Eich Cefnogaeth

Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ffrindiau a chydweithwyr yn fawr iawn, boed hynny drwy godi ymwybyddiaeth, bod yn hael gydag amser, cyfrannu eitemau i ddiogelu eu dyfodol, neu drwy wneud cyfraniad ariannol. 

Dyma sut y gallwch chi roi help llaw.

Cyfrannu eitemau

Rydym yn croesawu cyfraniadau o wrthrychau neu gofnodion sy'n ymwneud â bywyd a gweithgareddau yn y Brifysgol.

Os hoffech gael sgwrs i holi a fyddai eich eitemau yn addas i'w cadw'n barhaol yn yr Archifau, cysylltwch â ni. 

Efallai y byddwch hefyd eisiau darllen ein Polisi casglu a chaffael archif sefydliadol a’r Polisi casglu a chaffael archif adnau.  Gallwn eich helpu i benderfynu ai yma yw’r lle addas i’ch eitemau, neu a oes ystorfa arall fwy priodol.

Cyfraniadau ariannol

Mae cyfrannu at gronfa Archifau'r Brifysgol yn ein helpu i ofalu am ein casgliadau a rhoi'r cyfle gorau iddynt gael eu cadw a’u defnyddio gan genedlaethau'r dyfodol.

P'un a ydych chi'n gallu rhoi unwaith neu gyfrannu’n rheolaidd, rydyn ni'n ddiolchgar iawn i chi am ddewis gwneud hynny - diolch!

Gallwch gyfrannu at Archifau'r Brifysgol trwy gyfrwng trosglwyddiad banc:

Trosglwyddiadau Banc y DU

Os hoffech gyfrannu trwy drosglwyddiad banc o fewn y Deyrnas Unedig, bydd angen y manylion canlynol arnoch:

Banc

Barclays

Cod Didoli

20-18-74

Rhif y cyfrif

70072621

Enw'r cyfrif

Prifysgol Aberystwyth University Development Fund Account

Trosglwyddiadau Banc Rhyngwladol

Os hoffech gyfrannu trwy drosglwyddiad banc o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, nodwch Rif Cyfrif Banc Rhyngwladol y Brifysgol (IBAN) a Chod Adnabod Banc SWIFT (BIC) fel a ganlyn:

IBAN

GB47 BARC 201874 7007 2621

BIC

BARC GB22

Sicrhewch eich bod yn dyfynnu 'Archifau' fel eich cyfeirnod ar gyfer unrhyw drosglwyddiad.

Rhif Cofrestru TAW: 123763380

Elusen gofrestredig: 1145141

Ar gyfer beth i ni'n defnyddio'ch arian

Rydym yn defnyddio unrhyw roddion i wneud gwaith cadwraeth, drwy atgyweirio eitemau sydd wedi'u difrodi neu sy’n fregus; i gadw eitemau, drwy brynu’r deunydd pacio amddiffynnol priodol; ac weithiau i brynu eitemau perthnasol i'w hychwanegu at y casgliad.  Gallwch ddarllen am rai enghreifftiau isod.

Roeddem yn gallu derbyn cofnodion Coleg Amaethyddol Cymru (WAC) gan yr adran olynol yn y Brifysgol a, diolch i fyfyrwyr Gweinyddu Archifau DIS, chatalogio a phecynnu'r deunydd, gan gadw'r casgliad a sicrhau ei fod ar gael i ymchwilwyr - Casgliad Coleg Amaethyddol Cymru / Casgliad Coleg Amaethyddol Cymru - Archives Hub (jisc.ac.uk)

Rydym wedi gallu ariannu gwaith cadwraeth: atgyweirio, digideiddio a phecynnu ffotograffau Cyngres Undeb Cynghrair y Cenhedloedd - Ymweliad 1926 Cynghrair y Cenhedloedd ag Aber - Prifysgol Aberystwyth

Rydym hefyd wedi gallu prynu eitemau.  Mae’r gronfa archifau wedi ein galluogi i fentro gwneud cynigion mewn arwerthiannau, lle gwnaethom brynu poster David Bowie yn hysbysebu digwyddiad yn y Neuadd Fawr ym 1972.   Ac, wrth gwrs, y rheswm sefydlwyd y gronfa archifau yn 2015 – i brynu cerdyn post o Iris de Freitas - Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu cyfreithiwr benywaidd cyntaf yn y Caribî  

Gwirfoddoli

Rydym yn gobeithio datblygu rhaglen wirfoddoli, felly os oes gennych ddiddordeb i roi o'ch amser hamdden, yna cysylltwch â ni. 

Dywedwch wrth eich ffrindiau amdanom ni

Helpwch ni drwy ddweud amdanom ni wrth unrhyw un rydych chi'n ei adnabod sydd â chysylltiad â'r Brifysgol.  Rydym bob amser yn chwilio am wrthrychau eiconig Aber yn Gafael a straeon o bob cenhedlaeth.