Gwybodaeth Bwysig i Fyfyrwyr
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Gwybodaeth Bwysig i Fyfyrwyr
Mae Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu Siarter y Myfyrwyr sy’n nodi’n glir yr hyn y gall y Brifysgol, UMAber a’r myfyrwyr ddisgwyl oddi wrth ei gilydd. Mae copi o’r Siarter hon ar gael ar: https://www.aber.ac.uk/cy/student/charter/
-
1. Eiddo
1.1 Dylai myfyrwyr ofalu am eu heiddo gan nad yw’r Brifysgol nac Urdd y Myfyrwyr yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled nac am niwed i eiddo’r myfyrwyr ar dir y Brifysgol neu Urdd y Myfyrwyr.
1.2 Caiff eiddo a gollir neu a ganfyddir yn adeiladau ac ar eiddo’r Brifysgol yn cael eu trosglwyddo i Dîm Diogelwch y Campws, yn Nerbynfa’r Campws ger y fynedfa y Gampws Penglais. Gellir cysylltu â’r Tîm Diogelwch ar 01970 622649 neu sitesecurity@aber.ac.uk. Caiff eitemau eu cadw am gyfnod o dri mis.
-
2. Preswylfeydd
Dylai’r preswylwyr sicrhau eu bod yn gwybod ac yn cadw at yr amodau sy’n berthnasol i’w preswylfa benodol eu hunain. Mae Telerau ac Amodau’r Cytundebau Trwydded Llety a’r Llawlyfr Preswyl sy’n ffurfio rhan o’r cytundeb hwnnw, ar gael yn https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/current-students/living-residences/handbook/
Ceir cyngor cyffredinol am fyw yn y preswylfeydd yn https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/current-students/living-residences/
-
3. Eiddo Deallusol
Dylai myfyrwyr nodi mai hwy gan amlaf sy'n berchen ar eiddo deallusol y maent yn ei greu'n annibynnol ar unrhyw un arall yn ystod eu hastudiaethau a'u hymchwil, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ym Mholisi Eiddo Deallusol Cyffredin Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Mae'r Polisi hwn hefyd yn egluro safbwynt y Brifysgol mewn perthynas â chreu, perchnogaeth, diogelu a manteisio ar Eiddo Deallusol ynghyd â threfniadau ar gyfer staff a myfyrwyr a'u hymrwymiadau. Mae’r polisi i’w weld https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/all/policy-and-procedure/au-and-bu/intellectual-property/
-
4. Undeb y Myfyrwyr
Ceir manylion llawn ynghylch manteisio aelodaeth o Undeb y Myfyrwyr ar wefan Undeb y Myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/student/student-union/
Mae gan Bwyllgor Disgyblaeth y Myfyrwyr yr awdurdod i ddelio â throseddau a ddigwyddodd yn adeiladau’r Urdd neu mewn adeiladau wedi eu llogi gan yr Urdd, a phob trosedd a ddiffinnir gan gyfansoddiad Urdd y Myfyrwyr. Gellir gweld yr is-ddeddf berthnasol: https://www.umaber.co.uk/
-
5. Materion Iechyd
Er bod Gwasanaethau Lles y Myfyrwyr (Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd) ar gael i roi cyngor a chymorth i fyfyrwyr ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd myfyrwyr, nid yw'r gwasanaeth yn disodli/dyblygu gofal iechyd cenedlaethol. Ceir rhagor o fanylion yma: Iechyd Myfyrwyr : Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd , Prifysgol Aberystwyth.
-
6. Cymorth i Fyfyrwyr
Darperir cymorth mewn sawl ffordd. O ran gwaith academaidd bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol a benodir gan yr Adran. Mewn Neuaddau Preswyl, ceir Tim Bywyd Campws sy’n darparu gwasanaeth cymorth. Dylai preswylwyr sicrhau eu bod yn gwybod sut i fanteisio ar y gwasanaethau cymorth sy’n berthnasol i’w neuadd breswyl benodol nhw.
Yn y Ganolfan Croeso i Fyfyrwyr ceir amrywiaeth o wasanaethau cymorth a darperir cymorth gan Urdd y Myfyrwyr hefyd. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn cynnig cymorth a chyngor fisa, trwy gysylltu â https://www.aber.ac.uk/cy/international/
-
7. Y Swyddfa Llety
Mae gan y Brifysgol Adran Gwasanaethau Campws sy’n cynnig cyngor i’r holl fyfyrwyr ynghylch llety yn y Brifysgol, yn ogystal â llety’r sector preifat, drwy’r Swyddfa Llety.
