Rheoliadau ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd

Yn berthnasol i bob myfyriwr sy’n dechrau o fis Medi 2023

1. I fod yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad Tystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd, rhaid i fyfyrwyr:

  • fod wedi dilyn cynllun astudio modiwlar a gymeradwywyd am y cyfnod a bennwyd gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir drwy Reoliad 16 isod.
  • fod wedi cyrraedd y cyfryw isafswm lefelau credyd a bennir mewn Cynllun a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
  • fod wedi cyflawni unrhyw amod arall/amodau eraill a fynnir gan y Brifysgol.

2. Mae cynlluniau astudio’n cynnwys modiwlau sydd wedi'u cymeradwyo, pob un ohonynt â gwerth credyd sydd wedi'i ddiffinio mewn perthynas â'r oriau dysgu tybiannol  sy'n gysylltiedig â'r modiwl, fel yr amlinellir yng Nghynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau’r Brifysgol.

3. Mae pob modiwl ar gael ar Lefel 1 AU/Lefel 4 FfCChC, yn unol â'r hyn a ddiffinnir gan y Brifysgol yn ei Chynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau.

4. Mae’r Dystysgrif yn cael ei chynnig ar sail rhan-amser ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr astudio 120 o gredydau dros ddwy sesiwn academaidd.

5. Bydd myfyrwyr fel rheol yn cael eu hasesu yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl cwblhau'r gwaith dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl yn unol â'r dulliau asesu a'r gweithdrefnau marcio a gymeradwywyd gan y Brifysgol.

6. Y marc pasio modiwlar fydd 40%. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr gael hyd at ddwy ymgais i adfer modiwl theori y maent wedi'i fethu, ac un ymgais i ailsefyll y modiwl sy’n seiliedig ar ymarfer.  Ni fydd modd iddynt gael mwy na’r marc pasio isaf ym mhob modiwl o'r fath, beth bynnag fo lefel eu perfformiad mewn gwirionedd. Gall y Byrddau Arholi gynnig rhagor o gyfleoedd i ailsefyll lle derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar berfformiad.

7. Yn amodol ar baragraff 6 uchod, pan fo myfyriwr wedi methu modiwl yn gyffredinol ond wedi pasio rhai elfennau sy'n cael eu hasesu, bydd y marciau a gafwyd yn yr  elfennau hynny fel rheol yn cael eu cario ymlaen i unrhyw ailsefyll.

8. Yn achos modiwlau a fethwyd, disgwylir i fyfyrwyr ailsefyll pob asesiad a fethwyd:

9. Bernir bod myfyrwyr wedi cwblhau'r modiwl pan fo'r gwaith dysgu sy'n gysylltiedig ag ef wedi dod i ben. Ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu'n ôl o'r asesiad terfynol oni bai bod tystiolaeth o amgylchiadau arbennig (salwch neu amgylchiadau tosturiol eraill) y gellir dangos eu bod wedi effeithio ar eu perfformiad ac sydd wedi eu cyflwyno i'r Bwrdd Arholi perthnasol cyn iddo ystyried eu canlyniadau.

10. Pan fo gwaith wedi'i asesu yn cael ei ddiffinio fel rhan hanfodol o fodiwl, bydd yr Adrannau yn nodi'n eglur yn y wybodaeth a roddir i fyfyrwyr beth yw'r cosbau ar gyfer peidio â chyflwyno. Pan fo myfyrwyr yn methu â chyflwyno gwaith cwrs i'w asesu erbyn y dyddiad cau a nodwyd, ni ddylai fod ganddynt hawl awtomatig i ailgyflwyno er mwyn adfer methiant.

11. Bydd yr Adrannau yn cadw cofnodion am yr holl fyfyrwyr sy'n methu modiwlau unigol.

12. Bydd y Byrddau Arholi Adrannol yn cofnodi’n glir pan fo marciau wedi'u haddasu, ynghyd â'r rhesymau am yr addasu.

13. Bydd myfyrwyr sy'n absennol o arholiadau heb reswm nac esboniad da neu sy'n methu oherwydd nad ydynt wedi cyflwyno gwaith i'w asesu dan y rheolau a ddiffinnir gan y Brifysgol yn cael eu cosbi’n unol â’r hyn a bennir gan y Brifysgol.  Gall y rhai sydd wedi methu neu wedi bod yn absennol o asesiadau modiwl am resymau meddygol, tosturiol neu resymau arbennig eraill, gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi, gael caniatâd i ailsefyll am y marc llawn. Bydd myfyrwyr o'r fath yn cael dewis ailsefyll y modiwlau perthnasol (gweler y Confensiynau Arholi am fanylion). 

14. Rhaid i fyfyrwyr Tystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd basio pob asesiad ym mhob modiwl; ni chaniateir methu unrhyw gredydau.   

15. Dyfernir y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni gofynion y cynllun ar sail pasio/methu.

16. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau'r holl asesiadau a bennwyd o fewn pedair blynedd o ddechrau'r cynllun. Gellir ymestyn y terfyn amser uchod mewn achosion eithriadol os ceir cymeradwyaeth gan y Brifysgol.

17. Bydd yr Adrannau yn cadw sgriptiau arholiadau a gwaith arall a asesir am o leiaf chwe mis wedi i ymgeiswyr gwblhau eu cynllun astudio.

18. Gall myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd yn foddhaol drosglwyddo’u credydau i lwybr rhan-amser Lefel 5 (ail flwyddyn BSc Nyrsio Oedolion neu Iechyd Meddwl) y graddau nyrsio cyn cofrestru (yn amodol ar nifer y lleoedd sydd ar gael a phroses ymgeisio lwyddiannus). Ni fydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddychwelyd y Dystysgrif Addysg Uwch os byddant yn dewis symud ymlaen i’r radd nyrsio cyn cofrestru.