Y Ganolfan Cymdeithasau Cyfrifol (CRiSis)

Tropical forest

Mae'r Ganolfan Cymdeithasau Cyfrifol (CRiSis) yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol a gynhelir gan Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth. Mae CRiSis yn ystyried sut y gall economïau, busnesau, llywodraethu a chymunedau lleol drawsnewid i sicrhau dyfodol cyfiawn a chynaliadwy i'n planed a'i phobl.

Mae’r themâu ymchwil craidd yn cynnwys: 'pennu gwerth natur', 'cyfrifoldeb corfforaethol', 'cyfiawnder amlrywogaeth', 'gwytnwch cymunedol a democratiaeth gydgynghorol, ac 'economeg newydd, les, berthynol ac ôl-dyfiant.'

CRiSisaber1

Canolbwynt yr Ymchwil

Mae cymdeithasau heddiw yn mynd drwy newid digynsail: newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, a newid technolegol, gwleidyddol, demograffig, cymdeithasol a diwylliannol. Mae hyn yn rhoi adnoddau cyfyngedig y Ddaear dan bwysau, sydd yn ei dro yn effeithio ar allu’r ddynoliaeth i gynnal bywoliaeth a lles. A ninnau’n gymdeithas fyd-eang, mae angen dybryd i ni gymryd cyfrifoldeb am ein cyd-ddyfodol, ac wrth wneud hynny mae angen i ni fod yn fwy deallus yn ein penderfyniadau a'n gweithredoedd bob dydd.

Mae pwnc cymdeithasau cyfrifol yn uchel ar agendâu gwleidyddiaeth, busnes ac ymchwil. Mae ein hymchwil yn craffu ar y cyfraniad y gall gwahanol weithredwyr yn y gymdeithas ei wneud i gyflawni'r weledigaeth hon: o lunwyr polisi rhyngwladol, i fusnesau a dinasyddion unigol. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r grwpiau hyn i ddatblygu ffyrdd o gyflawni newid.

Nod CRiSis yw ystyried atebion arloesol i helpu’r gymdeithas i weithredu'n gyfrifol i wireddu dyfodol cynaliadwy i'n planed a'n pobl.

Pennu gwerth natur a chyfiawnder amlrywogaeth: Ystyriwn sut y gallwn asesu gwerthoedd amrywiol natur a'i chyfraniadau i bobl mewn ffordd amlweddog a chynhwysol, trwy ddulliau pennu gwerth economaidd, cymdeithasol-ddiwylliannol, cydgynghorol ac integredig. Mae aelodau CRiSis wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu dulliau newydd a fframweithiau byd-eang ar gyfer asesu gwerthoedd amryfal natur, fel y rhai a ddefnyddir gan y Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar gyfer Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES), ac maent wedi arwain ar waith llunio adroddiad 'Asesu Gwerthoedd' IPBES. Mae'r fframwaith cyfiawnder amlrywogaeth yn ymestyn ymhellach sut y gellir edrych ar wahanol werthoedd natur, trwy gydnabod anghenion a hawliau pobl eraill mewn theori, polisi ac ymarfer.

Gwytnwch cymunedol a democratiaeth gydgynghorol: Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol yng Nghymru, drwy weddill Prydain, ac yn rhyngwladol (gan gynnwys gwaith â phobloedd brodorol) i ddatblygu ffyrdd newydd o integreiddio lleisiau lleol wrth wneud penderfyniadau, er enghraifft drwy ymchwil i weithredu cyfranogol a dulliau democrataidd cydgynghorol fel paneli dinasyddion a dulliau cydgynghorol o bennu gwerth. Agwedd allweddol ar yr ymchwil hon yw meithrin gwytnwch a hynny, ymhlith pethau eraill, drwy gynyddu’r galluedd a chefnogi dysgu cymdeithasol a llywodraethu cyfranogol mewn systemau cymdeithasol-ecolegol.

