ddiweddaru i dynnu’r cyfeiriad at godau JACS (nid yw’r Adran Gynllunio eu hangen bellach)
SDF3 Mân Newid Neu Ad-Drefnu darpariaeth sy’n bod eisoes (y ffurflen wedi’i diweddaru i gynnwys Tabl o Ganlyniadau Dysgu wedi’u mapio yn erbyn modiwlau)
Medi 2023
3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu
Paragraff 6 wedi’i ddiweddaru i gynnwys y frawddeg ganlynol, ac mae’r cyfrif geiriau argymelledig ar gyfer gwaith cwrs (ac amrywiolion) ar gyfer modiwlau 20 credyd Rhan Dau wedi’i leihau o 5000 i 4000.
(i) Mae’n ofyniad gan y Brifysgol na ddylai modiwl Israddedig 20-credyd gynnwys mwy na 2 asesiad crynodol (pro rata fesul pwysoliad 10 credyd). Os oes gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol
neu Reoliadol sy’n wahanol i’r gofyniad hwn, dylid ymgynghori â’r Deon Cyswllt dros Ddysgu,
Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr.
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
3.4 Monitro Cynnydd Academaidd
Paragraff 15 wedi’i ddiweddaru i egluro rôl Bwrdd Arholi’r Senedd wrth ddiarddel myfyrwyr:
15. Ni fydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon llythyrau diarddel os derbynnir argymhellion gan
Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran ar ôl diwrnod cyntaf Tymor 3. Dylai’r cyfadrannau sicrhau eu bod
yn ymyrryd yn gynnar er mwyn gallu cyfweld myfyrwyr yn ystod Tymor 2 a monitro eu cynnydd
wedi hynny. Pan na fu hyn yn bosib, gall Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran gyfweld myfyrwyr yn
ystod Tymor 3 a’u hysbysu y gallai adroddiadau’r gyfadran gael eu hystyried gan Fwrdd Arholi’r
Senedd wrth ystyried canlyniadau’r arholiadau (Templedi F a G). Gall Bwrdd Arholi’r Senedd
atal myfyrwyr rhag ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd, a mynnu bod myfyrwyr yn cael eu diarddel
yn barhaol neu dros-dro. Os yw cyfadran am argymell bod Bwrdd Arholi’r Senedd yn diarddel
myfyriwr yn barhaol neu dros dro, dylid anfon tystiolaeth ddogfennol lawn i’r Gofrestrfa
Academaidd a dylid cofnodi’r argymhelliad yn glir hefyd yng nghofnodion y Bwrdd Arholi perthnasol ar lefel adran/cyfadran. Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno argymhelliad i ddiarddel myfyriwr yn
cyfateb i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cofnodion byrddau arholi a dogfennau amgylchiadau
arbennig i’r Gofrestrfa Academaidd, ac ni fydd argymhellion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn
cael eu hystyried gan Fwrdd Arholi’r Senedd. Bydd argymhelliad Bwrdd Arholi’r Senedd i ddiarddel myfyriwr dros dro neu’n barhaol yn amodol ar wiriad gan y Gofrestrfa Academaidd i sicrhau bod y cyfadrannau/adrannau wedi dilyn y weithdrefn a nodir yn y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.
Cafodd yr un frawddeg ei hychwanegu i’r Llinell Amser Monitro Cynnydd Academaidd yn 3.1.3
Deoniaid Cyswllt Dysgu ac Addysgu
Gorffennaf 2023
3.6 Ymddygiad Academaidd
UAPF adroddiad ymchwiliad wedi’i ddiweddaru.
Y System Gosbau yn seiliedig ar Bwyntiau wedi’i ddiweddaru.
Bwrdd Academaidd
Medi 2023
3.7 Arholiadau a Byrddau Arholi
Adran sy’n ymwneud â chyfyngiadau amser i fyfyrwyr ar gynlluniau uwchraddedig a addysgir wedi’i diweddaru (paragraffau 24-26), a dyddiadau cyflwyno ar gyfer traethodau hir/prosiectau uwchraddedigion a addysgir (y rhai sy’n dechrau ym mis Medi a Ionawr) ar gyfer sesiynau academaidd 2023/24 – 2025/26 wedi’u hychwanegu.
