Cyfieithydd

Cyfieithydd

Enw:

       
Rhodri Siôn

Cartref:

Capel Garmon, Llanrwst

Teitl Swydd:

Cyfieithydd

Sefydliad:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 

Disgrifiad:

Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol, nid oeddwn wedi penderfynu’n bendant mai cyfieithydd roeddwn am ei fod, ond gwyddwn ers tro mai cael swydd sy’n trin a thrafod y Gymraeg fyddai fy nod wrth i mi gamu i’r byd gwaith. Yn sgil Safonau newydd Comisiynydd y Gymraeg a’r gofyn statudol i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â nhw, roedd swyddi felly i’w cael yn fwyfwy aml, a swyddi cyfieithu’n benodol.

Mae pobl yn aml yn gofyn “pa fath o bethau wyt ti’n eu cyfieithu?”, a’r ateb symlaf yw “pob dim”. Ers cyflwyno’r Safonau newydd, mae gofyn i bopeth sy’n digwydd yn y Cyngor ddigwydd yn ddwyieithog, felly rwy’n cyfieithu pob math o bethau. Mae Uned Iaith Cyngor Conwy hefyd yn cyfieithu i bedwar o chwech Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, felly mae digon o amrywiaeth. Yr wythnos ddiwethaf, bûm yn gweithio ar Gyfansoddiad un o’r Awdurdodau Lleol ac, ar ôl gorffen hwnnw, y pethau cyntaf i mi eu cyfieithu oedd bwydlen ysgol gynradd (a oedd, mewn mannau, yn fwy heriol na’r Cyfansoddiad!) a negeseuon Twitter am Rali Cymru GB. Ni feddyliais erioed y byddwn yn cyfieithu ystod mor eang ac mae hynny’n amrywio’r gwaith o un diwrnod i’r llall.

Roedd rhywfaint o waith dod i arfer â’r ffordd roedd yr Uned yn gweithio, defnyddio rhaglen hwyluso cyfieithu Wordfast a dod yn gyfarwydd â rhai o’r termau amlycaf yr oedd yr adran wedi’u pennu’n rhai safonol, ond buan iawn y deuthum i drin a thrafod pob agwedd o’r gwaith. Bydd her newydd o’m blaen dros y misoedd nesaf wrth i mi ddysgu cyfieithu ar y pryd, ond rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sgil werthfawr iawn a fydd yn fy helpu i ddatblygu wrth i mi edrych tua’r dyfodol.

Heb os, bu astudio Cymraeg Proffesiynol yn y Brifysgol yn hwb enfawr i mi wrth chwilio am waith mewn oes mor gystadleuol. Gallwn edrych ar fanylion y swydd a bod yn hyderus bod gennyf brofiad ym mhob un o’r meysydd hanfodol, ac roedd hynny’n beth braf iawn wrth lunio cais. Cefais fy mhenodi cyn derbyn fy ngradd derfynol gan fod fy nghyflogwr mor hyderus bod y cwrs wedi fy mharatoi ar gyfer y swydd. Er mai fi yw cyfieithydd lleiaf profiadol yr Uned ar bapur, ar ôl cwta bum mis o brofiad ymarferol mewn swydd gyfieithu, rwy’n credu fy mod yn addas i wneud y gwaith, a hynny bron yn llwyr o ganlyniad i gynnwys fy nghwrs gradd, yn enwedig y modiwl ‘Astudiaethau Trosi ac Addasu’. Mae’r adran yn tyfu o hyd, ac mae 22 ohonom ni yno ar hyn o bryd, felly mae’r gweithle’n lle prysur iawn ar adegau! Mae’r maes hefyd yn datblygu’n barhaus, ac rwy’n edrych ymlaen at weddill fy ngyrfa ynddo.

Diwrnod arferol:

Mae’r gwaith yn hyblyg iawn, ac mae hi’n bosib’ cychwyn am saith y bore, pe bawn yn dymuno, ond tua wyth o’r gloch y byddaf yn cyrraedd y swyddfa yng Nghonwy, fel arfer. Gallwn weithio o gartref hefyd, ond mae’n well gennyf fod yn yr Uned er mwyn bod ymhlith fy nghydweithwyr ar hyn o bryd. Mae ethos braf iawn yn y swyddfa a byddwn yn stopio i sgwrsio am hyn a’r llall dros baned o dro i dro.

Mae’r darnau o waith yn cael eu trefnu gan Gydlynydd yr Uned ac mae pawb yn codi i nôl darnau o’r fasged ar ôl gorffen yr hyn a oedd ganddyn nhw i weithio arno’n flaenorol. Weithiau, bydd rhywun yn gorffen sawl dogfen mewn diwrnod, neu’n gweithio ar un am rai dyddiau. Mae nifer y geiriau y byddaf yn eu cyfieithu’n amrywio o un diwrnod i’r llall, gan ddibynnu ar natur y darnau, ond y nod yw cyfieithu tua 3,000 y dydd. Os wyf mewn penbleth ynglŷn â darn neu derm penodol, rwy’n holi’r rhai sydd yn y swyddfa neu’n anfon e-bost at y rhai sy’n gweithio’r diwrnod hwnnw’n gofyn am eu barn nhw, ac mae cymorth ar gael bob tro. Os wyf yn cychwyn am 8, byddaf fel arfer yn gadael y gwaith rhwng 4 a 4.30, ond rwyf wedi aros tan 7 er mwyn gorffen dogfen cyn heddiw! 

