Pennaeth Marchnata

Enw:

 float-centre      
Fflur Arwel

Cartref:

Aberystwyth (yn wreiddiol o Gaernarfon)

Teitl Swydd:

Pennaeth Marchnata 

Sefydliad:

Gwasg y Lolfa

Disgrifiad:

Does neb wir yn eich paratoi chi at fywyd tu hwnt i'r byd academaidd a doedd gen i ddim syniad pa drywydd roeddwn am ei ddilyn ar ôl gadael coleg. Roedd y trywydd ar ôl gadael yr ysgol yn ddigon clir i mi – dilyn fy niddordebau ac astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth yn y coleg. Ond beth nesaf?

Roeddwn i wedi gwneud tipyn o brofiad gwaith yn ystod fy nghwrs israddedig ac uwchraddedig gan gynnwys cyfnod o brofiad gwaith yng ngwasg Y Lolfa yn golygu testunau. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, fe ddaeth swydd yn rhydd gyda gwasg Y Lolfa a dyma fynd amdani yn llwyddiannus!

Un o brif gyfrifoldebau'r swydd yw llunio cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau’r wasg ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg. Mae gofyn cyfathrebu a meithrin cysylltiadau gyda’r wasg a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt yn ogystal â threfnu a cydlynu lansiadau a sesiynau llofnodi. Rwyf hefyd yn gyfrifol am ofalu am y wefan, blog a chyfryngau cymdeithasol Y Lolfa ac mae disgwyl i mi gyd-weithio â chyrff eraill (er enghraifft, Cyngor Llyfrau Cymru, ysgolion a phrifysgolion, llyfrgelloedd a siopau llyfrau…). Byddaf hefyd yn dylunio hysbysebion a deunyddiau marchnata ac yn gweithio'n agos gydag awduron y wasg er mwyn sicrhau yr hyrwyddo gorau posibl i’r teitlau!

Diwrnod arferol:

Mae’n anodd disgrifio ‘diwrnod arferol’ gan fod trefn yn gallu amrywio o ddydd i ddydd a digon o amrywiaeth i gadw rhywun yn brysur! Cyfnod y Nadolig yw’r cyfnod prysuraf yn y wasg gyda bron i hanner y llyfrau a gyhoeddir gennym yn flynyddol yn cael eu cyhoeddi rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. Rwy’n gweithio 9 tan 5 am bum niwrnod yr wythnos a fel arfer bydd diwrnod cyffredin yn cynnwys ysgrifennu datganiadau i'r wasg a gohebu gyda’r wasg yn gyffredinol,  anfon copïau adolygu o lyfrau i’r wasg, cadw mewn cyswllt gydag awduron, dylunio deunyddiau marchnata, cadw mewn cyswllt gyda Chyngor Llyfrau Cymru a sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol yn aros yn actif. 

Fy hoff beth!: 

Mae’n fraint cael gweithio mor agos gyda rhai o awduron disgleiriaf a difyrraf Cymru a chael trin a thrafod syniadau a chynlluniau marchnata gyda nhw. Mae’r Lolfa yn arloesi fel gwasg gan gyhoeddi llenyddiaeth a llyfrau ffeithiol heriol, bywiog a hynod gyffrous drwy’r flwyddyn ac mae rhywun wir yn teimlo fel eu bod nhw’n gwneud cyfraniad i ddiwylliant Cymru wrth helpu i hyrwyddo llyfrau a chyhoeddiadau mor gyfoethog. 

Cymwysterau: 

BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol; MA Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru

Sgiliau Allweddol:

Mae gofyn bod yn greadigol iawn fel swyddog marchnata yn ogystal â gallu cyfathrebu yn glir ac yn gryno – boed gydag awduron, y wasg neu ddarllenwyr a chwsmeriaid. Mae sgiliau ysgrifennu da yn bwysig dros ben gan fy mod yn ysgrifennu datganiadau i'r wasg ac yn cyfathrebu gymaint gydag amrywiaeth o unigolion yn ddyddiol. Mae gofyn hefyd gallu defnyddio technoleg yn effeithiol gan fod nifer o hyrwyddo yn digwydd drwy’r we neu drwy ddylunio deunyddiau marchnata drwy feddalwedd arbennig. Mae angen ymwybyddiaeth dda o’r diwydiant cyhoeddi a’r byd llyfrau yng Nghymru hefyd a gallu deall a gweithio yn agos gyda’r wasg.