Cysylltwch â’r swyddfa ar:
Tel: 01970 622984
Ebost: accommodation@aber.ac.uk
-
8. Cyngor Gyrfaoedd
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i holl fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Fe’i lleolir o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd. Mae yno Ymgynghorwyr i roi gwybodaeth a chymorth ynglŷn â phob math o swyddi sydd ar gael yn ogystal â chyrsiau addysgol neu hyfforddiant, gan weithio gyda myfyrwyr i'w cynorthwyo a’u grymuso i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, cymhelliant ac agwedd gadarnhaol a'u helpu i ddeall yr amrywiaeth o sgiliau, profiadau, galluoedd ac arbenigeddau y maent wedi'u meithrin ac i weld sut mae'r rhain yn berthnasol i fyd gwaith. Caiff sesiynau Addysg Gyrfaoedd eu cyflwyno ar draws holl adrannau academaidd y Brifysgol. Mae rhai o'r rhain wedi'u hymgorffori yn y modiwlau craidd ac felly mae presenoldeb yn orfodol. Mae unrhyw gyswllt pellach â'r Gwasanaeth yn wirfoddol ond anogir myfyrwyr yn gryf i ddefnyddio'r cyfleusterau a'r gwasanaethau o flwyddyn gyntaf eu rhaglenni, gan eu bod wedi'u cynllunio'n llwyr er eu lles hwy. Fodd bynnag, gan ystyried yr hawl hwn, myfyrwyr a graddedigion sy'n gyfrifol am eu penderfyniadau gyrfa eu hunain ac am y cyfeiriad ac unrhyw gamau y dewisant eu dilyn. Rhoddir arweiniad gyrfa i fyfyrwyr ar y ddealltwriaeth na fydd y Brifysgol nac unrhyw aelod o'i staff yn atebol am ganlyniadau unrhyw benderfyniadau a wneir gan fyfyrwyr neu raddedigion ar sail gwybodaeth, cyngor neu arweiniad a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
-
9. Llungopïo Deunydd Hawlfraint
9.1 Copïau niferus
Ni chaniateir gwneud copïau niferus o ddeunydd ac eithrio gyda'r cyfyngiadau caeth y cytunwyd arnynt gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Ceir manylion yn y lleoliadau nesaf at y peiriannau llungopïo.
9.2 Copïau Sengl
Gellir gwneud copïau sengl o ddeunydd hawlfraint a gymeradwyir i fyfyrwyr mewn darlithoedd, seminarau neu ddosbarthiadau tiwtorial, ar yr amodau ac yn unol â’r cyfyngiadau a osodwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Gellir hefyd wneud copïau unigol, yn unol â chyfyngiadau, ar yr amod bod y copi i’w ddefnyddio i ddibenion preifat astudio neu ymchwil, nad yw’n ymchwil at ddibenion masnachol, gan yr unigolyn perthnasol.
Gellir cael y manylion am y cyfyngiadau gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth.
Mae’r Brifysgol yn diogelu ei hawl i adennill oddi wrth unrhyw unigolyn y costau llawn sy’n codi o droseddu yn erbyn deddfau hawlfraint.
-
10. Llogi Ystafelloedd
Caiff myfyrwyr logi ystafelloedd y Brifysgol ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau eraill. Bydd manylion sut i wneud hyn ar gael ar wefan y Brifysgol. Wrth ddefnyddio ystafelloedd y Brifysgol mae'r holl fyfyrwyr yn cytuno i ufuddhau i Reolau a Rheoliadau Myfyrwyr, gan dalu sylw penodol i unrhyw gyfyngiadau trwyddedu neu hawlfraint o ran y defnydd o gyfryngau clywedol.
-
11. Post
Dylai myfyrwyr geisio sicrhau bod eu post personol yn cael ei gyfeirio i’w Neuaddau neu eu tai llety. Ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw bost a gyfeirir i’r Brifysgol neu i Undeb y Myfyrwyr.
-
12. Cofrestru Etholiadol
Mae’r Brifysgol yn annog pob myfyriwr i sicrhau eu bod wedi’u cofrestru ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau. Rhaid i fyfyrwyr gofrestru eu hunain ac ni all y Brifysgol wneud hynny ar eu rhan. I hwyluso gwaith y swyddfa Gwasanaethau Etholiadol leol, rhaid i’r Brifysgol (DU) ddarparu rhestr i’r Cyngor Sir o fyfyrwyr a allai fod yn gymwys i bleidleisio, er mwyn gallu cysylltu â nhw ar gyfer diweddaru’r rhestr etholiadol. Gall myfyrwyr gofrestru i bleidleisio drwy ymweld â’r wefan Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK (www.gov.uk).
-
13. Gorymdeithiau
Rhaid cael caniatâd yr Heddlu cyn trefnu gwrthdystiadau torfol neu orymdeithiau ac ati, yn lleol. Cynghorir myfyrwyr i ymgynghori â’r Dirprwy Is-Ganghellor (neu awdurdod penodedig) cyn cysylltu â’r Heddlu drwy e-bostio Swyddfa’r Is-Ganghellor (vice-chancellor@aber.ac.uk).
-
14. Gohirio Taliadau
Mae gan y Dirprwy Is-Ganghellor yr hawl i awdurdodi gohirio talu ffioedd ac unrhyw ddyledion eraill i’r Brifysgol mewn achosion o galedi neu achosion teilwng eraill.
