Trefn Gwyno

Cwynion am Weithgareddau Codi Arian Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ymateb i bob cwyn er boddhad y rhoddwr a’r Brifysgol yn unol â’n hymrwymiad i ofalu am ein rhoddwyr a’r rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth gofrestru â’r Rheoleiddiwr Codi Arian (Fundraising Regulator). Y Rheoleiddiwr Codi Arian yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gweithgareddau codi arian elusengar yn y DU, ac mae’n gosod ac yn hyrwyddo safonau arferion codi arian drwy ymgynghori â’r cyhoedd, rhanddeiliaid codi arian a deddfwyr.

Mae’r Brifysgol a’r adran Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn cydnabod bod datrys pryderon neu gwynion yn llwyddiannus yn rhan hanfodol o’n dyhead i fod yn sefydliad dysgu sy’n ymroddedig i wella’n barhaus ac sy’n sicrhau bod ei gefnogwyr yn gwbl ganolog i’r hyn a wna.


Y Weithdrefn

Ein Swyddog Cwynion Codi Arian yw’r Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Ffôn: +44 (0) 1970 621568 Ebost: alumni@aber.ac.uk


Os daw cwyn i law ynglŷn â chodi arian, bydd y Swyddog Cwynion yn:

  • Cydnabod y gŵyn yn ysgrifenedig a chyfeirio’r achwynydd at yr Addewid Codi Arian ar y wefan ac yn cadarnhau’r camau sydd i’w cymryd ar unwaith i ymchwilio i’r gŵyn ymhen 14 diwrnod.
  • Ymchwilio i’r gŵyn. 
  • Hysbysu Gweithrediaeth y Brifysgol neu aelodau eraill o’r staff yn unol â gweithdrefn gwyno’r Brifysgol. 
  • Hysbysu’r achwynydd o ganlyniad yr ymchwiliad ymhen 30 diwrnod o dderbyn y gŵyn.
  • Hysbysu’r achwynydd y caiff gyfeirio’r gŵyn at y Rheoleiddiwr Codi Arian ymhen dau fis o gyhoeddi ymateb terfynol y Brifysgol.
  • Cofnodi’r gŵyn yng nghronfa ddata’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
  • Newid a gwella lle bo angen gwneud hynny a rhoi adborth i’r achwynydd ar effaith y gwelliannau hyn.
  • Monitro, dadansoddi, gwerthuso a dysgu o’r cwynion drwy adolygiadau rheoli chwarterol. 
  • Rhoi adroddiadau ar y cwynion a ddaeth i law ac a ddatryswyd mewn adroddiad blynyddol i Weithrediaeth a Chyngor y Brifysgol.