3.7 Arholiadau a Byrddau Arholi

1. Yn achos cynlluniau a ddysgir, mae'r Brifysgol yn defnyddio confensiynau Arholi cyffredin ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Maent wedi'u cyhoeddi yn Adran 4 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Derbynnir ymgeiswyr i gynlluniau astudio gan y Brifysgol yn unol â'r Rheoliadau. Cyfeirir yr holl israddedigion at y Llawlyfr Arholiadau i Israddedigion, sy'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn. Mae'r ddogfen yn rhoi cyfarwyddiadau cryno ynglŷn â gweithdrefnau'r Brifysgol yng nghyswllt arholi ac asesu. Gall myfyrwyr ar gyrsiau Uwchraddedig a Ddysgir gael yr wybodaeth yn y Cod Ymarfer i Uwchraddedigion a Ddysgir. Caiff yr wybodaeth ganlynol ei chyhoeddi hefyd er gwybodaeth i'r ymgeiswyr:

(i) Y dulliau asesu i’w defnyddio yn y modiwlau, gan gynnwys y pwysiad a roddir i elfennau asesu unigol

(ii) Gwybodaeth ynglŷn â Threfn Apeliadau Academaidd y Brifysgol

(iii) Gwybodaeth ynglŷn ag Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a’r drefn ymchwilio a weithredir os ceir honiadau o’r fath

(iv) Datganiad yn dweud bod yn rhaid rhoi gwybod i’r Bwrdd/Byrddau Arholi perthnasol am unrhyw amgylchiadau personol eithriadol a allai fod wedi effeithio’n andwyol ar eu perfformiad academaidd cyn i’r Byrddau Arholi gwrdd.

2. Bydd yr adrannau'n gyfrifol am baratoi papurau arholiad ac asesiadau, a threfnu safoni mewnol cyn cael cymeradwyaeth derfynol yr arholwr/arholwyr allanol perthnasol. Argymhellir nad yw cwestiynau'n cael eu hailddefnyddio o fewn tair blynedd. Rhaid i adrannau wneud yn sicr bod papurau arholiad yn cael eu cyflwyno i’r Brifysgol erbyn y dyddiadau cau gofynnol. Yr adrannau sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r papurau arholiad terfynol, ac am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion canlynol:

(i) Dylai’r copi electronig terfynol gael ei enwi’n glir fel bod pob llungopi yn cael ei gymryd o’r copi gwreiddiol hwnnw Os yw’n berthnasol, rhaid gwneud hyn i fersiynau Cymraeg a Saesneg y papur

(ii) Rhaid sicrhau diogelwch y copïau electronig a phapur ar bob adeg

(iii) Ar ôl argraffu’r prif gopi, dylai cydlynydd y modiwl gadarnhau bod y papur arholiad yn gywir, mai hwn yw’r copi terfynol, a bod pob tudalen wedi’u hargraffu. Os nad oes modd cael gafael ar gydlynydd y modiwl rhaid i aelod arall o dîm y modiwl neu eilydd wneud hyn

(iv) Ar ôl i gopïau o’r papur arholiad gael eu hargraffu, rhaid iddynt gael eu gwirio gan ddau aelod o staff i sicrhau eu bod yr un peth â’r prif gopi, ac i sicrhau bod yr argraffu'n gyson

(v) Rhaid rhoi’r papurau arholiad terfynol mewn amlenni i’w dosbarthu i leoliadau’r arholiadau. Dylai gweinyddwr wirio pob amlen i sicrhau bod y cynnwys yn cyd-daro â’r wybodaeth sydd ar flaen yr amlen.

3. Bydd y Brifysgol yn gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion neilltuol, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd Academaidd a’i is-bwyllgorau.

4. Yr adrannau sy’n gyfrifol am gyhoeddi hen bapurau arholiad ar gyfer myfyrwyr ac fe'u cynghorir ei fod yn arfer da i sicrhau bod papurau'r tair blynedd ddiwethaf ar gael iddynt (heb gynnwys papurau ailsefyll). Ond, mewn rhai pynciau nid yw hyn yn ymarferol, er enghraifft oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ni fydd hen bapurau, neu adrannau o gwestiynau mewn rhai achosion, yn cael eu cyhoeddi. Mewn achosion o'r fath, dylid trefnu bod papur neu gwestiwn enghreifftiol ar gael i fyfyrwyr; os oes unrhyw adran o hen bapur yn cael ei dynnu allan dylid nodi’n glir bod hynny wedi digwydd.