-
15. Anabledd/Gwahaniaethau Dysgu Penodol/Cyflyrau Iechyd (gan gynnwys materion Iechyd Meddwl)
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i alluogi'r holl fyfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn. Ein nod yw sicrhau profiad o'r ansawdd uchaf i bob myfyriwr, a sicrhau bod ein cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy'n cyflawni ein gofynion mynediad. I hwyluso hyn anogwn fyfyrwyr i ddatgelu unrhyw anabledd, gwahaniaeth dysgu penodol neu gyflwr iechyd cronig (gan gynnwys iechyd meddwl) i ni cyn gynted â phosibl. Mae’r Gwasanaeth Hygyrchedd a’r Gwasanaethau Lles Myfyrwyr o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd ar gael i gynnig cyngor am y ddarpariaeth yn y Brifysgol a chydlynu anghenion cymorth. Rydyn ni'n cynnig cymorth o sawl math ac addasiadau gan gynnwys lle bo'n briodol gwasanaethau cymryd nodiadau, llety wedi'i addasu, technoleg cymorth, trefniadau unigol mewn arholiadau.
-
16. Cod Ymarfer Rhyddid Mynegiant
Yn unol ag Adran 43 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986, mae Cyngor y Brifysgol wedi cymeradwyo Cod Ymarfer Rhyddid i Lefaru i gymryd y camau hynny sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau y diogelir rhyddid aelodau, myfyrwyr a staff y sefydliad a 'siaradwyr gwadd' i lefaru. Ceir copi o'r Cod ar y Cod Ymarfer Rhyddid i Lefaru
-
17. Canllawiau i Fyfyrwyr ar Ddefnyddio Safleoedd Rhwydweithio Cymdeithasol
17.1 Cyflwyniad
17.1.1 Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod llawer o fyfyrwyr yn defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, fel Facebook a Twitter, ac mae’n deall bod defnyddio’r cyfryngau hyn yn gallu cyfoethogi bywyd myfyriwr ac annog cyfranogiad mewn rhwydweithiau cymdeithasol a phroffesiynol. Gellir defnyddio technoleg debyg i gefnogi addysgu a dysgu.
17.1.2 Fodd bynnag ceir rhai peryglon yn gysylltiedig â rhwydweithio cymdeithasol y dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Yn benodol mae angen deall bod rhai gweithgareddau’n gallu golygu bod myfyrwyr yn gwrthdaro â rheoliadau’r Brifysgol. Mae’r materion a drafodir yma yn ymrannu'n dri chategori:
(i) diogelwch y rhyngrwyd
(ii) rhyngweithio cyffredinol
(iii) materion yn ymwneud ag enw da.
17.1.3 Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig, uwchraddedig ac eraill sy’n astudio yn y sefydliad ar sail amser llawn neu ran amser. Mae hefyd yn cynnwys myfyrwyr sy’n dod ar gyrsiau byr ac Ysgolion Haf.
17.1.4 Efallai y bydd yn rhaid i’r Brifysgol ymyrryd a chymryd camau dilynol mewn achosion lle mae myfyriwr wedi ymddwyn yn amhriodol at fyfyriwr arall, aelod o staff neu at unigolyn nad oes ganddo gyswllt â’r Brifysgol, yn enwedig mewn achosion lle mae’r myfyriwr yn camddefnyddio cyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol i’r perwyl hwn.
17.1.5 Dylid nodi hefyd y gellid dehongli bod camddefnydd eithafol o wefannau rhwydweithio cymdeithasol yn weithred droseddol a byddai canlyniad gweithgaredd o’r fath yn cynnwys cysylltu â’r heddlu neu awdurdodau eraill.
17.2 Diogelwch y rhyngrwyd
17.2.1 Mae’n bosibl defnyddio rhwydweithio cymdeithasol ac offerynnau cyffelyb yn ddiogel, ond mae hyn yn golygu bod rhaid cael ymwybyddiaeth o’r math o beryglon sy’n bodoli mewn amgylchedd ar-lein. Mae’n bosibl bod yn gwbl ddiogel cyhyd â bod unigolion yn parchu nifer o egwyddorion sylfaenol.
17.2.2 Yn bennaf oll, rhaid i unigolion warchod eu hunaniaeth a gwybodaeth y byddent yn ei hystyried yn bersonol. Gall pobl ddiegwyddor ddefnyddio nifer fawr o ddulliau i geisio caffael hunaniaeth rhywun a defnyddio’r data hwn i gyflawni gweithredoedd sy’n peri embaras, sy’n niweidiol ac o bosibl yn anghyfreithlon. Gallai hyn gynnwys:
(i) defnyddio cyfrif Facebook i sarhau rhywun yn ddienw
(ii) defnyddio gwybodaeth y cyfrif i lawrlwytho cynnwys anghyfreithlon neu amhriodol o’r rhyngrwyd
(iii) gweithgareddau anghyfreithlon, twyllodrus megis esgus bod yn rhywun arall er mwyn cael gwybodaeth bersonol bwysig gan deulu neu ffrindiau
(iv) cael arian yn anghyfreithlon o gyfrif banc neu Paypal yr unigolyn.
