Rhwydwaith Cyfnewid Creadigol

O dan gyfarwyddid Yr Athro Matthew Jarvis, mae Rhwydwaith Cyfnewid Creadigol Aberystwyth yn rhoi gwaith creadigol wrth galon datblygu ymchwil a syniadau blaengar. Nod y rhwydwaith yw creu prosiectau cydweithredol yn lleol a rhyngwladol, a hynny rhwng ymarferwyr creadigol ac unigolion, grwpiau a busnesau a all elwa o’u harbenigedd. Mae hefyd yn ei thro yn galluogi’r Brifysgol i gefnogi gwaith yr ymarferwyr creadigol eu hunain.

Prifysgol Aberystwyth Mewnol

Mae'r Brifysgol wedi penodi Cymrawd Cyfnewid Creadigol i feithrin cysylltiadau â busnesau, y trydydd sector ac artistiaid i ddatblygu'r celfyddydau creadigol, gwaith digidol/creadigol sy'n croesi o'r naill arddull i'r llall, a phrosiectau'r Dyniaethau a fydd (a) yn helpu i adeiladu ar gryfderau ymchwil y Brifysgol a (b) yn cyfrannu at fywyd diwylliannol a'r economi yn y Canolbarth.

Yn rhan o'r gwaith hwnnw, mae'r Brifysgol yn cynnal ymarfer cwmpasu i wybod beth yw arbenigedd a diddordebau ei staff.

Fe'ch gwahoddir i gwblhau'r arolwg ar-lein syml hwn i helpu'r Brifysgol i ddeall rhagor am arbenigedd a diddordeb y staff mewn meysydd penodol a, thrwy hynny, i ddatblygu Rhwydwaith Cyfnewid Creadigol a fydd yn cynnwys aelodau staff perthnasol.https://aber.onlinesurveys.ac.uk/arolwgmewnol_internalsurvey

Allanol

Os oes gan eich gwaith, eich busnes neu’ch sefydliad ddiddordeb mewn meithrin cysylltiadau ag arbenigedd Prifysgol Aberystwyth yn y celfyddydau creadigol, arloesi digidol, neu ysgoloriaeth yn y dyniaethau, hoffem glywed gennych chi.

Mae’r Brifysgol wedi llunio arolwg byr er mwyn i ni ddysgu mwy am y cysylltiadau yr hoffech eu meithrin â ni yn y meysydd hyn. Byddem wrth ein bodd pe baech yn ei gwblhau. Ceir hyd i’r arolwg yma: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/arolwgallanol_externalsurvey

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rachel Rea Luxton, Cydlynydd Cyfnewid Creadigol Prifysgol Aberystwyth, rhr13@aber.ac.uk

Matt JProfessor Matthew Jarvis

Cymrawd Cyfnewid Creadigol

 

 

 

 

 

 

 

Rach RL Rachel Rea Luxton 

rhr13@aber.ac.uk