Ymweliad Dr Michael Siddons
10 Mehefin 2006
Mae Dr Siddons wedi bod yn gefnogol o’r dechrau i un o brosiectau cyfredol yr Adran, sef y dasg o greu fersiwn electronig o waith mawr Peter C. Bartrum ar yr achau Cymreig, sef Welsh Genealogies, A.D. 300-1500, dan nawdd Cronfa Datblygu Adnodd yr AHRC. Bu ef ei hun yn cydweithio â Dr Bartrum ar yr achau am flynyddoedd, ac mae’r prosiect wedi elwa’n fawr o gael copi o’r ohebiaeth helaeth a fu rhyngddynt ar y pwnc er 1993. Dr Siddons sydd wedi ymgymryd â’r dasg o barhau â gwaith Peter Bartrum gan ei ymestyn i gynnwys y genhedlaeth nesaf ar ôl 1500. Yn ôl Dr Bleddyn Huws, un o gyfarwyddwyr y prosiect: 'Yr oeddem yn falch o groesawu Dr Michael Siddons i’r Adran oherwydd ei fod ef mor gefnogol i’r cais gwreiddiol am nawdd gan yr AHRC i sefydlu’r prosiect. Mae cael sêl ei fendith ar waith aelodau’r tîm yn bwysig iawn inni.'