Mae’n ystrydeb, ond fy nghyfnod yn astudio yn Aberystwyth oedd tair blynedd orau fy mywyd. Mae gen i atgofion anhygoel ac fe fydda i bob amser yn hapus wrth edrych yn ôl ar fy amser yma.

Cyn i fi ddechrau yn Aberystwyth, roeddwn i mewn cysylltiad ag athro uwch a oedd yn barod i ymateb i unrhyw gwestiwn a oedd gen i, ac fe ges i groeso cynnes ar y cwrs. Mae’r ffaith bod y darlithwyr, y tiwtoriaid a’r staff yn dod i’ch adnabod chi’n bersonol wir yn gosod Aber ar wahân i Brifysgolion eraill ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr – mae rhywun ar gael i roi cyngor i chi bob amser, ac fe allwch chi feithrin perthnasoedd hirhoedlog a fydd gyda chi ymhellach ar ôl i chi raddio.

Mae popeth sydd ei angen yn Aberystwyth – mae’n dref gyfeillgar gyda lleoedd gwych i fwyta a siopa, bywyd nos bywiog ac mae popeth o fewn pellter cerdded. Mae’r dref gyfan yn croesawu’r myfyrwyr, ac mae naws diogel a hwyliog yma. Ble bynnag fyddwch chi, rydych chi’n siŵr o weld rhywun rydych chi’n ei adnabod!

Mae Aber yn dref glos felly mae’n hawdd cyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn cymryd rhan mewn cymdeithasau. Rydych chi’n cyfarfod â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chi, yn mynd ar nosweithiau allan gwych ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n meithrin y sgiliau y mae cyflogwyr am eu gweld, gan gynnwys galluoedd cynllunio digwyddiadau, rheolaeth ariannol a sgiliau cyfryngau cymdeithasol.

Fe dreuliais i gyfnod yn Llywydd Rag Aberystwyth a dwy flynedd fel swyddog cyswllt cymdeithas The Biz, ac mae’r  profiadau ges i wedi bod o gymorth mawr wrth gael swydd ar ôl graddio. Ar hyn o bryd, rwy’n hyfforddai cyllid i gwmni recriwtio olew o’r enw Petroplan, ar gyrion Llundain, ac yn hyfforddi i fod yn gyfrifydd. Roedd fy nghwrs yn cynnwys modiwlau mewn cyfrifeg a chyllid busnesau bach ac roedd fy nghyflogwyr yn gwerthfawrogi perthnasedd y modiwlau wnes i ar fy nghwrs.

Fyddwn i ddim wedi gallu gofyn am brofiad gwell, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod i wedi cael y cyfle i astudio mewn lle mor anhygoel.