Economeg newydd: Rydym wrthi’n datblygu modelau newydd ar gyfer meddwl, dadansoddi a pholisi economaidd, drwy ganolbwyntio ar lesiant a byw o fewn terfynau ecolegol yn hytrach na thwf Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP), a chydberthynasau yn hytrach nag unigoliaeth. Rydym yn ymdrin â llawer o wahanol ffyrdd newydd o feddwl ac ymarfer economaidd, yn amrywio o economeg ecolegol a ffeministaidd, i ddatdyfu, ôl-dyfu ac economeg y doesen, i ymagweddau economaidd brodorol.

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol: Gall corfforaethau gael effeithiau negyddol sylweddol ar yr amgylchedd a’r gymdeithas trwy ddefnyddio adnoddau, llygredd, ac arferion anfoesol. Mae Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn cynnig ffordd i fusnesau wneud cyfraniad cadarnhaol trwy gefnogi cymunedau, diogelu'r amgylchedd, a hyrwyddo datblygu economaidd, ac ar yr un pryd yn gwella llwyddiant y busnes yn yr hirdymor. Mae ymchwil CRiSis yn edrych ar CSR ar draws ystod eang o feysydd, megis ymddygiad prynwyr, llafur moesegol, cyfranogiad cymunedol, lleihau carbon, asesu ecosystemau, a chyllid a marchnata moesegol. Nod yr ymchwil hon yw dangos sut y gall CSR roi hwb i gynaliadwyedd a pherfformiad busnes mwy cyfannol. Trwy meithrin partneriaethau a chraffu ar fframweithiau rheoleiddio, mae CRiSis yn awyddus i hybu ymddygiad corfforaethol cyfrifol i gefnogi dyfodol mwy cyfiawn a chynaliadwy.

Prosiectau Ymchwil

Mae CRiSis yn ymwneud â llu o brosiectau ymchwil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n chwilio am atebion arloesol fel y bydd y gymdeithas yn gallu darparu dyfodol mwy cynaliadwy a chyfiawn i bobl a'r blaned. Mae ein hymchwil yn edrych ar y cyfraniadau y gall pob asiant ei wneud i gyflawni'r weledigaeth hon: yn amrywio o lunwyr polisi i fusnesau, o gymunedau lleol i ddinasyddion unigol.

Mewn cysylltiad â'r themâu craidd hyn, rydym yn gweithio ar y prosiectau isod ar hyn o bryd: 

 

Deall Gwerthoedd Lluosog Natur i’w Hintegreddio i Benderfyniadau (NAVIGATE) (2022-2026)

Gan adeiladu ar sylfaen 'Asesu Gwerthoedd' IPBES, nod NAVIGATE yw cyfoethogi ein dealltwriaeth am werthoedd natur - yn gyfryngol, cynhenid, perthynol, trosgynnol (eang) a’r rhai a rennir - ac archwilio sut y gellid integreiddio'r gwerthoedd hyn yn well mewn syniadaeth economaidd a phenderfyniadau polisi. Er mwyn rhoi prawf ar ein syniadau, byddwn yn rhoi ein dulliau ar waith mewn pedair astudiaeth achos a fydd yn pennu gwerth y gwahanol werthoedd sydd i natur mewn cysylltiad â choetiroedd yn y DU, y Ffindir a Tanzania. (Ariennir gan UKRI.)

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Mike Christie (prif ymchwilydd), Kyriaki Remoundou, Jasper Kenter, Ebere Ihemezie

 

MUST (Galluogi Trawsnewid Amlrywogaeth) (2024-2027))

Nod prosiect MUST yw rhoi 'llais' i natur trwy'r fframwaith cyfiawnder amlrywogaeth (MSJ). Mae’r fframwaith hwnnw yn estyn egwyddorion tegwch a gofal y tu hwnt i’r ddynoliaeth er mwyn cynnwys hawliau, anghenion a gwerth cynhenid rhywogaethau ac ecosystemau nad ydynt yn ddynol. Gan ddefnyddio'r dull hwn, mae MUST yn ceisio craffu ar ffyrdd newydd o gynrychioli ac integreiddio gwerthoedd ac anghenion y ddynoliaeth a rhywogaethau eraill wrth ddatrys materion sy’n ymwneud â phrosesau cynllunio a phenderfynu, a hynny drwy gynnig atebion sy'n seiliedig ar natur, gan alluogi trawsnewid amlrywogaeth sy'n cefnogi lles cydfuddiannol rhwng pobl a rhywogaethau eraill, gan leihau anghydraddoldeb a dioddefaint. Rydym yn cymhwyso'r syniadau hyn i astudiaethau empirig mewn dinasoedd yn y Ffindir a Chymru. (Ariennir gan Gyngor Ymchwil Strategol y Ffindir)

