Rheoliadau ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg

1. Gellir dyfarnu Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar ôl i gynllun astudio modiwlar a gymeradwyir gan y Brifysgol gael ei gwblhau’n llwyddiannus yn amser llawn neu’n rhan-amser.

2. Dyfarniad israddedig yw’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ac fe’i cynigir ar lefelau 5 a 6 FfCChC (AU lefelau 2 a 3). Rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 o gredydau ar lefelau 5 a 6 FfCChC; rhaid i o leiaf 60 ohonynt fod ar lefel 6. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gwblhau’r elfennau dysgu ymarferol gan fodloni’r arholwyr, yn unol â’r hyn a nodir ar gyfer y cynllun astudio.

3. Cynlluniwyd y Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i baratoi myfyrwyr ar gyfer dysgu mewn addysg bellach a’r sector ôl-orfodol.

4. I fod yn gymwys i’w dderbyn neu ei derbyn i gymhwyster sy’n berthnasol i’r rheoliadau hyn, rhaid i ymgeisydd: fod wedi bodloni unrhyw ofynion mynediad a all fod yn ofynnol gan y rhaglen dan sylw.

5. Gellir dyfarnu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) a/neu Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol trwy Brofiad (RPEL) yn unol â gweithdrefn berthnasol y Brifysgol. Uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg yw 60.

6. Rhaid i fyfyrwyr basio 120 o gredydau i gyd i ymgymhwyso ar gyfer y dystysgrif hon. Y marc pasio modiwlar fydd 40%. Bydd y byrddau arholi yn dosbarthu’r dyfarniadau ar sail marc ar gyfartaledd fydd wedi ei bwysoli yn unol â chredydau’r modiwlau, gan ddefnyddio’r raddfa ganlynol:

70% a throsodd: Lefel Rhagoriaeth
55 – 69%: Lefel Teilyngdod
40 – 54%: Pasio
0 – 39%: Methu

7. Y terfyn amser uchaf ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg fydd dwy flynedd ar gyfer ymgeiswyr amser llawn a thair blynedd ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser.

Diweddarwyd: Medi 2021