5. Mae gwybodaeth sy'n ymwneud ag arholiadau ar gyfer rhaglenni a ddysgir i'w gweld ar SharePoint: https://prifysgolaber.sharepoint.com/sites/aqro/Exams/default.aspx. Mae’r safle hwn yn darparu’r wybodaeth ganlynol i staff (mewnol yn unig):

(i) Y Calendr Arholiadau

(ii) Ffurflenni Hawlio i Oruchwylwyr, Hysbysiadau a Chyfarwyddyd Adrannol

(iii) Amgylchiadau Arbennig

(iv) Ffurflenni Newid Marciau a Dosbarth Gradd

(v) Amserlenni'r Bwrdd Arholi a thempledi Papurau Arholiadau

(vi) Cyflwyniadau Blaenorol i Gyflwyno Gwybodaeth am Arholiadau

(vii) Gwe-ddalennau Defnyddiol;

(viii) Cyfarwyddyd ar gyfer Arholiadau Ar-lein.

Darperir cyfarwyddyd gweithredol ynghylch rhedeg byrddau arholi gan y Tîm Gweinyddiaeth Myfyrwyr.

Y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)

6. Y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) fydd yn gyfrifol am y dull o gynnal arholiadau/asesiadau yn y Brifysgol ac am eu huniondeb a’u diogelwch. Bydd cyfrifoldebau'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn cynnwys:

(i) Penodi goruchwylwyr a gwneud y trefniadau ar gyfer goruchwylio'r arholiadau (er mwyn sicrhau y bydd un goruchwyliwr fel rheol yn gweithredu i bob grŵp o hanner cant neu lai o ymgeiswyr)

(ii) Gwneud trefniadau priodol i ymdrin â’r rhai sy’n absennol o arholiadau/asesiadau yn unol â darpariaethau’r adran hon yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, gan gynnwys rhoi gwybod i’r Byrddau Arholi, a chofnodi ac adrodd am achosion o’r fath

(iii) Anfon adroddiad i’r Brifysgol, ar ddiwedd yr arholiadau, ar y dull y cawsant eu cynnal, gan nodi unrhyw anawsterau a gododd, a chynnwys unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gwella’r dull o’u cynnal. Dylai’r adroddiad hwn hefyd roi manylion am unrhyw drefniadau arbennig a wnaed ynghylch achosion o absenoldeb o arholiadau ac, yn unol â’r paragraff isod, ynghylch arholiadau a gynhaliwyd mewn sefydliad/lleoliad cymeradwy arall.

Dull Cynnal yr Arholiadau

7. Ni chaiff goruchwyliwr adael i ymgeisydd ddod i mewn i’r ystafell arholiadau heb ganiatâd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) (neu un a enwebwyd).

8. Trwy gydol yr arholiad cyfan, bydd y goruchwylwyr yn cadw goruchwyliaeth gyson ar yr ymgeiswyr ac yn sicrhau bod ganddynt unrhyw ddeunyddiau angenrheidiol. Byddant yn archwilio popeth y mae ymgeiswyr yn dod gyda nhw i'r ystafell arholiad ac yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cydymffurfio â’r Cyfarwyddiadau i Ymgeiswyr.

9. Ni chaiff yr un ymgeisydd ddod i mewn i’r ystafell arholiadau hanner awr neu fwy ar ôl dechrau’r arholiad. Ni chaniateir i ymgeiswyr adael yr ystafell arholiad tan fod tri chwarter awr wedi mynd heibio, ac ni chânt adael yn ystod chwarter awr olaf yr arholiad. Ni chaniateir i’r un ymgeisydd sydd wedi gadael yr ystafell heb ganiatâd y goruchwyliwr ddod yn ôl yn ystod yr arholiad. Mewn amgylchiadau arbennig, caiff y goruchwyliwr weithredu fel y tybia sydd orau ac fe fydd yn rhoi gwybod i’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) (neu un a enwebwyd) am yr amgylchiadau. Ni chaiff yr un ymgeisydd fynd â chopi o bapur arholiad o’r ystafell arholiadau tan fod tri chwarter awr o leiaf wedi mynd heibio ers dechrau’r arholiad.