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
3.8 Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol
Gall caledi ariannol gael ei ddefnyddio nawr i gefnogi amgylchiadau arbennig (paragraff 1)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
3.13 Templed E, Monitro Cynnydd Myfyrwyr – wedi’i ddiweddaru i ofyn am eglurhad os ydynt yn tynnu’n ôl yn barhaol neu’n tynnu’n ôl dros dro
Medi 2023
4. Confensiynau
4.3.3 Dyfarnu gradd Baglor i fyfyrwyr sy’n astudio cynlluniau Meistr Integredig
Tynnu’r adran isod (croesi allan) o’r Confensiynau Meistr Integredig:
Myfyrwyr sy'n dechrau Rhan Un ar Gynlluniau Meistr Integredig MComp ac MEng O fis Medi 2022
2. Fel y nodir o dan 4.3.2, ac eithrio pwynt 2, ni chaiff myfyrwyr fethu mwy na chyfanswm o
20 credyd ar draws Lefel Dau, Lefel Tri a Lefel M, sy'n cyfrannu at dosbarthiad terfynol y dyfarniad.
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
(hefyd gweler Bwrdd AcademaiddGorffennaf 2022)
4. Confensiynau
4.4 BVSc Gwyddor Filfeddygol (blynyddoedd 1 a 2): Rheolau Cynnydd
Wedi’i ddiweddaru i egluro materion sy’n ymwneud â modiwlau wedi’u capio a heb eu capio ac amgylchiadau esgusodol3.1 Bydd angen i fyfyrwyr sy'n ailadrodd blwyddyn ailsefyll yr holl fodiwlau a'r holl asesiadau cyfatebol eto; bydd marc cyffredinol y modiwlau yn cael ei gapio ar 50%. Rhaid pasio’r flwyddyn yn ei chyfanrwydd ac ni fydd marciau modiwlau blaenorol yn cyfrif.
3.2 Gall myfyrwyr ailadrodd naill ai'r flwyddyn gyntaf neu'r ail flwyddyn ond ni chânt ailadrodd y ddwy. Bydd y cyfnod cofrestru hwyaf ar gyfer elfen rag-glinigol y radd yr un fath ag ar gyfer cwrs BVetMed y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol h.y. 3 blynedd. Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir estyn y cyfyngiad amser gyda chymeradwyaeth gan y Brifysgol.
4. Bydd polisi Amgylchiadau Arbennig PA yn berthnasol – gan gynnwys mewn perthynas ag absenoldeb o asesiad - gweler Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol yn y LlAA.
8. Dyfarniadau gadael - gweler hefyd Gonfensiynau PA ar gyfer Dyfarnu Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch
Bwrdd Academaidd Mawrth 2023
4. Confensiynau
4.5 Cynlluniau Gradd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs, neu gynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor Cynlluniau.
Wedi’i ddiweddaru i egluro’r cyfle ailsefyll:
3. Bydd y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei marcio yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer asesu. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn mynnu bod myfyrwyr nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau dysgu ac yn sicrhau marc isaf o 40% neu’n cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus yn symud i gynllun gradd cytras nad yw’n cynnwys y flwyddyn integredig mewn diwydiant / blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae’n bosibl na fydd cyfle i ailsefyll os yw’r dyddiad cau ar gyfer yr asesiad yn cael ei bennu yn yr haf ar ôl byrddau arholi semester dau a bod y marc ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei ystyried ym mwrdd arholi mis Medi.Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
4. Confensiynau
Newydd 4.11 FdSc Nyrsio Milfeddygol: Rheolau Cynnydd
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
4. Confensiynau
Newydd 4.16 Tystysgrif Addysg Uwch Addysg Gofal Iechyd - Confensiynau Arholiadau
Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2023
4. Confensiynau
4.17 Rheolau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig: Rheolau Cynnydd
4.17.1 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS Mis Medi 2013 – adran wedi’i archifo
Medi 2023
4. Confensiynau
4.19 Rheolau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig: Rheolau Cynnydd
4.19.2 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS mis Medi 2023:
Paragraff 6 newydd wedi’i ychwanegu (ym mis Ebrill 2023):
6. NID yw marciau lleoliadau gwaith yn cyfrif yn nosbarth gradd ac nid yw credydau a ddyfarnwyd am gwblhau lleoliad diwydiannol yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.