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Mike Christie (prif ymchwilydd), Kyriaki Remoundou, Saman Sobhani

 

FIRECULT

Mae prosiect FIRECULT yn archwilio i sut mae tanau gwyllt a achosir gan newid hinsawdd yn effeithio ar dreftadaeth, ffyrdd o fyw, tirweddau a thirnodau. Astudiaethau achos: Iwerddon, Twrci, Kenya, yr Eidal (Ariennir gan AHRC, Fforwm Belmont)

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Kyriaki Remoundou (cydymchwilydd)

 

Branching Beyond (2024-2025)

Mae Branching Beyond yn adeiladu ar sylfaen Branching Out i ddatblygu offeryn newydd sy'n integreiddio gwahanol werthoedd ar gyfer dychmygu gwahanol ddyfodolau i goedfannau trefol.

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Jasper Kenter (prif ymchwilydd), Pete Wood

 

TRACC (2024-2028)

Mae prosiect Camau Trawsnewidiol ar gyfer Cymunedau Arfordirol Gwydn (TRACC) yn ymchwilio i strwythurau llywodraethu trawsnewidiol newydd sy'n seiliedig ar leoedd a gwerthoedd, ac yn eu gweithredu, i gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd ar arfordiroedd ledled Prydain.

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Jasper Kenter (prif ymchwilydd), Katja Daniels

 

Asesiad Byd-eang ar gyfer Economeg Newydd (GANE) (2021-2025)

Mae’r prosiect GANE yn dod â llawer o arbenigwyr, gwneuthurwyr penderfyniadau a dinasyddion amrywiol ledled y byd at ei gilydd i syntheseiddio gwybodaeth economeg newydd o’r gwyddorau ac o ymarfer, i yrru polisi, busnes a gweithredu cymdeithasol yn eu blaen.

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Jasper Kenter (prif ymchwilydd)

 

Contractio ESG, Llywodraethu’r Hinsawdd a Pherfformiad Carbon

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i sut mae cymhellion sy'n seiliedig ar ffactorau ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) yn cael eu hintegreiddio’n fwyfwy mewn trefniadau talu uwch-reolwyr, ac yn ystyried i ba raddau y mae'r strwythurau cymhelliant hyn yn arwain at welliannau sylweddol mewn canlyniadau corfforaethol o safbwynt yr hinsawdd neu'n gynnig ffydd i reolwyr allu cymryd mantais ariannol.

Aelodau CRiSis sy'n cymryd rhan: Benjamin Awuah

 

Prosiectau PhD

Andrew Slaven (PhD): Mae'r prosiect hwn yn edrych ar gael mwy o amrywiaeth mewn polisïau gwrthbwyso effeithiau ar fioamrywiaeth trwy integreiddio gwerthoedd perthynol.

Carl Comer (PhD): Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i'r berthynas rhwng ansawdd a less amgylcheddol yn y DU trwy gyfres o draethodau ar economeg amgylcheddol. Bydd y traethawd PhD yn cynnwys tri phapur a fydd yn archwilio lles amgylcheddol mewn gwahanol gyd-destunau:

  1. Dangosyddion lles amgylcheddol,
  2. Pennu gwerth a chreu lles amgylcheddol, ac
  3. Effeithiau dosrannol trychinebau sy’n deillio o newid yn yr hinsawdd ar les amgylcheddol.