17.2.3 Felly dylai myfyrwyr ddilyn y canllawiau hyn:
(i) Peidio byth â datgelu eu henw defnyddiwr na’u cyfrinair i neb
(ii) Peidio byth â rhannu llyfr cyfeiriadau neu fanylion cyswllt â neb ar-lein
(iii) Meddwl yn ofalus cyn datgelu eu cyfeiriad ebost Prifysgol neu bersonol ar-lein
(iv) Gofalu bob amser i gadw gwybodaeth mewngofnodi a chysylltiadau’n breifat wrth eu defnyddio mewn gofod cyhoeddus neu ar gyfrifiadur a ddefnyddir gan bobl eraill
(v) Peidio byth ag ymateb i negeseuon ebost neu negeseuon gan unigolion anhysbys a pheidio byth â datgelu gwybodaeth mewngofnodi mewn ebost, waeth pwy sy’n holi ac am ba reswm
(vi) Peidio byth â derbyn gwahoddiadau i ddefnyddio unrhyw safle neu wasanaeth ar-lein gan ddefnyddio manylion sydd wedi’u creu at ddiben arall.
17.2.4 Yn ogystal â hyn mae’n bwysig gwarchod mathau eraill o wybodaeth bersonol. Dylai myfyrwyr fod yn ofalus iawn wrth roi ffotograffau, clipiau fideo neu destun ar safleoedd a fyddai’n caniatáu iddyn nhw gael eu hadnabod neu gysylltu â nhw yn y gymdeithas ehangach. Hyd yn oed os oes angen defnyddio safle i hyrwyddo band, cymdeithas neu fenter arall, mae’n saffach i beidio â datgelu cyfeiriadau cartref neu gyfeiriadau cyd-fyfyrwyr a ffrindiau. Mae hefyd yn synhwyrol i ymatal rhag hysbysebu dulliau eraill o gysylltu fel rhifau ffôn symudol.
17.3 Rhyngweithio cyffredinol
17.3.1 Dylai myfyrwyr fod yn gwbl ymwybodol o’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio â defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhwydweithio eraill. Dylid cofio bod angen sicrhau parch a chwrteisi. Gall defnyddio iaith ddifrïol neu sarhaus arwain yn hawdd at gyhuddiadau o fwlio ac aflonyddu, os oedd hynny’n fwriadol ai peidio. Yr effaith ar y sawl sy’n ei dderbyn sy’n bwysig, nid bwriad yr anfonwr.
17.3.2 Mae bwlio’n cynnwys unrhyw ymddygiad sydd wedi’i fwriadu i sarhau, dieithrio neu frawychu unigolyn arall a bydd cyhuddiadau o fwlio’n cael eu hymchwilio bob amser a gallent arwain at gamau disgyblu.
17.3.3 Ystyrir mai aflonyddu yw ymddygiad dieisiau a pharhaus sydd wedi’i fwriadu, neu sydd â’r effaith naill ai o darfu ar urddas unigolyn neu o greu amgylchedd bygythiol neu elyniaethus i unigolyn. Mewn perthynas â hyn, a chategorïau eraill o gamwahaniaethu, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod 9 nodwedd a warchodir: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas/partneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw (rhywedd); tueddfryd rhywiol. Yn yr un modd, bydd camau o’r fath yn cael eu hymchwilio a gallent arwain at gamau disgyblu.
Gweler hefyd: Canllawiau ar gyfer Ymdrin ag Aflonyddu neu Fwlio (pwynt 18 isod).
17.3.4 Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol fod bwlio neu aflonyddu yn gallu codi nid yn unig o bostio iaith ymosodol ond hefyd drwy ddefnyddio delweddau neu amlgyfryngau.
17.3.5 Dylai myfyrwyr hefyd nodi’r pwyntiau ehangach canlynol:
17.3.5.1 Diolch i’r cyfle i gael aros yn ddi-enw, gall y rhyngrwyd arwain at safonau ymddygiad sy’n aml yn is na’r hyn a ddisgwylir mewn amgylchedd academaidd. Nid yw’n anarferol i ddod ar draws iaith sy’n ddiystyriol ac ambell waith sy’n hynod o ymosodol ar y rhyngrwyd neu iaith o natur hynod bersonol neu sy’n deillio o stereoteipiau homoffobig, rhywiaethol neu hiliol. Mae defnydd sy’n fwriadol bryfoclyd, esgeulus a hyd yn oed achlysurol o’r math hwn o iaith yn debygol o dramgwyddo ac nid oes lle i hyn mewn unrhyw weithgaredd yn ymwneud â chyrsiau addysgol nac mewn amgylchiadau a allai achosi i fyfyriwr gael ei gysylltu â’r Brifysgol. Caiff unrhyw wyro o’r egwyddor hwn ei drin fel ymddygiad sy’n niweidiol i lesiant myfyrwyr eraill a staff.
