2.3 Crynodeb o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau

1. Yn yr adran hon rhoddir crynodeb o’r drefn ar gyfer cymeradwyo cynlluniau, trefn a ddisgrifir yn fanwl yn adrannau 2.4 - 2.9.   Efallai y bydd y siartiau llif datblygu cynlluniau a welir yn adran 2.15 hefyd yn ddefnyddiol i staff.

2. Dylid trafod pob cais gyda’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio cyn cwblhau unrhyw achos busnes neu ddogfennaeth datblygu cynllun; dylid gwneud hyn trwy’r cylch Cynllunio ar gyfer achosion sy’n dilyn Llwybr Cymeradwyaeth Y Weithrediaeth, neu mewn egwyddor ar gyfer achosion sy’n dilyn Llwybr Cymeradwyo Di-Weithrediaeth. Mewn achosion eithriadol, os bydd cynigion yn cael eu cyflwyno y tu allan i’r cylch Cynllunio, dylid gwneud cais i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio.  Ar ôl i’r cynnig gael ei gymeradwyo, dylai’r adran fynd yn ei blaen i ddatblygu’r achos busnes a/neu ddogfennaeth y cynnig a nodir isod.   

3. Mae dau lwybr i'r drefn gymeradwyo, llwybr 'Y Weithrediaeth' a'r llwybr ‘Di-Weithrediaeth’.  Dylech ymgynghori â'ch cyswllt Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd (qaestaff@aber.ac.uk) i weld pa lwybr cymeradwyo sy'n addas i'ch gofynion chi.

4. Llwybr ‘Y Weithrediaeth’ yw'r drefn ar gyfer cynigion sydd wedi eu newid neu eu had-drefnu'n sylweddol, yn ddatblygiadau mewn maes newydd o ddarpariaeth, a datblygiadau sydd ag oblygiadau mewn adnoddau a goblygiadau ar lefel prifysgol y mae angen i Weithrediaeth y Brifysgol eu cymeradwyo’n derfynol. Dylid trafod yr achos busnes, a chwblhau’r dogfennau cysylltiedig, mewn ymgynghoriad â’r Swyddfa Gynllunio; yna, dylid cyflwyno hyn i Weithrediaeth y Brifysgol gael ei ystyried.  Bydd Grŵp Gweithredol y Brifysgol yn ystyried cynigion o safbwynt strategaeth, dichonoldeb busnes gan gynnwys costau, risgiau (gan gynnwys y risg i enw da), niferoedd myfyrwyr ac ystyriaethau ymarferol, a byddant yn penderfynu a ddylai’r cynigion symud ymlaen i gael eu hystyried o safbwynt academaidd gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog.  Ni ddylid datblygu ffurflenni datblygu cynllun (SDF) hyd nes bydd Y Weithrediaeth wedi rhoi ei sêl bendith i anfon y cynnig ymlaen i’r Panel Craffu Academaidd.

5. Y llwybr ‘Di-Weithrediaeth’ yw'r drefn yn achos cynigion yr ystyrir eu bod yn ddatblygiadau mewn maes sy'n bod eisoes, lle nad oes oblygiadau adnoddau ac felly nid oes angen cymeradwyaeth derfynol Gweithrediaeth y Brifysgol. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio yn ystyried cynigion yng nghyd-destun eu heffaith ar y portffolio a byddant yn penderfynu a ddylid anfon y cynigion ymlaen i’r Panel Craffu Academaidd sefydlog i gael ystyriaeth academaidd.  Ni ddylid datblygu ffurflenni SDF hyd nes i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio gadarnhau y gellir, mewn egwyddor, anfon y cynnig ymlaen i’r Panel Craffu Academaidd.

6. I gael gwybodaeth am ddarpariaeth Ar-lein/Dysgu o Bell a DPP, gweler adran 2.9.

7. Os cynigir Tystysgrif neu Ddiploma annibynnol, bydd angen cymeradwyo hyn fel cynllun astudio newydd ag iddo fanyleb rhaglen a strwythur cynllun.

8. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn ystyried cynlluniau gradd sy'n newid teitl, yn cael eu gohirio neu eu dileu.

9. Ar gyfer darpariaeth nad yw’n cyd-fynd â’r uchod, dylai adrannau gysylltu â’r tîm Sicrhau a Gwella Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i drafod craffu mewnol priodol cyn ei ystyried gan unrhyw banel allanol.

