Ffurflen Gais i Aileistedd Arholiadau Dramor

Manylion y Myfyriwr

Cyfnod Arholi
Cliciwch ar y cyfnod arholiadau rydych chi’n gwneud cais amdano

Datganiad

Dymunaf wneud cais i ailsefyll fy arholiadau yn y lleoliad a nodir uchod. Deallaf os nad oes modd i’r lleoliad uchod ddarparu ar fy nghyfer y bydd angen darparu manylion lleoliad addysgiadol priodol arall i’w ystyried neu wneud trefniadau i ddychwelyd i Aberystwyth. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn fy nghynghori ynghylch a oes modd gwneud trefniadau ai peidio a beth yw’r trefniadau. Deallaf os nad oes modd i’r Gofrestrfa Academaidd wneud trefniadau boddhaol y bydd disgwyl imi ddychwelyd i Aberystwyth i ailsefyll fy arholiadau.

Cytunaf i dalu ffi weinyddol y Brifysgol o £120 ac, os bydd angen, y ffi ddiddymu, yn ogystal ag unrhyw ffïoedd eraill a godir gan Brifysgol Aberystwyth a’r lleoliad arholi allanol.

Rwyf yn deall y bydd yr wybodaeth a roddwyd yn cael ei chylchredeg i aelodau perthnasol y staff er mwyn cyflwyno cais i sefyll arholiad dramor, ynghyd â’r trydydd person a enwebais uchod (nodyn: gallai hyn fod y tu allan i’r UE) fel bod modd iddynt gysylltu â mi i drafod trefniadau’r arholiad. Deallaf y caiff yr wybodaeth ei phrosesu a’i chadw yn ôl yr angen fel y gall y Brifysgol gyflawni tasgau er budd cyffredinol (GDPR Erthygl 6(1)(e)) ac o dan ei rhwymedigaethau contractol (GDPR Erthygl 6(1)(b)). Cedwir yr wybodaeth am un flwyddyn ar ôl i'r arholid cael ei gynnal. Os oes gwybodaeth sensitif wedi’i chyflwyno yn neu gyda’r ffurflen a lenwyd uchod, rhoddaf fy nghaniatâd iddi gael ei defnyddio i ddibenion Trefn Arholiadau Tramor y Brifysgol. Ni fydd yn cael ei rhannu gyda’r trydydd person a enwebais uchod.