17.3.5.2 Yn ogystal â hyn, mae technolegau modern yn caniatáu i bobl gynhyrchu ffotograffau, recordiadau sain a chlipiau fideo y gellir eu rhoi ar y rhyngrwyd yn hawdd iawn. Mae hyn yn caniatáu i wybodaeth gael ei gwneud yn gyhoeddus, a gall yr unigolyn a’i creodd golli rheolaeth ar eu dosbarthiad yn gyflym iawn. Mewn achosion lle mae’r recordiadau hyn yn dal unigolion mewn sefyllfaoedd amharchus neu a allai beri embaras, neu mewn achosion lle caiff recordiad ei ddefnyddio sy’n gwneud yr unigolyn yn destun hwyl, dirmyg neu gywilydd, gellid dal yr awdur yn gyfrifol am fwlio.
17.4 Materion yn ymwneud ag Enw Da
17.4.1 Yn ogystal â bwlio mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ystyried eu hunaniaeth ar-lein yn ofalus ynghyd â’r effaith y gallai hyn ei gael ar eu delwedd bersonol a phroffesiynol. Un rhyddid mawr a ddaw yn sgil y rhyngrwyd yw’r gallu i ‘ail-greu’r hunan’ ac archwilio gwahanol agweddau o’ch cymeriad wrth greu hunaniaeth ar-lein. Ond, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o ganlyniadau unrhyw benderfyniadau annoeth yn hyn o beth. Gallai hyd yn oed rhywbeth mor syml â ‘hoffi’ tudalen benodol ar Facebook gael effaith anrhagweladwy ar enw da.
17.4.2 Erbyn hyn mae’n gyffredin i ddarpar gyflogwyr chwilio drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol am dystiolaeth o gymeriad neu gymhwysedd ymgeisydd am swydd a gallai darpar gleientiaid weld yr un wybodaeth. Mae’n bosibl hefyd y gall cydweithwyr neu gleientiaid weld yr wybodaeth hon a ffurfio barn negyddol neu anffafriol am rywun o ganlyniad.
17.4.3 Dylai myfyrwyr sy’n dymuno mynd i’r proffesiynau cyfreithiol neu addysg neu i swyddi eraill sydd â chyfrifoldebau sylweddol fod yn arbennig o sensitif i’r modd y cânt eu portreadu ar y rhyngrwyd.
17.4.4 Rhaid i’r myfyrwyr hynny sy’n ymgymryd â lleoliadau gwaith yn rhan o’u gradd, neu sy’n cysylltu ag unigolion o sefydliadau allanol yn ystod eu hastudiaethau, fod yn arbennig o ymwybodol o beryglon eu trafod mewn unrhyw fodd a allai beri iddynt gael eu hadnabod neu a allai beri embaras neu ofid iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â hyfforddiant athrawon ac mae hefyd yn hanfodol nad yw ffotograffau o blant yn cael eu rhoi ar y rhyngrwyd heb ganiatâd penodol athrawon a rhieni.
17.5 Gosodiadau preifatrwydd, telerau ac amodau a materion rheoleiddiol eraill
17.5.1 Mae llawer o gyfleusterau rhwydweithio cymdeithasol neu gyfryngau ar-lein yn caniatáu i ddefnyddwyr osod lefelau preifatrwydd. Mae’n bwysig i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r rhain yn gweithio a chydnabod pwysigrwydd rhoi’r gosodiadau priodol ar waith. Fodd bynnag, nid yw defnyddio’r gosodiadau hyn yn gwarantu na chaiff cyfrif ei ‘hacio’ neu na fydd ffrind yn copïo deunydd sydd wedi’i uwchlwytho a’i bostio mewn fforwm mwy cyhoeddus.
17.5.2 Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn gwybod pwy yw’r bobl y maent yn eu hychwanegu at eu rhwydweithiau fel ffrindiau, gan gofio y gall unrhyw un chwilio am enwau ar Facebook a safleoedd tebyg a gweld lluniau proffil. Mae hefyd yn bosibl i bobl ‘bysgota’ llawer o safleoedd am enwau a manylion personol eraill.
17.5.3 Os yw myfyrwyr mewn sefyllfa o ymddiriedaeth neu gyfrifoldeb dylent gymryd gofal arbennig i beidio â thorri’r ymddiriedaeth honno trwy osod unrhyw wybodaeth ar-lein a allai fod yn gyfrinachol neu a allai gyfaddawdu eu sefyllfa. Mae hyn yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy’n gweithredu yn fentor neu gynghorwr.
17.5.4 Yn yr un modd, dylai myfyrwyr hefyd ystyried doethineb derbyn gwahoddiadau i ymuno â rhwydweithiau unigolion eraill, yn enwedig os yw’r rhain yn blant neu’n unigolion y mae ganddyn nhw ddyletswydd gofal neu gyfrinachedd drostynt. Gall hyn hefyd fod â chanlyniadau na ellir eu rhagweld a gallai gyfaddawdu cysylltiadau proffesiynol gyda’r unigolyn hwnnw neu achosi i eraill amau doethineb a hyd yn oed gymhellion.
