Ennill Gwobr Vernam Hull 2007

Dyfarnodd Prifysgol Cymru Wobr Vernam Hull am 2007 i Dr Ian Hughes, Darlithydd Hŷn yn yr Adran, am ei gyfrol Manawydan Uab Llyr: Trydedd Gainc y Mabinogi. Dyfernir y wobr (£1,000) yn flynyddol i’r gwaith gorau yn ymwneud â rhyddiaith Gymraeg cyn 1700.