10. Yn ystod pob arholiad bydd gan Arolygydd Cynorthwyol yr Arholiadau (neu un a enwebwyd) hawl i wahardd pob unigolyn o’r ystafell ac eithrio swyddogion y Brifysgol a’r ymgeiswyr sy’n sefyll yr arholiad. Bydd Arolygydd Cynorthwyol yr Arholiadau a’r goruchwyliwr yn rhwystro unrhyw gyfathrebu anawdurdodedig gan yr ymgeiswyr ymhlith ei gilydd neu ag unrhyw unigolyn arall.

11. Bydd goruchwyliwr sy’n ystyried neu’n amau bod ymgeisydd yn cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd hwnnw, ym mhresenoldeb tyst os oes modd, y bydd adroddiad am yr amgylchiadau'n cael ei wneud, ac y caiff nhw barhau â’r arholiad ac unrhyw arholiadau dilynol heb ragfarnu unrhyw benderfyniad y gellid ei wneud, ond os na roddir rhybudd ni fydd hynny’n rhagfarnu gweithredu dilynol. Lle bo’n addas, bydd y goruchwyliwr yn atafaelu ac yn cadw tystiolaeth sy’n ymwneud ag unrhyw ymddygiad academaidd annerbyniol honedig, fel y bydd ar gael yn unrhyw ymchwiliad diweddarach. Bydd y goruchwyliwr ac Arolygydd Cynorthwyol yr Arholiadau yn rhoi adroddiad ysgrifenedig am yr amgylchiadau i’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) cyn gynted â phosibl.

12. Bydd y goruchwyliwr yn casglu’r sgriptiau ac yn trefnu iddynt gael eu trosglwyddo i’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) neu rywun/rywrai a enwebwyd a fydd wedyn yn trefnu iddynt gael eu trosglwyddo i’r arholwyr priodol, ynghyd â’r copïau dros ben o’r papur neu’r papurau arholiad a ffurflen sy’n rhoi enwau’r ymgeiswyr na chyflwynodd sgriptiau. Bydd Arolygydd Cynorthwyol yr Arholiadau yn paratoi adroddiad i’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) ar y dull y cynhaliwyd yr arholiad, gan dynnu sylw at unrhyw amgylchiadau arbennig. Bydd Arolygydd Cynorthwyol yr Arholiadau yn anfon ffurflen at y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn cynnwys yr wybodaeth hon a datganiad wedi’i lofnodi yn cadarnhau bod yr arholiad wedi'i gynnal yn unol â’r Rheol Sefydlog hon.

13. Ystyrir bod methiant i gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau ysgrifenedig i ymgeiswyr mewn arholiadau ffurfiol, neu â chyfarwyddiadau llafar goruchwylwyr yr arholiadau, yn torri Rheoliad y Brifysgol ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

Sgriptiau Arholiad sy'n Annarllenadwy

14. Gan gymryd unrhyw wahaniaethau neu anhawster dysgu i ystyriaeth, cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod yr atebion mewn sgript arholiad yn ddarllenadwy ar gyfer eu marcio. Os yw rhan sylweddol o sgript arholiad yn annarllenadwy i’r marciwr, h.y. os yw’r amser sy’n cael ei dreulio’n darllen y testun yn afresymol ac yn rhwystro cyfle i roi ystyriaeth briodol, bydd y gwaith yn cael ei asesu ar sail y rhannau ohono sy’n ddarllenadwy yn unig, a bydd y marc a ddyfernir yn adlewyrchu hynny. Dylai marcwyr geisio cadarnhad gan gydweithiwr/marciwr arall fod y sgript yn annarllenadwy, dylai nodi’r rhannau annarllenadwy ar yr asesiad, a chadw’r asesiad a chofnod ysgrifenedig yn dystiolaeth. Os yw myfyrwyr yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad, gallant wneud hynny trwy Weithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol.

15. Os yw marcwyr yn teimlo bod llawysgrifen myfyriwr yn adlewyrchiad o anhawster/gwahaniaeth dysgu, dylent gynghori’r myfyriwr i gysylltu â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr (trwy e-bostio cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621761) os yw'n dymuno cynnal ymchwiliad pellach trwy Asesiad Seicolegydd Addysg. Os cadarnheir gwahaniaeth dysgu yn dilyn asesiad llawn, bydd y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr yn gweithio gyda’r myfyriwr i wneud addasiadau rhesymol yn unol ag argymhelliad yr Asesiad. Bydd myfyrwyr sydd am drafod statws marciau a ddyfarnwyd eisoes yn cael eu cyfeirio at eu hadran academaidd i gael cyngor.

