12. Apeliadau Academaidd
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu.
-
12.1 Apeliadau Academaidd: Israddedigion ac Uwchraddedigion a Ddysgir drwy Gwrs
I gael manylion am Apeliadau Academaidd: Ymchwil Uwchraddedig, ewch i adran 12.2
-
12.1.1 Diffiniad o apêl
I ddibenion y weithdrefn hon, y diffiniad o apêl academaidd yw 'cais i adolygu penderfyniad corff academaidd sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â chynnydd myfyrwyr, asesiadau a dyfarniadau.'
-
12.1.2 Egwyddorion cyffredinol
1. Dim ond o fewn i Reoliadau'r Brifysgol a chonfensiynau’r arholiadau y gall y Brifysgol weithredu, ac ni ystyrir apeliadau sy'n ceisio canlyniadau y tu hwnt i’r rheoliadau a’r confensiynau.
2. Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau academaidd (diwedd Semester 1, 2 a chyfnod yr arholiadau atodol), mae myfyrwyr yn cael cyflwyno apêl yn erbyn y canlyniad(au).
3. Cyn penderfynu a oes sail dros gyflwyno apêl, anogir myfyrwyr i gyfarfod â'r staff academaidd perthnasol ar ôl cyhoeddi eu canlyniadau i ofyn am adborth ac i weld a oes ganddynt sail dros apelio ai peidio. Os yw'r myfyriwr yn dymuno mynd â materion ymhellach, gall gyflwyno apêl.
4. Disgwylir yn arferol mai’r myfyrwyr fydd yn cyflwyno apeliadau. Ond, os yw myfyriwr yn teimlo na all lenwi a chyflwyno'r ffurflen ei hun ar adeg cyflwyno'r apêl, oherwydd salwch neu reswm arall sy'n eu hatal rhag gwneud hynny, efallai y byddai’n dymuno penodi cynrychiolydd i gwblhau a chyflwyno'r apêl ar ei ran. Gallai’r cynrychiolydd fod yn fyfyriwr arall neu'n gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Fel rheol byddai disgwyl i'r myfyriwr roi caniatâd ysgrifenedig, mewn llythyr neu trwy ei gyfrif e-bost Prifysgol, i awdurdodi rhywun arall i weithredu ar ei ran (byddai angen rheswm da a dilys i hyn beidio bod yn bosib).
5. Os oes cynrychiolydd gan fyfyriwr, ni ddylai hynny oedi'r broses. Bydd y Brifysgol yn gwrthod derbyn apeliadau gan drydydd parti oni bai eu bod yn gweithredu’n gynrychiolydd i’r myfyriwr.
6. Os yw apêl academaidd hefyd yn cynnwys cwyn, mae'n bosibl i'r apêl neu'r gŵyn gael ei hailddosbarthu (ar ba gam bynnag y maent wedi cyrraedd) a'u prosesu o dan y Rheoliad neu'r Weithdrefn fwyaf perthnasol os yw hyn yn debygol o arwain at ganlyniad mwy addas i'r unigolyn/unigolion sy'n apelio neu'n gwneud y gŵyn. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod os bydd y sefyllfa hon yn codi.
7. Ni fydd myfyrwyr yn dioddef unrhyw anfantais nac edliw o ganlyniad i wneud apêl academaidd yn ddidwyll. Dim ond os bernir bod apêl academaidd wedi'i gwneud yn wamal (h.y. heb unrhyw ddiben na gwerth difrifol), yn flinderus (h.y. mae'r apêl yn peri gofid neu'n annifyr) neu’n faleisus (h.y. yr awydd i achosi niwed neu ddioddefaint), y gallai materion disgyblu godi yn gysyltiedig â'r myfyriwr. (Gweler Trefn Disgyblu Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth).
8. Gellir cael cyngor am y weithdrefn hon gan y Dirprwy Gofrestrydd (neu un a enwebir), y Gofrestrfa Academaidd (caostaff@aber.ac.uk) neu gan Gynghorydd Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr (undeb.cyngor@aber.ac.uk).
-
12.1.3 Pwy all apelio?
1. Ar ôl cyhoeddi canlyniadau arholiadau'r Brifysgol yn ffurfiol, neu ar ôl cael hysbysiad ffurfiol o waharddiad o dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, mae gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n astudio am gymhwyster israddedig neu uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylai myfyrwyr sy'n astudio o dan drefniadau cydweithrediadol mewn Partner Ddarparwr Addysg hefyd ddilyn y Weithdrefn hon – mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn llawlyfr y myfyrwyr. Mae'r myfyrwyr y caniateir iddynt apelio yn cynnwys:
(i) Myfyrwyr sy'n cael eu hatal rhag parhau â'u hastudiaethau ar hanner lefel astudio neu ran o raglen
(ii) Myfyrwyr sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i gam nesaf eu rhaglen ar ddiwedd lefel, diwedd rhan, neu ddiwedd blwyddyn
(iii) Myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu rhaglen, ond sy'n dymuno apelio yn erbyn y canlyniad, neu fyfyrwyr sy'n anfodlon ar ddyfarnu cymhwyster ymadael â’r Brifysgol
(iv) Lle gallai goblygiadau penderfyniad y Bwrdd Arholi ynglŷn â chynnydd gael effaith sylweddol ar ganlyniad cyffredinol y myfyriwr (e.e. capio marciau)
(v) Os yw myfyrwyr yn dymuno cyflwyno apêl grŵp, rhaid iddynt gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd yn gyntaf trwy e-bostio caostaff@aber.ac.uk i ofyn sut y gellid ystyried yr apêl.2. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno apeliadau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i’w canlyniadau gael eu cyhoeddi, oni bai bod amgylchiadau lliniarol ganddynt am beidio â gwneud hynny o fewn i’r amser priodol (bydd yn rhaid iddynt ddangos tystiolaeth o’r amgylchiadau).
3. Gall myfyrwyr gael cyngor gan Undeb y Myfyrwyr ynglŷn â chyflwyno’u hapêl, os oes angen.
-
12.1.4 Seiliau ar gyfer Apelio
1. O dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, caiff apeliadau eu hystyried ddim ond os ydynt yn seiliedig ar un neu fwy o'r seiliau canlynol ac y cyflwynir tystiolaeth ategol nad oedd ar gael i'w chyflwyno i'w hystyried gan y Bwrdd Arholi perthnasol, neu'r adran academaidd berthnasol a fu’n ystyried cynnydd academaidd myfyriwr:
(i) Amgylchiadau esgusodol eithriadol sydd wedi cael effaith andwyol ar berfformiad academaidd y myfyriwr. Pe gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am yr amgylchiadau eithriadol cyn
(a) rhyddhau canlyniadau’r arholiadau
neu
(b) eu gwahardd, ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.(ii) Diffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal asesiadau neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig a ddarparwyd, neu'r cyngor a roddwyd, a allai fod wedi cael effaith andwyol ar berfformiad myfyriwr. Pe gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am ddiffygion neu afreoleidd-dra cyn rhyddhau
(a) eu canlyniadau
neu
(b) eu gwahardd, ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach(iii) Tystiolaeth o ragfarn, neu ogwydd, neu asesiad annigonol ar ran un neu fwy o'r arholwyr, neu dystiolaeth o ragfarn neu ogwydd ar ran yr unigolyn/unigolion sy'n gweinyddu'r Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd. Pe gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am ddiffygion neu afreoleidd-dra cyn rhyddhau
(a) eu canlyniadau
neu
(b) eu gwahardd, ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.2. Dim ond os gall y myfyriwr roi rhesymau da i esbonio pam nad oedd sail yr apêl wedi'i roi i’r adran academaidd na/neu i'r Bwrdd Arholi perthnasol yn flaenorol y caiff apêl ei hystyried.
3. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd amgylchiadau lliniarol eithriadol (yn ymwneud â materion yn gysylltiedig â’r Brifysgol, trafferthion personol neu feddygol, neu unrhyw broblem arall), na chawsant eu cyflwyno i adran academaidd y myfyriwr erbyn y dyddiad priodol yn cael eu hystyried yn sail i apêl (er enghraifft os nad oedd y myfyriwr yn gallu datgelu’r amgylchiadau ymlaen llaw oherwydd cyflwr meddygol a oedd yn ei rwystro rhag gwneud hynny).
4. Er bod y Brifysgol yn caniatáu cyflwyno amgylchiadau esgusodol a thystiolaeth ategol yn gyfrinachol, ni fydd y ffaith nad oedd myfyriwr yn dymuno datgelu gwybodaeth bersonol yn cael ei hystyried yn amgylchiad eithriadol fel arfer. Byddai angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r rheswm a roddir am beidio â chyflwyno'r dystiolaeth cyn y Bwrdd Arholi perthnasol, neu ar gais eu hadran academaidd neu Gyfadran o dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd. Mewn achosion lle na sefydlir bod rheswm da am gyflwyno'n hwyr neu beidio â chyflwyno, ni fydd yr apêl yn cael ei hystyried ymhellach.
5. Rhaid i unrhyw sail/seiliau i apêl myfyriwr gael eu hategu gan dystiolaeth ategol ychwanegol nad yw eisoes wedi'i chyflwyno i'w hystyried, ac sy'n dangos yn glir sut yr effeithiodd ar eu perfformiad. Rhaid dyddio hyn ar yr adeg yr effeithiwyd ar y myfyriwr gan yr amgylchiadau(au), neu, os yw wedi’i ddyddio'n ddiweddarach, rhaid iddi fod yn glir bod y sawl sy'n ardystio i'r amgylchiadau mewn sefyllfa i'w cadarnhau ar yr adeg y digwyddodd.