17.5.5 Os yw myfyrwyr yn gweithio mewn, neu gyda, chyrff allanol megis ysgolion neu gwmnïau dylent ymgyfarwyddo a pharchu unrhyw reoliadau sydd gan y sefydliad hwnnw o ran rheoli’r defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
17.5.6 Mae’n bwysig hefyd fod myfyrwyr yn gyfarwydd â thelerau ac amodau’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eu hunain ac unrhyw ddiweddariad neu addasiad i’r telerau ac amodau hynny. Dylent nodi’n benodol unrhyw drydydd partïon sy’n derbyn eu data personol (h.y. unrhyw un y gallai’r wefan basio eu manylion personol atyn nhw) a manylion am berchnogaeth unrhyw ddeunydd a gaiff ei bostio ar y wefan (e.e. pwy sy’n berchen ar y geiriau, seiniau, ffotograffau a delweddau eraill unwaith iddyn nhw gael eu postio).
17.5.7 Dylid bod yn ofalus wrth ailddefnyddio unrhyw sylwadau neu ddelweddau a gaiff eu postio ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Dylai myfyrwyr barchu hawliau perchnogaeth deiliaid hawlfraint a dylent geisio caniatâd priodol i gopïo ac ailddefnyddio deunydd.
17.5.8 Ni ddylai myfyrwyr fyth geisio ffugio mai eu gwaith nhw yw gwaith rhywun arall, boed hynny o fewn neu y tu allan i leoliad addysgol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth, o fân sylwadau i weithiau celfyddydol. Mae unrhyw ymgais i ffugio mai eu gwaith hwy yw gwaith rhywun arall mewn cyd-destun academaidd yn debygol o arwain at gamau disgyblu.
17.5.9 Yn ogystal â chymalau 17.5.7 a 17.5.8, dylai myfyrwyr gyfeirio at Bolisi Llên-ladrad ac Ymddygiad Academaidd Annerbyniol y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/#rheoliadau-academaidd
-
18. Canllawiau ar gyfer ymdrin ag aflonyddu neu fwlio
Mae gan y Brifysgol God Myfyriwr ar Urddas a Pharch.
-
19. Trefn Gwyno ar gyfer Myfyrwyr
Cyhoeddir Trefn Gwyno Myfyrwyr y Brifysgol yn: https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/current-students/living-residences/complaints/
-
20. Polisi ar Ddadlennu Gwybodaeth sydd o Ddiddordeb Cyhoeddus
Mae polisi'r Brifysgol ar Chwythu’r Chwiban (Datgelu er Lles y Cyhoedd) ar gael ar wefan: https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/all/policy-and-procedure/whistleblowing/
-
21. Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth o Bwys wrth Wneud Cais neu ar ôl Cofrestru
21.1 Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth Academaidd
21.1.1 Caiff pob cais ei ystyried gan y Brifysgol ar sail y wybodaeth a gyflwynir gan yr ymgeisydd. Gellir gweld llawlyfr UCAS https://www.ucas.com/.
21.1.2 Dylai pob myfyriwr israddedig newydd allu profiei fod wedi cyflawni'r amodau academaidd angenrheidiol i gael mynediad ac mae’r pecyn cynnig yn dweud hyn wrth ymgeiswyr israddedig yn yr adran ynglŷn â chadarnhau cymwysterau. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw'r hawl i derfynu cofrestriad myfyrwyr sy'n methu â phrofi bod ganddynt y cymwysterau addas i’w derbyn er eu bod eisoes wedi eu cofrestru’n fyfyrwyr.
21.1.3 Mae myfyrwyr uwchraddedig yn ddarostyngedig i ofynion matriciwleiddio Prifysgol Aberystwyth ac os nad ydynt yn raddedigion Prifysgol Aberystwyth mae’n rhaid iddynt roi tystiolaeth o’u cymwysterau i Brifysgol Aberystwyth.
21.1.4 Ar ôl cofrestru, os yw myfyrwyr yn methu â darparu tystiolaeth o'r cymwysterau academaidd neu o'r cefndir academaidd a honnwyd ganddynt er mwyn cael mynediad, bydd Cyfarwyddwr yr Cyfadran berthnasol yn ystyried eu hachos.
21.1.5 Gwahoddir y myfyrwyr hyn i gyfweliad â Chyfarwyddwr yr Athrofa naill ai ar eu pen eu hun neu yng nghwmni cyd-fyfyriwr o'r Brifysgol, cynrychiolydd o Urdd y Myfyrwyr neu aelod o'u teulu.
21.1.6 Gall y Cyfarwyddwr bennu'r cosbau hyn:
(i) gosod amodau arbennig ar y myfyriwr os yw am barhau yn y Brifysgol;
(ii) atal y myfyriwr o'r Brifysgol dros-dro neu’n barhaol.
21.1.7 Bydd gan y myfyrwyr hawl i apelio i'r Pwyllgor Cynnydd Academaidd o dan delerau'r Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd. O apelio bydd rhaid i'r myfyrwyr egluro'r rhesymau am beidio â chyflwyno'r dystiolaeth newydd ynghynt.
21.2 Hepgor neu Gamliwio Amgylchiadau Meddygol
Nid yw problemau meddygol neu broblemau eraill yn dileu cyfrifoldeb y myfyriwr dros ei addysg na'i gyfrifoldeb at aelodau eraill o'r gymuned academaidd. Yn unol â ‘Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth o Bwys wrth Wneud Cais neu ar ôl Cofrestru’ (pwynt 22. uchod) mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatgan unrhyw salwch neu glefyd sy'n debygol o amharu ar eu hiechyd neu eu hastudiaethau neu iechyd neu astudiaethau myfyrwyr eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y Brifysgol mewn sefyllfa i gyflawni’r dylestwydd gofal sydd ganddi i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant ei holl fyfyrwyr a galluogi i addasiadau rhesymol gael eu gwneud i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau yn unol â Deddfwriaeth Cydraddoldeb.
21.3 Addasrwydd i Fynychu/Dychwelyd
Os, o ganlyniad i afiechyd neu anabledd, bydd ymddygiad myfyriwr yn effeithio’n andwyol ar ei iechyd, ei ddiogelwch, ei lesiant neu gynnydd academaidd ei hun neu bobl eraill ac yn gofyn am reolaeth gadarnhaol yn hytrach na chamau disgyblaethol bydd y Brifysgol yn gweithredu ei Pholisïau Addasrwydd i Fynychu/Dychwelyd. Diben y Polisïau Addasrwydd i Fynychu/Dychwelyd yw rhoi fframwaith effeithiol i warchod uniondeb dysgu, cyrhaeddiad academaidd a phrofiad myfyriwr ac i sicrhau bod cefnogaeth effeithiol ac addas ar gael i’r sawl sy’n wynebu argyfwng iechyd gan gynnwys problemau iechyd meddwl. Am ragor o wybodaeth am y Polisi, cysyllter â’r Adran Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd: https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/
-
22. Datganiad ar Gyfrinachedd
22.1 Bydd y Brifysgol yn parchu natur gyfrinachol yr wybodaeth a roddir gan fyfyrwyr.
22.2 Rhennir gwybodaeth gyfrinachol yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Rannu Gwybodaeth Gyfrinachol Myfyrwyr yn unig, sydd i’w gweld ar wefan y Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr: Canllawiau i staff ar rannu gwybodaeth gyfrinachol myfyrwyr. Ar wahân i amgylchiadau penodol a amlinellir yn y ddogfen uchod, bydd staff yn parchu cyfrinachedd y myfyriwr ac yn cyfyngu ar unrhyw wybodaeth i gyn lleied o unigolion perthnasol â phosibl. Os yw myfyriwr yn dymuno cyfyngu ymhellach ar y modd y rhennir gwybodaeth o'r fath, dylai hysbysu aelodau perthnasol o'r staff ar y cyfle cyntaf posibl. Serch hynny, dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o ganlyniadau a allai ddigwydd yn sgil peidio â datgelu gwybodaeth. Fel arfer, perchir dymuniadau o'r fath oni bai fod hynny'n rhagfarnu'r gwaith o gynnal safonau academaidd, neu oni bai y gallai beryglu diogelwch unrhyw unigolyn. Os yw gwybodaeth berthnasol wedi ei hatal oddi wrth unigolyn neu oddi wrth gorff yn y Brifysgol (er enghraifft Bwrdd Arholi), fel arfer ni ellir ei chyflwyno wedyn yn ystod apêl ddiweddarach yn erbyn penderfyniad gwreiddiol yr unigolyn neu'r corff hwnnw.
22.3 Yn amodol ar gyfyngiadau penodol ar ddyletswydd cyfrinachedd neu eithriadau iddi a gydnabyddir gan y gyfraith, fel arfer datgelir gwybodaeth gyfrinachol i asiantaeth neu unigolyn allanol â chydsyniad y myfyriwr perthnasol yn unig. Mewn amgylchiadau eithriadol neu frys, gellid bod angen rhyddhau gwybodaeth, er enghraifft i staff meddygol allanol, os ystyrir bod hyn er budd y myfyriwr.
-
23. Problemau gyda'r Gyfraith neu Euogfarnau Troseddol
23.1 Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian (Adran Gwasanaethau Cymorth i Myfyrwyr a Gyrfaoedd) am gyngor a chymorth os ydynt yn wynebu problemau cyfreithiol neu os ydynt yn cael eu harestio.
23.2 Rhaid i unrhyw fyfyriwr hysbysu'r Brifysgol os caiff ei ddyfarnu'n euog o drosedd (ac eithrio troseddau moduro lle rhoddwyd cosb o ddirwy a/neu dri phwynt cosb yn unig) cyn dechrau yn y Brifysgol neu yn ystod y cyfnod y mae wedi cofrestru'n fyfyriwr yn y Brifysgol. Dylid anfon manylion am y drosedd a'r gosb (cyn mynediad ac ar ôl mynediad) at y Cofrestrydd Academaidd trwy e-bost at arconf@aber.ac.uk neu trwy’r post at: Y Cofrestrydd Academaidd, Y Gofrestrfa Academaidd, F5 Adeilad Cledwyn, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth SY23 3DD.
