15.1 Y Drefn Disgyblu Myfyrwyr

Rhagair

1. Drwy gydol y rhan hon o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd, ystyr Prifysgol Aberystwyth yw ystyr y gair ‘Prifysgol’. Gallai'r ymadroddion 'Dirprwy Is-Ganghellor', 'Cofrestrydd Academaidd' a ‘Dirprwy Gofrestrydd’ gynnwys aelodau penodedig o'r staff sy'n gweithredu ar ran y swyddogion hynny.

2. Mae’r Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr yn berthnasol i holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn unol â'r diffiniadau yn ei Rheolau a'i Rheoliadau.

3. Mae’r Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr yn berthnasol i gamymddwyn an-academaidd lle mae myfyrwyr yn wynebu honiadau o dorri Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol. Nid yw'n berthnasol i gwynion am ymddygiad aelodau o'r staff (a archwilir yn ôl trefn ddisgyblu ar wahân https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/disciplinary/), nac am wasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol (a archwilir drwy Drefn Gwyno'r Myfyrwyr https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/complaints/). Y mae hefyd ar wahân i reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol mewn perthynas â chamymddwyn academaidd, a’r Rheoliad Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

4. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i archwilio i unrhyw gyhuddiadau lle y mae myfyrwyr cofrestredig o dan amheuaeth o dorri safonau disgyblaeth, hyd yn oed os yw'r myfyrwyr wedi, ers hynny, dynnu'n ôl o'r Brifysgol dros dro neu am byth, neu wedi graddio. Byddai canlyniadau unrhyw achosion yn cael eu hystyried pe byddai cais yn cael ei ystyried am gael astudio yn y dyfodol.

5. Mae'r drefn ddisgyblu yn berthnasol i honiadau o gamymddwyn ar y campws neu oddi arno, gan gynnwys lleoliadau gwaith a gweithgareddau allanol eraill.

6. Ar y Brifysgol y bydd baich y profi, a phwysau'r tebygolrwydd fydd safon y profi hwnnw.

7. Ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol ac eithrio mewn achosion a ystyrir gan y Panel Disgyblu lle y gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol iawn i'r myfyrwyr.

8. Bydd y Brifysgol yn ceisio dod â phob archwiliad i ben ymhen 60 diwrnod calendr ar ôl. Mewn achosion lle na ellir cwblhau’r archwiliadau ymhen yr amserlen honno, bydd y Brifysgol yn rhoi esboniad eglur cyfathrebu'n rheolaidd â'r unigolion a gyflwynodd yr adroddiad ac â'r myfyrwyr dan gyhuddiad (gan gynnwys unrhyw oedi oherwydd cyfnodau cau'r Brifysgol).

Y Rheolau a'r Rheoliadau

9. Mae Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/student-rules-regs/yn berthnasol i'r holl fyfyrwyr ac ar bob adeg, gan gynnwys y gwyliau.

Cosbau

10. Gellid gosod cosb am dorri safonau disgyblaeth ar ôl archwiliadau Categori 1 neu Gategori 2. Rhoddir enghreifftiau o gosbau yn atodiad 1; mae'r natur y gosb yn amrywio yn ôl natur y camymddwyn. Nid yw'r enghreifftiau a roddwyd yn gynhwysfawr, ac mae'n bosib y bydd y Brifysgol yn gosod cosbau eraill os oes cyfiawnhad cryf dros wneud hynny.

11. Ar unrhyw gam yn y drefn ddisgyblu, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i adennill oddi wrth fyfyriwr unrhyw iawndal y bu'n rhaid i'r Brifysgol ei dalu o ganlyniad i weithred gan y myfyriwr hwnnw.

Hysbysu

12. Caiff myfyrwyr, staff neu aelodau o'r cyhoedd hysbysu'r Brifysgol am achos tybiedig o dorri safonau disgyblaeth.

13. Dylid anfon unrhyw adroddiad am achos tybiedig o dorri safonau disgyblaeth i'r Brifysgol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo ddod i'r amlwg. Rhaid llenwi ffurflen hysbysu Categori 2, a'i chyflwyno i'r adran berthnasol (y cam archwilio Categori 1) neu i'r Gofrestrfa Academaidd dscstaff@aber.ac.uktrwy gyflwyno’r ffurflen briodol.