6. Nid yw’r canlynol yn cael eu hystyried yn amgylchiadau arbennig ac felly ni chânt eu hystyried ar adeg yr apêl:
(i) trafferthion gyda chyfrifiadur neu beiriant argraffu
(ii) dim modd i allu defnyddio adnoddau
(iii) salwch os nad oes tystiolaeth feddygol ar ei gyfer
(iv) dyddiad cau mwy nag un asesiad ar yr un dydd
(v) methu ag ateb y cwestiwn neu drafferth i ddeall y deunydd
(vi) gemau argyfwng, cynyrchiadau perfformio, neu deithiau astudio adrannol
(vii) gweithgarwch anacademaidd (e.e. hyfforddiant milwrol).7. Mae canllawiau ynglŷn ag amgylchiadau arbennig a thystiolaeth ddogfennol dderbyniol i’w gweld yn: Asesu Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs: Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth
8. Os na fydd apeliadau yn cyfateb ag unrhyw un o'r meini prawf uchod cânt eu gwrthod ac ni fyddant yn cael eu hystyried gan y Panel Apêl Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am hyn.
9. Bydd apeliadau sy'n seiliedig ar y tir canlynol yn cael eu gwrthod ar unwaith:
(i) Apeliadau yn amau barn academaidd. I ddibenion y Weithdrefn hon, barn academaidd yw penderfyniad a wneir gan staff academaidd am ansawdd y gwaith ei hun neu’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r gwaith. Trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys penodi staff, trefniadau cynefino a hyfforddi, marcio dienw, a chymedroli mewnol ac allanol, mae’r Brifysgol yn sicrhau bod y farn academaidd yn gadarn. Anogir myfyrwyr i ofyn am adborth ar eu marciau gan y staff academaidd perthnasol
(ii) Apeliadau’n seiliedig ar ffactorau a oedd eisoes yn hysbys i'r Brifysgol a/neu'r Bwrdd Arholi dan sylw pan wnaed y penderfyniad am berfformiad y myfyriwr
(iii) Apeliadau’n seiliedig ar siom neu anfodlonrwydd â’r canlyniadau. Os yw myfyrwyr yn amau y gallai camgymeriad fod wedi digwydd yng nghyswllt trawsgrifio’r marciau, dylent gysylltu’n uniongyrchol ac yn ysgrifenedig â'u hadran academaidd yn y lle cyntaf
(iv) Apeliadau’n seiliedig ar fethiant myfyriwr i ymgyfarwyddo â gofynion eu cyrsiau o ran presenoldeb, cyflwyno gwaith a dulliau asesu
(v) Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apeliadau’n seiliedig ar wybodaeth neu amgylchiadau nad oedd y myfyriwr wedi rhoi gwybod i'w hadran academaidd amdanynt am eu bod yn honni nad oeddent yn gwybod y dylid rhoi gwybod am amgylchiadau arbennig; nad oeddent yn credu y byddai'r amgylchiadau arbennig yn effeithio ar eu perfformiad ar y pryd; neu na soniasant am yr amgylchiadau ar y pryd, oherwydd embaras a/neu swildod. -
12.1.5 Y drefn ar gyfer cyflwyno apêl academaidd
1. O’r dyddiad y cyhoeddir canlyniadau arholiadau'r Brifysgol yn ffurfiol neu y rhoddir hysbysiad ffurfiol yn gofyn am waharddiad o dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, fel arfer bydd gan fyfyrwyr 10 diwrnod gwaith i gyflwyno apêl. Fel arfer, ni fydd apeliadau hwyr yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol, ategol yn cael ei chyflwyno sy’n esbonio'n glir pam yr ataliwyd y myfyriwr rhag cyflwyno'r apêl erbyn y dyddiad cau.
2. Rhaid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig gan ddefnyddio ffurflen Apêl Academaidd y Brifysgol, neu gall y myfyriwr e-bostio caostaff@aber.ac.uki ofyn am gopi. Rhaid cwblhau pob adran yn llawn. Os na fydd y ffurflen yn cael ei llenwi’n llwyr fe gaiff ei hanfon yn ôl at y myfyriwr ac ni fydd yn cael ei hystyried tan y cyflwynir ffurflen wedi'i llenwi'n llwyr ynghyd â thystiolaeth.
12.1.5.1 Tystiolaeth
1. Wrth apelio, rhaid i fyfyrwyr ddatgan yn glir yr hyn y maent yn apelio yn ei erbyn, a rhaid iddynt ddangos yn glir yr effaith a gafodd eu hamgylchiadau ar eu perfformiad, ar ffurf esboniad a thystiolaeth briodol.
2. I ddibenion y weithdrefn hon, rhaid i’r dystiolaeth a gyflwynir i gefnogi apêl myfyriwr fod yn annibynnol neu'n ategol, ac yn ddigon i gadarnhau unrhyw hawliadau neu faterion a godwyd. Nid yw datganiad personol o'r hyn y mae myfyriwr yn credu ei fod yn wir yn dystiolaeth. Rhaid i fyfyrwyr hefyd ddatgan yn glir yr hyn y maent yn dymuno’i gyflawni wrth apelio. RHAID i’r holl ddogfennau angenrheidiol i gadarnhau unrhyw amgylchiadau neu hawliadau eithriadol gael eu cyflwyno gyda'r ffurflen apêl. Rhaid llofnodi a dyddio'r dystiolaeth; rhaid i’r dystiolaeth ddangos sut yr effeithiodd yr amgylchiadau ar eu perfformiad, a rhaid iddi fod yn berthnasol i'r asesiad dan sylw. Os nad yw’r dystiolaeth yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, bydd yn rhaid cael sicrhau cyfieithiad a gwiriad annibynnol, a hynny ar gost y myfyriwr.
3. Y myfyriwr sy’n gyfrifol am ganfod a chyflwyno tystiolaeth briodol gyda'r apêl. Ni fydd y Brifysgol yn gwneud hyn ar ran y myfyriwr. Os gwneir apêl yn dweud y gellir chwilio am fwy o wybodaeth ar ran y myfyriwr ni weithredir arni a chaiff ei gwrthod.
4. Os effeithiwyd ar berfformiad academaidd y myfyriwr gan amgylchiadau sy'n ymwneud â thrydydd parti, e.e. cyfaill, rhiant, brawd neu chwaer, dylai’r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol annibynnol sy'n esbonio'r effaith y mae'r amgylchiadau wedi'i chael arnynt. Os yw myfyriwr yn dymuno cyflwyno tystiolaeth sy'n ymwneud â thrydydd parti, rhaid darparu caniatâd ysgrifenedig i hyn gan y trydydd parti.
5. Ar ôl cwblhau’r cais am apêl, rhaid ei gyflwyno’n uniongyrchol i caostaff@aber.ac.uk. Os cyflwynir y ffurflen yn electronig, o gyfrif e-bost y myfyriwr ei hun fel arfer, ystyrir hon yn ddogfen 'wedi'i llofnodi' yn niffyg copi papur gwreiddiol. Os nad oes modd i’r myfyriwr ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost Prifysgol am unrhyw reswm, bydd y Brifysgol yn fodlon derbyn ceisiadau o gyfeiriad e-bost arall y myfyriwr neu trwy'r post. Bydd myfyrwyr yn derbyn cydnabyddiaeth ysgrifenedig i gadarnhau bod y ffurflen gais wedi cyrraedd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais llawn ynghyd â thystiolaeth briodol.
6. Cysylltir â'r myfyriwr trwy e-bost ynghylch canlyniad ei apêl. Cyfrifoldeb myfyrwyr yw sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gywir ar eu cofnod myfyriwr ar-lein. Nid yw'r Brifysgol yn gyfrifol am lythyrau nad ydynt yn cyrraedd myfyriwr am nad yw eu cofnod wedi ei ddiweddaru. Y prif ddull cyfathrebu fydd trwy e-bost, er y bydd llythyrau yn rhoi canlyniad yr apêl yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad a roddir ar y ffurflenni, os gwneir cais am hynny.
-
12.1.6 Ystyried yr apêl gan Banel Apêl Academaidd
1. Ar ôl derbyn apêl yn seiliedig ar un neu fwy o'r amodau dilys a amlinellir uchod, a’i chyflwyno ar ffurflen apêl wedi'i chwblhau'n llawn, ynghyd â thystiolaeth ategol, bydd y Dirprwy Gofrestrydd (neu un a enwebir) sy'n gyfrifol am apeliadau academaidd yn gofyn i'r adran academaidd berthnasol ddilysu'r ffeithiau y cyfeirir atynt yn yr apêl. Fe wnant yn sicr bod y rhain yn cael eu dilysu mewn pryd i'w cyflwyno i'r Panel Apeliadau Academaidd.
2. Gellir prysuro cynnal achos trwy ei gyfeirio ymlaen ar gyfer cam gweithredol gan Gadeirydd y Panel Apêl Academaidd. Yn yr achos hwn, y penderfyniadau fydd ar gael i’r Cadeirydd fydd cadarnhau’r apêl (neu gadarnhau’n rhannol os nad yw seiliau eraill yn gymwys) neu wrthod yr apêl ar seiliau. Gall y Cadeirydd hefyd gyfeirio achos i gael ei ystyried gan y Panel Apêl Academaidd os nad yw’r achos yn glir a bod angen ei ystyried ymhellach.
