1.8 Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2023/2024: Crynodeb o’r Newidiadau Allweddol

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r newidiadau a wnaed ers cyhoeddi fersiwn 2022/23 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ym mis Medi 2022.

Adran

Newid

Dyddiad

2. Datblygu ac Adolygu

NEWYDD 2.9 Adolygiad Blynyddol o Fanylebau Rhaglen

Dylai’r Adrannau gynnal adolygiad blynyddol o fanylebau eu rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod

wedi  cael eu diweddaru a’u bod yn parhau i fod yn ddilys; gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg yn

ystod y sesiwn bresennol, ond gofynnir i’r Adrannau anfon unrhyw newid ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) erbyn diwedd Semester 2 yn ystod pob sesiwn academaidd. Mae’n bosibl y bydd  angen i unrhyw newidiadau sylweddol gael eu hystyried a’u cymeradwyo gan

Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran (mae’r dyddiadau a’r terfynau amser ar gyfer papurau

ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/). Bydd fersiynau PDF o fanylebau’r rhaglenni yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau pob sesiwn academaidd ar gyfer y sesiwn

dan sylw.

Adolygiad Gwella Ansawdd

Ebrill 2022

2. Datblygu ac Adolygu

2.13 Panel Cymeradwyo Cynlluniau: dyddiadau a dyddiadau cau ar gyfer papurau

Amnewid dyddiadau a dyddiadau cau cyhoeddedig y panel ar gyfer papurau am y testun canlynol:

Bydd Panel Cymeradwyo Cynlluniau yn cael ei gynnull i ystyried cynnig pan fydd wedi cael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio i symud ymlaen i gam nesaf y broses

 gymeradwyo. Bydd angen cyflwyno papurau i’w hystyried gan y Panel bythefnos fan bellaf cyn

cyfarfod y Panel. Cysylltwch â’r Tîm Sicrhau Ansawdd i gael rhagor o arweiniad ar amseriad

cynnull paneli cymeradwyo.

Medi 2023

2. Datblygu ac Adolygu

2.15 Ffurflenni Templed
SDF1.2 1.2 Llwybr Cymeradwyo drwy’r Weithrediaeth – Trosolwg Academaidd wedi’i ddiweddaru i dynnu’r cyfeiriad at godau JACS (nid yw’r Adran Gynllunio eu hangen bellach)

SDF2 Llwybr Cymeradwyaeth Di-Weithrediaeth - darpariaeth newydd mewn maes sy'n bod eisoes wedi’i ddiweddaru i dynnu’r cyfeiriad at godau JACS (nid yw’r Adran Gynllunio eu hangen bellach)

SDF3 Mân Newid Neu Ad-Drefnu darpariaeth sy’n bod eisoes (y ffurflen wedi’i diweddaru i gynnwys Tabl o Ganlyniadau Dysgu wedi’u mapio yn erbyn modiwlau)

Medi 2023

3. Asesu Cynlluniau trwy

Gwrs

3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu

Paragraff 6 wedi’i ddiweddaru i gynnwys y frawddeg ganlynol, ac mae’r cyfrif geiriau argymelledig ar gyfer gwaith cwrs (ac amrywiolion) ar gyfer modiwlau 20 credyd Rhan Dau wedi’i leihau o 5000 i 4000.

(i)         Mae’n ofyniad gan y Brifysgol na ddylai modiwl Israddedig 20-credyd gynnwys mwy na 2 asesiad crynodol (pro rata fesul pwysoliad 10 credyd). Os oes gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol

neu Reoliadol sy’n wahanol i’r gofyniad hwn, dylid ymgynghori â’r Deon Cyswllt dros Ddysgu,

Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr.