 

Rydym hefyd yn cydweithio ag ymchwilwyr o adrannau eraill gan gynnwys IBERS a Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear er mwyn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy. Ar ben hynny, bydd arbenigedd staff Ysgol y Gyfraith Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn cael ei hymgorffori mewn fframweithiau rheoleiddio, gyda'r nod, yn y pen draw, o gyflawni llwybr cynaliadwy i ffyniant. Ymhlith y prif ffynonellau cyllid mae Cronfa IRC y Brifysgol a Chronfa Ymchwil Heriau Byd-eang GCRF. Mae CRiSis hefyd yn gweithio'n lleol mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni ei fframwaith "Cymru Fyw".

Seminarau a Chynadleddau

Cyngres Cymdeithas Economegwyr Amaethyddol Ewrop 2025, Bonn, yr Almaen, 26-29 Awst 2025

Cynhadledd Economeg Bioamrywiaeth (16-17 Medi 2025) - Cymdeithas Ddaearyddol Frenhinol Llundain

Cynhadledd WISERD (30 Mehefin - 1 Gorffennaf 2025) - Prifysgol Aberystwyth

Cyhoeddiadau Diweddar

2025

  • Kenter, J.O., Carmenta, R., Christie, M., Griffiths, H., Ihemezie, E., Martin, A., Gomez-Osorio, M.T., Pascual, U., Raymond, C.M., Remoundou, K., & Waters, R. (2025). Toward a relational biodiversity economics: Embedding plural values for sustainability transformation. Proceedings of the National Academy of Sciences, 122(40), e2314586122.
  • Raymond, C.M., Rautio, P., Fagerholm, N., Aaltonen, V.A., Andersson, E., Celermajer, D., Christie, M., Hällfors, M., Saari, M.H., Mishra, H.S., Lechner, A.M., Pineda-Pinto, M., & Schlosberg, D. (2025). Applying multispecies justice in nature-based solutions and urban sustainability planning: Tensions and prospects. npj Urban Sustainability, 5, Article 2.
  • Murali, R., Anderson, C.B., Muraca, B., Arias-Arévalo, P., Gould, R.K., Lenzi, D., Zent, E., Athayde, S., Kenter, J., Raymond, C.M., Vatn, A., 2025. Navigating diverse human–nature worldviews for more inclusive conservation. Conservation Biology, e70144. https://doi.org/10.1111/cobi.70144.
  • Awuah, B., Elbardan, H., Yazdifar, H., Alexander, P., 2025. Accounting for the Sustainable Development Goals. Walking the talk or managing impressions? Accounting, Auditing & Accountability Journal, forthcoming.
  • Himes, A., Muraca, B., Allen, K., Chapman, M., Coelho-Junior, M.G., Cundill, G., Gould, R.K., Herrmann, T.M., Kenter, J.O., Nakachi, ’ Alohi, Nemogá, G.R., Ortiz-Przychodzka, S., Pearson, J., Rono, B., Saito, T., Tadaki, M., Bonn, A., n.d. Horizontal portability: A proposal for representing place-based relational values in research and policy. People and Nature 7, 752-764. doi.org/10.1002/pan3.70016

  • Kenter, J.O., Martino, S., Buckton, S.J., Waddock, S., Agarwal, B., Anger-Kraavi, A., Costanza, R., Hejnowicz, A.P., Jones, P., Lafayette, J.O., Kabubo-Mariara, J., Mukherjee, N., Pickett, K.E., Riedy, C., Waddell, S., 2025. Ten principles for transforming economics in a time of global crises. Nature Sustainability. doi.org/10.1038/s41893-025-01562-4

  • Sahle, M., Lahoti, S.A., Lee, S.-Y., Brundiers, K., van Riper, C.J., Pohl, C., Chien, H., Bohnet, I.C., Aguilar-Rivera, N., Edwards, P., Pradhan, P., Plieninger, T., Boonstra, W.J., Flor, A.G., Di Fabio, A., Scheidel, A., Gordon, C., Abson, D.J., Andersson, E., Demaria, F., Kenter, J.O., Brooks, J., Kauffman, J., Hamann, M., Graziano, M., Nagabhatla, N., Mimura, N., Fagerholm, N., O’Farrell, P., Saito, O., Takeuchi, K., 2025. Revisiting the sustainability science research agenda. Sustainability Science 20. doi.org/10.1007/s11625-024-01586-3.