14. Ni fydd myfyrwyr, staff nac aelodau o'r cyhoedd o dan anfantais nac yn cael eu hedliw oherwydd iddynt hysbysu'r Brifysgol yn ddidwyll am achos tybiedig o dorri safonau disgyblaeth.

Annibyniaeth

15. Ni fydd gan yr aelodau hynny o staff a fydd yn chwarae rhan yn yr archwiliadau a'r penderfyniadau unrhyw gyswllt blaenorol â’r achos. Bydd y myfyrwyr dan gyhuddiad yn cael gwybod pwy fydd yr archwilwyr ac aelodau'r Panel, a byddant yn cael cyflwyno gwrthwynebiadau i'r Gofrestrfa Academaidd dscstaff@aber.ac.uk ar sail gwrthdaro buddiannau. Bydd y gwrthwynebiad yn cael ei ystyried gan y Cofrestrydd Academaidd ac fe gaiff y myfyrwyr y cyfle i apelio yn erbyn y canlyniad.

Troseddau cyfreithiol a honiadau camymddwyn

16. Gall ymddygiad troseddol olygu bod Rheolau a Rheoliadau'r Brifysgol i fyfyrwyr wedi'u torri hefyd. Os bydd myfyrwyr yn cael eu rhyddfarnu ar ôl cael eu cyhuddo o droseddu, caiff y Brifysgol serch hynny ymateb i honiadau trwy gynnal ymchwiliad o dan ei threfn ddisgyblu myfyrwyr. Efallai y bydd angen cymryd camau hefyd os yw myfyrwyr wedi'u heuogfarnu o drosedd, gan gynnwys achosion lle y mae'r myfyrwyr yn cael eu carcharu.

17. Os bydd yr heddlu neu'r llysoedd yn ymdrin â'r mater dan sylw, fel rheol fe fydd y Brifysgol yn aros am ganlyniad y gweithdrefnau hynny cyn iddi gynnal ei harchwiliad mewnol, gan gadw cyswllt â'r heddlu ac â'r myfyrwyr dan sylw yn ystod y cyfnod hwn.

18. Efallai y bydd angen cymryd camau dros dro wrth i archwiliad troseddol gael ei gynnal, ac efallai y bydd hynny'n golygu atal myfyrwyr dros dro o'r Brifysgol. Ceir manylion pellach yn Adran 15.2 Gweithredu Dros Dro.

19. Dau fath o archwiliadau sydd:

Archwiliad Categori 1

20. Yr aelodau o staff isod gaiff gynnal archwiliadau Categori 1:

(i) Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth, (neu unigolyn a enwebwyd) mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri Rheoliadau'r Gwasanaethau Gwybodaeth, gan gynnwys rheoliadau sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau cyfrifiadurol ac adnoddau cyffredinol y Brifysgol.

(ii) Pennaeth adran academaidd, mewn achosion o fân doriadau i’r Rheolau a’r Rheoliadau sy’n ymwneud â darpariaeth academaidd, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â defnyddio cyfleusterau adrannol.

(iii) Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol, (neu unigolyn a enwebwyd) mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri'r Rheoliadau Chwaraeon.

(iv) Cyfarwyddwyr yr Ystadau (neu unigolyn a enwebwyd), mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri cytundeb trwydded.

(v) Rheolwyr y Cyfadrannau neu unigolion eraill a enwebwyd gan Ddirprwy Is-gangellorion y Cyfadrannau, mewn achosion o fân doriadau i Reol 2.19 Iechyd a Diogelwch, nad yw’n ymwneud ag adrannau academaidd unigol.

