2. Rheolau

  1. Rheolau

2.1 Ni ddylai myfyrwyr darfu ar weithgareddau academaidd unrhyw aelod o’r gymuned academaidd nac unrhyw ymwelydd awdurdodedig, nac unrhyw seremoni, cyfarfod nac achlysur cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol na chwaraeon o eiddo’r Brifysgol a gynhelir ar diroedd y Brifysgol nac mewn man arall, boed yr achlysur yn un sy’n agored i’r cyhoedd neu beidio.

2.2  Rhaid i fyfyrwyr beidio â tharfu ar weinyddiaeth na gwaith cyffredinol y Brifysgol.

2.3 Rhaid i fyfyrwyr beidio â dwyn anfri ar y Brifysgol neu achosi unrhyw atebolrwydd ar ran y Brifysgol.

2.4 Ni ddylai myfyrwyr rwystro’r rhai a awdurdodwyd gan y Brifysgol nac ymwelwyr awdurdodedig wrth iddynt gyflawni’u dyletswyddau, eu swyddogaethau, neu weithgareddau eraill.

2.5 Ni ddylai myfyrwyr gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd troseddol yn erbyn myfyriwr/myfyrwraig arall.

2.6 Ni ddylai myfyrwyr gyflawni gweithred a allai olygu fod y Brifysgol yn atebol dan y gyfraith droseddol.

2.7 Rhaid i fyfyrwyr beidio â difrodi, anharddu na chamddefnyddio unrhyw eiddo o’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr nac unrhyw gymdeithas neu gorff arall o fyfyrwyr yn y Brifysgol, nac eiddo unrhyw aelod arall o’r gymuned academaidd nac eiddo unrhyw un o weithiwr y Brifysgol.

2.8 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymgymryd â gweithgareddau sy’n groes i bolisi’r Brifysgol ar Gyfle Cyfartal: 

https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/equalityanddiversity/pdf/Equal-Opportunities-Policy-2016-CYMRAEG.pdf

2.9 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymddwyn mewn modd treisgar, anweddus, anhrefnus neu fygythiol, na cham-drin myfyrwyr, staff neu unigolion eraill yn llafar neu’n ysgrifenedig. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol. Dylai myfyrwyr hefyd dalu sylw dyledus i’r Cod Myfyrwyr ar Urddas a Pharch a Chanllawiau’r Brifysgol ar Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol.

2.10 Rhaid i fyfyrwyr beidio â chymryd na defnyddio heb awdurdod unrhyw beth sy’n eiddo i’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, nac unrhyw gymdeithas arall o fyfyrwyr, nac eiddo unrhyw fyfyriwr, aelod o staff neu ymwelydd awdurdodedig.

2.11 Rhaid i fyfyrwyr beidio â gyrru unrhyw gerbyd o eiddo’r Brifysgol neu a logwyd gan y Brifysgol, gan Undeb y Myfyrwyr na chan unrhyw gymdeithas arall o fyfyrwyr heb ganiatâd swyddog awdurdodedig.

2.12 Tra bo myfyrwyr ar dir y Brifysgol, neu tra byddont yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd a berthyn i’r Brifysgol, rhaid iddynt beidio â bod ag unrhyw sylwedd anghyfreithlon yn eu meddiant.

2.13 Ac eithrio clybiau trwyddedig myfyrwyr lle mae’n rhaid i berchnogion gynnau trwyddedig gadw pob gwn wedi’i storio’n ddiogel yng nghabinet gynnau trwyddedig Undeb y Myfyrwyr, rhaid i fyfyrwyr beidio â dod ag arf tanio o unrhyw ddisgrifiad ar unrhyw dir o eiddo’r Brifysgol, nac unrhyw ddryll ffug, copi neu fodel, unrhyw wn awyr/slygiau, gwn haels, gwn Nerf a gwn BB, gwn llonyddu trydan nac unrhyw ddyfeisiau eraill, gan gynnwys gynnau tryfer, pa ffordd bynnag y maent yn saethu unrhyw belenni, bwledi, saethau, bolltau neu daflegrau eraill neu ergydion trydan; nac unrhyw arf arall, na chetris neu fwledi, nac unrhyw ddefnydd ffrwydrol (gan gynnwys tân gwyllt), nac unrhyw ddefnydd sy’n berygl i fywyd, heb gael awdurdod ysgrifenedig rhywun a awdurdodwyd gan Weithrediaeth y Brifysgol.

2.14 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymgymryd â thwyll, ystryw, ffugio nac anonestrwydd wrth ymwneud â’r Brifysgol, ei staff neu ei myfyrwyr, nac wrth ddal unrhyw swydd yn Undeb y Myfyrwyr.

2.15 Rhaid i fyfyrwyr beidio â defnyddio enw’r Brifysgol na’u swydd yn Undeb y Myfyrwyr neu yn y Brifysgol i ymgymryd â thwyll, ystryw, ffugio nac anonestrwydd.

2.16 Rhaid i fyfyrwyr ddatgelu eu henwau a manylion perthnasol eraill i unrhyw un a gafodd awdurdod priodol gan y Brifysgol mewn amgylchiadau pan fyddo’n rhesymol gofyn am wybodaeth o’r fath.