16. Noder nad yw’r polisi yn berthnasol i fyfyrwyr ag anabledd neu fyfyrwyr â gwahaniaeth dysgu sydd eisoes yn cael cymorth gan yr adran trwy drefniant gan y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, e.e. defnydd amanuensis, cyfrifiadur neu drefniadau i drawsgrifio sgript arholiad ar ôl i’r arholiad gael ei gynnal.

Absenoldeb o Arholiadau ac Asesiadau

17. Bernir bod ymgeisydd yn absennol am reswm da o arholiad neu asesiad os cyflwynir dogfennaeth i gadarnhau salwch, damwain, profedigaeth agos neu amgylchiadau tosturiol cysylltiedig â hyn.

18. Bydd y Bwrdd Arholi dan sylw yn cael penderfynu a oedd gan yr ymgeisydd reswm da i fod yn absennol ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd.

19. Os bu ymgeisydd yn absennol o unrhyw un o arholiadau'r Brifysgol heb reswm da neu os methodd â chwblhau unrhyw ffurf arall ar asesiad erbyn y dyddiad penodedig heb reswm da, fe ddyfernir marc o sero am yr asesiad dan sylw. Caiff y marc sero ei drin yn yr un ffordd ag unrhyw farc arall yn nhrefn y Bwrdd Arholi o gyfrifo canlyniad y radd. Ni ddylai'r Bwrdd Arholi gyfrifo marc i'r arholiad a gollwyd trwy fesur cyfartaledd marciau eraill yr ymgeisydd na thrwy greu marc yn deillio o berfformiad yr ymgeisydd yn ystod y sesiwn. Os mai dim ond elfen o asesiad cyfan y modiwl yw'r arholiad a gollwyd, bydd y marciau a enillwyd am yr elfennau eraill a aseswyd yn cael eu cyfrif, pro rata, wrth gyfrifo canlyniadau'r radd.

20. Os yw ymgeisydd yn cwblhau modiwl ond yn absennol o'r arholiad/asesiad dan sylw am reswm da, gall y Brifysgol ganiatáu i'r ymgeisydd sefyll yr arholiad neu gyflwyno'r gwaith i'w asesu fel ymgais cyntaf y tro nesaf y cynhelir yr arholiad/asesiad.

21. Os yw Bwrdd Arholi’n fodlon fod ymgeisydd yn absennol o arholiad/asesiad terfynol am reswm da ar ôl gweld yr hyn a gyflwynodd yr ymgeisydd i’r Brifysgol, cyhyd ag y bo’r Bwrdd Arholi’n fodlon bod sail resymol, gall argymell bod yr ymgeisydd yn cael dyfarniad aegrotat.

22. Bydd disgresiwn gan Fyrddau Arholi i ddefnyddio’r ddarpariaeth uchod yn achos ymgeiswyr sy’n bresennol yn yr arholiadau/asesiadau ond yn cyflwyno tystiolaeth yn ddiweddarach o salwch, damwain, profedigaeth agos neu amgylchiadau tosturiol eraill cysylltiedig.

23. Ceir rhagor o ganllawiau ar absenoldebau na ellir mo’u hosgoi yn y Confensiynau Arholiadau (Adran 4 yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd).

Terfynau amser i fyfyrwyr ar gyrsiau Uwchraddedig a Ddysgir

24. Mae terfynau amser y Brifysgol i gwblhau gradd Meistr i'w gweld yn Rheoliadau Dyfarniadau Uwchraddedig a Ddysgir.

25. Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno'r traethawd hir neu'r gwaith cyfatebol cymeradwy o fewn y cyfnod a bennir. Amlinellir y terfynau amser ar gyfer ymgeiswyr llawn-amser isod. Mae’r confensiynau arholiadau yn disgrifio’r cyfleoedd sydd ar gael i ailsefyll traethodau hir a chyflwyno amgylchiadau arbennig pan fydd ffactorau esgusodol yn effeithio ar berfformiad neu’r gallu i gyflwyno.

