Gwneud newidiadau i'r wybodaeth ar eich Cofnod Myfyriwr
Newid Modiwl, Cynllun Gradd neu Dull Astudio.
Os hoffech newid eich modiwlau, cynllun astudio neu ddull astudio, gallwch wneud hynny drwy eich Cofnod Myfyriwr ar-lein drwy glicio ar y cerdyn 'Gwneud newidiadau i'm Cwrs'. Mae rhagor o wybodaeth am wneud newidiadau i'ch modiwlau a'ch cynllun astudio ar gael ar y dudalen we Newid Cynllun Astudio neu Fodiwl .
Newid eich Cyfeiriad, Enw neu Manylion Personol eraill.
Gallwch wneud newidiadau i'ch cyfeiriad a'ch manylion personol ar-lein drwy eich Cofnod Myfyriwr drwy glicio ar y ddolen 'Fy Ngwybodaeth Bersonol' ar y faner ar frig eich tudalen cofnod myfyriwr. Gellir gwneud y rhan fwyaf o newidiadau yn rhydd a byddant yn digwydd ar unwaith, fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth a dogfennau ychwanegol i ni os bydd newid enw. Os oes angen, gofynnir i chi wneud hynny drwy e-bost i'ch cyfrif e-bost myfyriwr Aber. Fel arfer, caiff newidiadau enwau eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith.
Hysbysu problem ar eich Cofnod Myfyriwr.
Os ydych am hysbysu gwall ar eich Cofnod Myfyriwr ac nid ydych yn medru ei newid eich hun dylech gysylltu â ni drwy glicio'r ddolen 'Hysbysu problem' ar frig dudalen eich cofnod myfyriwr neu danfonwch ebost at ugfstaff@aber.ac.uk .
Gweithgareddau eraill sy'n digwydd trwy eich 'Cofnod Myfyriwr'.
Yn ystod rhai adegau o'r flwyddyn gofynnir i chi fynd at eich Cofnod Myfyriwr i gymryd rhan mewn tasgau y mae'n rhaid i chi eu cwblhau:
- Dasg graddio yn ystod mis Ebrill
- Cofrestru ar gyfer Asesiadau Ailsefyll yr Haf yn ystod mis Awst
- Cofrestru Amodol yn ystod Ebrill/May
- Cofrestru Ar-lein i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr bydd angen cwblhau Cofrestru Ar-lein ddiwedd mis Medi/Hydref, fodd bynnag mae gennym gyrsiau sy'n dechrau ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Os ydych chi'n dechrau cwrs y tu allan i fis Medi/Hydref fe welwch chi'r dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos ar eich cofnod ar yr amser y mae eich cwrs i fod i ddechrau. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n dychwelyd ailgofrestru bob blwyddyn yn ystod mis Medi trwy'r dasg Cofrestru Ar-lein.
- Cofrestru Ail Sefyll yn Fewnol yn ystod y ddwy wythnos diwethaf o Hydref
Bydd rhain yn dangos o dan y ddolen 'Fy Nhasgau' ar y faner ar frig eich tudalen cofnod myfyriwr. Dylech ymweld a'ch Cofnod Myfyriwr yn rheolaidd.
Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn a'ch cofnod myfyriwr dylech gysylltu â ni drwy'r e-bost at ugfstaff@aber.ac.uk neu gallwch alw yn y Swyddfa a'r y llawr cyntaf Adeilad Cledwyn, Penglais. Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm
Dydd Gwener 9am i 4pm
A'r gau Dydd Sadwrn a dydd Sul.
Manylion cyswllt:
Cofrestrfa Academaidd
Prifysgol Aberystwyth
Adeilad Cledwyn
Penglais
Aberystwyth
SY23 3FB
Rhif ffôn: 01970 628515 neu 622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk