Ail-Gyflwyno Traethawd Hir

MYFYRWYR A DDECHREUODD GRADD MEISTR NEU WOBR UWCHRADDEDIG O FIS MEDI 2018

Gall myfyrwyr sy'n methu eu modiwl traethawd hir, naill ai trwy fethu â chyrraedd y marc pasio gofynnol o 50% neu drwy beidio â chyflwyno, ail-eistedd y modiwl a fethwyd ar ddau achlysur am uchafswm marc o 50% (heblaw lle mae amgylchiadau arbennig wedi'u derbyn.

Yn dilyn y bwrdd arholi perthnasol, bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu am eu canlyniadau ac yn cael cynnig yr opsiwn i ailgyflwyno eu traethawd hir. Bydd angen i fyfyrwyr sydd am gymryd yr opsiwn i ailgyflwyno llenwi a dychwelyd Ffurflen Ailgyflwyno Ôl-raddedig a fydd yn cael ei hanfon atynt i'w chwblhau ynghyd â'u dyddiad ailgyflwyno. Y ffi am ailgyflwyno traethawd ôl-raddedig ar gyfer 2023/2024 yw £140.

Rhaid llenwi'r Ffurflen Ailgyflwyno Ôl-raddedig erbyn y dyddiad cau a roddir. Os bydd myfyriwr yn penderfynu nad yw'n dymuno parhau â'i astudiaethau, dylent hysbysu'r Tîm Gweinyddu Ôl-raddedig drwy gysylltu â pgsstaff@aber.ac.uk. Tybir bod myfyrwyr sydd ddim yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad cau, ac nad ydynt wedi ein hysbysu o'u bwriad, wedi penderfynu peidio â pharhau â'u hastudiaethau a chânt eu tynnu'n ôl o'r cwrs yn barhaol.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch Ailgyflwyno Ôl-raddedig a Addysgir at pgsstaff@aber.ac.uk.