3. Bydd pob Panel Apêl yn cynnwys o leiaf bedwar aelod a ddewisir gan Ysgrifennydd y Panel o blith Panel sefydlog.
4. Aelodau'r Panel i ystyried apeliadau israddedig ac uwchraddedig ar gyrsiau a addysgir fydd:
(i) Dirprwy Is-Ganghellor yn Gadeirydd
(ii) Un Pennaeth Adran Academaidd (neu gydradd)
(iii) Pennaeth neu Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
(iv) Un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.5. Ni fydd unrhyw aelodau o'r panel sefydlog sydd â chyswllt uniongyrchol ag astudiaethau'r myfyriwr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau. Rhaid i aelodau'r Panel ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau. Ni ddylai cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr fod wedi cynghori’r myfyriwr mewn unrhyw ffordd ynglŷn â’r apêl ymlaen llaw. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn sicrhau nad yw’r cynrychiolydd ar y panel yn un a fu’n rhoi cyngor i’r myfyriwr, er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau.
6. Y Dirprwy Gofrestrydd (neu'r un a enwebwyd) sy'n gyfrifol am Apeliadau Academaidd fydd yn Ysgrifennydd i’r Panel Apêl Academaidd.
7. Bydd gan y Panel Apêl Academaidd y grym i wneud y naill neu'r llall o'r penderfyniadau canlynol:
(i) Cadarnhau’r apêl a phenderfynu ar y camau i'w cymryd
(ii) Gwrthod yr apêl; dim camau pellach i'w cymryd.
8. Os yw apêl yn cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer cael ystyriaeth gan y Panel Apêl Academaidd, mae gan y myfyriwr hawl i ymddangos gerbron y Panel a gall fod yng nghwmni unigolyn o'i ddewis, er enghraifft cyd-fyfyriwr neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr, neu aelod o'r staff academaidd.
9. Mater mewnol yw trefn yr apeliadau academaidd ac nid oes iddynt yr un ffurfioldeb â llys barn. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn angenrheidiol nac yn briodol i’r myfyriwr neu'r darparwr gael ei gynrychioli'n gyfreithiol mewn panel neu gyfarfod apêl.
10. Cyn y gwrandawiad, bydd yr holl ddogfennau a gyflwynir yn rhan o'r apêl yn cael eu darparu i aelodau'r Panel a'r myfyriwr, i'w hystyried.
11. Cynhelir y gwrandawiad apêl yn unol â’r drefn hon:
(i) Os yw myfyriwr wedi nodi y bydd yn dod i'r gwrandawiad, ni fydd aelodau'r panel yn trafod yr achos ymhlith ei gilydd cyn i'r apelydd gyrraedd. Bydd Cadeirydd y Panel yn gofyn i'r myfyriwr ac unrhyw unigolion eraill sy'n bresennol eu cyflwyno eu hunain a bydd yn penderfynu a yw’r sawl sy'n gwmni i’r myfyriwr yn bodloni'r amodau yn y Gweithdrefnau Apêl Academaidd perthnasol. Os nad yw unigolyn sy'n gwmni i'r apelydd yn bodloni'r amodau hyn, gofynnir iddo/iddi adael.
(ii) Yna, bydd Cadeirydd y Panel yn:
1. Cyflwyno aelodau’r Panel ac unrhyw un arall sy’n bresennol
2. Esbonio'r seiliau cymwys ac anghymwys ar gyfer yr apêl academaidd
3. Nodi'r penderfyniadau posibl sy’n agored i'r Panel
4. Esbonio trefn y digwyddiadau pe bai'r apêl academaidd yn cael ei chadarnhau
5. Esbonio'r hawl dilynol i ofyn am Adolygiad Terfynol os yw'r myfyriwr yn dal i fod yn anhapus â phenderfyniad y Panel Apêl Academaidd.
(iii) Bydd y Cadeirydd yn gwahodd y myfyriwr i gyflwyno'i achos, gan grynhoi'r prif bwyntiau fel bod gan bawb sy'n bresennol yr un ddealltwriaeth ynglŷn a sail yr achos
(iv) Ar ôl i’r myfyriwr orffen ei gyflwyniad, gall aelodau'r Panel ofyn cwestiynau ac archwilio meysydd o ddiddordeb neu bryder ynglŷn â'r apêl. Pan fydd holl aelodau'r Panel wedi'u bodloni, gwahoddir y myfyriwr i ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach y gall ddymuno’u dwyn i sylw'r Panel, a gwahoddir yr unigolyn sy'n gwmni i'r myfyriwr i siarad i gefnogi'r achos. Yna, bydd y Panel yn cyfweld ag unrhyw barti arall sy'n bresennol yn y gwrandawiad. Bydd y myfyriwr yn parhau i fod yn bresennol a chaiff ei wahodd i ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan unrhyw barti arall ac i ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach.
12. Rhaid i'r myfyriwr fod wedi cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol berthnasol gyda'r ffurflen apêl cyn gwrandawiad y Panel. Mae gan y Cadeirydd hawl i wrthod derbyn unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth nad yw wedi'i chyflwyno a'i hadolygu gan yr holl bartïon perthnasol cyn y gwrandawiad. I sicrhau tegwch, mae'n bwysig i bob parti sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno cyn y gwrandawiad, er mwyn i bawb gael cyfle i adolygu'r dystiolaeth ac ymateb yn briodol. Dim ond mewn achosion eithriadol lle mae'r Cadeirydd yn fodlon, a phob parti arall yn rhoi caniatâd, y bydd tystiolaeth newydd a gyflwynir i'r gwrandawiad yn cael ei hystyried.
13. Pan fydd y gwrandawiad wedi dod i ben, rhoddir gwybod i’r myfyriwr pryd a sut y caiff wybod beth yw penderfyniad y Panel. Yna, bydd pob parti, ac eithrio aelodau'r Panel a'r Ysgrifennydd, yn gadael yr ystafell. Bydd y Panel yn ystyried y dystiolaeth sydd gerbron ac yn dod i benderfyniad. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn cynghori'r aelodau am yr dewisiadau sydd ganddynt, os oes angen.
14. Bydd yr Ysgrifennydd yn rhoi gwybod i’r myfyriwr yn ysgrifenedig am benderfyniad yr apêl, o fewn pum niwrnod gwaith.
15. Dylid datrys pob apêl academaidd o fewn 6 wythnos waith. Os yw'n ymddangos y bydd oedi cyn ymateb, bydd myfyrwyr yn cael gwybod beth yw’r rhesymau am hyn, ac yn cael eu hysbysu am unrhyw ddatblygiadau.
-
12.1.7 Adolygiad Terfynol
Os bydd myfyriwr yn dal yn anfodlon â chanlyniad yr apêl, gall ofyn am Adolygiad Terfynol. Cyfeirir myfyrwyr at y drefn hon wrth roi gwybod yn ysgrifenedig am y canlyniad ffurfiol, a bydd yn cael cyflwyno cais am Adolygiad Terfynol ymhen 10 niwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr/e-bost hwnnw. Ceir rhagor o fanylion yn 13 Adolygiad Terfynol: Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth.
-
12.1.8 Monitro Apeliadau Academaidd
Mae'n bwysig bod nifer, lefel ac ystod yr apeliadau academaidd yn cael eu monitro. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn monitro'r holl apeliadau academaidd a gyflwynir a byddant yn adrodd yn flynyddol i'r Bwrdd Academaidd. Bydd unrhyw fanylion personol yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd fydd monitro'r data a gwneud argymhellion addas i gyrff neu bersonél perthnasol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd hefyd fydd adolygu'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd a'i heffeithiolrwydd, a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau, lle bo hynny'n briodol.
Diweddarwyd: Mis Medi 2021
12.2 Apeliadau Academaidd: Myfyrwyr Ymchwil-
12.2.1 Diffiniad o apêl
At ddibenion y Weithdrefn hon, diffinnir apêl academaidd fel ‘cais i adolygu penderfyniad corff academaidd sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â chynnydd myfyrwyr, asesiadau a dyfarniadau’.
-
12.2.2 Egwyddorion cyffredinol
1. Ni all y Brifysgol weithredu y tu allan i Weithdrefnau’r Brifysgol a’r confensiynau arholi, ac ni fydd apeliadau sy’n ceisio canlyniadau o’r fath yn cael eu hystyried.
2. Yn sgil cyhoeddi canlyniadau academaidd myfyriwr (diwedd Semester 1, 2 a chyfnod y arholiadau atodol), gall myfyriwr gyflwyno apêl yn erbyn eu canlyniad(au).
3. Cyn penderfynu a oes sail i gyflwyno apêl, anogir y myfyriwr i gwrdd â’r staff academaidd perthnasol ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau i gael adborth ac i sefydlu a oes ganddynt sail i apelio ai peidio. Os hoffai’r myfyriwr fynd â’r mater ymhellach, gallant gyflwyno apêl.
4. Fel arfer, y myfyriwr fydd yn cyflwyno’r apêl. Fodd bynnag os nad yw’r myfyriwr yn teimlo y gall gwblhau a chyflwyno’r ffurflen ei hun, yn sgil salwch neu reswm arall sy’n ei atal rhag gwneud, gall y myfyriwr benodi cynrychiolydd i gwblhau a chyflwyno’r apêl ar ei ran. Gall cynrychiolydd fod yn fyfyriwr arall neu’n gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Disgwylir fel rheol i’r myfyriwr ddarparu caniatâd ysgrifenedig, drwy lythyr neu gyfrif ebost y Brifysgol, yn awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran (byddai’n rhaid rhoi rheswm dilys, da dros beidio â gwneud hynny).