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

3. Asesu Cynlluniau trwy

Gwrs

3.4 Monitro Cynnydd Academaidd

Paragraff 15 wedi’i ddiweddaru i egluro rôl Bwrdd Arholi’r Senedd wrth ddiarddel myfyrwyr:

 

15. Ni fydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon llythyrau diarddel os derbynnir argymhellion gan

Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran ar ôl diwrnod cyntaf Tymor 3. Dylai’r cyfadrannau sicrhau eu bod

yn ymyrryd yn gynnar er mwyn gallu cyfweld myfyrwyr yn ystod Tymor 2 a monitro eu cynnydd

wedi hynny. Pan na fu hyn yn bosib, gall Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran gyfweld myfyrwyr yn

ystod Tymor 3 a’u hysbysu y gallai adroddiadau’r gyfadran gael eu hystyried gan Fwrdd Arholi’r

Senedd wrth ystyried canlyniadau’r arholiadau (Templedi F a G). Gall Bwrdd Arholi’r Senedd

atal myfyrwyr rhag ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd, a mynnu bod myfyrwyr yn cael eu diarddel

yn barhaol neu dros-dro. Os yw cyfadran am argymell bod Bwrdd Arholi’r Senedd yn diarddel

myfyriwr yn barhaol neu dros dro, dylid anfon tystiolaeth ddogfennol lawn i’r Gofrestrfa

Academaidd a dylid cofnodi’r argymhelliad yn glir hefyd yng nghofnodion y Bwrdd Arholi perthnasol ar lefel adran/cyfadran. Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno argymhelliad i ddiarddel myfyriwr yn

cyfateb i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cofnodion byrddau arholi a dogfennau amgylchiadau

arbennig i’r Gofrestrfa Academaidd, ac ni fydd argymhellion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn

cael eu hystyried gan Fwrdd Arholi’r Senedd. Bydd argymhelliad Bwrdd Arholi’r Senedd i ddiarddel myfyriwr dros dro neu’n barhaol yn amodol ar wiriad gan y Gofrestrfa Academaidd i sicrhau bod y cyfadrannau/adrannau wedi dilyn y weithdrefn a nodir yn y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.

 

Cafodd yr un frawddeg ei hychwanegu i’r Llinell Amser Monitro Cynnydd Academaidd yn 3.1.3

Deoniaid Cyswllt Dysgu ac Addysgu

Gorffennaf 2023

3. Asesu Cynlluniau trwy

Gwrs

3.6 Ymddygiad Academaidd

UAPF adroddiad ymchwiliad wedi’i ddiweddaru.

Y System Gosbau yn seiliedig ar Bwyntiau wedi’i ddiweddaru.

Bwrdd Academaidd

Medi 2023

3. Asesu Cynlluniau trwy

Gwrs

3.7 Arholiadau a Byrddau Arholi

Adran sy’n ymwneud â chyfyngiadau amser i fyfyrwyr ar gynlluniau uwchraddedig a addysgir wedi’i diweddaru (paragraffau 24-26), a dyddiadau cyflwyno ar gyfer traethodau hir/prosiectau uwchraddedigion a addysgir (y rhai sy’n dechrau ym mis Medi a Ionawr) ar gyfer sesiynau academaidd 2023/24 – 2025/26 wedi’u hychwanegu.

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

3. Asesu Cynlluniau trwy

Gwrs

3.8 Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol

Gall caledi ariannol gael ei ddefnyddio nawr i gefnogi amgylchiadau arbennig (paragraff 1)

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

3. Asesu Cynlluniau trwy

Gwrs

3.13 Templed E, Monitro Cynnydd Myfyrwyr – wedi’i ddiweddaru i ofyn am eglurhad os ydynt yn tynnu’n ôl yn barhaol neu’n tynnu’n ôl dros dro

Medi 2023

4. Confensiynau

Arholiadau

4.3.3 Dyfarnu gradd Baglor i fyfyrwyr sy’n astudio cynlluniau Meistr Integredig

Tynnu’r adran isod (croesi allan) o’r Confensiynau Meistr Integredig:

Myfyrwyr sy'n dechrau Rhan Un ar Gynlluniau Meistr Integredig MComp ac MEng O fis Medi 2022 

2.         Fel y nodir o dan 4.3.2, ac eithrio pwynt 2, ni chaiff myfyrwyr  fethu mwy na  chyfanswm o

20 credyd ar draws Lefel Dau, Lefel Tri a Lefel M, sy'n  cyfrannu at dosbarthiad terfynol y dyfarniad.