Terfynau amser ar gyfer cyflwyno traethodau hir/prosiectau ar gyrsiau uwchraddedig a ddysgir

26. Ar gyfer yr ymgeiswyr llawn-amser, rhaid cwblhau a chyflwyno elfen derfynol yr asesiad, gwerth 60 neu 120 credyd (sef y traethawd hir neu’r gwaith cyfatebol gan ddibynnu ar ofynion y cynllun gradd penodol), erbyn y terfynau amser isod:

Myfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi

Blwyddyn Academaidd Dyddiad dechrau’r sesiwn (Dydd Llun) Dyddiad cau ar gyfer traethodau hir ar gyrsiau Uwchraddedig a Ddysgir (Dydd Gwener)
2023/24 25 Medi 2023 6 Medi 2024
2024/25 23 Medi 2024 5 Medi 2025
2025/26 22 Medi 2025 4 Medi 2026

Myfyrwyr sy’n dechrau ym mis Ionawr

Blwyddyn Galendr Wythnos Groeso – dechrau ym mis Ionawr (Dydd Llun) Dyddiad cau ar gyfer traethodau hir ar gyrsiau Uwchraddedig a Ddysgir (Dydd Gwener)
2023 23 Ion 2023 5 Ion 2024
2024 22 Ion 2024 3 Ion 2025
2025 20 Ion 2025 9 Ion 2026

Dylai'r adran academaidd benderfynu ar derfynau amser cyflwyno ar gyfer cynlluniau uwchraddedig a addysgir sydd â hydoedd sy'n wahanol i'r 12 mis safonol, yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Gwobrau Modiwlaidd Uwchraddedig a Addysgir (gweler Cyfnodau Cofrestru a Therfynau Amser).

Cywiro Methiant

27. Pan fo gofyn i ymgeisydd ail-wneud yr asesiad ar gyfer un neu ragor o fodiwlau cyn dechrau’r flwyddyn academaidd ganlynol, bydd yr ailasesiad, oni bai bod y Bwrdd Arholi’n penderfynu nad yw hynny’n ymarferol, yn dilyn yr un strwythur ac yn seiliedig ar yr un maes llafur â’r asesiad a fethwyd yn wreiddiol.

28. Pan ganiateir i ymgeisydd ail-wneud un neu ragor o fodiwlau a fethwyd yn ymgeisydd mewnol, bydd yr ailasesiad yn dilyn yr un strwythur ac yn seiliedig ar yr un maes llafur â’r un a ddysgir i bob ymgeisydd mewnol ar adeg eu hailasesiad.

29. Pan fo ymgeisydd yn ailsefyll yr asesiad yn ymgeisydd allanol, bydd yr ailasesiad fel rheol yr un fath â’r un i ymgeiswyr sy’n ei sefyll yn fewnol, oni bai bod y Bwrdd Arholi’n penderfynu’n wahanol.

30. Pan fo ymgeisydd yn ailsefyll yr asesiad yn ymgeisydd allanol, a bod strwythur yr asesiad yn wahanol i’r hyn yr oedd pan fethwyd yr asesiad yn wreiddiol, a/neu pan fydd yr ailasesiad yn seiliedig ar faes llafur gwahanol, bydd gofyn i’r adran dan sylw roi gwybod i’r ymgeisydd ymlaen llaw am y newidiadau yn strwythur yr asesiad a chynnwys y maes llafur.

31. Os bydd ymgeisydd yn methu â chwblhau cyfanswm gofynnol y gwaith i’w asesu erbyn y dyddiad gofynnol, bydd y Bwrdd Arholi’n pennu cosb yn ôl yr hyn a bennir yn rheoliadau’r Brifysgol neu fel y gwêl yn briodol o dan yr amgylchiadau. Fodd bynnag, pan fydd amgylchiadau lliniarol megis salwch neu ddamwain wedi rhwystro ymgeisydd rhag cwblhau gwaith i’w asesu erbyn y dyddiad gofynnol, caiff y Bwrdd Arholi ganiatáu estyniad i gyflwyno’r gwaith sydd i’w asesu, cyhyd ag y bod amser i asesu’r gwaith yn ddigonol a phriodol cyn cyfarfod y Bwrdd Arholi. Rhaid cyflwyno tystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall addas i’r Cadeirydd neu un a enwebir gan y Cadeirydd i gadarnhau’r salwch neu’r ddamwain.