5. Os oes gan fyfyriwr gynrychiolydd, ni ddylai hyn oedi’r broses. Bydd y Brifysgol yn gwrthod derbyn apeliadau gan drydydd parti oni bai eu bod yn gweithredu fel cynrychiolydd y myfyriwr.
6. Pan fo’r apêl academaidd hefyd yn cynnwys cwyn, mae’n bosib y caiff yr apêl neu’r gŵyn ei hailddosbarthu (ar unrhyw gam o’r broses) a’i phrosesu o dan y rheoliad neu’r weithdrefn fwyaf perthnasol os yw hynny’n debygol o arwain at ganlyniad mwy priodol i’r sawl sy’n apelio neu’n cwyno. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod os bydd y sefyllfa hon yn codi.
7. Ni fydd myfyrwyr sy’n gwneud apêl academaidd yn ddidwyll yn dioddef anfantais nac edliw. Ni fydd myfyrwyr yn destun camau disgyblu oni wnânt apêl academaidd yn wamal (h.y. heb ddim diben na gwerth difrifol), yn blagus (h.y. yn peri gofid neu annifyrrwch) neu’n faleisus (h.y. awydd i beri niwed neu ddioddefaint). (Gweler Trefn Ddisgyblu Prifysgol Aberystwyth).
8. Mae cyngor ynglŷn â’r Weithdrefn hon ar gael gan y Dirprwy Gofrestrydd (neu enwebai), Cofrestrfa Academaidd (caostaff@aber.ac.uk) neu gan Gynghorydd Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr (undeb.cyngor@aber.ac.uk).
-
12.2.3 Pwy gaiff Apelio
1. Ar ôl cyhoeddi canlyniadau arholiadau’r Brifysgol yn ffurfiol, neu yn dilyn hysbysiad ffurfiol o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd, mae gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n astudio am gymhwyster ymchwil uwchraddedig hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylai myfyrwyr sy’n astudio mewn Darparwr Addysg Partneriaethol trwy drefniadau cydweithredol hefyd ddilyn y weithdrefn – ceir manylion pellach yn y llawlyfr myfyriwr. Dyma’r myfyrwyr sy’n cael apelio:
(i) Myfyrwyr sy'n cael eu hatal rhag parhau â'u hastudiaethau ar hanner lefel astudio neu ran o raglen
(ii) Myfyrwyr sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i gam nesaf eu rhaglen ar ddiwedd lefel, diwedd rhan, neu ddiwedd blwyddyn
(iii) Myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu rhaglen, ond sy'n dymuno apelio yn erbyn y canlyniad, neu fyfyrwyr sy'n anfodlon ar ddyfarnu cymhwyster ymadael â’r Brifysgol
(iv) Lle gallai goblygiadau'r penderfyniad cynnydd a wneir gan y Bwrdd Arholi gael effaith sylweddol ar ganlyniad cyffredinol y myfyriwr (e.e. capio marciau)
(v) Os yw myfyrwyr yn dymuno cyflwyno apêl grŵp, rhaid iddynt gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd yn gyntaf trwy e-bostio caostaff@aber.ac.uk i ofyn sut y gellid ystyried yr apêl.
2. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno apeliadau o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i’w canlyniadau gael eu cyhoeddi, oni bai bod ganddynt amgylchiadau lliniarol (bydd yn rhaid iddynt ddangos tystiolaeth o’r amgylchiadau), am beidio â gwneud hynny o fewn yr amserlen hon.
3. Gall myfyrwyr ofyn am gyngor gan Undeb y Myfyrwyr ynghylch cyflwyno eu hapêl os oes angen.
-
12.2.4 Rhesymau dros Apelio
1. Rhaid i’r apêl fod yn seiliedig ar un neu ragor o’r rhesymau isod er mwyn cael ei hystyried a rhaid darparu tystiolaeth ategol nad oedd ar gael i’w chyflwyno i’r Bwrdd Arholi perthnasol wrth ystyried perfformiad mewn arholiadau, neu i’r Adran berthnasol wrth ystyried cynnydd academaidd y myfyriwr yn ôl y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd:
(i) Amgylchiadau esgusodol eithriadol a gafodd effaith andwyol ar berfformiad academaidd y myfyriwr. Lle gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am yr amgylchiadau eithriadol cyn
(a) rhyddhau canlyniadau eu harholiadau
neu
(b) gwaharddiadni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.
(ii) Diffygion neu afreolaidd-dra yn y ffordd y cynhaliwyd yr asesiadau, y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r cyngor a roddwyd, a allai fod wedi cael effaith anffafriol ar berfformiad y myfyriwr. Lle gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am yr amgylchiadau eithriadol cyn
(a) rhyddhau canlyniadau eu harholiadau
neu
(b) gwaharddiadni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.
(iii) Tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol a bod rhesymau eithriadol pam na roddodd y myfyriwr wybod am hyn cyn i’r Bwrdd Arholi wneud ei benderfyniad. Lle y gallai’r myfyrwyr fod wedi darparu tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol cyn
(a) cyfarfod y Bwrdd Arholi
neu
(b) derbyn hysbysiad ffurfiol o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaiddni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.
(iv) Tystiolaeth o ragfarn, neu o duedd, neu o asesu annigonol gan un neu ragor o’r arholwyr, neu dystiolaeth o ragfarn neu o duedd ar ran y sawl fu’n gweinyddu’r Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd. Lle gallai’r myfyriwr fod wedi darparu tystiolaeth ynghylch rhagfarn, tuedd, neu asesu annigonol cyn
(a) rhyddhau canlyniadau eu harholiadau
neu
(b) gwaharddiadni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.
2. Ni chaiff yr apêl ei hystyried oni all y myfyriwr ddarparu rhesymau da pam na roddwyd gwybod i’r adran academaidd yn gynt am y rhesymau dros apelio a/neu pam na chafodd y Bwrdd Arholi perthnasol wybod amdanynt.
3. Dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol (er enghraifft, pan nad oedd modd i’r myfyriwr ddatgelu’r amgylchiadau ymlaen llaw oherwydd cyflwr meddygol a oedd yn eu hatal rhag gwneud hynny) y caiff amgylchiadau esgusodol eithriadol (boed yn ymwneud â materion y Brifysgol, problemau personol neu feddygol neu unrhyw fater arall), nad ydynt wedi’u cyflwyno i adran academaidd y myfyriwr erbyn y dyddiad penodedig, eu hystyried yn rhesymau dros apelio.
4. Mae’r Brifysgol yn caniatáu cyflwyno amgylchiadau esgusodol a thystiolaeth ategol dan amodau cyfrinachol, ac o’r herwydd ni fydd y ffaith nad oedd myfyriwr am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol fel rheol yn cael ei hystyried yn amgylchiad eithriadol. Byddai’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth i ategu’r rheswm dros beidio â chyflwyno’r dystiolaeth hon cyn i’r Bwrdd Arholi perthnasol gwrdd, neu ar gais yr adran academaidd neu’r Gyfadran o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd. Lle na phennir rheswm da dros gyflwyno gwaith yn hwyr neu beidio â’i gyflwyno o gwbl, ni chaiff yr apêl ei hystyried ymhellach.
5. Law yn llaw ag unrhyw sail y mae’r myfyriwr am ei ddefnyddio’n rheswm dros apelio, rhaid cyflwyno tystiolaeth ategol ychwanegol sydd heb gael ei gyflwyno i’w ystyried eisoes ac sy’n dangos yn glir sut yr effeithiodd ar berfformiad. Rhaid bod y dyddiad pan oedd yr amgylchiad(au) yn effeithio ar y myfyriwr wedi’i nodi ar y dystiolaeth, neu, os oes dyddiad diweddarach arni, rhaid nodi’n glir fod y sawl a ardystiodd yr amgylchiadau mewn sefyllfa i’w cadarnhau ar yr adeg pan ddigwyddodd yr amgylchiadau.
6. Nid ystyrir yr amgylchiadau canlynol yn amgylchiadau arbennig ac ni chânt eu hystyried ar adeg yr apêl:
(i) problemau â chyfrifiaduron neu argraffu
(ii) diffyg adnoddau
(iii) salwch lle nad oes tystiolaeth feddygol ar gael
(iv) mwy nag un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno asesiadau ar yr un diwrnod
(v) anallu i ateb cwestiwn neu gael trafferth â deunydd; gemau argyfwng, cynyrchiadau perfformio, teithiau astudio adrannol
(vi) gweithgareddau anacademaidd (e.e. hyfforddiant milwrol)
7. Ceir canllawiau ar amgylchiadau arbennig a thystiolaeth ddogfennol briodol ar https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/
8. Caiff apeliadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod eu gwrthod ac ni chânt eu hystyried gan y Panel Apêl Academaidd. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod am hyn gan y Gofrestrfa Academaidd.