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023
(hefyd gweler Bwrdd Academaidd

Gorffennaf 2022)

4. Confensiynau

Arholiadau

4.4 BVSc Gwyddor Filfeddygol (blynyddoedd 1 a 2): Rheolau Cynnydd
Wedi’i ddiweddaru i egluro materion sy’n ymwneud â modiwlau wedi’u capio a heb eu capio ac amgylchiadau esgusodol

3.1 Bydd angen i fyfyrwyr sy'n ailadrodd blwyddyn ailsefyll yr holl fodiwlau a'r holl asesiadau cyfatebol eto; bydd marc cyffredinol y modiwlau yn cael ei gapio ar 50%. Rhaid pasio’r flwyddyn yn ei chyfanrwydd ac ni fydd marciau modiwlau blaenorol yn cyfrif.

3.2 Gall myfyrwyr ailadrodd naill ai'r flwyddyn gyntaf neu'r ail flwyddyn ond ni chânt ailadrodd y ddwy. Bydd y cyfnod cofrestru hwyaf ar gyfer elfen rag-glinigol y radd yr un fath ag ar gyfer cwrs BVetMed y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol h.y. 3 blynedd. Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir estyn y cyfyngiad amser gyda chymeradwyaeth gan y Brifysgol.

4.  Bydd polisi Amgylchiadau Arbennig PA yn berthnasol – gan gynnwys mewn perthynas ag absenoldeb o asesiad - gweler Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol yn y LlAA.

8. Dyfarniadau gadael - gweler hefyd Gonfensiynau PA ar gyfer Dyfarnu Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch

Bwrdd Academaidd Mawrth 2023

4. Confensiynau

Arholiadau

 

4.5 Cynlluniau Gradd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs, neu gynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor Cynlluniau.

Wedi’i ddiweddaru i egluro’r cyfle ailsefyll:
3. Bydd y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei marcio yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer asesu. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn mynnu bod myfyrwyr nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau dysgu ac yn sicrhau marc isaf o 40% neu’n cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus yn symud i gynllun gradd cytras nad yw’n cynnwys y flwyddyn integredig mewn diwydiant / blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae’n bosibl na fydd cyfle i ailsefyll os yw’r dyddiad cau ar gyfer yr asesiad yn cael ei bennu yn yr haf ar ôl byrddau arholi semester dau a bod y marc ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei ystyried ym mwrdd arholi mis Medi.

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

4. Confensiynau

Arholiadau

Newydd 4.11 FdSc Nyrsio Milfeddygol: Rheolau Cynnydd

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

4. Confensiynau

Arholiadau

Newydd 4.16 Tystysgrif Addysg Uwch Addysg Gofal Iechyd - Confensiynau Arholiadau

Bwrdd Academaidd

Gorffennaf 2023

4. Confensiynau

Arholiadau

4.17 Rheolau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig: Rheolau Cynnydd

4.17.1 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS Mis Medi 2013 – adran wedi’i archifo

Medi 2023

4. Confensiynau

Arholiadau

4.19 Rheolau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig: Rheolau Cynnydd

4.19.2 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS mis Medi 2023:

Paragraff 6 newydd wedi’i ychwanegu (ym mis Ebrill 2023):

6. NID yw marciau lleoliadau gwaith yn cyfrif yn nosbarth gradd ac nid yw credydau a ddyfarnwyd am gwblhau lleoliad diwydiannol yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.

Paragraffau 8 ac 11 wedi’u diweddaru i gynnwys ffrâm amser ar gyfer cynlluniau sy’n derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr.

Cyfnodau Cofrestru a Chyfyngiadau Amser – y paragraff canlynol wedi’i ychwanegu:

12. Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.

Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023

7. Graddau Ymchwil

7.11 Arholi Allanol Graddau Ymchwil

4. Dim ond pobl sydd â safle digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod y dylid eu penodi yn arholwyr allanol. Rhaid i’r Arholwr Allanol fod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd ym maes yr ymchwil. Dylent hefyd fod â phrofiad o arolygu myfyrwyr ymchwil ac arholi ymgeiswyr graddau ymchwil yn fewnol yn llwyddiannus.

7. Fel arfer ni fydd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymddeol yn cael eu henwebu yn Arholwyr Allanol. Gellir gwahodd aelodau o staff sefydliadau prifysgolion eraill sydd wedi ymddeol yn ystod y 3 blynedd flaenorol heb i gyfnod o amser o’r fath basio i weithredu fel Arholwyr Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

8. Ni ellir gwahodd cyn-fyfyrwyr o’r Brifysgol i fod yn Arholwyr Allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi pasio, neu ddigon o amser i fyfyrwyr a oedd yn gydnabyddus â’r cyn-fyfyriwr fod wedi pasio drwy’r system. Ni ddylai cyn-fyfyrwyr weithredu fel arholwr allanol i ymgeiswyr a gyfarwyddwyd gan eu cyfarwyddwr PhD hwy eu hunain, ni ddylent chwaith weithredu fel arholwr allanol os mai eu harolygwr yw’r arholwr mewnol.

10. Bydd arholwyr allanol yn cael eu penodi ar ran yr Is-Ganghellor a bydd y penodiadau’n cael eu cymeradwyo gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion. Mae arholwyr ar gyfer myfyrwyr graddau ymchwil yn cael eu henwebu gan adrannau a’u cymeradwyo gan Banel a gadeirir gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion, gyda dau aelod arall o staff yn Ysgol y Graddedigion. Gwneir penodiadau ar ran y Pwyllgor Graddau Ymchwil a'r Bwrdd Academaidd. Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer pob cyfarfod PGY a BA, sy’n rhestru penodiadau arholwyr allanol a gymeradwywyd ers y cyfarfod diwethaf ynghyd â data allweddol, a sylwebaeth ar unrhyw faterion sydd wedi codi. Bydd y Panel yn gwirio bod arholwyr arfaethedig yn bodloni gofynion y LlAA ar gyfer arholi graddau ymchwil a'r rheoliadau sy'n llywodraethu arholi graddau ymchwil. Bydd y Panel yn ystyried y ddau arholwr arfaethedig fel tîm a gall gymeradwyo un arholwr sydd â llai o brofiad o archwilio nag a ddisgwylir fel arfer pe bai hyn yn cael ei ddigolledu gan arholwr arall sydd â phrofiad sylweddol.

Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023

9. Dysgu ac Addysgu

Newydd 9.8 Cytundebau Dysgu ar gyfer myfyrwyr sy'n mynd allan ar gynlluniau cyfnewid
9.8 Mae Cytundebau Dysgu yn rhoi manylion y cyrsiau a astudir gan fyfyrwyr yn ystod rhaglen gyfnewid. Er efallai na fydd sefydliadau partneriaethol yn gallu cyflwyno'r union gymysgedd o sgiliau a chynnwys a gynigir yn PA, bydd angen i gydlynwyr y cynllun gradd gadarnhau pa fodiwlau/cyrsiau sy'n gweddu orau â chynlluniau a manylebau rhaglenni PA ei hun. Mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru ar gyfer modiwlau craidd ychwanegol ym mlwyddyn olaf graddau israddedig i gydymffurfio â gofynion y cynllun neu Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB). Bydd Copïau o Gytundebau Dysgu yn cael eu cadw gan adrannau academaidd a Chyfleoedd Byd-eang, i gyfeirio atynt yn ystod cynllun cyfnewid un neu ddau semester, ac i'w hadolygu gan Gyfadrannau lle bo hynny'n briodol.

Bwrdd Academaidd Mawrth 2023

12. Apeliadau Academaidd

12.1.6 wedi’i ddiweddaru i roi awdurdod i Gadeirydd y Panel Apeliadau Academaidd wrthod apêl ar seiliau.