  • Tindale,S., Frewer, L.J., Sari, N., Jin,S., Teh, Y.A, Whittingham,M.J,. Girling, R., Areal, F.J, Pfiefer, M.  Remoundou, K.,2025 Connections to trees in the countryside: exploring public perceptions of agroforestry as a future land management system in England. Agroforestry Systems 99, DOI:10.1007/s10457-025-01284-8.  
  • Woodhead, A.J., Kenter, J.O., Thomas, C.D., Stringer, L.C., 2025. How ecosystem services are co-produced: a critical review identifying multiple research framings. Ecosystem Services 71, 101694. doi.org/10.1016/j.ecoser.2024.101694

 

2024

  • Ainscough, J., Kenter, J.O., Azzopardi, E., Wilson, A.M.W., 2024. Participant perceptions of different forms of deliberative monetary valuation: Comparing democratic monetary valuation and deliberative democratic monetary valuation in the context of regional marine planning. Environmental Values 33, 189–215. doi.org/10.1177/09632719241231510.

  • Awuah, B., Elbardan, H., Yazdifar, H., 2024. Chief executive officer narcissism, power and sustainable development goals reporting: An empirical analysis. Business Strategy and the Environment. https://doi.org/10.1002/bse.3889.
  • Buckton, S.J., Kenter, J.O., Mukherjee, N., Waddock, S., Anger-Kraavi, A., Martino, S., Fazey, I., Hejnowicz, A.P., Kabubo-Mariara, J., Lafayette, J.O., Locy, K., Scarr, C., 2024. Reform or transform? A spectrum of stances towards the economic status quo within ‘new economics’ discourses. Global Social Challenges Journal 1, 1–40. doi.org/10.1332/27523349Y2024D000000025
  • Ives, C.D., Kidwell, J.H., Anderson, C.B., Arias-Arévalo, P., Gould, R.K., Kenter, J.O., Murali, R., 2024. The role of religion in shaping the values of nature. Ecology and Society 29. doi.org/10.5751/ES-15004-290210. 

 

2023

  • Azzopardi, E., Kenter, J.O., Young, J., Leakey, C., O’Connor, S., Martino, S., Flannery, W., Sousa, L.P., Mylona, D., Frangoudes, K., Béguier, I., Pafi, M., da Silva, A.R., Ainscough, J., Koutrakis, M., da Silva, M.F., Pita, C., (2023). What are heritage values? Integrating natural and cultural heritage into environmental valuation. People and Nature 5, 368–383. doi.org/10.1002/pan3.10386.

  • Gould, R.K., Saito, T., Allen, K.E., Bonn, A., Chapman, M., Droz, L., Herrmann, T.M., Himes, A., Ishihara, H., Coelho-Junior, M.G., Katsue, F., Kenter, J.O., Muraca, B., Ortiz-Przychodzka, S., Pearson, J., Tadaki, M., Rono, B.J., Tamura, N., 2023. Constraint breeds creativity: A brainstorming method to jumpstart out-of-the-box thinking for sustainability science. BioScience 73, 703–710. doi.org/10.1093/biosci/biad077. 
  • Gould, R.K., Saito, T., Allen, K.E, Bonn, A., Chapman, M., Droz, L., Herrmann, T.M., Himes, A., Ishihara, H., Coelho-Junior, M.G., Katsue, F., Kenter, J.O., Muraca, B., Ortiz-Przychodzka, S., Pearson, J., Tadaki, M., Rono, B.J, Tamura, N. (2023) Constraint breeds creativity: A brainstorming method to jumpstart out-of-the-box thinking for sustainability science, BioScience, biad077. doi.org/10.1093/biosci/biad077

  • Himes, A., Muraca, B., Anderson, C.B., Athayde, S., Beery, T., Cantú-Fernández, M., González-Jiménez, D., Gould, R.K., Hejnowicz, A.P., Kenter, J.O., Lenzi, D., Murali, R., Pascual, U., Raymond, C., Ring, A., Russo, K., Samakov, A., Stålhammar, S., Thorén, H., Zent, E., (2023). Why nature matters: A systematic review of intrinsic, instrumental, and relational values. BioScience. biad109. doi.org/10.1093/biosci/biad109. 