(vi) Mewn achosion lle y cyhuddir myfyrwyr o dorri Rheoliad 3.7 (Rheoliadau ynghylch Undeb y Myfyrwyr) dim ond ar ôl ymgynghori â Llywydd Undeb y Myfyrwyr y bydd y Cofrestrydd Academaidd (neu unigolyn a enwebwyd) yn dod i benderfyniad ynghylch a oes achos o dorri safonau disgyblaeth wedi digwydd, ac a ddylid gosod cosb.

21. Os bydd cyhuddiad yn dod i law, bydd pennaeth yr adran neu unigolyn a enwebwyd yn cynnal asesiad cychwynnol, gan gydlynu â'r Gofrestrfa Academaidd dscstaff@aber.ac.uk fel y bo'n briodol. Bydd pennaeth yr adran yn mynd ymlaen i gynnal archwiliad, gan gynnal cyfweliadau â'r tystion ac ystyried y dystiolaeth ddogfennol. Bydd y myfyrwyr yn cael gwybod am y cyhuddiadau a wneir yn eu herbyn drwy gydol y broses.

22. Os bydd y pennaeth adran neu'r sawl a enwebwyd wedi'i fodloni, ar sail pwysau'r tebygolrwydd, fod y cyhuddiad wedi'i gadarnhau a bod modd gosod y gosb briodol o dan Gategori 1, rhoddir gwybod i'r myfyrwyr yn ysgrifenedig drwy gyflwyno iddynt lythyr yn unol â’r templed safonol. Rhaid anfon copi o'r llythyr hwnnw i'r Gofrestrfa Academaidd dscstaff@aber.ac.uk

23. Os bydd y pennaeth adran neu'r sawl a enwebir yn penderfynu bod difrifoldeb y cyhuddiad yn golygu bod angen archwiliad Categori 2, dylid ymgynghori â'r Gofrestrfa Academaidd cyn cyflwyno'r ffurflen gyhuddo a'r dystiolaeth berthnasol i gyd i dscstaff@aber.ac.uk.

24. Ar ôl archwiliad Categori 1, yr unig gosbau y gellir eu gosod yw'r rhai a restrir yn Atodiad 1.

Apeliadau yn erbyn canlyniadau archwiliadau Categori 1

25. Dylid cyflwyno apêl yn erbyn canlyniad archwiliad Categori 1 i’r Gofrestrfa Academaidd dscstaff@aber.ac.uk. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau Categori 1 i achosion Tybiedig o Dorri’r Drwydded Llety.

26. Rhaid cyflwyno unrhyw apêl o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad derbyn y Llythyr am y Canlyniad.

27. Rhaid i apeliadau o dan benderfyniadau a gymerir o dan Gategori 1 y drefn Disgyblu Myfyrwyr gael eu cyflwyno ar un neu fwy o’r seiliau canlynol:

(i) Diffygion neu anghysondebau yn y Weithdrefn a ddilynwyd wrth ddod i’r canlyniad gwreiddiol, sydd o'r fath natur ag achosi amheuaeth resymol ynghylch a fyddai'r un penderfyniad wedi'i wneud pe na baent wedi digwydd. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o anghysondeb gweithdrefnol gyda'r cais am adolygiad

(ii) Tystiolaeth newydd nad oedd y myfyriwr yn gallu ei darparu'n gynharach yn y broses, am resymau dilys, ac y byddai ei habsenoldeb wedi effeithio'n sylweddol ar y canlyniad. Rhaid cyflwyno tystiolaeth newydd gyda'r cais am adolygiad, a rhaid i'r myfyriwr ddangos rheswm da pam na chyflwynwyd y dystiolaeth yn ystod yr archwiliad Categori 1.

28. Bydd y myfyrwyr yn cael gwybod am ganlyniad apeliadau Categori 1 o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad y daw’r apêl i law’r Gofrestrfa Academaidd. Rhoddir gwybod i fyfyrwyr am unrhyw oedi wrth gadarnhau canlyniad yr apêl.

29. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn adolygu’r apêl yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd. Os nad oes sail dros ystyried yr apêl, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cwblhau’r adroddiad apêl Categori 1 ac yn rhoi gwybod i’r myfyriwr bod yr apêl wedi cael ei wrthod, a bod ganddynt hawl i wneud cais am Adolygiad Terfynol.