Mae'r Ffurflen Gais Apêl Academaidd wedi cael ei diweddaru i gynnwys blwch ticio:

Os yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ymwneud â thrydydd parti, ticiwch yma i gadarnhau eich bod wedi cael eu caniatâd i'w defnyddio.

Bwrdd Academaidd Medi 2023

13. Adolygiad Terfynol

Cymorth i Astudio wedi’i ychwanegu i Adran B y ffurflen gais Adolygiad Terfynol, ac Addasrwydd i Fynychu wedi’i newid am Cymorth i Astudio yn y rhestr o weithdrefnau y gellir codi’r Adolygiad Terfynol yn eu herbyn yn adran 13.1

Mae'r Ffurflen Gais ar gyfer Adolygiad Terfynol wedi cael ei diweddaru i gynnwys blwch ticio:

Os yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ymwneud â thrydydd parti, ticiwch yma i gadarnhau eich bod wedi cael eu caniatâd i'w defnyddio.

Bwrdd Academaidd Tachwedd 2022

15. Disgyblu Myfyrwyr

Mân newidiadau: rhai wedi’u hadnabod ar sail ymchwiliadau penodol yn ystod 22/23 a meysydd sydd angen rhagor o eglurder a hyblygrwydd ac wedi’u seilio ar gyfarwyddyd sector diweddaraf gan OIA ac UUK, ynghyd  â’r ymgynghoriad OfS cyfredol ar gyfer sefydliadau Addysgu Uwch yn Lloegr.

Bwrdd Academaidd Medi 2023

16. Addasrwydd i Ymarfer

Newydd 16.7 Atodiad 4: Canllawiau a Gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer Nyrsys Milfeddygol

Bwrdd Academaidd

Gorffennaf 2023

Rhan B – Gwybodaeth

Bwysig i Fyfyrwyr

Adran wedi’i hadolygu oherwydd ei bod yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfarwyddyd, polisïau a chyfeiriadau at ffynonellau gwybodaeth eraill; nid oedd y fformat blaenorol yn sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch i fyfyrwyr. Mae rhai adrannau wedi’u dileu a bydd Adran 23 ‘Problemau gyda’r Gyfraith neu Euogfarnau Troseddol’ yn cael ei symud i AQH 15 Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr.

Bwrdd Academaidd Medi 2023

Rhan B - Rheolau a

Rheoliadau i'r Myfyrwyr

Newydd 2.9.6 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymddwyn fel a ganlyn: aflonyddu, aflonyddu rhywiol, aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, aflonyddu ar sail hunaniaeth rhywedd, aflonyddu ar sail anabledd, bwlio, stelcian, seiberfwlio, a chamdrin rhywiol.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a gellir canfod bod mathau eraill o ymddygiad yn torri'r Rheolau hyn.
Mae Rheolau 2.9.1 - 2.9.6 cynnwys cyfathrebu drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.

Gwnaed mân newidiadau eraill i’r bennod hefyd.

Bwrdd Academaidd Medi 2023

Rheoliad Academaidd

ynghylch Cynnydd

Academaidd

4.6 Os gwneir penderfyniad i ddiarddel myfyriwr mewn Bwrdd Arholi adrannol, dylai’r penderfyniad hwnnw gael ei gofnodi yng nghofnodion y Bwrdd Arholi adrannol, a dylai’r dogfennau cysylltiedig gael eu hanfon ymlaen at y Gofrestrfa Academaidd. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn cadarnhau diarddel myfyrwyr, a bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon llythyrau diarddel yn dilyn y Byrddau. Bydd argymhelliad Bwrdd Arholi’r Senedd i ddiarddel myfyriwr dros dro neu’n barhaol yn amodol ar wiriad gan y Gofrestrfa Academaidd i sicrhau bod y cyfadrannau wedi dilyn y weithdrefn a nodir yn y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.