9. Bydd apeliadau sy’n seiliedig ar y canlynol yn cael eu gwrthod yn syth:
(i) apeliadau sy’n amau barn academaidd. At ddibenion y Weithdrefn hon, barn academaidd fydd penderfyniad staff academaidd am ansawdd y gwaith neu’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r gwaith. Drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys penodi staff, trefniadau cynefino a hyfforddi, marcio anhysbys a chymedroli mewnol ac allanol, mae’r Brifysgol yn sicrhau bod y farn academaidd yn gadarn. Anogir myfyrwyr i ofyn am adborth ar eu marciau gan y staff academaidd perthnasol.
(ii) apeliadau sy’n seiliedig ar ffactorau yr oedd y Brifysgol a’r/neu’r Bwrdd Arholi dan sylw eisoes yn gwybod amdanynt pan wnaed penderfyniad ynghylch perfformiad y myfyriwr.
(iii) apeliadau sy’n seiliedig ar siom neu anfodlonrwydd â’r canlyniadau. Dylai myfyrwyr sy’n amau bod gwall wedi digwydd o ran trawsgrifio’r marciau godi’r mater yn uniongyrchol ac yn ysgrifenedig â’u hadran academaidd yn y lle cyntaf.
(iv) apeliadau sy’n seiliedig ar fethiant y myfyriwr i ymgyfarwyddo â gofynion y cwrs ynghylch presenoldeb, cyflwyno gwaith a’r dulliau asesu.
(v) Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apeliadau sy’n seiliedig ar wybodaeth neu amgylchiadau nad oedd y myfyrwyr wedi hysbysu’r adran amdanynt gan honni nad oeddynt yn gwybod bod angen iddynt roi gwybod am amgylchiadau arbennig; nad oeddynt yn credu ar y pryd y byddai’r amgylchiadau arbennig yn effeithio ar eu perfformiad; ac na wnaethant gyfeirio atynt ar y pryd oherwydd embaras a/neu swildod.
-
12.2.5 Y broses ar gyfer cyflwyno Apêl Academaidd
1. O’r dyddiad y rhoddir hysbysiad ffurfiol o’r ganlyniadau arholiadau’r Brifysgol, neu wedi derbyn hysbysiad ffurfiol o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd, bydd gan y myfyrwyr fel rheol 20 diwrnod gwaith i gyflwyno apêl. Fel rheol ni fydd apeliadau hwyr yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth ategol, annibynnol yn cael ei chyflwyno sy’n esbonio’n glir pam na fu modd i’r myfyriwr gyflwyno’r apêl erbyn y dyddiad cau.
2. Rhaid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig ar ffurflen Apeliadau Academaidd y Brifysgol, neu drwy anfon ebost i caostaff@aber.ac.uki ofyn am gopi. Rhaid cwblhau pob adran yn llawn. Caiff ffurflenni nad ydynt wedi eu cwblhau yn llawn eu dychwelyd i’r myfyrwyr ac ni chânt eu hystyried nes y bydd ffurflen wedi’i llenwi’n llawn yn cael ei chyflwyno gyda’r dystiolaeth.
12.2.5.1 Tystiolaeth
1. Wrth apelio, rhaid i’r myfyrwyr nodi’n glir yn erbyn beth y maent yn apelio, a pha elfen (e.e. goruchwyliaeth, ymchwil, viva) yr effeithiwyd arni, a rhaid iddynt ddangos yn glir effaith eu hamgylchiadau ar eu perfformiad yn yr elfen honno, ar ffurf eglurhad a thystiolaeth briodol.
2. At ddibenion y Weithdrefn hon, rhaid i dystiolaeth a gyflwynir i ategu apêl y myfyriwr fod yn annibynnol neu’n gadarnhaol, ac yn ddigonol i bennu unrhyw honiadau neu faterion sy’n codi. Nid yw datganiad personol o’r hyn y mae’r myfyriwr yn credu sy’n wir yn cyfrif fel tystiolaeth. Rhaid i fyfyrwyr hefyd nodi’n glir yr hyn y maent yn dymuno’i gyflawni drwy’r apêl. Os nad yw’r dystiolaeth yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, bydd yn rhaid cael sicrhau cyfieithiad a gwiriad annibynnol, a hynny ar gost y myfyriwr.
3. RHAID cyflwyno dogfennaeth lawn gyda’r ffurflen apelio i gadarnhau unrhyw amgylchiadau eithriadol neu honiadau. Rhaid llofnodi a nodi’r dyddiad ar y dystiolaeth; rhaid iddi ddangos sut yr effeithiodd yr amgylchiadau ar berfformiad, a rhaid iddi fod yn berthnasol i’r darn asesu yr effeithiwyd arno.
4. Bydd y myfyriwr yn gyfrifol am ganfod a chyflwyno tystiolaeth briodol gyda’r apêl. Ni fydd y Brifysgol yn gwneud hyn ar ran y myfyriwr. Ni fydd y Brifysgol yn gweithredu yn achos unrhyw apêl sy’n nodi y gellir gofyn am wybodaeth bellach ar ran y myfyriwr.
5. Os effeithiwyd ar berfformiad academaidd myfyriwr gan amgylchiadau sy’n ymwneud â thrydydd parti e.e. ffrind, rhiant, brawd/chwaer, dylai’r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol annibynnol sy’n esbonio’r effaith a gafodd hyn arno/arni. Os yw myfyriwr yn dymuno cyflwyno tystiolaeth sy’n ymwneud â thrydydd parti rhaid darparu caniatâd ysgrifenedig gan y trydydd parti.
6. Rhaid cyflwyno pob cais i apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi yn uniongyrchol i caostaff@aber.ac.uk. Os cyflwynir y ffurflen yn electronig, fel rheol o gyfrif e-bost Prifysgol y myfyriwr, ystyrir ei bod yn ddogfen ‘wedi’i llofnodi’ yn absenoldeb copi caled gwreiddiol. Os yw cyfrif e-bost Prifysgol y myfyriwr yn anweithredol am unrhyw reswm, bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau o gyfeiriad e-bost arall y myfyriwr neu drwy’r post. Bydd myfyrwyr yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig bod y ffurflen gais wedi ei derbyn o fewn 5 diwrnod gwaith wedi derbyn yr apêl gyflawn (yn cynnwys tystiolaeth briodol).
7. Cysylltir â’r myfyriwr drwy e-bost ynghylch canlyniad eu hapêl. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gywir yn y cofnod myfyriwr ar-lein. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb am lythyrau nad ydynt yn cyrraedd y myfyrwyr am nad yw’r cofnodion wedi’u diweddaru. Cysylltir yn bennaf drwy ebost, ond bydd llythyrau canlyniad yn rhan Apêl Academaidd y weithdrefn hefyd yn cael eu hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflenni a gyflwynwyd, pan fo angen.
-
12.2.6 Ystyried yr apêl gan y Panel Apêl Academaidd
1. Ar ôl i apêl ddod i law sy’n seiliedig ar un neu ragor o’r rhesymau dilys a nodir uchod ac a gyflwynwyd ar ffurflen apelio wedi’i llenwi’n llawn, gyda thystiolaeth ategol, bydd y Dirprwy Gofrestrydd sy’n gyfrifol am apeliadau academaidd (neu ei enwebai) yn gofyn i’r adran academaidd berthnasol gadarnhau’r ffeithiau y mae’r apêl yn cyfeirio atynt. Bydd yn sicrhau eu bod yn cael eu cadarnhau mewn da bryd i’w cyflwyno i’r Panel Apêl Academaidd.
2. Bydd pob Panel Apêl Academaidd yn cynnwys o leiaf bedwar aelod a ddewisir gan Ysgrifennydd y Panel.
3. Aelodau’r Pwyllgor a fydd yn ystyried apeliadau graddau ymchwil uwchraddedig fydd:
(i) Dirprwy Is-Ganghellor fel Cadeirydd
(ii) Un Pennaeth Adran Academaidd (neu swyddogaeth gyfatebol)
(iii) Pennaeth neu Ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
(iv) Un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.
4. Ni chaiff aelodau o’r panel sydd â chysylltiad uniongyrchol ag astudiaethau’r myfyriwr wahoddiad i gymryd rhan, a hynny er mwyn sicrhau na fydd gwrthdaro buddiannau. Rhaid i aelodau’r Panel ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau.
5. Ni fydd cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn gysylltiedig eisoes â chynghori myfyrwyr ar eu hapêl/hapeliadau. Bydd Undeb y Myfyrwyr wedi sicrhau bod y cynghorydd/cynghorwyr a’r cynrychiolydd ar y Panel yn bobl wahanol, er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau.
6. Y Dirprwy Cofrestrydd sy’n gyfrifol am Apeliadau Academaidd (neu ei enwebai) fydd Ysgrifennydd y Panel Apêl Academaidd.
7. Bydd gan y Panel Apêl Academaidd rym i wneud y naill neu’r llall o’r penderfyniadau hyn:
(i) Cadarnhau’r apêl a phenderfynu pa gamau i’w cymryd
(ii) Gwrthod yr apêl; dim gweithredu pellach.
8. Os cadarnheir apêl yn dilyn penderfyniad Bwrdd Arholi, rhaid i’r Panel Apelio gymryd un o’r camau gweithredu hyn:
(i) Argymell i’r Bwrdd Arholi y dylai’r Bwrdd gwreiddiol, neu Fwrdd ac iddo gyfansoddiad priodol, ailystyried penderfyniad y Bwrdd blaenorol
(ii) Argymell y dylai Bwrdd Arholi cwbl newydd ailystyried penderfyniad y Bwrdd blaenorol
(iii) Rhoi caniatâd i’r ymgeisydd i ailysgrifennu’r traethawd hir a’i ailgyflwyno i’w ailarholi gan y Bwrdd gwreiddiol, neu Fwrdd ac iddo gyfansoddiad priodol, o fewn amser penodedig
(iv) Rhoi caniatâd i’r ymgeisydd i ailysgrifennu’r traethawd hir a’i ailgyflwyno i’w ailarholi gan Fwrdd Arholi cwbl newydd o fewn amser penodedig.