30. Os nad oes sail dros ystyried yr apêl, bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei gyfeirio at y Gyfadran neu’r adran gwasanaethau proffesiynol perthnasol, a byddant hwy’n cwblhau’r adroddiad apêl Categori 1.

31. Bydd y canlyniad terfynol yn cael ei anfon i’r myfyriwr gan y Gofrestrfa Academaidd, a bydd y myfyriwr yn cael cyfle i wneud cais am Adolygiad Terfynol o fewn 10 diwrnod gwaith.

32. Bydd llythyrau am y canlyniad yn cynnwys rheswm dros wrthod neu ategu’r apêl, a chaiff copi ei anfon at yr adran academaidd neu wasanaethau proffesiynol perthnasol.

Archwiliad Categori 2

33. Pan fydd ffurflen yn dod i law, bydd y Dirprwy Gofrestrydd yn ystyried yr adroddiad a'r dystiolaeth, a chynnal asesiad cychwynnol. Bydd hyn yn cynnwys asesiad risg o dan ddyletswydd gofal y Brifysgol i benderfynu ar unrhyw amodau a osodir ar y myfyrwyr dan sylw o ran parhad eu statws cofrestredig wrth aros am ganlyniadau'r drefn ddisgyblu, ac o ran unrhyw ohiriad posib ar y drefn honno wrth aros am archwiliad troseddol / achos cyfreithiol.

34. Os yw'n briodol, ac os ceir cytundeb gan y myfyriwr a gyflwynodd yr adroddiad, caiff y Gofrestrfa Academaidd geisio cael datrys y mater drwy drafodaeth, os bydd pob parti yn fodlon cymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Gellir cynnwys Swyddog Archwilio yn ystod y broses, a bydd y canlyniad yn cael ei anfon at yr holl fyfyrwyr perthnasol.

35. Ar ôl yr asesiad cychwynnol, penodir Prif Swyddog Archwilio o’r garfan o staff sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol. Penodir Ail Ymchwilydd mewn rhai achosion cymhleth neu ar sail y nifer o dystion sydd i’w cyfweld. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i benodi Swyddog Archwilio allanol.

36. Bydd y Swyddog(ion) Ymchwilo yn gwahodd tystion i fynychu cyfweliad, gan gynnwys y myfyrwyr sy’n adrodd ac yn ymateb, a byddant hefyd yn ystyried unrhyw dystiolaeth ddogfennol. Yn ystod cyfweliadau, gall myfyrwyr ofyn i gynghorydd Undeb y Myfyrwyr i fod yn bresennol, neu unigolyn arall (un yn unig). Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol.

37. Pan fydd y dystiolaeth i gyd wedi'i chasglu, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd Academaidd, yn cynnwys crynodeb o’r dystiolaeth, canfyddiadau ffeithiol, casgliadau ac argymhellion.

Camau Gweithredu gan y Gofrestrfa Academaidd

38. Pan gyflwynir adroddiad y Swyddog Archwilio, bydd y Cofrestrydd Academaidd neu'r unigolyn a enwebwyd yn cadarnhau un o'r camau isod:

(i) Gosod mân gosb;

(ii) Cyfeirio'r achos i'r Panel Disgyblu Myfyrwyr;

(iii) Penderfynu nad oes angen cymryd camau pellach;

(iv) Penderfynu y dylid cyfeirio'r achos i weithdrefn arall yn y Brifysgol.

Wrth osod mân gosb, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyrwyr am y canlyniad a'r gosb a osodir. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael gwybod bod ganddynt hawl i wneud cais am Adolygiad Terfyno.

Panel Disgyblu

39. Bydd y Brifysgol yn sefydlu Panel Sefydlog ac iddo ddeuddeg aelod i archwilio i achosion lle y tybir bod safonau disgyblaeth wedi'u torri. Bydd pob Cyfadran yn enwebu pedwar aelod o'r staff academaidd i wasanaethu ar y Panel Sefydlog. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn enwebu aelodau o blith corff y myfyrwyr.