Fy hoff beth!: 

Cael gwybod am ddigwyddiadau sydd i ddod cyn neb arall!

Cymwysterau: 

BA Cymraeg Proffesiynol.

Sgiliau Allweddol:

Gafael dda iawn ar y Gymraeg a’r Saesneg, sgiliau cyfrifadurol a sgiliau teipio, sgiliau gweithio mewn tîm a datrys problemau a gallu gweithio o fewn terfynau amser.

Cyfieithydd dan Hyfforddiant

Enw:

       
Cerys Davey

Cartref:

Y Creunant, Castell-nedd

Teitl Swydd:

Cyfieithydd dan Hyfforddiant

Sefydliad:

Prysg 

Disgrifiad:

Gyda dad sydd ddim yn deall Cymraeg a thad-cu a oedd yn gwrthod siarad Saesneg, ’dwi wedi bod yn cyfieithu ers pan oeddwn yn gallu siarad! Fy mam-gu a fy nhad-cu a ddysgodd Cymraeg i mi, ac felly roeddwn yn ddigon ffodus i allu siarad y ddwy iaith cyn dechrau yn yr ysgol. Fodd bynnag, ’doeddwn i erioed wedi ystyried gyrfa yn y maes nes i mi gyrraedd y brifysgol.

Mae’r swydd yn gofyn am hyder yn yr iaith a dealltwriaeth drylwyr ohoni gan fod angen ymdrin â sawl cywair gwahanol. ’Rydw i’n cyfieithu amrywiaeth o ddogfennau i amrywiaeth o gleientiaid bob dydd ac mae pob un darn yn gofyn am naws a chywair hollol wahanol. Gallaf fod yn cyfieithu deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol lle mae’n rhaid bod yn gryno ac yn grefftus, cyn symud ymlaen i gyfieithu dogfen fwy dwys lle bydd angen newid y cywair yn llwyr.

Mae digon o heriau i’w cael yn y swydd hon ac, er mai cliché yw hi, ’rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd! Wrth gyfieithu mae’n rhaid sicrhau bod y cyfieithiad yn llifo ac yn gyson a’i fod yn darllen yn hawdd. Mae’n rhaid i’r darn terfynol beidio â swnio fel cyfieithiad a chredwch neu beidio, y pethau bach sy’n peri’r drafferth fwyaf! Mae’n anodd ceisio cyfieithu sloganau ac hashnodau bachog sy’n glyfar yn y Saesneg i’r Gymraeg, ond ’rydw i’n mynd i’r afael â’r her bob dydd ac yn mwynhau gwneud hynny!

Gan fod yn rhaid i waith bob cyfieithydd gael ei wirio, mae’n gyfle gwych i gael adborth gan yr Uwch Gyfieithwyr profiadol ac ’rydw i wedi dysgu cymaint o’r adborth hynny. Mae fy null cyfieithu yn gwella bob dydd, ac ’rwy’n dysgu sut i addasu brawddegau cymhleth yn gyfieithiadau dealladwy yn gyson. Mae’r hyfforddiant ’rydw i wedi ei dderbyn hyd yn hyn ac yn parhau i'w dderbyn yn Prysg heb ei ail!

Astudiais y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth. Gwnes i gais am y swydd yn Prysg tua chanol fy nhrydedd flwyddyn, ac ar ôl bod yn llwyddiannus dechreuais yn fy swydd newydd bum niwrnod ar ôl graddio.

Er nad oeddwn i ddim wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu tan yn weddol hwyr yn fy ngyrfa prifysgol, mae’n swydd sydd yn fy herio bob dydd ac yn fy siwtio i’r dim!

Diwrnod arferol:

Erbyn hyn, rwy’n cyrraedd y swyddfa erbyn tua 8:30, yn agor e-byst ac yn edrych ar yr amserlen. Wedi hynny, ’rwy’n casglu gwaith oddi ar y bwrdd gwaith ac yn ymgolli ym myd cyfieithu am weddill y dydd. Gan fod y swyddfa yn agored a llu o ddesgiau yn cael eu llenwi, mae’n hawdd sgwrsio â phawb. Mae’r swyddfa wedi’i lleoli yng nghanol y brifddinas, ac felly mae’n ddigon hawdd mynd i siopa yn ystod fy awr ginio - sydd ddim yn gwneud dim lles i’r cyfrif banc! Fel arfer, rwy’n gadael y swyddfa am 4.30 ac yn dal y trên adref.

Fy hoff beth!: 

Mae Prysg yn cynnig gwasanaeth prawf ddarllen, a ’does dim gwell deimlad na gweld proflenni’r gwaith ’rydw i wedi ei gyfieithu yn barod i’w cyhoeddi.

Cymwysterau: 

BA Cymraeg Proffesiynol.

Sgiliau Allweddol:

Hollol rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, a dealltwriaeth dda o ofynion gramadegol y ddwy iaith. Mae gallu ysgrifenedig rhagorol a’r gallu i ddatrys problemau yn mynd law yn llaw wrth gyfieithu darn o waith heriol, lle mae angen ystyried brawddegau yn ofalus. Mae swydd fel cyfieithydd hefyd yn gofyn i chi weithio i derfynau amser tynn, ac mae’n rhaid bod gennych y gallu i gyflawni’r gwaith erbyn y terfynau amser hynny.

Cyfieithydd

Enw:

       
Elin Gruffydd

Cartref:

Y Bontnewydd

Teitl Swydd:

Cyfieithydd

Sefydliad:

Cymen (Caernarfon) 

Disgrifiad:

Rydw i wedi ymddiddori mewn iaith a gramadeg ers amser maith, ac roeddwn i wrth fy modd ag unrhyw dasg neu fodiwl a oedd yn trafod cywirdeb iaith yn yr ysgol ac yn y brifysgol (er nad oedd llawer o bobl eraill yn rhannu’r un angerdd!) Mae ieithoedd eraill o ddiddordeb i mi hefyd ac rydw wedi cyboli â sawl iaith - o Saesneg a Ffrangeg yn yr ysgol, i geisio dysgu Eidaleg a Sbaeneg yn fy amser hamdden (ond heb fawr o lwc!) Rydw i’n chwilfrydig ynglŷn ag ieitheg a sut mae orgraff a geirfa wedi datblygu ac esblygu, a hynny yn ysgrifenedig ond hefyd yn llai ffurfiol yn yr iaith lafar.
Felly, mae fy swydd fel cyfieithydd yn cyfuno nifer o’r agweddau hyn. Mae’n rhaid i mi ymdrin â mwy nag un iaith yn ogystal â sawl cywair gwahanol. Gallwn fod yn cyfieithu posteri hwyliog i blant un diwrnod a dogfen gyfreithiol ddyrys y diwrnod nesaf. Rydw i’n mwynhau’r her o geisio creu darn newydd sy’n sefyll ar ei draed ei hun yn y Gymraeg, heb iddo ymddangos fel cyfieithiad. Mae’r gallu i ddatrys problemau a goresgyn rhwystrau yn hanfodol wrth gyfieithu. Er na fyddai rhywun yn ei ystyried fel gwaith creadigol, mae’n rhaid defnyddio’r dychymyg yn aml i ffurfio brawddegau effeithiol ac i fathu termau neu enwau newydd, effeithiol, neu i wneud synnwyr o frawddegau cymhleth a’u cyflwyno mewn ffordd ddealladwy.
Y mae’r swydd hefyd yn rhoi cyfle i mi ddysgu gan fy nghydweithwyr mwy profiadol - ynglŷn â chywair iaith a sut i ymdrin â gwahanol arddulliau. Tueddwn i fod yn rhy ffurfiol pan ddechreuais yn y swydd, ar ôl cyfnod hir o wneud gwaith academaidd mae’n debyg, ac felly roedd yn rhaid i mi addasu’r ffordd roeddwn i’n meddwl, sy’n her newydd i mi.
Astudiais y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn Aberystwyth ac, fel rhan o’r modiwl ‘Cymraeg yn y Gweithle’ yn yr ail flwyddyn, bûm ar brofiad gwaith i gwmni cyfieithu Cymen. Ar ôl graddio o Aberystwyth es i Fangor i wneud gradd Meistr, a gwnes rywfaint o waith rhan-amser i Cymen yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn syth ar ôl cwblhau’r cwrs Meistr, cynigiwyd swydd amser llawn i mi ac rwyf yn gweithio yno ers hynny.

Diwrnod arferol:

Rydw i'n cyrraedd y swyddfa erbyn tua 9:00 ac yn cymryd darn newydd o waith oddi ar y brif ddesg.  Gallai fod yn ddarn bychan y gallaf ei gyfieithu mewn ychydig oriau neu’n brosiect hwy y gallwn fod yn gweithio arno am wythnosau. Weithiau bydd yn rhaid i mi holi cydweithwyr neu’r cleientiaid os oes darn o waith yn anodd neu’n amwys, ac mae hynny’n helpu pawb i ddatblygu a rhannu syniadau. Mae pawb yn cael paned a sgwrs gyda’i gilydd unwaith yn y bore, ac eto yn y prynhawn. Byddaf yn gorffen y gwaith am tua 5 bob nos.

Fy hoff beth!: 

Y teimlad buddugoliaethus ar ôl cyfieithu darn heriol 

Cymwysterau: 

 MA Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg; BA Cymraeg Proffesiynol.

Sgiliau Allweddol:

Sgiliau ysgrifenedig, sgiliau ieithyddol a gramadegol yn y Gymraeg a’r Saesneg, sgiliau datrys problemau a gallu rheoli amser a chwblhau gwaith erbyn amser neu ddyddiad penodol.