9. Os yw apêl yn cael ei chadarnhau (neu ei chadarnhau’n rhannol) yn dilyn penderfyniad a wnaed o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd, gall y Panel Apêl ddilyn un o’r camau canlynol (nid yw’r rhestr yn holl-gynhwysfawr):
(i) Rhoi caniatâd i’r myfyriwr barhau gyda’i astudiaethau
(ii) Rhoi caniatâd i’r myfyriwr barhau gyda’i astudiaethau, ond gydag amodau; er enghraifft, newid dull astudio, newid cynllun gradd, tynnu’n ôl dros dro, etc.
10. Gellir cyflymu’r achos drwy gyfeirio’r achos ar gyfer camau gweithredol gan Gadeirydd y Panel Apêl Academaidd. Yn yr achos hwn, yr unig benderfyniad a fydd ar gael i’r Cadeirydd fydd cadarnhau’r apêl (cadarnhau’n rhannol os nad yw’r seiliau eraill yn gymwys). Ni chaiff apêl ei gwrthod drwy gamau gweithredol y Cadeirydd.
11. Bydd gan fyfyrwyr y mae eu hapêl yn bodloni’r meini prawf i’w hystyried gan y Panel Apêl Academaidd hawl i ymddangos gerbron y Panel a chânt ddod â rhywun yn gwmni iddynt, er enghraifft cyd-fyfyriwr neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr.
12. Mae gweithdrefnau apeliadau academaidd yn fater mewnol ac nid oes ganddynt yr graddau o ffurfioldeb â llys barn. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn angenrheidiol nac yn briodol i fyfyriwr neu'r darparwr gael ei gynrychioli'n gyfreithiol mewn panel neu gyfarfod cwynion.
13. Bydd yr holl ddogfennau a gyflwynir fel rhan o'r apêl yn cael eu darparu i aelodau'r Panel a'r myfyriwr, cyn y gwrandawiad, i'w hystyried.
14. Cynhelir gwrandawiad yr apêl fel a ganlyn:
(i) Pan fo’r myfyriwr wedi dweud y bydd yn bresennol yn y gwrandawiad, ni chaiff yr achos ei drafod ymhlith aelodau’r panel cyn i’r apelydd ymddangos. Bydd Cadeirydd y Panel yn gofyn i’r myfyriwr ac unrhyw un arall sy’n bresennol ddweud pwy ydynt a bydd yn penderfynu a yw’r unigolyn a ddaeth yn gwmni i’r myfyriwr yn bodloni’r amodau a nodwyd yn y Gweithdrefnau Apêl Academaidd perthnasol. Gofynnir i unrhyw un sy’n dod gyda’r apelydd, ond nad yw’n bodloni’r amodau, i adael.
(ii) Yna bydd Cadeirydd y Panel yn:
1. Cyflwyno aelodau’r Panel a’r bobl eraill sy’n bresennol
2. Egluro’r rhesymau dilys ac annilys dros gynnal yr apêl academaidd
3. Nodi’r penderfyniadau posib sydd ar gael i’r Panel
4. Egluro’r hyn a fyddai’n digwydd pe câi’r apêl ei gadarnhau
5. Egluro’r hawl dilynol i wneud cais am Adolygiad Terfynol os yw’r myfyriwr yn parhau i fod yn anfodlon â phenderfyniad y Panel Apêl Academaidd.15. Bydd y Cadeirydd yn gwahodd y myfyriwr i gyflwyno’r achos, a chrynhoi’r prif bwyntiau fel bod pawb sy’n bresennol yn deall ar ba sail y cyflwynir yr achos.
16. Ar ôl i’r myfyriwr orffen y cyflwyniad, caiff aelodau’r Panel ofyn cwestiynau ac archwilio meysydd sydd o ddiddordeb neu sy’n peri pryder iddynt. Pan fydd pob aelod o’r Panel yn fodlon bod pob cwestiwn wedi’i ateb, gwahoddir y myfyriwr i ychwanegu unrhyw bwyntiau eraill y mae am dynnu sylw’r Panel atynt, a gwahoddir y sawl sydd wedi dod yn gwmni i’r myfyriwr i siarad i gefnogi’r achos. Yna bydd y Panel yn cyfweld unrhyw bartïon eraill sy’n bresennol yn y gwrandawiad. Bydd y myfyriwr yn aros ac fe’u gwahoddir i ymateb i’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan unrhyw un o’r partïon sy’n bresennol ac ychwanegu unrhyw bwyntiau eraill.
17. Rhaid i’r myfyriwr fod wedi cyflwyno’r holl dystiolaeth ategol berthnasol gyda’r ffurflen apelio cyn gwrandawiad y Panel.
18. Mae gan y Cadeirydd ddisgresiwn hefyd i ddatgan bod unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth na chafodd ei chyflwyno neu ei hadolygu gan yr holl bartïon perthnasol cyn y gwrandawiad yn dderbyniol. Er tegwch, mae’n bwysig bod pob un o’r partïon yn sicrhau bod y dystiolaeth yn cael ei chyflwyno cyn y gwrandawiad, er mwyn rhoi cyfle i bawb adolygu’r dystiolaeth ac ymateb yn briodol. Dim ond mewn achosion eithriadol lle mae’r Cadeirydd yn fodlon, a phawb arall yn rhoi caniatâd, y cyflwynir tystiolaeth newydd i’r gwrandawiad ei hystyried.
19. Ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben, rhoddir gwybod i’r myfyriwr ynglŷn â phryd a sut y caiff wybod am benderfyniad y Panel. Yna bydd yr holl bartïon, ac eithrio aelodau’r Panel a’r Ysgrifennydd, yn gadael yr ystafell. Bydd y Panel yn ystyried y dystiolaeth sydd ger ei fron ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn cynghori’r Panel ar yr opsiynau sydd ar gael iddo, os oes angen.
20. Bydd yr Ysgrifennydd yn hysbysu’r myfyriwr yn ysgrifenedig drwy e-bost, ymhen pum diwrnod gwaith ynghylch penderfyniad yr apêl.
21. Dylid datrys pob apêl academaidd ymhen 6 wythnos waith. Os yw’n debygol y bydd yr ymateb yn hwyr yn dod, caiff y myfyriwr wybod pam y mae hynny, a chaiff wybod beth yw hynt yr ymateb.
-
12.2.7 Adolygiad Terfynol
Os bydd myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad yr apêl academaidd, caiff ofyn am Adolygiad Terfynol. Cyfeirir myfyrwyr at y weithdrefn hon pan y’u hysbysir ynghylch canlyniad ffurfiol eu hapêl, a bydd ganddynt 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr/e-bost canlyniad apêl i gyflwyno cais am Adolygiad Terfynol. Am ragor o fanylion, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/fr/
-
12.2.8 Monitro Apeliadau Academaidd
Mae’n bwysig monitro nifer, lefel ac ystod apeliadau academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn monitro pob apêl academaidd a gyflwynir ac yn adrodd i’r Bwrdd Academaidd. Cedwir unrhyw fanylion personol yn gyfrinachol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd fydd monitro’r data a gwneud argymhellion priodol i gyrff neu staff perthnasol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd hefyd fydd adolygu’r Weithdrefn Apeliadau Academaidd a’i heffeithiolrwydd, ac argymell newidiadau, lle bo hynny’n briodol.
Diweddarwyd: Medi 2021
12.3 Y Weithdrefn Apelio Doethuriaethau Hyn1. Gall ymgeiswyr am radd DLitt, DSc, DSc Econ neu LLD apelio o dan y weithdrefn hon yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Mewnol i beidio ag argymell dyfarnu'r radd y cyflwynodd yr ymgeisydd ei (g)weithiau ar ei chyfer.
2. Dim ond apeliadau ar un o'r seiliau canlynol neu ar y ddwy ohonynt y mae'r Brifysgol yn fodlon eu hystyried:
- Diffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal y weithdrefn asesu, gan gynnwys cyfweliad os cynhaliwyd un, sydd o'r cyfryw natur fel ag y bônt yn peri amheuaeth resymol a fyddai'r Pwyllgor Mewnol wedi gwneud yr un penderfyniad pe na baent wedi digwydd.
- Tystiolaeth o ragfarn neu dueddfryd neu o asesu annigonol ar ran un neu fwy o aelodau'r Pwyllgor Mewnol neu'r canolwyr.
Ni fydd apeliadau sy'n codi amheuaeth ynghylch crebwyll academaidd y Pwyllgor Mewnol neu'r canolwyr yn dderbyniadwy.
3. Rhaid anfon unrhyw apêl, yn llawn ac yn ysgrifenedig, at y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd (cyf: Apeliadau) a rhaid iddi ei gyrraedd/chyrraedd ddim mwy na dau fis ar ôl i'r hysbysiad o'r canlyniad gael ei anfon at yr ymgeisydd. Ni fernir bod hysbysiad syml o apêl a roddir yn ysgrifenedig gan ymgeisydd o fewn y terfyn amser uchod yn gyfystyr ag apêl briodol ac ni chaiff ei dderbyn. Cydnabyddir bod cais am apêl wedi dod i law o fewn tri diwrnod gwaith fel rheol, a rhoddir adroddiad cynnydd ysgrifenedig i'r apelydd o fewn 25 diwrnod gwaith.
