Gan nad oedd y cwrs yn gofyn i chi fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc, roedd yn gyfle gwerthfawr i ddechreuwyr pur ddysgu’r hanfodion ac i eraill fwrw golwg o’r newydd ar y pwnc neu ddysgu pethau nad oedden nhw o reidrwydd yn ei wybod. O’r diwrnod cyntaf un, roedd pob un o’r darlithwyr yn gymwynasgar ac agos-atoch dros ben, a doedd yna’r un cwestiwn yn rhy syml neu wirion. Roedd y tiwtoriaid ar gael bob amser os oeddech chi angen help a gallech anfon e-bost atyn nhw neu drefnu apwyntiad i drafod unrhyw broblemau neu gwestiynau am fywyd prifysgol.

Fe wnes i setlo’n fuan iawn yn y brifysgol, gan wneud ffrindiau gyda thrigolion eraill y fflat i ddechrau a mynychu digwyddiadau a gweithgareddau gwahanol gymdeithasau (nid o reidrwydd yn rhai roeddwn i wedi ymaelodi â nhw!), cyn ymuno â’r Philomusica yn fy ail flwyddyn a pharhau i ddod i adnabod llawer o fyfyrwyr eraill yn Aberystwyth! Erbyn diwedd yr ail a’r drydedd flwyddyn, doedd ‘na ddim llawer o fyfyrwyr nad oeddwn i’n eu hadnabod!

Yn ystod fy astudiaethau, fe wnes i dreulio cyfnod byr o dair wythnos ar leoliad gyda chwmni cyfrifyddiaeth bach yn Telford dros y gwyliau Pasg yn fy ail flwyddyn. Cadarnhaodd hynny fy uchelgais i weithio ym maes cyfrifyddiaeth. Yna fe ges i gynnig blwyddyn mewn gwaith gyda chwmni o gyfrifwyr mwy yn Amwythig.

Ar ôl dychwelyd i Aberystwyth i gwblhau fy mlwyddyn olaf, roeddwn i wedi magu hyder a meithrin sgiliau trefnu a rheoli amser, sydd o fudd mawr yn fy ngyrfa erbyn hyn wrth astudio tuag at gymhwyster ACA.

Mae fy nghyfnod yn Aberystwyth wedi bod yn hynod werthfawr. Ar sail cwblhau fy mlwyddyn mewn gwaith, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cynnig swydd barhaol gyda’r cwmni sy’n cynnwys contract hyfforddi tair blynedd i ddod yn gyfrifydd siartredig gydag ACA.