2.17 Rhaid i fyfyrwyr barchu hawlfraint pob deunydd, gan gynnwys hawlfraint y Brifysgol ei hun neu hawlfraint aelodau’r staff. Ni ddylai deunydd o’r fath (e.e. nodiadau darlith, nodiadau ymchwil, cyhoeddiadau, darlithoedd a recordiwyd) gael eu postio ar y we (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol o unrhyw fath) heb ganiatâd penodol gan yr aelod priodol o'r staff a/neu Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth a Phennaeth y Llyfrgelloedd.

2.18  Ni ddylai myfyrwyr dorri Rheoliadau’r Brifysgol yn gyson fel y nodir hwy isod yn Adran 3.

2.19 Iechyd a Diogelwch

2.19.1 Mae pob myfyriwr o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o’u hiechyd a’u diogelwch eu hunain, a diogelwch eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd neu’u diffyg gweithredu wrth astudio yn y Brifysgol. Mae’r dyletswyddau a’r disgwyliadau i’r holl fyfyrwyr o ran deddfwriaeth iechyd a diogelwch, megis Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, wedi’u rhestru ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, sydd ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/policy/. Mae’n rhaid i bob myfyriwr gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau a osodir yn y Polisi hwn a pholisïau a gweithdrefnau perthnasol eraill. 

Yn benodol, bydd dyletswyddau cyfreithiol i’r holl fyfyrwyr yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol, yn ôl y gofyn;

  • Ymgymryd â, neu gynorthwyo i ymgymryd ag asesiadau risg addas a digonol a/neu ddilyn a chadw at weithdrefnau a mesurau rheoli cysylltiedig;

  • Gweithio’n agos â chydweithwyr a myfyrwyr i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch eu hunain;

  • Rhoi gwybod i’r staff goruchwylio am unrhyw sefyllfa, arfer gweithio neu weithdrefn a allai fod yn beryglus yn eu barn hwy;

  • Rhoi gwybod yn syth am bob damwain a digwyddiad i’r staff goruchwylio neu unigolyn priodol arall;

  • Defnyddio, ond nid camddefnyddio, dillad amddiffynnol, offer neu ddeunyddiau a ddarperir;

  • Cydymffurfio â’r rheolau, polisïau a chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch a roddir iddynt, ar lafar ac yn ysgrifenedig; a

  • Defnyddio peiriannau, cemegau, deunyddiau biolegol ac offer at y dibenion y cawsant eu cynllunio ac yn unol â’r rhagofalon diogelwch priodol.

2.19.2 Rhaid i bob myfyriwr sy’n ymwneud yn rhinwedd ei gwrs â gwaith mewn labordy, neu unrhyw fan arall risg uchel, gadw at y rheolau diogelwch arbennig sy’n berthnasol i’r man hwnnw. Cyhoeddir y rheolau hyn gan y Gyfadran/Adran berthnasol.

2.19.3 Er mwyn cyflawni ei dyletswyddau dan y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, mae’r Brifysgol yn rhybuddio israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau i beidio â mynd i labordai a mannau eraill risg uchel, ac eithrio yn unol â’r hyn a nodir ar yr amserlen ar gyfer eu cyrsiau. Rhaid i uwchraddedigion ymchwil sy’n gweithio mewn labordai ymchwil gadw at reolau’r Gyfadran/Adran ar fynediad i labordai o fewn oriau gwaith arferol a thu hwnt i’r oriau hynny.

2.19.4 Mae'n drosedd ymyrryd ag unrhyw offer diogelwch tân, a ddarperir er diogelwch pawb yn yr adeiladau ac o'u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys defnyddio neu ymyrryd â diffoddwyr tân (ac eithrio os bydd tân), cadw drysau tân yn agored, ymyrryd â'r system larwm tân a symud neu newid unrhyw arwyddion yn ymwneud â diogelwch tân.

2.19.5 Dylai myfyrwyr nodi y byddant yn agored i’w herlyn dan y gyfraith gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch neu gan y Gwasanaeth Tân ac Achub os ydynt yn troseddu yn erbyn y rheol hon.

2.20 Rhyddid i Lefaru

2.20.1 Rhaid fyfyrwyr gydymffurfio â gofynion Cod Ymarfer y Brifysgol ar Ryddid i Lefaru. Am ragor o fanylion, gweler Gwybodaeth i Fyfyrwyr. 

 

2.20.2 Tra’n nodi Cod Ymarfer y Brifysgol ar Ryddid i Lefaru, ni ddylai myfyrwyr siarad na gweithredu yn groes i werthoedd Prydeinig sylfaenol, yn cynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid personol, a pharch a goddefgarwch tuag at y rheini sydd â ffydd neu gred wahanol.

 2.21.1 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag annog, cynorthwyo, na chynllwynio gydag unrhyw berson arall i weithredu’n groes i’r rheolau hyn.

2.21.2 Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw gosb a osodir yn unol ag Adran 4 ‘Cosbau’ isod.

2.21.3 Lle honnir bod myfyriwr wedi cyflawni trosedd, ceidw’r Brifysgol yr hawl absoliwt i benderfynu a ddylid gweithredu’r Drefn Ddisgyblu a nodir yn Adran 5 isod, i ohirio’i harchwiliadau tan i’r llysoedd ymdrin â’r achos, neu i adael yr achos yn nwylo’r heddlu.

2.22 Diffiniad

2.22.1    Yr holl dir ac adeiladau a berchnogir gan y Brifysgol, neu a ddelir ganddi, neu sydd ganddi ar brydles neu ar rent, yw’r diffiniad o dir, adeiladau neu eiddo’r Brifysgol.