Byrddau Arholi

32. Bydd y Brifysgol yn sefydlu Byrddau Arholi i ystyried canlyniadau ac i wneud argymhellion ynglŷn ag ymgeiswyr ar gynlluniau sy'n arwain at ddyfarniadau’r Brifysgol. Ym mhob achos, bydd y marciau a ddyfernir sy’n cyfrif tuag at ddosbarth gradd neu asesiad dyfarniad yn amodol ar gadarnhad yr arholwr/arholwyr allanol. Mae’r Brifysgol yn gweithredu system byrddau arholi dwy haen er mwyn sicrhau bod confensiynau’r arholiadau’n cael eu gweithredu’n gyson ac yr ymdrinnir â phawb yn gyfartal o ran Amgylchiadau Arbennig:

(i) Y cyfadrannau sy’n gyfrifol am y dull o gynnal arholiadau ac asesiadau yn eu hadrannau, gan ddilyn y canllawiau a sefydlwyd ar lefel prifysgol ac a nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae templed ar gyfer cofnodion byrddau arholi ar gael gan y Gofrestrfa Academaidd

(ii) Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn ystyried ac yn cadarnhau holl ganlyniadau’r cynlluniau a ddysgir drwy gwrs. Bydd y Brifysgol yn penodi Adolygydd Allanol, sy’n aelod profiadol o staff Cofrestrfa prifysgol arall, i oruchwylio dull gweithredu'r Byrddau. Cadeirir Bwrdd Arholi’r Senedd gan Ddirprwy Is-Ganghellor oni bai fod y Dirprwy Is-Ganghellor yn dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i aelod o’r Bwrdd Academaidd.

(iii)  Caiff holl Fyrddau Arholi’r Senedd a’r Byrddau Arholi Adrannol eu cynnal yn rhithiol (ar-lein) bellach gan ddefnyddio MS Teams. Mae hyn yn cynnwys yr holl fyrddau trwy gwrs, gan gynnwys y bwrdd hyfforddiant ymchwil. Os oes rheswm da, mae’n bosibl y bydd modd mynychu’r Byrddau Arholi wyneb yn wyneb, e.e. os bydd angen i’r Arholwyr Allanol deithio i Aberystwyth beth bynnag, e.e. i adolygu samplau o waith nad oes modd cael mynediad iddynt yn hawdd ar-lein, arsylwi ar berfformiadau byw neu arddangosfeydd celf, neu oherwydd amser marcio a chymedroli cyfyngedig sy’n atal i samplau o sgriptiau arholiad gael eu hanfon at Arholwr Allanol cyn cyfarfod Bwrdd Arholi. Gellir recordio cyfarfodydd y Bwrdd Arholi at ddibenion drafftio'r cofnodion. Dylid cadw'r recordiad nes y bydd y cofnodion wedi'u cadarnhau'n unig. Bydd aelodau'r Bwrdd yn cael eu hatgoffa i beidio â lawrlwytho na chadw'r recordiadau eu hunain

Cyfarfodydd Byrddau Arholi'r Adrannau

33. Yn achos pob cyfarfod o'r Bwrdd Arholi Adrannol bydd:

(i) Cadeirydd, a fydd yn aelod amser llawn o staff academaidd uwch yr adran, a enwebwyd gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran ar ran y Brifysgol

(ii) Arholwr (neu arholwyr) mewnol a/neu gynrychiolydd/gynrychiolwyr y modiwlau perthnasol, a benodir gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran ar ran y Brifysgol

(iii) Bydd aelodaeth y byrddau arholi terfynol, a fydd yn ystyried y canlyniadau ac yn gwneud argymhellion ynglŷn ag ymgeiswyr sy’n dilyn cynlluniau yn arwain at ddyfarnu cymwysterau israddedig ac uwchraddedig a ddysgir, yn cynnwys hefyd arholwr (neu arholwyr) allanol. Ceir rhagor o arweiniad ar swyddogaeth arholwyr allanol yn y byrddau arholi yn Adran 5.7 o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd.

34. Caiff y Cadeirydd wahodd unigolion addas i ddod i gyfarfod Bwrdd Arholi mewn swyddogaeth ymgynghorol. Ni fydd gan yr unigolion hyn hawl i bleidleisio.

35. Fel rheol, bydd pob Bwrdd Arholi’n cyfarfod trwy MS Teams neu yn Aberystwyth pan a phryd y bydd angen (gweler paragraff 31 uchod) ystyried perfformiad y myfyrwyr a gwneud penderfyniadau ynghylch terfynu astudiaethau myfyriwr, symud ymlaen, ac argymhellion ar ddyfarnu graddau neu ddyfarniadau canolradd fel sy'n addas. Y Senedd fydd yn pennu’r dyddiad olaf y gall Byrddau Arholi gyfarfod yn ystod unrhyw sesiwn.