40. Bydd 3 aelod ar Banel y Brifysgol, wedi'u dethol o'r Panel Sefydlog; penodir un ohonynt yn Gadeirydd, ac fe fydd 1 aelod yn fyfyriwr. Ni fydd yr un aelod o unrhyw Banel y Brifysgol yn dod o'r un adrannau â'r rhai lle y mae'r myfyriwr ei hun yn astudio.

41. Rhoddir gwybod i'r myfyrwyr sy’n ymateb am ddyddiad, lleoliad ac amser cyfarfodydd y Panel Disgyblu, ac fe'u gwahoddir i fod yn bresennol.

42. Bydd y dystiolaeth ddogfennol yn cael ei rhoi i'r myfyrwyr o leiaf 5 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod, a bydd hefyd yn cael ei chylchredeg i aelodau'r Panel. Os oes tystiolaeth bellach i'w chael ar ddyddiad y cyfarfod, fe ellir ei chyflwyno i'r Panel, ond dim ond gyda chaniatâd penodol y Cadeirydd.

43. Gall myfyrwyr gael eu cynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolwyr i unrhyw unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.

44. Os nad yw myfyrwyr yn bresennol mewn cyfarfod o'r panel heb fod ganddynt reswm da, caiff y cyfarfod fynd yn ei flaen hebddynt.

Swyddogaethau'r Panel Disgyblu

45. Dyma swyddogaethau'r Panel Disgyblu:

(i) ystyried y crynodeb o’r dystiolaeth, datganiadau ffeithiol, casgliadau, ac argymhellion adroddiad yr ymchwiliad. Bydd datganiadau tystion a’r dystiolaeth ddogfennol hefyd ar gael i’r panel.   ;

(ii) pennu a yw'r cyhuddiad wedi'i gadarnhau yn ôl pwysau'r tebygolrwydd;

(iii) pennu, os yw'r cyhuddiad wedi'i gadarnhau, unrhyw gosb a osodir.

Cyfarfod y Panel Disgyblu

46. Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno crynodeb o'r achos yn erbyn y myfyriwr, gan gyfeirio at y dystiolaeth a gyflwynwyd i'w hystyried. Caiff aelodau'r panel holi'r myfyriwr.

47. Bydd gan y myfyriwr sy’n ymateb yr hawl i glywed yr holl dystiolaeth sy'n ymwneud â'r achos cyn ymateb i'r cyhuddiad, ac i fod yn bresennol i gyflwyno ymateb i'r Panel. Ni cheir cyflwyno tystiolaeth ddogfennol ychwanegol, gan gynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig, i'r panel ar ddiwrnod y cyfarfod heb gael caniatâd penodol y Cadeirydd.

48. Pan fydd y dystiolaeth wedi'i chyflwyno ac ymateb y myfyriwr wedi'i gwblhau, bydd pawb, ac eithrio aelodau'r Panel, a'r ysgrifennydd (os yw'n bresennol), yn gadael y cyfarfod.

49. Os bydd y panel wedi'i fodloni, ar sail pwysau'r tebygolrwydd, fod y cyhuddiad wedi'i gadarnhau, cyflwynir cofnodion y panel i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'r gosb a osodir, a hefyd am yr hawl i wneud cais am adolygiad.

50. Os bydd y panel wedi'i fodloni na chafodd safonau disgyblaeth eu torri, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir cyn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'i hysbysu na cymerir camau pellach.

51. Ceir rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad ar lafar, ni waeth p'un ai bod y cyhuddiad wedi'i gadarnhau ai peidio; er hynny, ni thrafodir y penderfyniad â'r myfyriwr.

Canlyniad yr Ymchwiliad

52. Rhoddir rhesymau clir am bob penderfyniad, gan gynnwys y cosbau a osodwyd, a'r rhesymau pam na fu modd gosod cosbau llai.