4. Os yw'r Is-Ganghellor neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i* yn penderfynu, wedi archwilio cyflwyniad yr ymgeisydd ac unrhyw dystiolaeth arall ysgrifenedig y gall fod arno/arni ei hangen, bod achos i'w ystyried, bydd ef/hi yn ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau a fydd yn cynnwys tri pherson wedi'u dewis o Banel Sefydlog fel a ganlyn:
- 3 aelod lleyg wedi'u penodi gan y Cyngor
- 4 cynrychiolydd o bob Cyfadran
Bydd y Bwrdd Apeliadau yn cael ei gadeirio gan aelod lleyg a dewisir ei aelodau academaidd o Gyfadrannau ac/neu adrannau nad ydynt yn gysylltiedig â'r apêl sydd dan ystyriaeth. Bydd hyn fel arfer o fewn tri mis i dderbyn y cais am apêl.
5. Os bydd yr Is-Ganghellor, neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i*, yn penderfynu nad oes achos i'w ystyried, effaith hyn fydd gwrthod yr apêl. Fel rheol, bydd hyn o fewn tri mis i dderbyn y cais am apêl.
6. Pan fo achos yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau am wrandawiad, bydd y Bwrdd yn nodi seiliau'r apêl a bydd yn seilio ei benderfyniad ar dystiolaeth cyflwyniad yr apelydd, adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi gwreiddiol ac unrhyw dystiolaeth bellach y mae'n credu ei bod yn berthnasol.
7. Bydd y Bwrdd Apeliadau yn cynnig gwrandawiad personol i'r apelydd, a chaiff yr apelydd wybod beth yw amser a dyddiad y cyfryw wrandawiad. Caiff aelod o staff academaidd, lles neu gynghori y Brifysgol fod yn bresennol gyda'r apelydd, ond ni chaiff ei gynrychioli/chynrychioli.
8. Bydd gan y Cadeirydd, mewn cyfarfod o'r Bwrdd Apeliadau, ddisgresiwn i ddatgan yn annerbyniadwy unrhyw fater a gyflwynir gan yr apelydd, neu gan unrhyw unigolyn sy'n bresennol gyda'r apelydd, os bydd yn barnu nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â chynnwys yr apêl a gyflwynwyd yn ysgrifenedig yn flaenorol o fewn y terfyn amser a bennwyd.
9. Rhoddir pwer i'r Bwrdd Apeliadau gymryd y naill benderfyniad isod neu'r llall:
- y dylid gwrthod yr apêl ac na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach
- y dylid cadarnhau'r apêl.
10. Os caiff apêl ei chadarnhau, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd ddewis un o'r camau gweithredu canlynol:
- Argymell i'r Pwyllgor Mewnol y dylai'r Pwyllgor ailystyried ei benderfyniad, am y rhesymau a nodir
- Argymell y dylai Pwyllgor Mewnol newydd ailystyried penderfyniad y Pwyllgor blaenorol.
11. Pan ymgymerir ag ailasesiad o ganlyniad i naill ai baragraff 10.1 neu baragraff 10.2 uchod, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd bennu y dylid penodi dau ganolwr newydd. Ni chaiff unrhyw wybodaeth am yr asesiad blaenorol ei rhoi i'r canolwyr newydd heblaw'r ffaith eu bod yn cynnal ailasesiad o gyflwyniad yr ymgeisydd yn sgil apêl.
12. Bydd penderfyniad y Bwrdd Apeliadau yn derfynol.
13. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn rhoi gwybod i'r apelydd ynghylch penderfyniad y Bwrdd Apeliadau (a chanlyniad unrhyw ailasesiad, os yw'n berthnasol) cyn gynted â phosibl.
14. Yn achos 10 neu 11 uchod, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn trefnu rhoi penderfyniad ac argymhellion y Bwrdd Apeliadau ar waith. Caiff penderfyniad y Pwyllgor Mewnol p'un ai a ddylid gwneud unrhyw newid i unrhyw benderfyniad blaenorol ai peidio ei adrodd yn ôl i'r Bwrdd Apeliadau, a bydd yn derfynol. Pan ddaw'r penderfyniad hwn i law, gall y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i, mewn achosion eithriadol yn unig, gyfeirio'r achos at Gadeirydd y Bwrdd Apeliadau am adolygiad o'r gweithdrefnau a ddilynwyd. Os daw'n hysbys bod afreoleidd-dra gweithdrefnol difrifol wedi digwydd, gellir cyfeirio'r achos yn ôl at y Pwyllgor Mewnol i'w ailystyried.
15. Os bernir, o ganlyniad i apêl lwyddiannus, fod ymgeisydd wedi ymgymhwyso am radd, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn trefnu i'r ymgeisydd gael ei (d)derbyn i'r radd.
16. Gall y Bwrdd Apeliadau wneud argymhellion i'w hystyried gan y Pwyllgor Materion Academaidd neu'r Senedd fel y bo'n briodol ynghylch unrhyw fater sy'n codi yn sgil ystyried apeliadau.
17. Yn unol â Deddf Addysg Uwch 2004, mae'r Brifysgol yn arddel y cynllun annibynnol ar gyfer adolygu cwynion gan fyfyrwyr. Os yw pob gweithdrefn fewnol wedi'i dihysbyddu, gall ymgeisydd gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, ar yr amod bod y gŵyn yn gymwys yn unol â'i rheolau.
Os bydd ymgeisydd yn penderfynu cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, rhaid i'w ffurflen ddod i law'r Swyddfa honno o fewn tri mis o ddyddiad y llythyr Cwblhau Gweithdrefnau.
Gellir lawrlwytho taflen Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, Rhagarweiniad i SDA ar gyfer Myfyrwyr, yma ac mae dolen i Ffurflen Gwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gael ar dudalen 11. Fel arall, gellir cysylltu â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol drwy'r dulliau canlynol:
Dros y ffôn: 0118 959 9813
E-bost: enquiries@oiahe.org.uk
Drwy'r post: The Office for the Independent Adjudicator of Higher Education, Second Floor, Abbey Wharf, 57-75 Kings Road, Reading, RG1 3AB
Mae cyfarwyddiadau ynglŷn â chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol a Ffurflen Gwynion y Swyddfa i'w gweld hefyd ar eu gwefan. Efallai y byddai'r ymgeisydd hefyd yn dymuno gofyn i Undeb y Myfyrwyr am gyngor ynglŷn â chyflwyno cwyn i'r Swyddfa.
Fel arfer, nid yw Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn ymdrin ag achosion nad ydynt wedi bod trwy weithdrefnau mewnol y Brifysgol.
*Gall yr Is-Ganghellor enwebu Swyddog o'r Brifysgol i weithredu ar ei rhan.
12.4 Cwynion neu apeliadau academaidd gwamal, blinderus neu faleisus1. Ni fydd myfyrwyr yn dioddef unrhyw anfantais na gwrthgyhuddiad o ganlyniad i wneud cwyn neu apêl academaidd yn ddidwyll. Dim ond os bernir bod cwyn neu apêl academaidd wedi'i gwneud yn wamal (h.y. heb unrhyw ddiben na gwerth difrifol), yn flinderus (h.y. mae'r apêl yn peri gofid neu'n annifyr) neu’n faleisus (h.y. yr awydd i achosi niwed neu ddioddefaint), y gallai materion disgyblu godi yn gysylltiedig â'r myfyriwr. (Gweler Gweithdrefn Ddisgyblu Prifysgol Aberystwyth).
2. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ymdrin â phob cwyn ac apêl academaidd yn dryloyw ac yn deg ac yn unol â'i gweithdrefnau cyhoeddedig. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ystyried cwyn neu apêl academaidd yn wamal, yn flinderus neu'n faleisus am y rhesymau isod, er nad yw'r rhestr hon yn drwyadl:
(i) Cwynion neu apeliadau academaidd sy'n obsesiynol, yn aflonyddu neu'n ailadroddus
(ii) Mynnu mynd ar drywydd cwynion neu apeliadau academaidd nad ydynt yn deilwng a/neu ganlyniadau afrealistig, afresymol
(iii) Mynnu mynd ar drywydd cwynion neu apeliadau academaidd teilwng mewn modd afresymol
(iv) Cwynion neu apeliadau academaidd sydd wedi'u cynllunio i achosi aflonyddwch neu annifyrrwch
(v) Nad oes ganddynt unrhyw ddiben na gwerth difrifol.
3. Os credir bod achos i'w ymchwilio, dylai'r adran berthnasol gyflwyno adroddiad i caostaff@aber.ac.uk. Bydd ymchwilydd annibynnol yn cael ei benodi gan y Gofrestrfa Academaidd a fydd yn penderfynu a yw cwyn neu apêl academaidd yn flinderus ai peidio a bydd yn ystyried holl amgylchiadau'r achos wrth ddod i'w benderfyniad. Bydd yr ymchwilydd annibynnol yn ystyried cynnwys y gŵyn neu'r apêl academaidd ac ymddygiad y myfyriwr mewn perthynas â'r gŵyn neu'r apêl academaidd cyn dod i benderfyniad.