Paragraffau 8 ac 11 wedi’u diweddaru i gynnwys ffrâm amser ar gyfer cynlluniau sy’n derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr.
Cyfnodau Cofrestru a Chyfyngiadau Amser – y paragraff canlynol wedi’i ychwanegu:
12. Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.
Bwrdd Academaidd
Mawrth 20237.11 Arholi Allanol Graddau Ymchwil
4. Dim ond pobl sydd â safle digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod y dylid eu penodi yn arholwyr allanol. Rhaid i’r Arholwr Allanol fod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd ym maes yr ymchwil. Dylent hefyd fod â phrofiad o arolygu myfyrwyr ymchwil ac arholi ymgeiswyr graddau ymchwil yn fewnol yn llwyddiannus.
7. Fel arfer ni fydd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymddeol yn cael eu henwebu yn Arholwyr Allanol. Gellir gwahodd aelodau o staff sefydliadau prifysgolion eraill sydd wedi ymddeol yn ystod y 3 blynedd flaenorol heb i gyfnod o amser o’r fath basio i weithredu fel Arholwyr Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
8. Ni ellir gwahodd cyn-fyfyrwyr o’r Brifysgol i fod yn Arholwyr Allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi pasio, neu ddigon o amser i fyfyrwyr a oedd yn gydnabyddus â’r cyn-fyfyriwr fod wedi pasio drwy’r system. Ni ddylai cyn-fyfyrwyr weithredu fel arholwr allanol i ymgeiswyr a gyfarwyddwyd gan eu cyfarwyddwr PhD hwy eu hunain, ni ddylent chwaith weithredu fel arholwr allanol os mai eu harolygwr yw’r arholwr mewnol.
10. Bydd arholwyr allanol yn cael eu penodi ar ran yr Is-Ganghellor a bydd y penodiadau’n cael eu cymeradwyo gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion. Mae arholwyr ar gyfer myfyrwyr graddau ymchwil yn cael eu henwebu gan adrannau a’u cymeradwyo gan Banel a gadeirir gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion, gyda dau aelod arall o staff yn Ysgol y Graddedigion. Gwneir penodiadau ar ran y Pwyllgor Graddau Ymchwil a'r Bwrdd Academaidd. Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer pob cyfarfod PGY a BA, sy’n rhestru penodiadau arholwyr allanol a gymeradwywyd ers y cyfarfod diwethaf ynghyd â data allweddol, a sylwebaeth ar unrhyw faterion sydd wedi codi. Bydd y Panel yn gwirio bod arholwyr arfaethedig yn bodloni gofynion y LlAA ar gyfer arholi graddau ymchwil a'r rheoliadau sy'n llywodraethu arholi graddau ymchwil. Bydd y Panel yn ystyried y ddau arholwr arfaethedig fel tîm a gall gymeradwyo un arholwr sydd â llai o brofiad o archwilio nag a ddisgwylir fel arfer pe bai hyn yn cael ei ddigolledu gan arholwr arall sydd â phrofiad sylweddol.
Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023Newydd 9.8 Cytundebau Dysgu ar gyfer myfyrwyr sy'n mynd allan ar gynlluniau cyfnewid
9.8 Mae Cytundebau Dysgu yn rhoi manylion y cyrsiau a astudir gan fyfyrwyr yn ystod rhaglen gyfnewid. Er efallai na fydd sefydliadau partneriaethol yn gallu cyflwyno'r union gymysgedd o sgiliau a chynnwys a gynigir yn PA, bydd angen i gydlynwyr y cynllun gradd gadarnhau pa fodiwlau/cyrsiau sy'n gweddu orau â chynlluniau a manylebau rhaglenni PA ei hun. Mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru ar gyfer modiwlau craidd ychwanegol ym mlwyddyn olaf graddau israddedig i gydymffurfio â gofynion y cynllun neu Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB). Bydd Copïau o Gytundebau Dysgu yn cael eu cadw gan adrannau academaidd a Chyfleoedd Byd-eang, i gyfeirio atynt yn ystod cynllun cyfnewid un neu ddau semester, ac i'w hadolygu gan Gyfadrannau lle bo hynny'n briodol.Bwrdd Academaidd Mawrth 2023
12.1.6 wedi’i ddiweddaru i roi awdurdod i Gadeirydd y Panel Apeliadau Academaidd wrthod apêl ar seiliau.
Mae'r Ffurflen Gais Apêl Academaidd wedi cael ei diweddaru i gynnwys blwch ticio:
Os yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ymwneud â thrydydd parti, ticiwch yma i gadarnhau eich bod wedi cael eu caniatâd i'w defnyddio.
Bwrdd Academaidd Medi 2023
Cymorth i Astudio wedi’i ychwanegu i Adran B y ffurflen gais Adolygiad Terfynol, ac Addasrwydd i Fynychu wedi’i newid am Cymorth i Astudio yn y rhestr o weithdrefnau y gellir codi’r Adolygiad Terfynol yn eu herbyn yn adran 13.1
Mae'r Ffurflen Gais ar gyfer Adolygiad Terfynol wedi cael ei diweddaru i gynnwys blwch ticio:
Os yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ymwneud â thrydydd parti, ticiwch yma i gadarnhau eich bod wedi cael eu caniatâd i'w defnyddio.
Bwrdd Academaidd Tachwedd 2022
Mân newidiadau: rhai wedi’u hadnabod ar sail ymchwiliadau penodol yn ystod 22/23 a meysydd sydd angen rhagor o eglurder a hyblygrwydd ac wedi’u seilio ar gyfarwyddyd sector diweddaraf gan OIA ac UUK, ynghyd â’r ymgynghoriad OfS cyfredol ar gyfer sefydliadau Addysgu Uwch yn Lloegr.
Bwrdd Academaidd Medi 2023
Newydd 16.7 Atodiad 4: Canllawiau a Gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer Nyrsys Milfeddygol
Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2023
Rhan B – Gwybodaeth
Adran wedi’i hadolygu oherwydd ei bod yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfarwyddyd, polisïau a chyfeiriadau at ffynonellau gwybodaeth eraill; nid oedd y fformat blaenorol yn sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch i fyfyrwyr. Mae rhai adrannau wedi’u dileu a bydd Adran 23 ‘Problemau gyda’r Gyfraith neu Euogfarnau Troseddol’ yn cael ei symud i AQH 15 Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr.
Bwrdd Academaidd Medi 2023
Rhan B - Rheolau a
Newydd 2.9.6 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymddwyn fel a ganlyn: aflonyddu, aflonyddu rhywiol, aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, aflonyddu ar sail hunaniaeth rhywedd, aflonyddu ar sail anabledd, bwlio, stelcian, seiberfwlio, a chamdrin rhywiol.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a gellir canfod bod mathau eraill o ymddygiad yn torri'r Rheolau hyn.
Mae Rheolau 2.9.1 - 2.9.6 cynnwys cyfathrebu drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.Gwnaed mân newidiadau eraill i’r bennod hefyd.
