Ymyddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA) Yn Arholiadau Prifysgol Aberystwyth
Mae copi pdf o’r adran hon ar gael i’w lawrlwytho:
-
1.0 Cyflwyniad
Er eich lles eich hun, fe ddylech ddarllen y ddogfen hon ar y cyd â’r Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (Rheoliad YAA) - https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ . Os cyfyd unrhyw anghydfod ynglŷn a’r wybodaeth yn y ddogfen hon, dylid rhoi’r flaenoriaeth i’r wybodaeth a nodir yn y Rheoliadau ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Er bod y ddogfen hon yn ymdrin ag Ymddygiad Academaidd Annerbyniol o dan amodau arholiad yn unig, dim ond rhan o Reoliad ehangach yw hyn, ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â’r Rheoliad yn ei gyfanrwydd.
Mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol y gall twyllo mewn arholiadau beryglu yn sylweddol eich gobeithion o gael gradd. Mae twyllo – sef yn swyddogol, Ymddygiad Academaidd Annerbyniol – nid yn unig yn erbyn Rheoliadau’r Brifysgol, ond mae’r cosbau cysylltiedig yn sylweddol. Er enghraifft, gallai Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ddifetha eich gyrfa arfaethedig. Mewn pynciau penodol, rhaid rhoi gwybod i gyrff proffesiynol am achosion pendant o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn ystod arholiadau’r Brifysgol. Er eich lles eich hun, mae angen i chi ddeall y goblygiadau.
Mae dau bwynt yn benodol yn werth eu pwysleisio:
i) Fel y nodir ym mhwynt 2.2(iv) y Rheoliadau, mae ‘gwybodaeth anawdurdodedig’ yn anawdurdodedig os yw’r deunydd dan sylw yn berthnasol i bwnc yr arholiad penodol hwnnw ai peidio. Nid oes angen profi y gellid defnyddio unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chanfod yn yr arholiad dan sylw neu mewn cwestiwn penodol sydd ar y papur arholiad hwnnw. Felly, er enghraifft, nid oes rhaid i wybodaeth a ysgrifennwyd ar gledr llaw fod yn berthnasol, neu hyd yn oed yn hollol ddarllenadwy gan staff yr arholiad.
ii) Mae’r Rheoliad (pwynt 2.1) yn nodi’n glir y gall Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ddigwydd ni waeth beth yw bwriad y myfyriwr. Nid oes raid i unrhyw erlyniad brofi fod y sawl sy’n cael ei ddrwgdybio’n bwriadu defnyddio’r ‘wybodaeth anawdurdodedig’ – mewn geiriau eraill, yr unig beth sydd ei angen yw bod â’r wybodaeth yn eich meddiant. Felly, er enghraifft, mae bod ag unrhyw ddyfais electronig anawdurdodedig yn eich meddiant, gan gynnwys ffôn symudol, yn ddigon i roi’r drefn ar waith.
Mae’r rhesymau sy’n cymell myfyrwyr i deimlo bod angen iddynt fynd ati’n fwriadol i wneud hyn yn gymhleth ac amrywiol – maent yn ymwneud, er enghraifft, â diffyg hyder yn eu gallu i berfformio’n dda mewn arholiadau, problemau iechyd neu bersonol, a phwysau gan gyfoedion, teulu neu bwysau diwylliannol, a/neu bwysau ariannol. Beth bynnag fo’r rhesymau, yr un fydd canlyniadau cael eich barnu’n euog. Os ydych yn teimlo o dan bwysau ac yn poeni na fyddwch yn gwneud yn dda, y peth cywir i’w wneud yw ceisio cyngor a chefnogaeth gan staff academaidd neu staff cynorthwyol i’ch helpu i wneud yn dda. Yr unig beth a gyflawnir trwy dwyllo fydd gwneud sefyllfa anodd yn un llawer gwaeth.
Mae gan fyfyrwyr hawl i ddisgwyl i’r Brifysgol wneud pob ymdrech i atal, canfod a chosbi unrhyw un sy’n ceisio ennill mantais dros eraill drwy ddulliau annheg. Diben y ddogfen hon yw sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn deall sut mae’r Brifysgol yn gwneud hyn, a gwneud yn sicr bod myfyrwyr yn llwyr ymwybodol o’r hyn a ystyrir yn annerbyniol.
-
1.1 Beth yn union sy’n cael ei ystyried yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ac am beth fydd y staff arholi yn chwilio?