36. Os bydd arholwr yn absennol o gyfarfod heb roi esboniad, bydd y Cadeirydd yn cymryd y camau sydd, yn ei barn nhw, yn addas ar gyfer cynnal busnes y cyfarfod yn briodol, a gall ohirio’r cyfarfod i’r diben hwnnw. Os yw'r Cadeirydd yn absennol, bydd y Bwrdd Arholi’n penodi un o’r aelodau i gadeirio’r cyfarfod.

37. Yn ystod Semester Un, bydd yr arholwr/arholwyr allanol yn cyflawni’r holl dasgau sydd fel arfer yn gysylltiedig ag arholi, megis cymeradwyo’r papurau arholiad. Ni fydd yn ofynnol i’r arholwr/arholwyr allanol ddod i gyfarfodydd y Byrddau Arholi ond cânt wneud hynny os dymunant. Ymgynghorir trwy ohebiaeth neu gyfrwng addas arall. Bydd yr arholwr/arholwyr allanol yn dod i gyfarfodydd y Byrddau Arholi ac yn cyflawni’r holl swyddogaethau sydd fel arfer yn gysylltiedig ag arholi yn Semester Dau.

38. Bydd pob Bwrdd Arholi Adrannol yn gwneud argymhellion i Fwrdd Arholi’r Senedd, sy’n cadarnhau’r dyfarniadau terfynol (gweler Cylch Gorchwyl Bwrdd Arholi’r Senedd).

Rhestr Canlyniadau

39. Llofnodir rhestr y canlyniadau gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi a chan yr arholwr/arholwyr allanol. Yn achos yr arholwyr allanol hynny nad ydynt yn bresennol, gwneir trefniadau addas i sicrhau eu bod yn cymeradwyo’r canlyniadau arfaethedig.

40. Os bydd achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn destun ymchwiliad adeg cyhoeddi’r ffurflen canlyniadau, bydd canlyniad yr ymgeisydd dan sylw’n cael ei atal tan fydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.

41. Os bydd amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn codi ar ôl cyhoeddi’r rhestr llwyddo, a bod yr honiad yn erbyn yr ymgeisydd yn cael ei gadarnhau, bydd y Bwrdd/Byrddau Arholi dan sylw yn adolygu ac yn ailbennu canlyniad yr ymgeisydd yng ngoleuni unrhyw gosb a allai fod wedi ei phennu. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd y Bwrdd/Byrddau Arholi, os yw’n angenrheidiol, yn diddymu’r canlyniad a gyhoeddwyd eisoes a bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cyhoeddi canlyniad diwygiedig.

42. Yn achos ymgeiswyr nad ydynt wedi talu eu ffioedd dysgu, dylid cofnodi’r canlyniadau a’u rhyddhau i’r ymgeiswyr. Fodd bynnag, gall yr ymgeiswyr hyn golli eu hawl i gael eu cyflwyno am unrhyw gymhwyster Prifysgol tan y bydd yr arian dyledus wedi ei dalu.

43. Bydd pob Bwrdd Arholi yn dilyn confensiynau a gymeradwywyd gan y Brifysgol.

44. Bydd cofnod o’r marciau a enillwyd gan ymgeiswyr ym mhob asesiad sy’n cyfrannu at y dyfarniad terfynol ar gael yn y Bwrdd Arholi.

45. Caniateir i ymgeiswyr sydd am apelio yn erbyn penderfyniad yr arholwyr wneud hynny’n unol â thelerau Trefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol.

46. Mae'r Brifysgol wedi sefydlu Rheoliadau ar gyfer cyflwyno cymhwyster aegrotat neu gymhwyster ar ôl marw’r ymgeisydd.

Y drefn ar gyfer rhoi marc i waith a gollwyd

47. Dylai aelodau'r staff gymryd pob gofal i sicrhau na chollir gwaith a gyflwynwyd i'w asesu. Os bydd y Brifysgol yn colli gwaith a gyflwynwyd i'w asesu gan fyfyriwr ac nad oes cyfle i'w adfer, bydd y myfyriwr yn cael marc am y gwaith coll ar sail eu perfformiad mewn asesiadau eraill.

48. Os yw'r asesiad coll yn un o nifer o elfennau asesu'r modiwl, bydd y myfyriwr yn cael marc wedi'i seilio ar gyfartaledd a bwysolwyd o farciau asesiadau eraill y modiwl.

