Amdanom ni

Croeso i Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Fel un o’r adrannau celf uchaf ei safle yn y DU, ein nod yw eich cyflwyno i’r ysgolheictod orau ym myd y celfyddydau, eich cynorthwyo i gyflawni eich potensial dysgu ac i ennill gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer sefydlu gyrfa yn y farchnad sydd ohoni.

Yma yn yr Ysgol Gelf, nid sefydliad academaidd yn unig mohonom ond cymuned fawr eu gofal o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenhedloedd. O gofio’r amrywiaeth hynny, rydym yn cynnig nifer o gyrsiau mewn Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Hanes Celf a/neu’r celfyddydau creadigol sy’n ysgogi ac yn herio creadigrwydd – rhaglenni gradd sy’n rhoi’r cyfle i chi gyfuno’r ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol wrth astudio celf.

Mae’r Ysgol wedi’i lleoli mewn adeilad sy'n un o'r esiamplau gorau o bensaernïaeth yn Aberystwyth. Dathlodd adeilad Edward Davies, sy’n adeilad rhestredig, ei ganmlwyddiant yn 2007. Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw, ond mae hefyd wedi’i addasu’n ofalus i gwrdd ag anghenion dysgu celfyddyd gain heddiw. Mae’n symbol urddasol o nod yr Ysgol i gyfuno’r traddodiadol â’r cyfoes.

Mae ymchwil ein staff - artistiaid sy’n arddangos, haneswyr celf sy’n cyhoeddi a churaduron sy’n gweithio yn y maes - yn ysbrydoli’r addysgu. Mae’n hyrwyddo meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, ac yn creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig. Dysgwch fwy am ein hymchwil, ein cyfleusterau, ein graddedigion, ein henw da a byw ac astudio yn Aberystwyth drwy glicio ar y tabiau isod.

Pam ddim dod i ymweld â ni? Mae'n hawdd dod i Aberystwyth ar y trên neu mewn car, ac mae'n amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio a bwy'n dda. Cymerwch fantais o'r cyfle i ddod i gwrdd â'r staff a'r myfyrwyr ac i brofi'r Ysgol Gelf, y brifysgol a'r dref drosoch eich hun. Dewch i un o'n Diwrnodau Agored!

Ein graddedigion

Bydd y sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a ddysgir yma yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa ichi.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio yn y diwydiannau creadigol fel artistiaid, darlunwyr llyfrau plant, dylunwyr graffeg, athrawon prifysgol, ymchwilwyr a churaduron. Ers 2015, mae pump o’n graddedigion wedi ymddangos ar Sky Arts Landscape Painter of the Year – yn cynnwys yr ennillydd yn 2017, Tom Voyce - ac ar Sky Arts Portrait Painter of the Year.

Mae cyn-fyfyrwraig, Edwina Ellis, wedi dylunio sawl darn arian i’r Bathdy Brenhinol, yn cynnwys pedwar darn £1 yn dangos pontydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a darn £2 yn cofnodi 150 mlwyddiant rheilffordd tanddaearol Llundain ac, yn 2019, darn 50c yn coffáu Stephen Hawking trwy ddyluniad oedd wedi’i ysbrydoli gan ei ddamcaniaethau ar dyllau du.

Ein henw da

Rydym yn dal i wneud yn eithriadol o dda yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a thablau cynghrair eraill. Yn yr ACF 2024, roedden ymhlith y 5 uchaf yn y DU am yr ‘Addysgu ar fy nghwrs’ a’r ‘Asesu ac Adborth’ ym mhwnc Celf, ac roedd 96% o fyfyrwyr yr Ysgol Gelf yn gadarnhaol am yr addysgu ar eu cwrs. Adolygir perthnasedd a chyfoesedd ein cynlluniau yng ngoleuni yr adborth hwn.

Roeddem hefyd yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd yr Addysgu ym mhwnc Celf a Dylunio yng Nghanllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2024, ac yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd gyda’r Addysgu a’r Asesu ym mhwnc Celfyddyd Gain yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2025.

*(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024; O'i gymharu â Sefydliadau Addysg Uwch Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times)