Yn ogystal â’r enghreifftiau a ddyfynnir ym mhwynt 2.2(iv) y Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o rai o’r pethau sydd wedi arwain at honiadau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn erbyn ymgeiswyr mewn arholiadau:
- Nodiadau wedi’u hysgrifennu neu eu printio ar ddarnau bach o bapur. Dyma’r math mwyaf cyffredin o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Mae’n ddigon bod â’r rhain yn eich meddiant, ond mae myfyrwyr hefyd yn aml yn cael eu dal yn edrych arnynt;
- Nodiadau wedi’u hysgrifennu ar offer cynorthwyol a ganiateir – er enghraifft, pren mesur, cas pensiliau, cas sbectol, gorchudd neu gefn cyfrifianellau, offer ysgrifennu, cerdyn adnabod myfyrwyr;
- Nodiadau wedi’u hysgrifennu mewn testunau a ganiateir y mae myfyrwyr yn dod â nhw i neuadd yr arholiad;
- Nodiadau wedi’u hysgrifennu yn y ‘mannau gwyn’ neu ar gloriau testunau a ganiateir y mae myfyrwyr yn dod â nhw i neuadd yr arholiad;
- Nodiadau wedi’u hysgrifennu ar bapur, corneli tudalennau wedi’u plygu i lawr, neu nodiadau ‘post-it’ a ganiateir mewn testunau y mae myfyrwyr yn dod â nhw i neuadd yr arholiad;
- Nodiadau wedi’u hysgrifennu ar rannau’r corff – dwylo, bysedd a gwaelod y fraich gan amlaf;
- Nodiadau neu rifau wedi’u gosod ar gof cyfrifiannell;
- Bod â ffôn symudol neu ddyfais electronig fach arall, gan gynnwys oriawr glyfar, yn eich meddiant yn yr ystafell arholiad;
- Nodiadau wedi’u cadw ar unrhyw fath o gof ar ffôn symudol, iPod, iPad, oriawr glyfar, neu ddyfais electronig o fath arall (ceir gwybodaeth bellach am ddyfeisiau electronig o dan bwynt 3 isod);
- Acronymau neu aides memoir wedi’u hysgrifennu neu eu cuddio ar/yn unrhyw un o’r uchod;
- Cyfathrebu electronig anghyfreithlon ag eraill y tu allan i’r ystafell arholiad;
- Gwybodaeth ychwanegol anawdurdodedig ar ffotograffau neu ddelweddau a ganiateir;
- Gwybodaeth ychwanegol anawdurdodedig yn/ar lyfryddiaethau a ganiateir;
- Gwybodaeth ychwanegol anawdurdodedig ar daflenni o bapur wedi’u cuddio o fewn testunau a ganiateir;
- Cadw ‘nodiadau’ neu ‘gardiau adolygu’ yn eich meddiant yn yr ystafell arholiad heb ganiatâd;
- Nodiadau wedi’u cuddio rhywle ar eich corff i gyfeirio atynt yn ystod ymweliadau â’r toiled;
- Nodiadau wedi’u cuddio ymlaen llaw mewn ciwbicl toiled;
- Defnyddio’r rhyngrwyd heb awdurdod yn ystod unrhyw arholiad;
- Mynd i mewn i’r ystafell arholiad yn gyflym, edrych ar y papur arholiad ac yna mynd allan i’r ystafell gotiau i ddarllen nodiadau cyn bod yr ymgeiswyr eraill wedi eistedd;
- Cyfathrebu rhwng ymgeiswyr – rhwng parau neu grwpiau o ffrindiau gan amlaf;
- Dod ag atebion cyflawn i’r arholiad wedi’u hysgrifennu ymlaen llaw a’u gosod yn lle rhannau mewnol y llyfrynnau arholiad;
- Dechrau ysgrifennu yn y llyfr atebion cyn i staff yr arholiad ddatgan bod yr arholiad wedi dechrau;
- Parhau i ysgrifennu yn y llyfr atebion ar ôl i chi gael cyfarwyddyd i orffen ysgrifennu ar ddiwedd yr arholiad;
- Peidio â chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau llafar a roddir gan staff yr arholiadau, ar unrhyw fater, ond yn benodol yng nghyswllt dechrau a therfynu'r arholiad;
- Ffugio bod yn ymgeisydd arall.
Mae Goruchwylwyr y Brifysgol wastad yn cadw golwg fanwl am bob un o’r rhain.