49. Os mai'r asesiad coll yw asesiad cyfan y modiwl, bydd y myfyriwr yn cael marc am y modiwl yn gyfartal â chyfartaledd a bwysolwyd o'r holl fodiwlau a gwblhawyd ar yr un lefel, ar ddiwedd y sesiwn.

50. Fel arall, caiff y myfyriwr ddewis cael ailasesiad yn ystod cyfnod asesiadau ailsefyll yr haf ym mis Awst, neu yn ystod y sesiwn ddilynol, os yw hynny’n briodol. Bydd y modiwl yn cael ei gofnodi â'r dangosydd ailsefyll priodol ar sail amgylchiadau arbennig (e.e. M, H neu S) a dylai'r adran ad-dalu i'r myfyriwr unrhyw gostau y bu’n rhaid i’r myfyriwr eu talu (e.e. teithio a llety).

51. Os nad yw’r myfyriwr yn fodlon derbyn un o'r datrysiadau hyn, caiff ddewis cyflwyno cwyn ffurfiol yn unol â Threfn Gwyno Myfyrwyr y Brifysgol.

52. Os codir achosion nad ydynt yn cyd-daro ag unrhyw un o’r dewisiadau uchod, ac os teimlir nad yw’r datrysiadau posib a gynigiwyd yn addas, dylai’r adrannau gysylltu â’r Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor pellach a thrafod dulliau eraill posib o weithredu. Byddai’n rhaid cael cytundeb Bwrdd Arholi’r Senedd i unrhyw ddatrysiadau eraill.

53. Rhaid i’r adrannau gysylltu â’r Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor ar unrhyw achosion o’r fath fel y nodir uchod, a disgrifio’r amgylchiadau a chamau gweithredu yng nghofnodion y bwrdd arholi adrannol, fel bod cofnod o’r digwyddiad ar gael.

Y drefn ar gyfer rhoi marc am gwblhau asesiad anghywir

54. Os bydd myfyrwyr wedi eu hasesu ar sail y cwestiwn/cwestiynau anghywir o ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol gan y Brifysgol, byddant yn cael marc arall yn ei le ar sail eu perfformiad mewn asesiadau eraill.

55. Os digwydd mai’r cwestiwn dan sylw yw’r unig gwestiwn yn yr asesiad (e.e. un cwestiwn mewn papur arholiad), bydd y myfyriwr yn cael marc sy’n gyfwerth â’r cyfartaledd a bwysolwyd a gafodd yn yr holl fodiwlau a gwblhawyd yn y semester.

56. Os yw'r asesiad dan sylw’n un o nifer o elfennau asesu'r modiwl, caiff y myfyriwr farc am y modiwl ar sail cyfartaledd a bwysolwyd y marciau sydd ar gael o’r asesiadau eraill a farciwyd yn y modiwl hwnnw.

57. Os digwydd mai’r asesiad dan sylw yw unig asesiad y modiwl, bydd y myfyriwr yn cael marc am y modiwl yn seiliedig ar gyfartaledd a bwysolwyd yr holl fodiwlau a gwblhawyd ar yr un lefel, ar ddiwedd y sesiwn.

58. Fel arall, caiff myfyrwyr ddewis cael ailasesiad yn ystod cyfnod asesiadau ailsefyll yr haf ym mis Awst, neu'r sesiwn ganlynol os yw'n addas. Dylai'r adran ad-dalu unrhyw gostau y bu’n rhaid i’r myfyriwr eu talu (e.e. teithio a llety).

59. Os nad yw’r myfyriwr yn fodlon derbyn un o'r datrysiadau hyn, caiff ddewis cyflwyno cwyn ffurfiol yn unol â Threfn y Brifysgol ar gyfer Cwynion Myfyrwyr.

60. Os codir achosion nad ydynt yn cyd-daro ag unrhyw un o’r dewisiadau uchod, ac os teimlir nad yw’r datrysiadau posib a gynigiwyd yn addas, dylai’r adrannau gysylltu â’r Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor pellach a thrafod dulliau posib eraill o weithredu. Byddai’n rhaid cael cytundeb Bwrdd Arholi’r Senedd ar gyfer unrhyw ddatrysiadau eraill.

61. Rhaid i’r adrannau gysylltu â’r Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor ar unrhyw achosion o’r fath fel y nodir uchod, a disgrifio’r amgylchiadau a chamau gweithredu yng nghofnodion y bwrdd arholi adrannol, fel bod cofnod o’r digwyddiad ar gael.

 

Diweddarwyd Adran 3.7: Mehefin 2023