Deoniaid Cyswllt Dysgu ac Addysgu

Gorffennaf 2023

Rheoliad ynghylch

Ymddygiad Annerbyniol

Wedi’i ddiweddaru i gynnwys:

Cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun (Ebrill 2023)

10.1 Pan fydd Cadeirydd Bwrdd Arholi yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle ceir ansicrwydd ai gwaith y myfyriwr ei hun a gyflwynwyd, ac os nad yw’r aelod o staff yn gallu dod o hyd i dystiolaeth ddogfennol i gefnogi achos o YAA, er enghraifft os amheuir bod y gwaith wedi'i gael o fanc traethodau neu wedi’i gynhyrchu drwy feddalwedd AI, gall benderfynu y dylid cynnal cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith.

10.8 Pan fo myfyriwr yn cyfaddef eu bod yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn rhan o’r broses gyfweld, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at y Gofrestrfa Academaidd i benderfynu ar y gosb briodol. Ni fydd yn ofynnol i’r panel YAA gwrdd â'r myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cael cyfle i ofyn i’r panel YAA ystyried eu hachos os yw'r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad y cyfweliad.

13.5 Gall y Panel, ar ôl cyfarfod y panel, gysylltu â'r adran academaidd berthnasol i ofyn am ddilysiad ar gyfer unrhyw hawliadau a wneir gan y myfyriwr, neu ofyn am ragor o wybodaeth y gallai ei hystyried wrth benderfynu ar ganlyniad.

Mae'r gosb am gyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun wedi cael ei lleihau; mae hyn yn golygu y dylai cyhuddiadau gael eu hystyried gan Banel y Gyfadran 'nawr ac nid gan Banel y Brifysgol.

Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023

 

Bwrdd Academaidd
Medi 2023

Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau

Uwchraddedig Modiwlar

trwy Gwrs

Paragraff 10 wedi’i ddiweddaru i gynnwys:

Ni fydd y credydau a ddyfernir am gwblhau lleoliad gwaith yn y diwydiant yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.

Paragraff 17 wedi’i ddiweddaru (ym mis Ebrill 2023) i gynnwys ffrâm amser ar gyfer cynlluniau sy’n derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr:

Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.

Bwrdd Academaidd
Mawrth 2023

Rheoliadau ar gyfer

Graddau Cychwynnol Modiwlar

Tynnu’r adran isod (croesi allan) o’r Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar

 

22.   Ni chaiff myfyrwyr gradd Baglor fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio Modiwlau Lefel S). Ni chaiff myfyrwyr gradd Meistr Integredig fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau (Ail Flwyddyn) a Thri (Trydedd Flwyddyn) ac ni chant fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M (Pedwaredd Flwyddyn), ac eithrio myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 - gweler isod.  

22a.   Ni chaiff myfyrwyr sy'n cychwyn ar raddau Meistr Integredig MEng ac MComp O fis Medi 2022 fethu mwy nag 20 credyd ar draws Rhan Dau yn ei chyfanrwydd.

22a. Cynlluniau BSc Nyrsio - rhaid i bob un o'r 360 credyd gael eu pasio yn Rhan Un a Rhan Dau, h.y. ni chaniateir methu unrhyw gredydau. (Medi 2022).

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

(gweler hefyd Bwrdd Academaidd

Gorffennaf 2022)

Rheoliadau israddedig

Newydd Rheoliadau ar gyfer FdSc Nyrsio Milfeddygol

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

Rheoliadau israddedig

Newydd Rheoliadau ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd

Bwrdd Academaidd

Gorffennaf 2023

Rheoliadau ar gyfer gradd

meistr athroniaeth

Diwygiwyd Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a'u Harholi

Medi 2023

Rheoliadau ar gyfer gradd meistr athroniaeth

Diwygiwyd Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Gradd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) (Cymeradwywyd i

fyfyrwyr sy’n cychwyn o fis Medi 2023 ymlaen)

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

Rheoliadau ar gyfer gradd meistr athroniaeth

Diwygiwyd Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (Cymeradwywyd i fyfyrwyr a

dderbynnir o fis Medi 2023)

Bwrdd Academaidd

Mehefin 2023

 

Diweddarwyd: Medi 2023