  • Martino, S., Kenter, J.O., 2023. Economic valuation of wildlife conservation. Eur J Wildl Res 69, 32. doi.org/10.1007/s10344-023-01658-2
  • Martino, S., Azzopardi, E., Fox, C., Chiaroni, E., Payne, E., Kenter, J.O. (2023). The importance of local fisheries as a cultural attribute: insight from a discreet choice experiment of seafood customers. Maritime Studies 22:22. doi.org/10.1007/s40152-023-00308-2.

  • Pascual, U., Balvanera, P., Anderson, C.B., Chaplin-Kramer, R., Christie, M., González-Jiménez, D., Martin, A., Raymond, C.M., Termansen, M., Vatn, A., Athayde, S., Baptiste, B., Barton, D.N., Jacobs, S., Kelemen, E., Kumar, R., Lazos, E., Mwampamba, T.H., Nakangu, B., O’Farrell, P., Subramanian, S.M., van Noordwijk, M., Ahn, S., Amaruzaman, S., Amin, A.M., Arias-Arévalo, P., Arroyo-Robles, G., Cantú-Fernández, M., Castro, A.J., Contreras, V., De Vos, A., Dendoncker, N., Engel, S., Eser, U., Faith, D.P., Filyushkina, A., Ghazi, H., Gómez-Baggethun, E., Gould, R.K., Guibrunet, L., Gundimeda, H., Hahn, T., Harmáčková, Z.V., Hernández-Blanco, M., Horcea-Milcu, A.-I., Huambachano, M., Wicher, N.L.H., Aydın, C.İ., Islar, M., Koessler, A.-K., Kenter, J.O., Kosmus, M., Lee, H., Leimona, B., Lele, S., Lenzi, D., Lliso, B., Mannetti, L.M., Merçon, J., Monroy-Sais, A.S., Mukherjee, N., Muraca, B., Muradian, R., Murali, R., Nelson, S.H., Nemogá-Soto, G.R., Ngouhouo-Poufoun, J., Niamir, A., Nuesiri, E., Nyumba, T.O., Özkaynak, B., Palomo, I., Pandit, R., Pawłowska-Mainville, A., Porter-Bolland, L., Quaas, M., Rode, J., Rozzi, R., Sachdeva, S., Samakov, A., Schaafsma, M., Sitas, N., Ungar, P., Yiu, E., Yoshida, Y., Zent, E. (2023). Diverse values of nature for sustainability. Nature, 620, 813–823. doi.org/10.1038/s41586-023-06406-9.

  • Raymond, C.M., Anderson, C.B, Athayde, S., Vatn. A., Amin, A.M., Arias-Arévalo, P., Christie, M., Cantú-Fernández, M., Gould, R.K., Himes, A., Kenter, J.O., Lenzi, D., Muraca, B., Murali, R., O’Connor, S., Pascual, U., Sachdeva, S., Samakov, A., Zent, E. (2023). An inclusive typology of values for navigating transformations towards a just and sustainable future. Current Opinion in Environmental Sustainability, 64, 101301. doi.org/10.1016/j.cosust.2023.101301. 
  • Willemen, L., Kenter, J.O., O’Connor, S., van Noordwijk, M. (2023). Nature living in, from, with, and as people: exploring a mirrored use of the Life Framework of Values. Current Opinion in Environmental Sustainability, 63, 101317. doi.org/10.1016/j.cosust.2023.101317.
  • Zimmermann, A., Kenter, J.O., (2023). Framing the change and changing frames: Tensions in participative strategy development. Politics & Policy 51, 81–113. doi.org/10.1111/polp.12518