53. Os myfyrwyr sydd wedi gwneud cyhuddiadau, bydd y Brifysgol yn ceisio darparu datrysiad, gan gynnwys gwneud iawn am effaith torri'r safonau disgyblaeth lle bo hynny'n briodol. ⁠Wrth wneud hyn, bydd y Brifysgol hefyd yn ystyried ei dyletswydd gofal am y myfyriwr dan gyhuddiad ac fe all hi benderfynu peidio â rhyddhau'r manylion y penderfyniadau a'r cosbau.

Amgylchiadau Lliniarol

54. Ni roddir ystyriaeth i Amgylchiadau Lliniarol wrth benderfynu a yw myfyrwyr wedi torri safonau disgyblaeth ai peidio. Serch hynny byddant yn cael eu hystyried ar y camau anffurfiol a ffurfiol wrth bennu cosbau. Gallai amgylchiadau lliniarol gynnwys amgylchiadau personol a effeithiodd ar bwyll y myfyrwyr, ond gallent hefyd gynnwys edifeirwch a fynegwyd neu gyfaddefiad yn gynnar yn y broses eu bod wedi torri safonau disgyblaeth.

Addasrwydd i Ymarfer

55. Efallai y bydd yn ofyniad i fyfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau sy'n arwain at gymhwyster neu achrediad proffesiynol gadw at y safonau ymddygiad a osodir gan reolyddion allanol. Efallai y bydd cyhuddiadau sy'n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer hefyd yn destun archwiliad yn ôl Trefn Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol (AQH 16).

Cynrychiolaeth a Chefnogaeth i Fyfyrwyr

56. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod y myfyrwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn fewnol ac yn allanol i fyfyrwyr sydd wedi'u cyhuddo o dorri safonau disgyblaeth ac i'r rhai sy'n gwneud cyhuddiadau bod safonau disgyblaeth wedi'u torri.

Apeliadau a'r Adolygiad Terfynol

57. Os yw'r myfyrwyr dan gyhuddiad yn anfodlon â chanlyniad yr archwiliad disgyblu, gallant wneud cais am adolygiad, a fydd yn cael ei archwilio gan un o'r Dirprwy Is-Gangellorion. Mae'r drefn Adolygiadau Terfynol i'w chael: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/fr/

Cofnodion a Chyfrinachedd

58. Bydd y Gofrestrfa yn cadw cofnodion ar ffurf ddienw o'r archwiliadau disgyblu er mwyn iddi allu ystyried ac adolygu'r drefn. Bydd y rhain yn cynnwys manylion categorïau'r achosion o dorri safonau disgyblaeth, y cosbau a osodwyd, a'r ffactorau lliniaru.

59. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cadw cofnodion am y myfyrwyr sydd wedi'i ddiarddel o'r Brifysgol o dan y drefn ddisgyblu, a bydd yn adolygu'r achosion hyn os ceir cais arall i astudio yn y Brifysgol.

60. Er mwyn i fyfyrwyr allu eu hamddiffyn eu hunain yn erbyn cyhuddiadau, fel rheol nid yw'n briodol cadw enwau'r tystion yn gyfrinachol yn ystod archwiliadau disgyblu. Efallai na fydd hi'n briodol dibynnu ar dystiolaeth tystion nad ydynt yn dymuno i'w henwau gael eu rhoi i fyfyrwyr dan gyhuddiad.

Ailystyried yr un cyhuddiad

61. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd y Brifysgol yn ailystyried yr un cyhuddiad, gan roi ystyriaeth i un o'r materion isod:

(i) A oes tystiolaeth newydd ar gael na fu modd ei datgelu yn gynt, a hynny am reswm da

(ii) Faint o amser a aeth heibio a sut mae hynny'n effeithio ar ddibynadwyedd y dystiolaeth

(iii) Sut y byddai mynd drwy ail archwiliad yn effeithio ar y myfyrwyr dan gyhuddiad

(iv) Pe byddai'r mater yn cael ei adael heb ymdrin ag ef, sut byddai hynny'n effeithio ar rwymedigaethau'r Brifysgol o dan ei Rheolau a'i Rheoliadau ei hun, neu ar ofynion allanol cyrff proffesiynol neu reoleiddio.