Sylwch nad yw’r rhestr hon o enghreifftiau yn gynhwysfawr ac ystyrir bod unrhyw ddeunydd neu gyfathrebu anawdurdodedig yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
-
1.2 Diffiniad o Ddyfais Electronig mewn perthynas ag Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn Arholiad
Dylai myfyrwyr ddarllen Rheoliad 2.2. (iv) ynghylch yr hyn y mae’r Brifysgol yn ei ystyried yn ddyfais electronig - https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/
Fodd bynnag, bydd sawl achos lle nad yw rhai dyfeisiau electronig yn dod o fewn y categori hwn:
- cyfrifianellau electronig a ganiateir yn benodol yn arholiadau PA – hysbysir y myfyrwyr mewn achosion lle y caniateir hyn;
- teclynnau mesur gweithgarwch/cyfradd curiad y galon/ffitrwydd o’r math mwyaf elfennol yn unig – er enghraifft y ‘fitbits’ mwyaf elfennol – sydd DIM OND yn gallu monitro, cofnodi, storio a dangos gwybodaeth am baramedrau’r corff dynol, ac o bosib roi rhybudd am hysbysiadau allanol. Os oes unrhyw amheuaeth, caiff y dyfeisiau hyn eu cymryd oddi ar y myfyriwr er mwyn cadarnhau beth yn union y maent yn gallu ei wneud;
- dyfeisiau electronig penodol a ganiateir gan y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â Gofynion Arholiad Unigol (megis geiriadur, thesawrws neu chwyddwr electronig).
-
1.3 Beth fydd yn digwydd os oes amheuaeth bod myfyriwr wedi cyflawni YAA?
Unwaith y bydd Arolygwyr Cynorthwyol yr Arholiadau a’r Goruchwylwyr Prifysgol sy’n gweithio gyda nhw ym mhob un o’r lleoliadau arholi yn amau bod rhywun yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, fe’u cynghorir i gadw at y weithdrefn ddiffiniedig hyd y bo’n ymarferol:
- Unwaith y bydd staff yr arholiad yn rhesymol bendant bod achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn digwydd, byddant yn gweithredu a hysbysu’r myfyriwr am eu hamheuon, gan gasglu ar yr un pryd unrhyw dystiolaeth berthnasol a allai fod ar gael. Gwneir hyn mor dawel â phosib gan gofio’r amgylchiadau, a’r aflonyddu anochel a achosir i fyfyrwyr eraill yn y neuadd arholiad.
- Hysbysir y myfyriwr y bydd y mater yn cael ei ddwyn i sylw Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol (trwy’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)), a bod achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn cael ei honni yn ei erbyn/herbyn. Fel arfer hysbysir y myfyriwr hefyd y gall barhau â’r arholiad yn ddiragfarn, ond os na roddir rhybudd o’r fath nid fydd hynny yn rhagfarnu unrhyw weithredu dilynol.
- Mewn achosion eithriadol, gellir mynd â myfyriwr o’r ystafell arholi dros-dro i osgoi tarfu’n ormodol ar eraill, neu i’w holi am ychydig. Yna caniateir amser ychwanegol i’r myfyriwr gwblhau’r arholiad, ond os nad yw’n gwneud hynny ni all hyn fod yn sail i apêl.
- Er y bydd llawer o fyfyrwyr sy’n wynebu honiadau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol o bosib yn dymuno siarad â staff arholi ar ddiwedd eu harholiad, fel arfer nid oes llawer i’w ddweud ar yr adeg honno, gan y bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol (trwy’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)) i’w ystyried ymhellach.
- Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn:
- Casglu ynghyd yr holl dystiolaeth angenrheidiol sydd ar gael;
- Derbyn adroddiadau gan y staff arholiad perthnasol;
- Crynhoi’r honiadau ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Arholi.
- Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol yn ymdrin â’r achosion honedig, mewn ymgynghoriad â Chofrestrfa Academaidd y Brifysgol ac yn unol â’r Rheoliad YAA.
- Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â Chadeirydd y Bwrdd Arholi Adrannol perthnasol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses.
-
1.4 Beth sy'n digwydd wedyn?
Ceir gwybodaeth bellach ynglŷn â’r drefn yn y Rheoliad, sy’n cynnig arweiniad i fyfyrwyr ar y categorïau penodol o Ymarfer Academaidd Annerbyniol; sut y bydd y broses o archwilio a gwerthuso achos honedig o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn datblygu; a sut y cymhwysir y cosbau (https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/uap-points/) sy’n gysylltiedig â lefelau amrywiol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.