10. Tan i gynllun gwblhau'r drefn gymeradwyo yn llwyr, ni ddylid ei hysbysebu ar-lein na'i roi ar UCAS, ond gellir ei farchnata 'yn amodol ar ei gymeradwyo' ym Mhrosbectws argraffedig y Brifysgol. Gellid marchnata cynllun 'yn amodol ar ei gymeradwyo' ar ddyddiau agored, neu ar wefannau'r adrannau, cyhyd â bod achos boddhaol yn cael ei gyflwyno i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) neu’r Panel Craffu Academaidd lle bo hynny'n briodol, a chyhyd â bod yr holl ddeunydd hysbysebu a chyflwyniadau mewn digwyddiadau yn ei gwneud yn hollol glir fod y cyrsiau hyn yn dal yn amodol ar gael eu cymeradwyo.

11. Er mwyn sicrhau digon o amser am ymgyrch farchnata effeithiol a lansiad llwyddiannus, dylid yn ddelfrydol ddatblygu cynllun trwy ddilyn cylch cynllunio 2 flynedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynigion gael eu hystyried ar lefel yr adran, yn rhoi amser i adrannau ymgynghori'n allanol, ymgynghori â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, ac i drafod â’r tîm Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr, yn ogystal ag amser i gynigion gael cwblhau’r llwybr cymeradwyo priodol.

Safonau’r Iaith Gymraeg

12. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Cyfrifoldeb adrannau academaidd yw dangos sut y mae cynnig i gyflwyno, diwygio, gohirio neu ddiddymu cynllun astudio yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, ac yn benodol Safon 104.  Ceir manylion pellach ar dudalennau gwe Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/bilingual-policy/ .

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

13. Wrth ddatblygu’r cwricwlwm, bydd adrannau academaidd yn cyfeirio at amcanion strategol y Brifysgol ac yn benodol cynllun/strategaeth cyfrwng Cymraeg presennol y Brifysgol. Gweler Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg am fanylion pellach, yn cynnwys yr egwyddorion a’r mesurau llwyddiant mewn perthynas â’r ddarpariaeth academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/policies/.

14. Y Pwyllgor Ansawdd a Safonau, un o is-bwyllgorau’r Senedd, sy’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu cynlluniau yn y Brifysgol. Y pwyllgor hwn sy’n gyfrifol am gadw golwg gyffredinol ar y cynlluniau newydd a’r cynlluniau sy’n cael eu gohirio neu eu dileu. Bydd cynigion am gynlluniau newydd yn cael eu hystyried gan Banel Craffu Academaidd sefydlog, sy’n adrodd i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau.

15. Yn y rhannau sy’n ymwneud â’r Llwybr Cymeradwyo ceir disgrifiad o’r drefn i gymeradwyo cynlluniau gradd a ddysgir a chynlluniau astudio eraill sy’n arwain at ddyfarniadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n berthnasol i gynigion am gynlluniau newydd. Cymeradwyir pob cynllun am gyfnod o bum mlynedd, ac ar ôl hynny rhaid iddynt fod yn destun adolygiad ac ail-ddilysu (Adran 2.12).

16. Cynlluniwyd y drefn gymeradwyo ar sail egwyddorion arweiniol Cod Ansawdd y DU, ac i gydymffurfio â’r arferion allweddol a amlinellir ynddo. Mae hyn er mwyn sicrhau’r Brifysgol bod yr adrannau academaidd, wrth ddatblygu cynlluniau newydd, wedi rhoi ystyriaeth gywir i’r canlynol:

(i) Cyferbwyntiau allanol, gan gynnwys datganiadau meincnodi pwnc perthnasol a'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ)

(ii) Cyngor gan arbenigwyr pwnc allanol (er enghraifft, yr arholwr allanol cyfredol neu aelodau o gorff cynghori allanol) a, lle bo'n briodol, gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol (PSRB), a chyflogwyr

(iii) Pa mor gydnaws yw'r cynnig yng nghyd-destun y ddarpariaeth bresennol ac amcanion a chenadwri'r sefydliad?

(iv) Gofynion adnoddau, gan gynnwys staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw adnoddau pwnc-benodol (e.e. cyfleusterau labordy)

(v) Lefel debygol y galw.

17. Os yw adrannau academaidd yn bwriadu cyflwyno cynllun astudio newydd, neu wneud newidiadau sylweddol i gynllun, rhaid caniatáu digon o amser ar gyfer denu myfyrwyr a hysbysebu.