Cronfa Goffa Thomas Ellis, Prifysgol Cymru

01 Ionawr 2007

Llongyfarchiadau i Dr Robin Chapman ar ennill £750 o Gronfa Goffa Thomas Ellis Prifysgol Cymru, tuag at ysgrifennu cyfrol ar Lenyddiaeth Gymraeg c. 1740-2005 i gyfres The Oxford Literary History of Wales. Yn ôl golygydd y gyfres, Damian Walford Davies, 'mae'r OLHW yn cynnig cyfle gwerthfawr i ailasesu dau draddodiad llenyddol Cymru a'r berthynas rhyngddynt. Bydd y pedair cyfrol fywiog yma yn herio uniongrededd ac yn cyflwyno hanes llenyddol amgen'.