Tasgau cyn cofrestru

Fel myfyriwr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth (neu fyfyriwr sy'n dychwelyd sydd â fisa newydd) bydd gofyn i chi ddod i sesiwn Gwirio Dogfennau cyn i chi gofrestru. Mae'r sesiwn hon yn orfodol i bob myfyriwr sydd â Fisa Myfyriwr.

Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth a chyn gallu cofrestru ar eich cwrs, mae’n rhaid i chi:

  • Uwch-lwytho eich dogfennau trwy’r porth myfyrwyr (byddwn yn anfon gair i’ch atgoffa i wneud hyn yn rheolaidd)
  • Bydd angen i fyfyrwyr sydd â Fisa Myfyrwyr drefnu apwyntiad i weld y Tîm Cydymffurfio wyneb yn wyneb hefyd.

Ar gyfer y sesiwn hon, dylech ddod â’r dogfennau gwreiddiol canlynol gyda chi:

  • Copi wedi’i argraffu o fanylion eich taith awyren (e-bost cadarnhau neu docyn)
  • Pasbort
  • Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) (os yw’n berthnasol)
  • Tystysgrif Iaith Saesneg (os yw’n berthnasol)
  • Cymwysterau academaidd
  • Llythyr yn caniatáu mynediad
  • Tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) (os yw'n berthnasol)

Sylwch na fydd modd i chi gofrestru ar gyfer eich cwrs oni bai eich bod wedi cyflwyno'r ddogfen/dogfennau uchod i ni a chyfarfod â’r Tîm Cydymffurfio.