Cyfres Seminarau Ymchwil Hanes Celf Aberystwyth

Bu’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn creu, trafod, ac arddangos celf ers 1917. Mae Cyfres Seminarau Ymchwil Hanes Celf Aberystwyth yn gwahodd haneswyr a churaduron celf blaenllaw i rannu eu hymchwil diweddaraf ac ysgogi trafod ynglŷn â’r materion mawr sy’n rhoi ffurf i’r astudiaeth o faes celf.

Ni chodir tâl am ddod i’r seminarau ac maent yn agored i bawb, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd.

Cadeirydd: Dr Samuel Raybone

Ymholiadau: sar69@aber.ac.uk

 

Agweddau Dad-drefedigaethol a Thrawswladol  ar Hanes Celf a Diwylliant Weledol

The All-Red Line Around the World. The All Red Line; the annals and aims of the Pacific Cable project, gan George Johnson, James Hope & Sons, 1903. Delwedd yn y parth cyhoeddus.

 

Mae galwadau diweddar i ‘ddad-drefedigaethu’ meysydd llafur mewn prifysgolion, amgueddfeydd, a mannau cyhoeddus wedi ysbrydoli pwyso a mesur ynglŷn â chyfranogaeth celf a hanes celf ym ymerodraeth. Mae hyn wedi ennyn myfyrio beirniadol ynglŷn â gweddillion meddylfryd drefedigaethol sy’n dal i gael dylanwad o ran celf a diwylliant gweledol pwy y dewiswn eu hastudio; yn ogystal â’r gwerthoedd, y rhagdybiaethau, y dulliau, a’r cysyniadau a ddefnyddiwn i’w hastudio. Ar ben hyn, mae wedi meithrin ymwybyddiaeth o’r anghyfartaledd strwythurol sy’n pennu pwy sy’n cael ysgrifennu’r hanesion hyn, a’r effaith grymus mae naratif am y gorffennol yn ei gael ar frwydrau’r presennol. Mewn ymateb i’r trafodaethau hyn, eleni mae Cyfres Seminarau Ymchwil Hanes Celf Aberystwyth yn darparu fforwm i’r rhai sy’n gweithio ym maes hanes celf ac ochr yn ochr â’r maes i ystyried sut y gallem efallai drawsnewid ac ehangu ein harferion.

27 Hydref 2021, 4:30-6:00 pm

Dr Ting Chang (Prifysgol Nottingham), ‘Imperial Games: Visuality, Tactility, Ludicity’

Ar-lein

24 Tachwedd 2021, 4:30-6:00 pm

Dr Melanie Polledri (Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, ‘National treasures? Addressing the legacies of Amgueddfa Cymru – National Museum Wales’s early collection-building policies’

Ar-lein, gwyliwch y recordiad

16 Mawrth 2022, 4:30-6:00 pm

Dr Zehra Jumabhoy (Prifysgol Bryste), ‘Heights & Hubris?: Scaling Mountains and Macho-Nationalism’

Ar-lein, gwyliwch y recordiad

 

27 Ebrill 2022,

4:30-6:00 pm

Yr Athro Clare A. P. Willsdon (Prifysgol Glasgow), ‘Crossing Borders in the Impressionist Garden: some examples of art and horticulture in the work of John Singer Sargent, Mary McMonnies, Max Liebermann, and Claude Monet’

Ar-lein, cliciwch fan hyn i ymuno

 Croeso i bawb