Dr Cathryn Charnell-White
BA (Cymru) PhD (Cymru)
Darllenydd
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Manylion Cyswllt
- Ebost: ctc@aber.ac.uk
- ORCID: 0009-0002-9378-1223
- Swyddfa:1.50 Adeilad Parry-Williams
- Ffôn: +44 (0) 1970 2851
- Twitter: @CathrynChW
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/d3706696-df6d-443c-80cc-313035e69c25)
- Personal Pronouns: hi / ei
Arweinydd Ymchwil cyfrwng Cymraeg (Ysgol Ieithoedd a Llên; 2023-); Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Staff Myfyrwyr (2023-); Pennaeth Adran (2013-23); Cyfarwyddwr Ymchwil Adrannol (2014-21); Pencampwr Cydraddoldeb (2018-20) & Cyfaill Enfys Aber (2017-); Senedd y Brifysgol (2019-23) & Panel Sefydlog ar gyfer Disgyblu Myfyrwyr (2019-)
Dysgu
Rwyf yn cyfrannu at fodiwlau iaith a llên i ddechreuwyr, ac i fyfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf, ar draws holl gynlluniau israddedig ac ôlraddedig yr adran. Rwyf hefyd wedi datblygu modiwlau yn fy mhriod feysydd ymchwil sy’n cwmpasu llenyddiaeth fodern a chyfoes, ynghyd â diwylliant llenyddol y cyfnod modern cynnar (1500–1800):
- Traddodiad Benywaidd? Merched a Barddoniaeth yng Nghymru cyn 1800.
- Y Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru.
- Testunau'r Enfys: Llunio Profiadau LHDT+ (dysgir ar y cyd â chyd-weithwyr TFTS).
- Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800.
Ymchwil
Mae fy ymchwil i lenyddiaeth gyfoes a llenyddiaeth y cyfnod modern cynnar yn cwmpasu beirniadaeth lenyddol, ysgolheictod testunol, a chyfieithu llenyddol yn y meysydd canlynol. Mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd mewn ffyrdd annisgwyl a chyffrous:
- Llenyddiaeth a diwylliant llenyddol menywod: Clasuron Cymraeg Honno; barddoniaeth gan fenywod mewn cyd-destun Cymreig a phan-Geltaidd.
- Hunaniaeth mewn llenyddiaeth: rhywedd, hunaniaeth bersonol, hunaniaeth leol a chenedlaethol, a Phrydeindod mewn cyd-destun ‘pedair cenedl’.
- Diwylliant llenyddol: rhwydweithiau ac egin sffêr gyhoeddus Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r tu hwnt.
- Celfyddydau Amgylcheddol / Ecofeirniadaeth: llenyddiaeth y tywydd a meteoroleg hanesyddol.
- Eschatoleg: marwolaeth mewn llenyddiaeth.
Mae fy nghyhoeddiadau ym maes llên menywod yn cynnwys y flodeugerdd gynhwysfawr gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenywod cyn 1800, Beirdd Ceridwen (2005) a golygiadau newydd o weithiau anghofiedig gan fenywod yng nghyfres Clasuron Cymraeg Honno, e.e. Pererinion & Storïau Hen Ferch (2008). Mae fy ngwaith ar y gweill yn cynnwys testunau golygedig, cyfieithiadau, nodiadau esboniadol a thrafodaeth feirniadol ar gyfer blodeugerdd (CUP, 2025) a chyfrol feirniadol (CUP, 2026) a fydd yn cynrychioli gwaith a gyflawnwyd fel rhan o’r prosiect ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’ (2013–17) a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Rwyf wedi ysgrifennu am hunaniaeth a diwylliant llenyddol yn Bardic Circles (2007), Welsh Poetry of the French Revolution (2012), ‘Networking the nation…’ (2013), ‘Perfformio’r genedl…’ (2017) a ‘Brawdgarwch cenedlgarol…’ (2020). Mae gennyf lond llaw o erthyglau, a nodir isod, ar lenyddiaeth y tywydd, ac rwyf wrthi’n cwblhau blodeugerdd bwrpasol i Gyhoeddiadau Barddas, sef Trysorfa’r Tywydd (2025).
Rwy'n aelod o bwll arolygwyr QAA (2024-) ac mae gennyf brofiad o arfarnu cymheiriaid drwy Goleg Arfarnu Cymheiriaid yr AHRC (2017–21), Gwerddon (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Gwasg Prifysgol Cymru, CrwsiblCymru (2019-). a The Huntingdon Library Journal.
Llenyddiaeth Cymru, Cadeirydd (2021-); Cyfarwyddwr (2019-)
Arholwr Allanol, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd (2019-23)
Cyngor Llyfrau Cymru, Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor (2015-21)
Honno Gwasg Menywod Cymru, Bwrdd Rheoli (2003-); Cyd-olygydd Cyfres Clasuron Cymraeg Honno (2008-)
Trysorydd Adran Diwylliant y 18-19g (Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru; 2002)
Rwy'n aelod o'r cymdeithasau canlynol: Archif Menywod Cymru; ASLE-UKI (Association for the Study of Literature and Environment-UK); Barddas; BSECS (British Society for Eighteenth-Century Studies); Cymdeithas Astudiaethau'r Gymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd.
Rwy'n aelod o'r cymdeithasau canlynol: Yr Academi Gymreig (Llenyddiaeth Cymru); Archif Menywod Cymru; ASLE-UKI (Association for the Study of Literature and Environment-UK); Barddas; BSECS (British Society for Eighteenth-Century Studies); Cymdeithas Astudiaethau'r Gymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd.