Bwrdd Academaidd Medi 2023
4.6 Os gwneir penderfyniad i ddiarddel myfyriwr mewn Bwrdd Arholi adrannol, dylai’r penderfyniad hwnnw gael ei gofnodi yng nghofnodion y Bwrdd Arholi adrannol, a dylai’r dogfennau cysylltiedig gael eu hanfon ymlaen at y Gofrestrfa Academaidd. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn cadarnhau diarddel myfyrwyr, a bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon llythyrau diarddel yn dilyn y Byrddau. Bydd argymhelliad Bwrdd Arholi’r Senedd i ddiarddel myfyriwr dros dro neu’n barhaol yn amodol ar wiriad gan y Gofrestrfa Academaidd i sicrhau bod y cyfadrannau wedi dilyn y weithdrefn a nodir yn y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.
Deoniaid Cyswllt Dysgu ac Addysgu
Gorffennaf 2023
Wedi’i ddiweddaru i gynnwys:
Cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun (Ebrill 2023)
10.1 Pan fydd Cadeirydd Bwrdd Arholi yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle ceir ansicrwydd ai gwaith y myfyriwr ei hun a gyflwynwyd, ac os nad yw’r aelod o staff yn gallu dod o hyd i dystiolaeth ddogfennol i gefnogi achos o YAA, er enghraifft os amheuir bod y gwaith wedi'i gael o fanc traethodau neu wedi’i gynhyrchu drwy feddalwedd AI, gall benderfynu y dylid cynnal cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith.
10.8 Pan fo myfyriwr yn cyfaddef eu bod yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn rhan o’r broses gyfweld, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at y Gofrestrfa Academaidd i benderfynu ar y gosb briodol. Ni fydd yn ofynnol i’r panel YAA gwrdd â'r myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cael cyfle i ofyn i’r panel YAA ystyried eu hachos os yw'r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad y cyfweliad.
13.5 Gall y Panel, ar ôl cyfarfod y panel, gysylltu â'r adran academaidd berthnasol i ofyn am ddilysiad ar gyfer unrhyw hawliadau a wneir gan y myfyriwr, neu ofyn am ragor o wybodaeth y gallai ei hystyried wrth benderfynu ar ganlyniad.
Mae'r gosb am gyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun wedi cael ei lleihau; mae hyn yn golygu y dylai cyhuddiadau gael eu hystyried gan Banel y Gyfadran 'nawr ac nid gan Banel y Brifysgol.Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023Bwrdd Academaidd
Medi 2023Paragraff 10 wedi’i ddiweddaru i gynnwys:
Ni fydd y credydau a ddyfernir am gwblhau lleoliad gwaith yn y diwydiant yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.
Paragraff 17 wedi’i ddiweddaru (ym mis Ebrill 2023) i gynnwys ffrâm amser ar gyfer cynlluniau sy’n derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr:
Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.
Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023Tynnu’r adran isod (croesi allan) o’r Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar
22. Ni chaiff myfyrwyr gradd Baglor fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio Modiwlau Lefel S). Ni chaiff myfyrwyr gradd Meistr Integredig fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau (Ail Flwyddyn) a Thri (Trydedd Flwyddyn) ac ni chant fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M (Pedwaredd Flwyddyn), ac eithrio myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 - gweler isod.
22a. Ni chaiff myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 fethu mwy nag 20 credyd ar draws Rhan Dau yn ei chyfanrwydd.
22a. Cynlluniau BSc Nyrsio - rhaid i bob un o'r 360 credyd gael eu pasio yn Rhan Un a Rhan Dau, h.y. ni chaniateir methu unrhyw gredydau. (Medi 2022).
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
(gweler hefyd Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2022)
Newydd Rheoliadau ar gyfer FdSc Nyrsio Milfeddygol
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
Newydd Rheoliadau ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd
Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2023
Diwygiwyd Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a'u Harholi
Medi 2023
Diwygiwyd Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Gradd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) (Cymeradwywyd i
fyfyrwyr sy’n cychwyn o fis Medi 2023 ymlaen)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
Diwygiwyd Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (Cymeradwywyd i fyfyrwyr a
dderbynnir o fis Medi 2023)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2023
Diweddarwyd: Medi 2023