Darpariaeth Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o’r prif ddarparwyr ym maes Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg ac yn darparu cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Mae gan Aberystwyth draddodiad hir o addysgu rhychwant eang o bynciau drwy’r Gymraeg a’r nod yw ehangu’r portffolio cyfrwng Cymraeg drwy fuddsoddi’n fewnol a manteisio ar gynlluniau cenedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth. Mae gan y Brifysgol Gangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae'n elwa o grantiau gan y Coleg i ariannu pynciau, ysgoloriaethau, prosiectau a modiwlau.

Mae’r Ganolfan yn cefnogi adrannau academaidd i ddatblygu modiwlau, cyrsiau a phrosiectau cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr ddewis o ddarpariaeth ac adnoddau wrth astudio drwy’r Gymraeg. Mae gan yr adrannau academaidd ddewis eang o fodiwlau a chynlluniau gradd cyfrwng Cymraeg. Gall myfyrwyr ddewis gwneud pob un o’u modiwlau drwy’r Gymraeg mewn rhai adrannau neu ddewis a dethol rhwng y modiwlau Cymraeg a Saesneg er mwyn astudio yn y ddwy iaith mewn adrannau eraill. Mae myfyrwyr sydd wedi dysgu Cymraeg yn cymryd mantais o’r modiwlau Cymraeg sydd ar gael hefyd gan fod digon o gefnogaeth ar gael i ddefnyddio termau academaidd yn y ddwy iaith.

Am ragor o wybodaeth am yr hyn a gynigir gan adrannau drwy’r Gymraeg ymwelwch â’u gwefannau neu ewch i’r gronfa ddata modiwlau.