Rwy'n gwau ac yn canu'r ffidil yn fy amser hamdden, a bydd rhai ohonoch yn dod i fy adnabod yng ngherddorfa'r Brifysgol, Philomusica.
- AB1 Sgiliau Astudio Iaith a Llên (CY13120)
- AB2 Testunau'r Enfys: llunio profiadau LHDT+ (CY22720)
- AB2 Testunau'r Enfys: llunio profiadau LHDT+ (CY32720)
- AB1 Prosiect Annibynnol (CY35940)
- AB1 Traethawd Estynedig (CY36040)
- AB1 Beginning Modern Welsh 1 (WE11220)
- AB2 Introduction to Welsh Literature (WE11420)
- AB2 Women's Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400 - 1800 (WEM4220)
Module Coordinator
- AB1 Beginning Modern Welsh 1 (WE11220)
- AB2 Beginning Welsh ii (WE11320)
- AB1 Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry (CY35820)
- AB1 Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry (CY25820)
- AB1 Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol (CY12720)
- AB1 Cymraeg Llafar (CY13020)
- AB1 Cymru a'r Celtiaid (GC11820)
- AB1 Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol (CY11520)
- AB1 Meistroli Mynegiant yn y Gweithle Proffesiynol (CYM5720)
- AB1 Principles of Research Design (PGM0210)
- AB1 Prosiect Hir (CY35940)
- AB1 Sgiliau Astudio Iaith a Llên (CY13120)
- AB2 Testunau'r Enfys: llunio profiadau LHDT+ (CY22720)
- AB1 The Celts: A Contested Legacy (IR11820)
- AB1 Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 (CY11120)
- AB1 Traethawd Estynedig (CY36040)
- AB2 Uwch Sgiliau Golygu (CYM6210)
- AB2 Welsh Language 2 (WEM0220)
- AB2 Writer as Professional (WRM6620)
- AB2 Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu (CY22420)
Lecturer
Mae fy ymchwil i lenyddiaeth gyfoes a llenyddiaeth y cyfnod modern cynnar yn cwmpasu beirniadaeth lenyddol, ysgolheictod testunol, a chyfieithu llenyddol yn y meysydd canlynol. Mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd mewn ffyrdd annisgwyl a chyffrous:
- Llenyddiaeth a diwylliant llenyddol menywod: Clasuron Cymraeg Honno; barddoniaeth gan fenywod mewn cyd-destun Cymreig a phan-Geltaidd.
- Hunaniaeth mewn llenyddiaeth: rhywedd, hunaniaeth bersonol, hunaniaeth leol a chenedlaethol, a Phrydeindod mewn cyd-destun ‘pedair cenedl’.
- Diwylliant llenyddol: rhwydweithiau ac egin sffêr gyhoeddus Cymru’r ddeunawfed ganrif a’r tu hwnt.
- Celfyddydau Amgylcheddol / Ecofeirniadaeth: llenyddiaeth y tywydd a meteoroleg hanesyddol.
- Eschatoleg: marwolaeth mewn llenyddiaeth.
Mae fy nghyhoeddiadau ym maes llên menywod yn cynnwys y flodeugerdd gynhwysfawr gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenywod cyn 1800, Beirdd Ceridwen (2005) a golygiadau newydd o weithiau anghofiedig gan fenywod yng nghyfres Clasuron Cymraeg Honno, e.e. Pererinion & Storïau Hen Ferch (2008). Mae fy ngwaith ar y gweill yn cynnwys testunau golygedig, cyfieithiadau, nodiadau esboniadol a thrafodaeth feirniadol ar gyfer blodeugerdd (CUP, 2023) a chyfrol feirniadol (CUP, 2024) a fydd yn cynrychioli gwaith a gyflawnwyd fel rhan o’r prosiect ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’ (2013–17) a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Rwyf wedi ysgrifennu am hunaniaeth a diwylliant llenyddol yn Bardic Circles (2007), Welsh Poetry of the French Revolution (2012), ‘Networking the nation…’ (2013), ‘Perfformio’r genedl…’ (2017) a ‘Brawdgarwch cenedlgarol…’ (2020). Mae gennyf lond llaw o erthyglau, a nodir isod, ar lenyddiaeth y tywydd, ac rwyf wrthi’n cwblhau blodeugerdd bwrpasol i Gyhoeddiadau Barddas, sef Trysorfa’r Tywydd (2024).
Mae gennyf brofiad o arfarnu cymheiriaid drwy Goleg Arfarnu Cymheiriaid yr AHRC (2017–21), Gwerddon (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Gwasg Prifysgol Cymru, CrwsiblCymru (2019-). a The Huntingdon Library Journal.
In: Barddas, Vol. Haf 2025, No. 366, 18.07.2025, p. 36-37.
Research output: Contribution to journal › Column
In: Welsh History Review, Vol. 32, No. 3, 2025.
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article Review › peer-review
In: Barddas, Vol. Gaeaf 2024, No. 360, 15.10.2024, p. 46-17.
Research output: Contribution to specialist publication › Column
In: Barddas, Vol. Haf 2024, No. 362, 01.08.2024, p. 40-41.
Research output: Contribution to specialist publication › Column
In: Barddas, Vol. 364, No. Gaeaf 2025, 01.01.2025, p. 36.
Research output: Contribution to journal › Column