23.3 Rhaid i unrhyw fyfyriwr a ddyfernir yn euog o drosedd yn ystod y cyfnod y mae wedi cofrestru’n fyfyriwr yn y Brifysgol roi gwybod i’r Cofrestrydd Academaidd ar unwaith (gweler Rheol 28.2). Nid oes angen i fyfyrwyr roi gwybod am droseddau moduro lle rhoddwyd cosb o ddirwy a/neu dri phwynt cosb yn unig.
23.4 Bydd y Cofrestrydd Academaidd, mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Is-Ganghellor fel sy’n briodol, yn penderfynu ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd (neu yn cysylltu â’r myfyriwr i gael rhagor o wybodaeth a/neu ganiatâd, yn ôl yr angen, i ofyn i eraill am ragor o fanylion), a ddylid argymell i’r Brifysgol weithredu ymhellach er budd ei myfyrwyr a’i staff.
23.5 Bydd y Cofrestrydd Academaidd a/neu’r Dirprwy yn ystyried y materion isod ymhlith eraill:
23.5.1 a oes gan y drosedd oblygiadau ynglŷn ag addasrwydd y myfyriwr i fod yn aelod o’r Brifysgol (e.e. troseddau treisiol, rhywiol neu hiliol, gwerthu cyffuriau);
23.5.2 a yw’r myfyriwr wedi aildroseddu, ac, os ydyw, a oes patrwm i’r troseddau dilynol;
23.5.3 a oes gan yr ymddygiad troseddol unrhyw oblygiadau i ddiogelwch, hawliau a rhyddid myfyrwyr eraill a staff y Brifysgol.
23.6 Os bydd y Cofrestrydd Academaidd (mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Is-Ganghellor) yn dymuno rhoi ystyriaeth bellach i’r mater trwy gyfweld y myfyriwr, trefnir panel cyfweld, a fydd yn cynnwys y Dirprwy Is-Ganghellor, Llywydd Urdd y Myfyrwyr, a’r Cofrestrydd (neu’r sawl a enwebwyd .
23.7 Bydd angen i’r Panel Cyfweld sefydlu lefel y risg i gymuned y Brifysgol (cyn belled ag y mae modd canfod hynny).
23.8 Lle bydd y Panel Cyfweld yn penderfynu, yng ngeiriau’r Ddeddf Hawliau Dynol, ei bod yn 'angenrheidiol er lles ... diogelwch y cyhoedd ... er mwyn osgoi anhrefn neu drosedd, er mwyn gwarchod iechyd a moesau, neu er mwyn gwarchod hawliau a rhyddid eraill ...‘ y dylid argymell gosod amodau (e.e. na chaiff fyw mewn neuadd breswyl nac ymweld â neuaddau preswyl nac eiddo trwyddedig y Brifysgol), yna caiff yr amodau hyn eu gwneud yn glir yn ysgrifenedig. Rhaid i’r llythyr hwnnw hefyd nodi y bydd ymddygiad y myfyriwr yn cael ei fonitro i weld a yw’n cydymffurfio â’r amodau, ac y bydd penderfyniad y Panel yn cael ei hysbysu i aelodau penodol o staff y Brifysgol (e.e. Rheolwyr Bywyd Campws neu Undeb y Myfyrwyr fel sy’n briodol) ar y sail bod arnynt ‘angen gwybod’. Bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno apêl i’r Dirprwy Is-Ganghellor yn erbyn penderfyniad y Panel.
23.9 Os yw’r Panel Cyfweld yn penderfynu bod y myfyriwr yn fygythiad parhaus i eraill yng nghymuned y Brifysgol, a bod yna achos clir dros waharddiad dros-dro neu eithrio, caiff y mater ei gyfeirio at Bwyllgor Disgyblu'r Brifysgol (gweler 5.3.57, 5.4 a 5.5 yn y Rheolau a’r Rheoliadau).
23.10 Ni chedwir dogfennau a gwybodaeth yn ymwneud â’r ddedfryd droseddol am gyfnod sy’n hwy na’r angen i’r diben y cafodd ei darparu, sef er mwyn sicrhau nad oes perygl i eraill. Os penderfynir gosod amodau ar y myfyriwr (fel ym mharagraff 24.9) bydd y dogfennau ar gael i staff y Brifysgol ar y sail bod arnynt ‘angen gwybod'.
23.11 Os penderfynir nad oes angen gosod amodau, caiff yr holl ddogfennau a’r wybodaeth eu dinistrio ar unwaith.
23.12 Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gan fyfyrwyr am eu dedfrydau troseddol yn cael ei chadw gan Cofrestrydd Academaidd (yn amodol ar 3 uchod), ac ni fydd ar gael i adrannau academaidd.
Diweddarwyd: Medi 2021