Ffurflen Gwyno
Os ydych o’r farn bod Prifysgol Aberystwyth wedi torri un o ofynion Safonau’r Gymraeg gallwch nodi eich cwyn ar y ffurflen hon. Mae gofyn i chi ddarparu eich manylion personol ac i ddisgrifio’r gŵyn. Os hoffech gynnwys atodiad e-bostiwch canolfangymraeg@aber.ac.uk
Gallwch gyflwyno cwyn
- am fethiant Prifysgol Aberystwyth i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg,
- os ydych chi’n teimlo bod rhywun wedi ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Brifysgol.
Yn dilyn derbyn eich cwyn bydd Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn cysylltu gyda chi o fewn 5 diwrnod gwaith er mwyn cydnabod ei derbyn.