4. Gall myfyriwr y credir eu bod wedi cyflwyno cwyn neu apêl academaidd wamal, blinderus neu faleisus fod yn ddarostyngedig i Weithdrefn Ddisgyblu'r Brifysgol.
5. Gall myfyrwyr y mae eu rhaglen astudio yn arwain at gofrestriad proffesiynol fod yn ddarostyngedig i'r Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer.
6. Gall myfyrwyr y mae eu hymddygiad yn destun pryder a lle mae'r Brifysgol o'r farn y gallai fod problem sylfaenol fod yn ddarostyngedig i'r Weithdrefn Cymorth i Astudio.
7. Os gwneir penderfyniad gan yr ymchwilydd annibynnol bod cwyn neu apêl academaidd myfyriwr yn flinderus, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn ysgrifennu at y myfyriwr yn esbonio nad ydynt bellach yn barod i ymgysylltu â'r myfyriwr mewn perthynas â'r gŵyn neu’r apêl academaidd blinderus a bydd y gŵyn neu'r apêl academaidd yn cael ei gwrthod. Bydd y myfyriwr yn cael esboniad ysgrifenedig llawn am y penderfyniad.
8. Os yw myfyriwr yn dymuno herio'r penderfyniad, dylent gyflwyno cais am Adolygiad Terfynol i'r Swyddfa Cwynion ac Apeliadau caostaff@aber.ac.uk. Bydd y cais yn cael ei ystyried gan Ddirprwy Is-Ganghellor neu ei enwebai.
9. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor neu enwebai yn adolygu gwybodaeth yr achos, gan gynnwys unrhyw sylwadau y mae'r myfyriwr wedi'u gwneud, a bydd yn penderfynu a fydd yr Adolygiad Terfynol yn cael ei gadarnhau neu ei wrthod. Os caiff yr Adolygiad Terfynol ei gadarnhau, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn hysbysu bod cwyn neu apêl academaidd y myfyriwr yn cael ei hadolygu yn unol â gweithdrefnau cyhoeddedig y Brifysgol.
10. Mae penderfyniad y Dirprwy Is-Ganghellor neu'r enwebai o dan weithdrefn yr Adolygiad Terfynol yn derfynol a bydd y myfyriwr yn cael gwybod yn ysgrifenedig, gan y Gofrestrfa Academaidd, am y penderfyniad. Bydd Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau yn cael ei anfon at y myfyriwr, ar gais.
11. Os bydd myfyriwr yn parhau i fod yn anfodlon â phenderfyniad terfynol y Brifysgol, gallant gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ym maes Addysg Uwch.
Cyfyngiadau
12. Gall y Brifysgol gyfyngu ar gyswllt wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost ac ati neu drwy unrhyw gyfuniad o'r rhain. Bydd y Brifysgol yn ceisio cynnal o leiaf un math o gyswllt ag achwynydd (gwamal, blinderus neu faleisus).
13. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, gan roi gwybod iddynt na fydd unrhyw gyswllt uniongyrchol rhyngddynt â'r Brifysgol. Gellir cynnal cyfathrebu pellach rhwng y Brifysgol a chynrychiolydd trydydd parti ar gyfer yr unigolyn dan sylw.
14. Ni fydd y Brifysgol yn ymdrin â chyfathrebu sy'n sarhaus, nac yn cynnwys honiadau di-sail. Os derbynnir cyfathrebiadau o'r fath, bydd y Brifysgol yn cynghori os bydd yr iaith yn sarhaus, yn ddiangen neu'n ddi-fudd. Bydd y Brifysgol yn gofyn i'r unigolyn dan sylw roi'r gorau i ddefnyddio iaith o'r fath. Byddant hefyd yn cael gwybod na fydd y Brifysgol yn ymateb i'w cyfathrebiadau os nad yw eu defnydd o iaith dramgwyddus neu gyhuddiadau maleisus ac ati yn dod i ben. Efallai y bydd y Brifysgol yn mynnu bod cyfathrebu yn y dyfodol yn digwydd drwy drydydd parti (gweler uchod).
15. Gall staff y Brifysgol ddod â galwadau ffôn i ben neu adael cyfarfod wyneb yn wyneb lle maent o'r farn bod iaith neu ymddygiad yr achwynydd yn ymosodol, yn ddifrïol neu'n sarhaus. Mae gan yr aelod o staff Prifysgol hwnnw yr hawl i wneud y penderfyniad hwnnw. Dylent gynghori'r unigolyn dan sylw bod eu hymddygiad yn annerbyniol, a rhoi terfyn ar y rhyngweithio os nad yw'r ymddygiad hwnnw'n dod i ben ar unwaith.
16. Pan fydd achwynydd yn e-bostio, yn ffonio, yn ymweld â'r Brifysgol dro ar ôl tro, yn codi materion mynych, neu'n anfon nifer fawr o ddogfennau lle nad yw eu perthnasedd yn glir, yna gall y Brifysgol benderfynu:
(i) Cyfyngu’r cyswllt i alwadau ffôn gan yr achwynydd ar adegau penodol ar ddiwrnodau penodol
(ii) Cyfyngu’r cyswllt i un aelod o staff y Brifysgol a enwir a fydd yn ymdrin â galwadau neu ohebiaeth gan yr achwynydd yn y dyfodol
(iii) Trefnu i weld yr achwynydd drwy apwyntiad yn unig
(iv) Cyfyngu’r cyswllt gan yr achwynydd i ysgrifennu yn unig, neu gan drydydd parti sy'n cynrychioli'r achwynydd
(v) Dychwelyd unrhyw ddogfennau at yr achwynydd neu, mewn achosion eithafol, cynghori'r achwynydd y bydd dogfennau amherthnasol pellach yn cael eu dinistrio
(vi) Atal mynediad i’r campws ac adeiladau'r brifysgol
neu
(vii) Cymryd unrhyw gamau eraill yr ystyrir eu bod yn briodol.
17. Mewn achosion eithriadol, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wrthod ystyried cwyn neu apêl academaidd neu gwynion neu apeliadau academaidd gan unigolyn yn y dyfodol. Bydd y Brifysgol yn ystyried yr effaith ar yr unigolyn a hefyd a fyddai budd ehangach i'r cyhoedd wrth ystyried y gŵyn ymhellach.
18. Dilynir y broses ganlynol i osod cyfyngiadau:
(i) Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod y gŵyn yn cael ei hymchwilio'n briodol, neu wedi cael ei hymchwilio'n briodol yn unol â'r broses gwyno neu apêl academaidd, os yw'n briodol;
(ii) Oni bai nad yw'n briodol gwneud hynny, caiff y Brifysgol ysgrifennu at achwynydd yn gyntaf i roi rhybudd rhesymol bod eu hymddygiad yn peri pryder. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r achwynydd ystyried ac addasu ei ymddygiad cyn i unrhyw gyfyngiadau sydd ar gael drwy'r Polisi hwn gael eu cymhwyso.
19. Bydd y Cofrestrydd Academaidd neu'r enwebai yn darparu asesiad i'r Dirprwy Is-Ganghellor ynghylch a yw gweithredoedd/ymddygiad achwynydd yn sarhaus, yn barhaus neu'n flinderus, neu fel arall o fewn cwmpas y Polisi hwn.
20. Bydd Dirprwy Is-Ganghellor neu enwebai yn penderfynu pa gyfyngiadau (os o gwbl) sydd i'w gosod.
21. Bydd y Brifysgol yn cadarnhau'n ysgrifenedig gyda'r achwynydd:
(i) Pam mae'r Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad
(ii) Pa gam(au) sy'n cael eu cymryd
(iii) Hyd y cam(au) hwnnw/hynny
(iv) Proses adolygu'r penderfyniad hwn
a
(v) Hawl yr achwynydd i gysylltu â'r OIA.
22. Gall achwynwyr ofyn i'r Brifysgol adolygu'r penderfyniad i osod cyfyngiadau, yn dilyn penderfyniad bod ymddygiad achwynydd yn annerbyniol. Mae'r seiliau dros adolygu wedi'u cyfyngu i:
(i) Wrth ddod i ddyfarniad bod ymddygiad achwynydd yn annerbyniol, mae'r Brifysgol wedi gwneud camgymeriad sylweddol mewn gwirionedd
neu
(ii) Daw tystiolaeth sylweddol, newydd i'r amlwg. Fel arfer, bydd Dirprwy Is-Ganghellor neu enwebai yn cynnal adolygiad. Yn ystod yr adolygiad, mae gan y Dirprwy Is-Ganghellor neu ei enwebai y disgresiwn i ddileu neu amrywio'r cyfyngiadau yn ôl eu barn hwy. Byddant yn gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael iddynt. Yn dilyn adolygiad, cynghorir yr achwynydd yn ysgrifenedig o'r canlyniad h.y. bod naill ai'r cyfyngiadau a gymhwysir gan y Dirprwy Is-Ganghellor neu'r enwebai yn dal i fod yn gymwys neu fod penderfyniad i ddilyn camau gweithredu gwahanol wedi'i wneud.
Adolygwyd y Bennod: Medi 2021
12.5 Ffurflenni Apêl a Siartiau Llif- Y Weithdref Apelio - siart llif
- Ffurflen Gais Apêl Academaidd Israddedigion Ac Uwchraddedigion A Ddysgir
- Ffurflen gais Apel Academaidd Uwchraddedigion Ymchwil
Am canllawiau a ffurflenni yn ymwneud a'r Adolygiad Terfynol cliciwch: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/fr/#d.cy.211927l
-