1.3 Beth fydd yn digwydd os oes amheuaeth bod myfyriwr wedi cyflawni YAA?

Unwaith y bydd Arolygwyr Cynorthwyol yr Arholiadau a’r Goruchwylwyr Prifysgol sy’n gweithio gyda nhw ym mhob un o’r lleoliadau arholi yn amau bod rhywun yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, fe’u cynghorir i gadw at y weithdrefn ddiffiniedig hyd y bo’n ymarferol:

  • Unwaith y bydd staff yr arholiad yn rhesymol bendant bod achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn digwydd, byddant yn gweithredu a hysbysu’r myfyriwr am eu hamheuon, gan gasglu ar yr un pryd unrhyw dystiolaeth berthnasol a allai fod ar gael. Gwneir hyn mor dawel â phosib gan gofio’r amgylchiadau, a’r aflonyddu anochel a achosir i fyfyrwyr eraill yn y neuadd arholiad. 
  • Hysbysir y myfyriwr y bydd y mater yn cael ei ddwyn i sylw Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol (trwy’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)), a bod achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn cael ei honni yn ei erbyn/herbyn. Fel arfer hysbysir y myfyriwr hefyd y gall barhau â’r arholiad yn ddiragfarn, ond os na roddir rhybudd o’r fath nid fydd hynny yn rhagfarnu unrhyw weithredu dilynol.
  • Mewn achosion eithriadol, gellir mynd â myfyriwr o’r ystafell arholi dros-dro i osgoi tarfu’n ormodol ar eraill, neu i’w holi am ychydig.  Yna caniateir amser ychwanegol i’r myfyriwr gwblhau’r arholiad, ond os nad yw’n gwneud hynny ni all hyn fod yn sail i apêl.
  • Er y bydd llawer o fyfyrwyr sy’n wynebu honiadau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol o bosib yn dymuno siarad â staff arholi ar ddiwedd eu harholiad, fel arfer nid oes llawer i’w ddweud ar yr adeg honno, gan y bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol (trwy’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)) i’w ystyried ymhellach.
  • Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn:
    • Casglu ynghyd yr holl dystiolaeth angenrheidiol sydd ar gael;
    • Derbyn adroddiadau gan y staff arholiad perthnasol;
    • Crynhoi’r honiadau ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Arholi.
  • Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol yn ymdrin â’r achosion honedig, mewn ymgynghoriad â Chofrestrfa Academaidd y Brifysgol ac yn unol â’r Rheoliad YAA. 
  • Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â Chadeirydd y Bwrdd Arholi Adrannol perthnasol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses.