Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud cais am fisa Llwybr Graddedigion, pa mor fuan y caf wneud cais?

Ni ddylech gyflwyno eich cais llwybr graddedigion cyn i chi dderbyn e-bost gan Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI yn cadarnhau bod adroddiad wedi'i wneud i'r UKVI. 

Bydd yr adroddiad yn cadarnhau i UKVI eich bod wedi cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus. Mae unrhyw gais a gyflwynir cyn yr adroddiad hwn yn debygol o gael ei wrthod.

Nid yw'r adroddiad hwn yn golygu eich bod yn gymwys i gael fisa graddedigion, mae'r dyfarniad a'r penderfyniad yn un a wneir gan UKVI yn unol â rheolau'r llwybr fisa hwnnw. 

Gweithredir yr adroddiadau yn fuan ar ôl i'ch cwrs gael ei newid yn swyddogol i statws 'wedi cwblhau'n llwyddiannus' ar eich cofnod myfyriwr.

Byddwch yn derbyn eich canlyniadau cyn i'r cofnod myfyriwr gael ei ddiweddaru'n ffurfiol felly mae'n bwysig nad ydych chi'n cyflwyno cais nes y byddwch wedi derbyn yr e-bost sy’n noddi bod adroddiad wedi'i wneud.

Byddwch yn ymwybodol y gall fod oediad o ychydig ddyddiau rhwng cael eich canlyniad a derbyn e-bost gennym ni.

Dim ond os nad ydych chi'n bwriadu astudio cwrs arall yn y Deyrnas Unedig y gallwch chi wneud cais am y llwybr hwn. 

Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sydd wedi cwblhau eich cwrs, efallai y byddwch yn derbyn e-bost ond os ydych chi’n bwriadu astudio cwrs ôl-raddedig yn y Deyrnas Unedig dylech wneud cais am fisa Myfyriwr newydd. 

Mwy o fanylion am y Fisa Llwybr Graddedigion ar gael yma: 

https://www.aber.ac.uk/en/sscs/visa-support-advice/post-study/graduate-route/